Neidio i'r cynnwys

Llyfr Darllen ac Ysgrifennu/Y Gaeaf

← Ysgol Ddyddiol Llyfr Darllen ac Ysgrifennu

gan John Lloyd

Teilwriaid →

VIII.—Y GAEAF.
(EIRA GWYN).

1.

CROESAW iti, eira gwyn,
Os wyt oer, yr wyt yn lân,
Gyrri gerdd o frigau'r ynn,
Ond cei arall wrth y tân;
Nid oes lili yn yr ardd,
Gwasgar yno'th dlysion blu;
Beth mor deg a'th fantell hardd
Ar ysgwyddau byd mor ddu?

Cefnodd Hydref ar y ddôl,
Wedi gwywo bywyd brau;
A gadawodd ar ei ol
Feddau newydd heb eu cau;
Croesaist dithau'r brudd ystad
I dacluso'r beddau hyn;
A chyfodaist er coffhad
Dlysach maen na'r marmor gwyn.

Llawen yn rhodfeydd yr hin
Chwarae wnei wrth ddod i lawr;
Ac ar weddw gorsen flin
Ysgafn yw dy gawod fawr;
Mae'r gelynen yn y coed,
Er mor fythwyrdd yw ei bri,
Yn sancteiddiach nag erioed
Dan dy emau grisial di.


Croesaw it', ymwelydd iach,
Yn dy wisg aeafol wen;
Cysga llawer blodyn bach
Yn esmwythach dan dy len;
Yn dy weddnewidiol bryd,
Hyd y cwm, ac ar y bryn,
Dweyd yr wyt wrth aflan fyd
Mai o'r nef daw popeth gwyn.

—Dyfed (trwy ganiatad yr awdur).


2.


Yr ôd! yr ôd! mae'r eira'n dod!
Rhwng y simneiau dacw fe,
Y defnyn cyntaf yn dod o'r ne',
Yn chware fel aderyn gwyn
Trwy fwg a chaddug y melinau hyn!
Mae'n ofni disgyn, ac fel pe bae
Yn ail—ymgodi, ond disgyn mae.
Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr,
Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr,
Gan edrych trwy'r ffenestri ban,
Fry gyda'r awel o fan i fan.
Mae'n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi
Ac yn dal i ddisgyn ac yn dal i droi.—
Ond gwêl ei lengoedd! mil myrddiwn mân
O angylion gwynion y gaeaf glân
Sy'n dod ag amdo a chistfeddau iâ,
I gladdu meirwon flodau ha'.
Y nef sy'n galw y blodyn hardd
I fyw a gwenu o lwch yr ardd,
A phan fydd farw, nis anghofia'r nef
Mo'r dyrfa wen ei angladd ef.

—Ceiriog.


GWERSI.

I.—Dodwch ansoddeiriau cyfaddas wrth bob un o'r geiriau Hyn:— plu; mantell; bywyd; ystad; murmur; gem; gwisg; ffenestr; tyrfa.

II.—Chwiliwch a oes syniadau cyffelyb gan Dyfed a Cheiriog am y gaeaf, ac ysgrifennwch hwy mewn Cymraeg da.

III.—Llennwch y bylchau hyn, ac atalnodwch y llinellau:—

(a) Mae'r ——yn y coed
Er mor —— yw ei ——
Yn sancteiddiach nag ——
Dan dy —— —— di.

(b) Mae —— —— golwg tros y —— fawr
Ac yn Gan —— y ffordd wrth —— i ——
Gan —— trwy'r —— ban,
—— gyda'r —— o fan i ——


IV.—Disgrifiwch olygfa aeafol, gan sylwi ar dawelwch a heddwch yr olygfa; lliw y mynyddoedd, y coed, cerrig, dail a'r dwfr; arferion a chwareuon y plant yn y gaeaf.

Nodiadau

[golygu]