Neidio i'r cynnwys

Llyfr Darllen ac Ysgrifennu/Y Gymraeg

← Y Bugail Llyfr Darllen ac Ysgrifennu

gan John Lloyd

Y Gweithiwr →

XXXIX.—Y GYMRAEG.

NID oes nemor o iaith, hyd y gwn i, yn Europa a'i hynysoedd nas cafodd ei hymgeleddu a'i choledd[1] gan ei heithyddion a'i gwladwyr ei hun, o amser i gilydd onid ein hiaith ni y Cymry. Yr hon, yn awr yn hwyr, ac o braidd, a ddechreuodd gaffael peth gwrtaith gan wŷrda dysgedig o'n hamser ni, a hynny yn enwedig o ran cymreighau corff yr ysgrythyr lân. Canys os golygwch ar genhedloedd a phobloedd eraill megis y Groegiaid a'r Lladiniaid, chwi a ellwch ganfod nad oes neb ryw wybodaeth na chelfyddyd[2] dan yr haul ar a ddichon fod mewn dyn, nas caffer eu gweled yn amlwg yn eu hiaith a'u llyfrau hwy, yn gyn amled a bod holl Europa yn gyflawn o'u hiaith a'u llyfrau hwy, yn tragwyddoli moliant a gogoniant i'r gwledydd hynny, ac i'r awduriaid ac i ymgeleddwyr yr ieithoedd hynny hyd tra byddo byd. Ac wedi y rhai hyn, y dilynasant yr ieithoedd cyffredin megis yr Italiaith, yr Hispaniaith, y Ffranceg, yr Almaniaith, y Saesneg, y Scotiaith, ac ieithoedd eraill heblaw hynny a fedrwn eu hadrodd oni bae rhag ofn eich trablino. A'r ieithoedd hyn oll a gyfarfuant o amser i amser â ieithyddion ac ieithymgeleddwyr hawddgaraf o'r byd, ac ewyllysgaraf i ymgeleddu a choledd, a mawrhau bob un ohonynt ei iaith ei hun, hyd yn y diwedd nad oes cymeint ag un, meddir, o'r holl ieithoedd cyffredin uchod na bod ynddi holl gelfyddydau'r byd wedi eu cyfleu a'u cymhennus[3] yn brintiedig mewn coflyfrau, a barhaont hyd tra byddo ffurfafen. Yr hyn beth a fagodd ddirfawr barch a mawrhad tragwyddol, nid yn unig i'r ieithyddion, a'r gwrteithwyr, a'r awduriaid, ond hefyd i'r gwladwyr a'r cenhedloedd hynny.

Eithr ninnau, y Cymry, mal gweision gwychion, rhai ohonom yn myned mor ddiflas ас mor fursenaidd,[4] ac (yn amgenach nag un bobl arall o'r byd) mor benhoeden5 [5] ag y daw brith gywilydd arnom gynnyg adrodd a dywedyd ein hiaith ein hunain. Ie, a gwyn ein byd, ryw rai ohonom fedru bod mor findlws a chymeryd arnom ddarfod inni o gwbl ebargofi y Gymraeg, a medru weithian, fel pe byddai, ddysgu Saesneg, a Ffranceg, ac Italiaith, neu ryw iaith alltudaidd arall, pa ryw bynnag a fo honno, oddieithr Cymraeg, er ei fod yn wir yn y cyfrwng hwn na fedrem y ganfed ran o'r ddieithr— iaith a gymerasom arnom ei gwybod a'i dywedyd mor hyfedr. Eithr nid yw y fursenaidd sorod hyn o Gymry, os teg dywedyd y gwir, ond gohilion[6] a llwgr, a chrachyddion y bobl a'u brynteion. Ac yn yr un orseddfa a chadair a'r rhai hyn y dylid llehau a gosod y rhai a fynnant doddi a difa holl iaith y Cymry, a chyfleu a dodi iaith y Saeson yn ei lle hi. Yr hyn beth sydd amhosibl ei gwblhau a'i berffeithio, heb ddifa yn llwyr holl genedl y Cymry a'i gwneuthur yn Seisnig.

—Sion Dafydd Rhys.

GWERSI.

I.—Torrwch y frawddeg faith hon yn frawddegau llai:—

Canys os golygwch ar genhedloedd a phobloedd eraill megis y Groegiaid a'r Lladiniaid, chwi a ellwch ganfod nad oes neb ryw wybodaeth na chelfyddyd dan yr haul ar a ddichon fod mewn dyn, nas caffer eu gweled yn amlwg yn eu hiaith a'u llyfrau hwy, yn gyn amled a bod holl Europa yn gyflawn o'u hiaith a'u llyfrau hwy, yn tragwyddoli moliant a gogoniant i'r gwledydd hynny, ac i'r awduriaid ac i ymgeleddwyr yr ieithoedd hynny hyd tra byddo byd.

II.—Ysgrifennwch o "mal gweision gwychion hyd at mor hyfedr," gyda'r frawddeg hon ar y dechreu,—"Dywedodd Sion Dafydd Rhys fod y Cymry, mal gweision," &c.

III.—Ysgrifennwch draethawd llawn ar Yr Iaith Gymraeg," gan dalu sylw neilltuol i'r modd yr ymddygir ati yn awr fel a fu. Sylwch ar a ganlyn hefyd:— (1) Ei hanes:—

"Iaith araul, a'r iaith orau,—iaith gu-deg,
Iaith gadarn ei seiliau;
Iaith fy nhud, iaith fy nhadau,
Iaith bêr oll, iaith i barhau."

—Ieuan Glan Geirionnydd.


(2) Trysorau ei llenyddiaeth:—

"Boed cynnyrch ei llenyddiaeth yn helaeth i'w fwynhau."—Ioan Arfon.

(3) Y Gymraeg yn yr Ysgolion:—

Ni wna dysgu darllen Saesneg am flwyddyn neu ddwy nemor o les i'r plentyn, tra byddo y Gymraeg yn iaith yr aelwyd. Y mae, wrth adael yr ysgol, yn medru darllen iaith na fedr ei deall, ac yn deall iaith na ddichon ddarllen.—Alun.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ parchu
  2. ↑ S., art, celf;
  3. ↑ gorffen
  4. ↑ balch
  5. ↑ penwan
  6. ↑ gwehilion, S., dregs.