Llyfr Darllen ac Ysgrifennu (testun cyfansawdd)
| ← | Llyfr Darllen ac Ysgrifennu (testun cyfansawdd) gan John Lloyd |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Llyfr Darllen ac Ysgrifennu |


Gwyneb-ddarlun.
"Y gŵr marw, e gâr morwyn
Ddaear dy fedd er dy fwyn."
"Yn Llansannan mae geneth dlos, dros fyth yn plethu torch flodau clod." Er Cof am Dudur Aled, William Salesbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog, ac Iorwerth Glan Aled.
(Y Cerflun gan Syr W. Goscombe John, R.A.).
BUDDUGOL YN EISTEDDFOD FRENHINOL
GENEDLAETHOL GWRECSAM, MEDI, 1912.
LLYFR
DARLLEN AC YSGRIFENNU.
GAN
JOHN LLOYD, M.A.,
Yr Ysgol Ganolradd, Abermaw.
DYFYNIADAU O'R CLASURON CYMRAEG, YNGHYDA
GWERSI PWRPASOL SYLFAENEDIG ARNYNT.
At Wasanaeth Ysgolion Uch-elfennol a Chanolradd.
GWRECSAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES A'I FAB.
1913.
RHAGLITH.
I DDYSGU ysgrifennu Cymraeg yn Ysgolion Uch-elfennol a Chanolradd Cymru y darparwyd y llawlyfr hwn yn fwyaf arbennig. Amcenir gwneuthur hyn drwy i'r disgybl yn gyntaf efrydu'n fanwl y dyfyniadau a roddir o'r clasuron Cymraeg, ac yna eu hefelychu. Dewiswyd darnau y gall plant yn yr ysgolion a ennwyd eu deall a'u hamgyffred, a rhai, hefyd, sy'n ddiddorol ynddynt eu hunain; oblegid, os nad enynnir diddordeb y disgybl yn ei waith, anodd fydd disgwyl iddo gyfansoddi, mewn unrhyw iaith, gyda blas a budd.
Gellir defnyddio'r llyfr hwn hefyd fel sylfaen i adeiladu gwersi mewn llenyddiaeth arni. Da a fuasai rhoddi yn y llyfrgell y gweithiau hynny y cymerwyd y dyfyniadau ohonynt. Ac, ond i'r athro roddi braslun o hanes bywyd a gwaith yr awduron, bydd y plant yn sicr o ddarllen yn eiddgar, a meithrinnir ynddynt felly chwaeth at lenyddiaeth bur ac aruchel.
Nid i'w cyfieithu i'r Saesneg y bwriadwyd i'r penodau hyn fod. Rhaid cyfaddef fod cyfieithu o werth arbennig fel moddion addysgiant, ond, ysywaeth, pery yn fwrn ar y Gymraeg yn ein hysgolion. Cyfieither a fynner yn y dosbarthiadau Saesneg, ond yn y rhai Cymraeg, gadawer i'r plant gyfansoddi'n naturiol yn eu hiaith eu hunain. Ni ychwanegwyd "geirfa lawn " ar y diwedd, ond esboniwyd ambell air anodd ar ddiwedd pob pennod; gadewir y rhelyw o'r gwaith i'r athro fel y bo'r angen. Rhodder y geiriadur yn nwylo'r plentyn pan fo arno ei eisieu, a bydd chwilio am ystyr neilltuol gair yn ei gysylltiadau yn wers fuddiol iddo.
Yr anhawster pennaf wrth baratoi'r llyfr oedd penderfynu pa safon i'w mabwysiadu, oherwydd ceir rhai plant yn ein hysgolion sy'n ddwyieithog, ac eraill y mae'r Gymraeg yn iaith estron iddynt. Ceisiwyd cadw'r ddau ddosbarth yma mewn golwg pan yn paratoi'r dyfyniadau a'r gwersi. Amcanwyd rhoddi digon o amrywiaeth yn y gwersi fel y gall yr athro, pa le bynnag y bo, eu haddasu at reidiau ei ddosbarth, a hyderir na fodlona ar y rhain yn unig, ond y cyfansodda rai eraill i gyfarfod âg anhawsterau'r plant y gŵyr efe oreu am danynt. Amcan y gwersi yw cyfoethogi iaith y disgybl, a'i ddysgu i'w harfer yn briodol. Mewn ardaloedd lle y mae y Gymraeg yn iaith yr aelwyd, gadawer i'r plentyn ysgrifennu'n naturiol fel y sieryd gartref; gall ateb y cwestiynau anhawsaf ar ddiwedd pob gwers. Fel y dywed Adroddiad y Bwrdd Addysg am Ysgolion Meirion am y flwyddyn yn diweddu Gorffennaf, 1911,—
"Let the child be taught to honour and revere the language of the hearth and he will soon come to write it, if his affection for it is not destroyed by the chill touch of drudgery. In Welsh at any rate everydayness of phrase can be given dignity, and colloquial homeliness made one of the charms of writing. All further efforts should be directed, by wide and well selected reading, towards enrich— ing the vocabulary and giving greater pliancy and force to the implement which he is already well able to wield."
Ond yn y rhanbarthau hynny lle na siaredir y Gymraeg, gellir ymarfer gyda'r cwestiynau hawsaf a roddir ar ddechreu pob gwers.
Cyfansoddwyd gofyniadau i gyfarfod â rhai o brif anhawsterau mewn gramadeg, megis y gwahaniaeth rhwng "i'w " ac "yw"; "ar" ac "a'r" ac felly ymlaen.
Drwy weithio law yn llaw â llyfrau Lewis Marsh yn Saesneg, gellir dyfeisio nifer o wersi diddorol eraill. Cymerer, er enghraifft, "Y Llongddrylliad" gan Cawrdaf a chan Dickens; gofynner i'r plant ysgrifennu hanes y naill yn Saesneg a'r llall yn Gymraeg.
Rhoddir chwech o ddarluniau yn y llyfr er cyfansoddi gwersi arnynt. Oddigerth dau ohonynt, y maent, naill ai yn dwyn perthynas â Chymru, neu gan arlunwyr Cymreig. Ychwanegwyd "Nodiadau Bywgraffyddol" ar y diwedd, ar yr awduron y cymerwyd o'u gweithiau yn y llyfr. Er gwneud y gwersi yn fwy dealladwy, rhoddwyd rhestr o'r termau gramadegol a arferir, yn Gymraeg a Saesneg.
Gellir ychwanegu y defnyddiwyd y mwyafrif o'r dyfyniadau a'r gwersi sy'n y llawlyfr gyda phlant rhwng 12 a 16 mlwydd oed, ac yr oedd y canlyniadau yn foddhaol.
Dymunaf ddiolch yn gynnes i'r awduron a'r cyhoedd— wyr hynny y cyfeirir atynt yn y llyfr am ganiatad i gyhoeddi'r bennod neu'r darn sydd uwch eu henwau.
- JOHN LLOYD.
- Abermaw.
- JOHN LLOYD.
CYNNWYS.
I.—HEL LLUS (Anthropos)
II.—TAITH I GARDOTA (Ap Vychan)
III.—CYMRU (Talhaiarn)
IV.—HIR YW AROS ARAWN (Silvan Evans)
V.—HYDREF (Gwilym Marles)
VI.—DRINGO'R ANDES (Eluned)
VII.—YSGOL DDYDDIOL (Daniel Owen).
VIII.—Y GAEAF (1, Dyfed; 2, Ceiriog)
IX.—TEILWRIAID (Gwilym Hiraethog)
X.—BRO ANN GRIFFITHS (O. M. Edwards)
XI.—HEN GWCH FY NHAD (Mynyddog)
XII.—COLLI PRYDERI (O'r "Mabinogion")
XIII.—GWLAD BEULAH (O "Taith y Pererin")
XIV.—DAU HEN FURDDYN (1, Ceiriog; 2, Alun)
XV.—CLODDIAU A GWRYCHOEDD (Samuel Roberts)
XVI.—YR YSGOLION RHAD (Robert Jones)
XVII.—Y GWANWYN (1, Ceiriog; 2, Caledfryn)
XVIII.—Y CREADUR BACH MAWR (Emrys ap Iwan)
XIX.—LLONGDDRYLLIAD (Cawrdaf)
XX.—SABOTH CYMRU YN Y WLAD (Elfed)
XXI.—RHYFEL A'R RHUFEINIAID (Theophilus Evans)
XXII.—HYNT Y BARDD CWSG (Ellis Wynne).
XXIII.—YR HWYR (1, Gwallter Mechain; 2, Mynyddog; 3, Dyfed)
XXIV.—Y TRI ADERYN (Morgan Llwyd)
XXV.—Y BEIBL CYMRAEG (Charles Edwards)
XXVI.—Y MÔR (1, Robert Owen; 2, Alun; 3, Glasynys)
XXVII.—CWYNFAN ALLTUD (Dr. Gruffudd Roberts)
XXVIII.—ANRHYDEDD BUCHEDD GYFIAWN (O "Lyfr Iob "
XXIX.—ANIFEILIAID Y MAES (Emrys)
XXX.—BREUDDWYD RHONABWY (O'r "Mabinogion ")
XXXI.—TŶ A GARDD (Islwyn)
XXXII.—HEDDWCH A THERFYSG (Theophilus Evans)
XXXIII.—WALTON (Goronwy Owen)
XXXIV.—CYFLAFAN MORFA RHUDDLAN (Ieuan Glan Geirionnydd)
XXXV.—ANRHAITH Y SAESON (Charles Edwards)
XXXVI.—YR HAF (1, Ceiriog; 2, Eben Fardd)
XXXVII.—LLYS IMANUEL (Ellis Wynne)
XXXVIII.—Y BUGAIL (Eifion Wyn)
XXXIX.—Y GYMRAEG (Dr. Sion Dafydd Rhys)
XL.—Y GWEITHIWR (1, Dewi Wyn; 2, Hiraethog).
XLI.—AT Y DARLLENYDD (Edward Samuel)
XLII.—CYFEILLGARWCH (Ieuan Gwynedd)
XLIII.—DYSGEIDIAETH (Dr. Lewis Edwards)
XLIV.—Y WAWR (1, Emrys; 2, Brutus).
TERMAU GRAMADEGOL
TESTYNAU TRAETHODAU
NODIADAU BYWGRAFFYDDOL
LLYFR
DARLLEN AC YSGRIFENNU.
I.—HEL LLUS.[1]
YR oedd cryn ffordd o'r Pentre Gwyn i Foel y Gader, er ei bod yn ein golwg yn wastad, ac eithrio ambell ddiwrnod niwlog yn y gaeaf. Yno y ceid y llus gorau yn y wlad, ond cryn waith ydoedd dringo atynt. Ac yr oedd mynd yno i hel llus, am y tro cyntaf, yn ddechreu cyfnod newydd yn ein hoes. Yr oedd yn rhaid inni gyrraedd oedran neilltuol, a bod yn abl i ofalu am danom ein hunain. Cwestiwn pwysig gan lawer un o'r plant ydoedd,—"Bryd y dof yn ddigon mawr i fynd i hel llus?" Ac heblaw bod yn ddigon mawr, yr oedd yn rhaid inni fod wedi profi ein hunain yn blant da yngolwg ein rhieni. Ac am ryw bythefnos cyn yr adeg, yr oeddym yn ufudd dros ben! Nid oedd yr un neges yn cael ei gollwng yn angof, ac yr oedd ein diwydrwydd yn eglur i bawb. Ond y mae arnom ofn nad oedd ein cymhellion yn rhai uchel iawn. Edrych ymlaen yr oeddym at ddiwrnod "hel llus," ac yn disgwyl cael ymuno â'r fintai.[2] Nid oedd raid i neb ein deffro y bore hwnnw. Yr oeddym yn sicr o godi, am unwaith, gyda'r hedydd. Yn ystod y bore— fwyd, yr oeddym yn cael mil a mwy o rybuddion gan ein mamau,—
Paid a dwyno[3] dy ddillad! Gofala nad ei di ddim yn agos i'r graig, rhag ofn i ti syrthio! Gwylia'r pyllau dŵr, neu mi elli foddi heb i neb dy weld! Cofia ddwad adre yn gynnar, neu chei di byth fynd yno eto!" Ond o'r diwedd, dyna ni yn barod i gychwyn. Y mae gan bob un ohonom fasged gyda thamaid o frechdan ynddi ar ei fraich, a ffon yn ei law, fel rhai yn mynd ar bererindod.[4] Deuai yr holl Bentre allan i'n gweld, a byddai Richard Roberts y Saer yn siarsio y ddau arweinydd i beidio cerdded yn rhy gyflym rhag blino y rhai lleiaf yn y fintai. Wel, dyna ni, bellach, yn cychwyn fesur dau a dau, fel milwyr mewn catrawd.[5] One- two-three! ac ymaith a ni. Mor hudolus fyddai y wlad yr adeg honno! Yr ydym yn croesi y "Bont", ac yn y man deuem at lidiart yn y mynydd. Ac yn wir, yr oeddym yn dechreu chwysu yn y gwres. Dringo drachefn, ond lled araf, gan fod y llwybr yn serth.
Ac yn awr, yr oedd yn adeg i gael gorffwys ar fin y gornant. Yr oeddym wedi bwyta yn blygeiniol,[6] wedi cerdded yn galed, ac nid rhyfedd fod arnom eisiau bwyd! Tynnai y naill a'r llall ddarnau o fara ac ymenyn o'i fasged, ac yfem o ddŵr y nant. Mor flasus oedd y danteithion!?[7] Ond dyna'r amser i fyny, a ninnau yn dechreu ar waith mawr y dydd.
Gorchwyl difyr ydyw "hel llus," ond rhaid bod wrthi yn lled ddiwyd cyn y gellir llenwi'r fasged. Ac yr oedd y brofedigaeth o fwyta'r llus ar y pryd yn rhy gref yn aml, a byddai ein gwefusau cochliw yn bradychu'r ffaith; ond wedi cerdded yma a thraw, a llosgi ein gwarrau yn yr haul, deuai y fasged yn weddol lawn. A chyn dychwelyd, byddem yn eistedd gyda'n gilydd ar gopa Moel y Gader, ac yn canu nes deffro'r eco yn y creigiau a pheri i'r defaid lamu mewn dychryn i bellteroedd y mynydd. Golygfa ardderchog oedd honno o ben y Foel; gwelem y bryniau pell dan lewyrch heulwen haf; gwelem yr afon fawr yn dirwyn trwy y dyffryn bras. Gwelem y Pentre Gwyn fel ysmotyn bychan draw yn y gwaelodion. Dychwelem adref yn llwythog, gan wadu yn bendant ein bod wedi blino dim! A hynny, yn fynych, pan bron yn methu rhoddi y naill droed o flaen y llall. Rhoddid inni groeso calon mam.
"Welwch chi gymaint a heliodd Robin bach," meddai mam wrth wraig y tŷ nesaf, "a'r tro cynta' 'rioed iddo fod hefyd." Chwarae teg i famau'r Pentre Gwyn! Yr oeddynt yn lled barod i ganmol eu plant! Ond wedi cael basgedaid o lus, byddent yn sicr o rannu'r ysbail. Yr oedd hen wŷr a hen wragedd yn y pentre, a byddai yr oll ohonynt yn cael rhan o gynhaeaf llus Moel y Gader. A'r Saboth dilynol, byddai "pwdin llus" ar y bwrdd ymhob teulu, a phawb yn unfryd unfarn nad oedd ei fath.
GWERSI.
I.—Gorffennwch yr ymadroddion hyn yn frawddegau:—
ac eithrio; yn rhaid; dros ben; mil a mwy; fesur dau a dau; yn blygeiniol; y naill a'r llall; bod wrthi; unfryd unfarn.
II.—Llennwch y bylchau canlynol â geiriau priodol:—
- 1. ddiwrnod yn y gaeaf;
- 2. yn dechreu newydd yn ein;
- 3. ac yr oedd ein yn i bawb;
- 4 yr oeddym yn sicr o gyda'r ;
- 5 y mae bob un fasged;
- 6. byddai ein gwefusau yn ffaith;
- 7. gwelem y bryniau dan haf;
- 8. yr afon yn trwy y
III.—Ail-ysgrifennwch o "ond o'r diwedd, dyna ni" hyd at gwaith mawr y dydd," fel pe buasech yn disgrifio'r bechgyn yn mynd i hel llus, heb fod yn eu cwmni.
IV.—Atebwch y gofyniadau hyn mewn brawddegau cyflawn:— 1. Sut yr ymddyga'r plant ychydig cyn adeg hel llus? 2. Beth oedd un o'r cynghorion a gawsent gan eu mamau? 3. Pa bethau a ddygid gan y plant ar y daith? 4. Paham y gorffwyswyd i fwyta wrth fin nant? 5. Ennwch rai pethau oedd yn wahanol yng ngolwg y plant wrth gychwyn ac wrth ddychwelyd.
V.—Rhoddwch hanes rhyw daith a wnaethoch chwi i hel mwyar duon, neu ryw ffrwythau eraill.
II.—TAITH I GARDOTA.
BU Margaret a minnau yn cardota drwy rannau uchaf Meirion. Cysgem weithiau mewn tai, ac weithiau mewn ysguboriau,[8] a dychrynnwyd ni yn fawr unwaith mewn ysgubor lle y troisem i gysgu. Rhyw sŵn sisial a'n dychrynnodd ni. Rhywrai tebyg i ninnau oedd wedi troi i mewn, ond odid, am gysgod. Codasom ni, pa fodd bynnag, ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem, ac ymaith a ni, ac ni orffwysasom nes cyrraedd ein cartref, er fod inni filltiroedd lawer o ffordd, naw o leiaf. Bu Evan, sydd yn awr ym Meifod, a minnau mor bell ag Aberystwyth ar daith gardotawl. Yr oedd gennym Feibl bychan a llyfr hymnau i'w darllen, ac i ddysgu allan ohonynt, yn ein hysgrepan.[9] Heblaw hynny, yr oedd gennym ledr, hoelion, mynawyd,[10] edau grydd, a morthwyl bychan, tuagat drwsio ein clocs, ac edau a nodwydd tuagat drwsio ein dillad, pan fyddent mewn angen am hynny. Nid oedd fy mrawd ar y pryd ond wedi gadael ei ddegfed flwydd, na minnau ond wedi gadael fy wythfed flwyddyn, ac yn gyrru ar fy nawfed. Go ieuainc oeddym i fyned ymhell oddicartref. Wrth ddychwelyd o Aberystwyth tua Thowyn, Meirionnydd, deallasom y costiai inni ddwy geiniog bob un am groesi yr afon i Aberdyfi. Nid oedd gennym ni yr un ddimai o arian; gan hynny, bu raid inni werthu yr ychydig ŷd oedd gennym i gael pedair ceiniog i dalu i'r cwch. Gwerthasom y cwbl am bedair ceiniog. Cafodd rhywun fargen dda. Yr oedd yr ŷd yn werth hanner coron o leiaf, feddyliwn. Daethom i draeth yr afon Dyfi, ond bu raid inni aros am gryn ddwy awr am y cwch o'r ochr arall. Yr oedd yn drai; ond cyn i'r cwch ddyfod, yr oedd y llanw yn dyfod i mewn. Daeth boneddwr tirion atom. Bob yn dipyn, holodd ni. Dywedasom ninnau ein holl hanes. Gwnaeth inni ddarllen o'r Beibl oedd gennym, ac adrodd pethau a ddysgasem. Wedi croesi yr afon, dywedodd wrth y cychwr,— "Yr wyf fi yn talu dros y plant bach." Ni ddeallasom ni ef ar y cyntaf, a phan oeddym a'r pres yn ein dwylaw yn eu cynnyg i'r cychwr, dywedodd hwnnw fod y boneddwr wedi talu drosom. Pwy ydoedd, ni wyddem ni; dyna yr olwg olaf a welsom ni arno; ond fe wnaeth weithred dda, pwy bynnag ydoedd, gweithred a goffeir yn nydd y farn ddiweddaf.
GWERSI.
I.—Defnyddiwch y geiriau bach hyn mewn brawddegau, gan sylwi'n fanwl pa fodd y defnyddir hwy yn y darn uchod:—
a, ac, ag, ar, a'r, er, i'r, o'r.
II.—Ysgrifennwch y dernyn hwn fel pe buasech chwi eich hunan ar daith:—
Cysgem weithiau mewn tai, ac weithiau mewn ysguboriau, a dychrynnwyd ni yn fawr unwaith mewn ysgubor lle y troisom i gysgu. Rhyw sŵn sisial a'n dychrynnodd ni. Rhywrai tebyg i ninnau oedd wedi troi i mewn, ond odid, am gysgod. Codasom ni, pa fodd bynnag, ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem, ac ymaith a ni, ac ni orffwysasom nes cyrraedd ein cartref, er fod inni filltiroedd lawer o ffordd,—naw, o leiaf."
III.—Ffurfiwch enwau o'r geiriau hyn:—
cardota; dychrynnodd; gorffwysasom; edau; croesi; cwch; bonedd; golwg.
IV. Cyfansoddwch frawddegau yn cynnwys y geiriau canlynol:—
ond odid; ohonynt; heblaw hynny; tuagat; gan hynny; bob yn dipyn; pa fodd bynnag; pwy bynnag.
V.—Ceisiwch wella y brawddegau yma:—
1. Ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem. 2. Bu Evan, sydd yn awr ym Meifod, a minnau mor bell ag Aberystwyth. 3. Wrth ddychwelyd o Aberystwyth tua Towyn, Meirionnydd. 4. Ond cyn i'r cwch ddyfod, yr oedd y llanw yn dyfod i mewn.
III.—CYMRU.
HENFFYCH well[11] i wlad fy nghalon,
Llwyddiant iti, Gymru dirion;
Bendith i dy feibion dewrion
A dy ferched glân:
Peraidd yw dy hynod hanes
I wresogi serch[12] fy mynwes;
Tra bo ngwaed yn llifo'n gynnes,
Caraf wlad y gân:
Annwyl wlad fy nhadau
Caraf dy fynyddau,
Creigiau gleision uwch y nant
Ymwelant â'r cymylau;
Dolydd a dyffrynnoedd ffrwythlon,
Ffrydiau clir a llynnau llawnion,
Adlewyrchant[13] flodau tlysion
Yn eu dyfroedd glân:
Hiraeth sydd i'm llethu
Am anwylion Cymru;
Ow! na chawn fy mhwrs yn llawn
A chred a dawn i'm denu
Adre'n ol i blith fy nheulu,
A chyfeillion i'm croesawu:
Yn olynol gwnawn foliannu
Cymru, gwlad y gân.
Mil melusach i fy nghalon
Na mwynderau gwlad y Saeson,
Cig a gwin, a da, a digon,
Ydyw gwlad y gân:
Nid oes modd i ngwên lawenu
Tra bo f'enaid yn hiraethu
Am fynyddoedd cribog Cymru,
A'i dyffrynnoedd glân:
Nid y llawn heolydd,
Mwg a thwrf y trefydd,
Nid y byd, a'i olud drud,
Sy'n denu bryd y prydydd;4 [14]
Ond afonydd—gwyrddion ddolydd—
Sŵn yr awel yn y coedydd—
Cymau—glynnau—bryniau—bronnydd—
Cymru, gwlad y gân:
Cara'r oen y ddafad,
Cara mun ei chariad,
Cara'r cybydd bwrs yn llawn;
A dyn a dawn ei dyniad:
Cara'r babi fron ei fami,
Caraf finnau'r wlad wy'n foli—
Duw a ŵyr mor annwyl imi
Ydyw Cymru lân.
GWERSI.
I. Rhoddwch ansoddeiriau priodol ar ol yr enwau hyn:—
Cymru; meibion; merched; gwlad; craig; dolydd; blodau; mynyddoedd; golud.
II.—Ysgrifennwch y brawddegau canlynol fel dwy linell o farddoniaeth bob un:—
1. Y mae dy hynod hanes yn beraidd i wresogi serch fy mynwes. 2. Adlewyrchir blodau tlysion yn y ffrydiau clir a'r llynnau llawnion. 3. Tra bo f'enaid yn hiraethu, nid oes modd i fy ngwên lawenu. 4. Ni ddenir y prydydd gan y byd a'i olud drud.
III.—Cyfansoddwch draethawd bŷr ar "Gymru," gan ymhelaethu ar y pennau hyn:—
1. Tlysni Cymru,—
Ac fod ei wlad heb weld ei hail
Am glysni têg a glesni dail."—Ceiriog.
2. Ei dewrion,—
"Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri."—Evan James.
3. Paham y mae Cymru yn annwyl i chwi?
IV.—HIR YW AROS ARAWN.
Yn rhywle yng ngodre'r[15] wlad, yn yr amser gynt, yr oedd amaethdŷ cyfrifol, a phobl gyfrifol ddigon yn byw ynddo; ond yr oedd un o ystafelloedd y tŷ, a arferasai fod yn ystafell wely, yn ddiwerth, ac yn waeth na diwerth, i'r preswylwyr, o herwydd bod aflonyddwch ynddi, a rhyw sŵn rhyfedd ar brydiau yn dyfod ohoni. Os cynygiai neb fyned iddi i gysgu, ni fuasai waeth iddo geisio gwneuthur hynny ar ben llwyn drain, gan na chai ddim tawelwch na gorffwystra; ac oblegid hynny, bu gorfod gadael yr ystafell heb wneuthur un defnydd ohoni. Clywid ynddi bob math o dwrw a dwndwr annymunol; a gallesid meddwl lawer tro na buasai cymaint a dodrefnyn o'i mewn heb gael ei wneuthur yn gandryll. Yn nhrymder y nos, clywid yn fynych yn y gell honno, ac weithiau o amgylch y tŷ, ryw lais irad[16] yn dolefain yn hirllaes,—"Hir yw'r dydd, a hir yw'r nos, a hir yw aros Arawn." Yr un oedd y geiriau bob amser, a'r un oedd tôn y llais anhyfryd a'u llefarai. Yn y wedd hon elai pethau ymlaen am lawer o amser, nes yr oedd y teulu, i ryw raddau, wedi cynefino â'r aflonyddwch a'r oernad; ond prin yr oedd neb ohonynt byth yn beiddio agoryd drws yr ystafell honno. Un noswaith dduoer yn y gaeaf, a phobl y tŷ yn eistedd o amgylch tân y gegin cyn swper, dyna rywun yn galw yn y drws. Archwyd i'r neb oedd yno ddyfod i mewn at y tân ac ymdwymo. Gyda'i fod wedi eistedd a chyfarch y teulu, gofynnodd y gŵr dieithr am damaid i'w fwyta, ac am lety o dan y gronglwyd dros nos. Dywedwyd wrtho fod iddo groesaw calon i fwyd, a diod, a chynhesrwydd; ond am y gwely, yr oedd yn ddrwg iawn ganddynt nas gallent gynnyg un iddo; gan fod yr holl welyau yn ddigon bach i wahanol aelodau'r teulu; ac am yr unig ystafell segur oedd yn y tŷ, nis gallent feddwl am gynnyg honno iddo ef, am fod ynddi ryw gythrwfl[17] a dwmbwr[18] parhaus, ac na chai neb lonyddwch na thawelwch i gysgu ynddi gan rywbeth nas gwyddent hwy yn iawn pa beth. "Nid gwaeth am hynny," ebai'r teithiwr blin, "nid oes yno ddim a wna niwed i mi, mi a'i cymeraf yn ddiolchgar, ac na fyddwch anesmwyth o'm plegid." Edrychai y gŵr dieithr yn flin iawn; ni siaradai braidd ddim ond a ofynnid iddo; ac ni welid cymaint a gwên ar ei wynebpryd. Cytunwyd ar unwaith â'i gais, er bod yn ddrwg ganddynt feddwl y buasai raid iddo fwrw'r nos yn yr ystafell anniddan honno; a thra yr ydoedd yn cymeryd lluniaeth, gofynnodd gŵr a gwraig y tŷ iddo beth oedd ei enw, ac os ydoedd wedi dyfod o bell. "Fy enw," ebai yntau, yw Arawn; yr wyf wedi dyfod o bell ffordd, ac wedi cerdded yn galed." Pan glywyd ei enw, edrychodd y teulu yn syn ddifrifol ar eu gilydd, a buwyd am beth amser heb yngan un gair.
Wedi bwyta hyd ddigon, ac ymdwymo hyd gynhesrwydd, gofynnodd y dyn dieithr am gael mynd i orffwys, gan ei fod yn ddiffygiol gan y daith a'r tywydd. Danghoswyd iddo yr ystafell fwcïaidd;[19] dymunwyd iddo noswaith dda, a chwsg tawel; er mai prin yr oedd neb ohonynt yn disgwyl y cai gysgu amrentyn.
I'w wely yn yr ystafell brudd yr aeth; ac yn yr amser arferol, aeth y tylwyth oll i'w gorffwysfaoedd hwythau. Y noson honno, ni chlywyd dim trybestod[20] yn yr ystafell gythryblus, nac mewn un man arall. Pan ddaeth y bore, cododd y teulu fel arferol; edrychwyd yn gyntaf dim am y gŵr dieithr; ond nid oedd efe yno; ni welwyd mohono mwy, ac ni chlywyd dim am dano; eithr deallwyd yn rhyw fodd ei fod wedi gadael y lle, a chychwyn i'w daith gyda rhaciad[21] y wawr; ac o'r pryd hwnnw allan, darfu yr aflonyddwch a'r dwndwr a'r terfysg; ac ni chlybuwyd byth, nac yn y tŷ nac o'i amgylch, neb yn oeraidd gwynfan am feithder dydd, na meithder nos, na meithder aros Arawn.
GWERSI.
I.—Ysgrifennwch y paragraff cyntaf yn eich geiriau eich hun, gan ofalu fod yr hanesyn yn darllen gystal a'r gwreiddiol.
II.—Unwch y brawddegau hyn & geiriau cysylltiol priodol, ac atalnodwch hwy:—
I'w wely yn yr ystafell brudd yr aeth: yn yr amser arferol aeth y tylwyth oll i'w gorffwysfaoedd hwythau y noson honno ni chlywyd dim trybestod yn yr ystafell gythryblus: mewn un man arall: pan ddaeth y bore cododd y teulu fel arferol: edrychwyd yn gyntaf dim am y gŵr dieithr: oedd efe yno welwyd mohono mwy: chlywyd dim am dano: deallwyd yn rhyw fodd ei fod wedi gadael y lle gyda rhaciad y wawr.
III.—Defnyddiwch yr ymadroddion hyn mewn brawddegau cyflawn:—
(1) yn yr amser gynt; (2) ar brydiau; (3) ac o blegid hynny; (4) yn gandryll; (5) yn hirllaes; (6) croesaw calon; (7) nid gwaeth am hynny; (8) o'm plegid; (9) ar eu gilydd; (10) prin; (11) hwythau. IV.—Ysgrifennwch yr hanesyn yn gyflawn o'ch côf yn drefnus.
V. A glywsoch chwi ystori gyffelyb am ryw furddyn neu dŷ yn eich ardal chwi? Os y bu, ysgrifennwch yr hanesyn yn gyflawn.
V.—YR HYDREF.
FE ganai bachgen bychan
Wrth grwydro 'mhlith y coed,
Ei ganig fach i Hydref
Pan onid deng mlwydd oed;
Anadl hen ysbrydoliaeth,[22]
Na phaid o oes i oes,
Ysgubai dros ei delyn,
A'i thannau a ddeffroes.
Ei lygad craff, plentynaidd,
A welai dlysni mawr
Yn gwisgo perth a choedwig
Ar ryw brydferthaf wawr;[23]
Cymysgai'r coch a melyn
Mewn amrywiaethau fyrdd,[24]
Ac yma a thraw yn deneu
Oedd ambell lain[25] o wyrdd.
Gwrandawai su gwynfannus[26]
Yr awel yn y coed,—
Yr awel oer hydrefol
Sy drist ei chân erioed;
Pob deilen wan yn ysgwyd
Oddiar ei chorsen fach
Ei ffarwel hir i'r gangen,
Lle tyfai gynt mor iach.
Wrth weld y dail yn syrthio
O ddwylaw oer y gwynt,
Yn sychion a gwywedig,
Nid irlas[27] megis gynt,—
I'w gôf y deuai'r Gwanwyn,
Y deuai'r Haf di-ail,
A synnai a wnai bywyd
Fyth wywo, fel y dail.
Y cloddiau'n goch o syfi,[28]
Yr allt o lusw[29]'n ddu,
A gofiai gyda thrymaidd
Ochenaid am a fu;
Fe welai nyth y fwyalch,
A'i chân a lanwai'r fro,
Yn awr yn noeth ac unig,
A'r crin-ddail drosti'n dô.
Ar fainc o ddail sych-grinion,
A rhedyn hanner gwyw,
A'r afon droellog obry[30]
Yn murmur yn ei glyw,
Myfyrgar yr eisteddodd
Am ennyd wrtho'i hun;
Ond o'r rhigymau[31] ganodd
Ar glawr[32] nid oes yr un.
Pan gododd aethai heibio
Ryw dair o oriau chwai,[33]
A haul prydnawn a eurai
Simneiau tal y tai;
Dychwelodd tuag adref,
A chri ei fynwes glaf,—
"Pa bryd daw eto'r Gwanwyn?
Pa bryd yr hyfryd Haf?"

(Oddiwrth ddarlun gan Constable). Tud. 17.
GWERSI,
I.—Dodwch enwau priodol o flaen yr ansoddeiriau hyn, neu ar eu hol, mewn brawddegau cyfain:—
craff; mawr; ambell; cwynfannus; oer; trist; gwan; hir; sych; gwywedig; coch; noeth; crin; troellog.
II.—Newidiwch yr ail, y trydydd a'r pedwerydd pennill i Ryddiaith da.
III.—Gorffennwch y llinellau hyn yn gyflawn:—
1. Fe ganai bachgen
Wrth grwydro coed.
Ei fach i
Pan onid mlwydd —
2. Fe welai fwyalch,
— a lanwai'r
Yn awr yn ac
A'r drosti
IV. Cyfansoddwch draethawd ar yr "Hydref," gan sylwi ar y pennau hyn:—
(a) Arwyddion Hydref,—y ffrwythau, megis cnau, afalau, eirin, a llysiau'r ddaear, megis yr ŷd a'r pytatws; (b) ymddanghosiad yr awyr, arferion yr adar, cyflwr yr afonydd; (c) arferion yr amaethwyr; (ch) chwareuon y plant.
V.—Disgrifiwch y darlun o'r " 'Cynhaeaf."
VI.—DRINGO'R ANDES.
Y PETH cyntaf welwn drwy ffenestr fy ystafell bob bore oedd y Mynydd Llwyd, a'i gopa gwyn ym myd y cymylau. Yr oedd yn demtasiwn ac yn swyn anorchfygol imi, a rhaid oedd ffurfio cwmni i ddringo i'w ben. Nid oedd ond un person wedi bod fan honno erioed, a bygythid pethau mawr arnom am ein rhyfyg.
Cychwyn wnaethom ar ddiwrnod tawel, hafaidd, ar geffylau, fel pob Patagonwr; yr oedd gennym daith bell cyn dod at lethr y mynydd, a chodi bwganod oedd gwaith y cwmni ar hyd y ffordd. Ond wedi dechreu dringo, yr oedd gan bawb ddigon o waith edrych ar ei ol ei hun a'i ysgrublyn[34] truan. Bu dadl fawr wrth droed y mynydd. Yr oedd ar rai eisiau gadael y ceffylau fan honno, a'i throedio i fyny.
"Wfft i shwd ddwli," ebai bechgyn glew y paith,[35] "beth mae'r ceffylau dda?" Ond yn wir, rhyngoch chwi a minnau, buasai'n well gennyf ei throedio o lawer; yr oedd gweled yr hen geffylau yn ymladd am eu hanadl ac yn syrthio bendramwnwgl ar draws y cerrig yn boenus i'r eithaf. Ond fry, fry, yr aem o hyd, a min yr awel i'w deimlo yn fwy o hyd. O'r diwedd, daethom i le na allai yr un ceffyl ei basio, ac felly cefais yr hyfrydwch o'u gweled yn gorffwys, tra ninnau yn pelo[36] 'n mlaen yn nannedd y gwynt oedd eisoes yn chwythu bygythion.
Wrth son am fynydd, mae dyn yn meddwl am graig gadarn o dan draed o hyd, ond dyma fynydd na saif yn llonydd yr un funud—mynydd anferth o gerrig mân, a dywed Darwin yn ei nodiadau ar Batagonia mai effaith yr ia oesol ar y graig yw hyn, a rhyfedd meddwl fod yr eira distaw yn gallu gwneud y fath waith aruthrol.
Wrth fod y mynydd yn rhoi ffordd o dan ein traed, yr oedd teithio yn waith anodd ac araf iawn, ac yr oedd y gwynt erbyn hyn yn anterth[37] ei gynddaredd,[38] a hwnnw mor rhewllyd nes yr oedd perygl inni gael ein parlysu gan yr oerfel, a'r awyr mor fain yn yr uchder ofnadwy nes mai trwy boen dirfawr y gellid anadlu. Ond yr oedd copa'r mynydd yn ymyl, ac O! yr oedd arnom eisiau sefyll ar ei ben—hwb fach ymlaen eto, ond "i lawr a chwi," meddai'r gwynt. Ac fel yna, o gam i gam, yn destyn gwawd i'r gwynt, y cyrhaeddasom y copa gwyn, ac y sangodd ein traed ar y fath balmant o ia nes mae arswyd lond fy nghalon y funud yma wrth son am dano. Ceisiasom sefyll ar ein traed er mwyn cael cip ar yr olygfa ogoneddus o'n hamgylch; ond bu raid i bawb wneud hynny yn ei dro, a'r gweddill ohonom i ddal fel bachau heiyrn yn yr edrychydd, rhag cymeryd ohono adenydd a hedeg fry, fry, uwch y cymylau, lle y gwelem y Condor anferth, brenin yr awyr, fel llong dan lawn hwyliau, yn hofran yn yr uchelderau aruthr, yn gwylio'r dyffryn am filltiroedd, mewn gobaith am ysglyfaeth, byw neu farw. Ond bu raid ymysgwyd o'r holl fwyniannau hyn, canys gwelem er ein dychryn fod yr haul bron machludo, ac y buasai yn amhosibl inni gyrraedd diogelwch cyn y nos, ac inni fyned yn ol yr un ffordd ag y daethem. Ond nid oedd neb wedi myned i lawr ar yr ochr ogleddol erioed! Wel, yr oedd yn rhaid inni fyned, neu rewi ar y mynydd, ac yr oeddym bron yn y cyflwr hwnnw eisoes.
GWERSI.
I.—Ysgrifennwch eiriau cyfystyr â'r rhain:—
bore; copa; cwmni; hafaidd; truan; llethr; glew; fry; hyfrydwch; munud; anferth; ia; distaw; gogoneddus; sangu; hofran.
II.—Ffurfiwch ansoddeiriau o'r geiriau canlynol:—
bore; swyn; rhyfyg; poen; hyfryd; bwgwth; rhew; gwawd; diogelwch; gogledd; haf, gan eu defnyddio mewn brawddegau cyfain.
III.—Llennwch y bylchau hyn â geiriau cyfaddas Wrth fod y mynydd yn o dan ein iawn, yr oedd yn waith ac iawn ac oedd y gwynt erbyn hyn yn ei a hwnnw , nes yr oedd peryg linni gael ein gan yr ar mor fain yn yr uchder nes trwy boen y gellid . Ond yr oedd mynydd yn ymyl, ac O! yr oedd eisiau sefyll ei
IV.—Ysgrifennwch un frawddeg am y rhain:—
(a) Mynydd Llwyd; (b) Patagonwr; (c) Ceffylau Patagonia; (ch) Min yr awel; (d) Ia oesol; (dd) Y Condor.
V.—A fuoch chwi yn dringo mynydd erioed? Os buoch, rhoddwch hanes eich taith, gan sylwi ar y wlad oddi—amgylch, ei ffrwythau, ei choed, ei hadar, &c.
VII.—YSGOL DDYDDIOL.
ADEILAD hir a chul ydoedd yr office lle y cynhaliai yr hen Sowldiwr ei ysgol. O'i chwmpas yr oedd mainc arw a cham ac yn; gysylltiedig â hi yr oedd desc yn pwyso ar y mur. Sylwais yn un o'r pethau cyntaf nad oedd yn y ddesc prin fodfedd ysgwâr heb fod ol y gyllell wedi bod yn torri arni naill ai llun, ffigiwr, neu enw. Ymhen draw yr ysgoldŷ, yn ymyl y tân, yr oedd desc y meistr, ac yn ei gwaelod yr oedd clamp o dwll, diben pa un, fel y cefais weled ar ol hynny, oedd er cyfleustra i goes bren y meistr ymwthio drwodd pan fyddai efe yn eistedd. Ar fy mynediad cyntaf i mewn i'r ysgol, gwelais olygfa ryfedd a newydd iawn i mi y pryd hynny. Yr oedd y bechgyn oll yn bresennol, rhai ar dop y ddesc, rhai ar gefnau eu gilydd yn chwarae ceffylau, ac yn carlamu o gwmpas yr ysgol, ac eraill yn dwr ar lawr, ac yn ymrwyfo[39] trwy eu gilydd fel llysywenod mewn llaid. Yr oedd un,—bachgen cloff wrth ei fagl,—yn ceisio dynwared y meistr, gan eistedd wrth y ddesc, ac wedi gwthio ei fagl trwy y twll, ac yn gwaeddi yn uchel am osteg, ond i ddim pwrpas. Newidiai yr olygfa bob munud, a gwaeddai pob un nerth ei ben oddigerth un bachgen, yr hwn a safai ar dop y ddesc yn ymyl y ffenestr, gan rannu ei sylw cydrhwng y chwarae a'r cyfeiriad o ba un y disgwylid y meistr. Teimlwn yn rhyfedd ar y pryd, a meddyliwn fy mod wedi dyfod i ganol plant drwg iawn; a phe gwybuasai fy mam pa fath rai oeddynt, ni chawswn byth fyned yno drachefn. O'r ochr arall, yr oeddwn yn meddwl mai dyma y lle goreu a welswn erioed am sport. Ond fy nheimlad gorthrechol[40] ar y pryd oedd rhyw fath o ddieithrwch ac yswildod poenus, oblegid gadawsai Wil Bryan fi ar fy mhen fy hun, ac ymgymerasai yn chwannog[41] â'r chwarae. Pan oeddwn wedi fy meddiannu gan y teimladau hyn, gwelwn y bachgen oedd yn ymyl y ffenestr yn gosod ei ddau fŷs blaen yn ei safn ac yn rhoi chwibaniad clir; ac mewn amrantiad yr oedd pob bachgen yn ei le, ac yn chwythu yn fyr. Gwyddwn o'r goreu yr edrychwn i yn wirion ddigon yn sefyll fel monument oer ar fy mhen fy hun wrth y drws pan ddaeth y Sowldiwr i mewn. Aeth heibio i mi heb gymeryd arno fy ngweled. Edrychai yn ffyrnig a chyffrous; deallais yn fuan nad oedd y gwyliedydd wedi rhoddi yr arwydd yn ddigon buan, ac fod y meistr wedi clywed yr holl drwst byddarol. Aeth rhag ei flaen at y ddesc, a thynnodd allan gansen hir a chref. Gwelwn y bechgyn yn gwneyd gwar barotoawl, tra yr elai yr hen Sowldiwr o gwmpas yr ysgol, gan ffonio pawb yn greulawn a diwahaniaeth. Myfi oedd yr unig un na chafodd flas y gansen, a myfi oedd yr unig un a dorrodd i wylo allan, oblegid yr oeddwn wedi dychrynnu. Gyda golwg ar y bechgyn eraill, yr oedd yn ymddangos eu bod hwy wedi hen gynefino â'r oruchwyliaeth.[42] Wedi i'r bachgen olaf dderbyn ei ffonod, aeth y meistr yn ol at y ddesc; cyfododd ei ddwylaw i fyny, a dywedodd, "Let us pray," ac adroddodd y pader yn bwyllog, a'r bechgyn yn ei ddilyn.
Wedi i'r pader gael ei adrodd, gwaeddodd yr hen Sowldiwr yn awdurdodol, "Rivets, my boys," yr hwn oedd yr arwyddair bob bore Llun i'r bechgyn ddyfod ymlaen gyda'u ceiniogau. Os byddai bachgen heb ddyfod â'i geiniog gydag ef, byddai raid iddo estyn ei law allan i'r diben o dderbyn argraff gynnes y gansen, yr hyn, fel rheol, a barai iddo ddawnsio yn ol i'w eisteddle gan wasgu ei law rhwng ei liniau, neu dan ei gesail, neu ei gwthio i'w safn, neu ynteu ei hysgwyd fel pe buasai newydd ei thynnu allan o'r tân. Hyn yn gyffredin a fyddai effaith slap â'r gansen yn ei gynyrchu, yn enwedig os na byddid wedi cael cyfleustra i boeri ar gledr y llaw a rhoi dau flewyn yn groes arni. Wrth fyned heibio, yr wyf yn cofio y byddai y bechgyn yn credu yn ddiysgog yng nghyfaredd[43] y poeryn a'r ddau flewyn croes i liniaru[44] effaith losgfaol y gansen. Fy syniad i fy hun ydyw, er imi wneyd y prawf lawer gwaith, na welais lawer o lês yn deillio o'i harferyd. Anfynych y gwelid bachgen yn wylo ar ol cael un slap ar ei law; ond os caffai ddau neu dri, byddai ganddo hawl y pryd hynny i ddolefain heb gael ei ystyried yn llwfryn.[45] Byddwn i bob amser yn dolefain ar ol cael un slap; yr oeddwn yn enwog fel criwr, ond nid allwn ei helpio.
GWERSI.
I.—Atalnodwch y dernyn hwn:—
Yr oedd y bechgyn oll yn bresennol rhai ar dop y ddesc rhai ar gefnau eu gilydd yn chwarae ceffylau ac yn carlamu o gwmpas yr ysgol ac eraill yn dwr ar lawr ac yn ymrwyfo trwy eu gilydd fel llysywenod mewn llaid yr oedd un bachgen cloff wrth ei fagl yn ceisio dynwared ei feistr gan eistedd wrth y ddesc ac wedi gwthio ei fagl trwy y twll ac yn gwaeddi yn uchel am osteg ond i ddim pwrpas newidiai yr olygfa bob munud a gwaeddai pob un nerth ei ben oddigerth un bachgen yr hwn a safai ar dop y ddesc yn ymyl y ffenestr gan rannu ei sylw cydrhwng y chwarae a'r cyfeiriad o ba un y disgwylid y meistr.
II.—Llennwch y bylchau hyn gydag un arddodiad pwrpasol:—
Yn gysylltiedig hi; nad oedd y ddesc prin fodfedd ysgwâr; draw yr ysgoldy; ol hynny; cyfleustra goes bren; yn carlamu yr ysgol; ac gwthio ei fagl twll; aeth ei flaen; golwg ar y bechgyn; hen gynefino oruchwyliaeth; anfynych y gwelid bachgen wylo ol cael un slap ei law.
III.—Atebwch y gofyniadau canlynol yn fyr, debyced ag y gellwch i'r darn uchod:—
(1) Pa ddodrefn oedd yn yr ysgol, a sut olwg oedd arnynt (2) Pa fodd yr ymddygai y plant cyn amser dechreu; (3) Disgrifiwch a gymerodd le pan ymddanghosodd y meistr; (4) Beth oedd paratoadau a wneid cyn derbyn blas y gansen?
IV.—Rhoddwch hanes neu ddisgrifiad o'ch taith i'ch ysgol chwi ac o'r gwaith a wneir ynddi:—
1. Y ffordd o'ch cartref i'r ysgol ac ymddanghosiad yr ysgol y tu allan,—
"Y lawnt bu'r cylch a'r belen
Yn treiglo yn eu tro."
—Ieuan Glan Geirionnydd.
2. Tu mewn i'r ysgol,—
Estyll y lleoedd eistedd
Ynt o'r un waith, eto'r un wedd,
Lle gallwyd, â llaw gyllell,
Gwneud bwlch, neu gnoad o bell."
—Eben Fardd.
3. Eich cyd-ysgolheigion,—
"Y gu rosynog res annwyl."—Eben Fardd.
VIII.—Y GAEAF.
(EIRA GWYN).
1.
CROESAW iti, eira gwyn,
Os wyt oer, yr wyt yn lân,
Gyrri gerdd o frigau'r ynn,
Ond cei arall wrth y tân;
Nid oes lili yn yr ardd,
Gwasgar yno'th dlysion blu;
Beth mor deg a'th fantell hardd
Ar ysgwyddau byd mor ddu?
Cefnodd Hydref ar y ddôl,
Wedi gwywo bywyd brau;
A gadawodd ar ei ol
Feddau newydd heb eu cau;
Croesaist dithau'r brudd ystad
I dacluso'r beddau hyn;
A chyfodaist er coffhad
Dlysach maen na'r marmor gwyn.
Llawen yn rhodfeydd yr hin
Chwarae wnei wrth ddod i lawr;
Ac ar weddw gorsen flin
Ysgafn yw dy gawod fawr;
Mae'r gelynen yn y coed,
Er mor fythwyrdd yw ei bri,
Yn sancteiddiach nag erioed
Dan dy emau grisial di.
Croesaw it', ymwelydd iach,
Yn dy wisg aeafol wen;
Cysga llawer blodyn bach
Yn esmwythach dan dy len;
Yn dy weddnewidiol bryd,
Hyd y cwm, ac ar y bryn,
Dweyd yr wyt wrth aflan fyd
Mai o'r nef daw popeth gwyn.
2.
Yr ôd! yr ôd! mae'r eira'n dod!
Rhwng y simneiau dacw fe,
Y defnyn cyntaf yn dod o'r ne',
Yn chware fel aderyn gwyn
Trwy fwg a chaddug y melinau hyn!
Mae'n ofni disgyn, ac fel pe bae
Yn ail—ymgodi, ond disgyn mae.
Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr,
Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr,
Gan edrych trwy'r ffenestri ban,
Fry gyda'r awel o fan i fan.
Mae'n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi
Ac yn dal i ddisgyn ac yn dal i droi.—
Ond gwêl ei lengoedd! mil myrddiwn mân
O angylion gwynion y gaeaf glân
Sy'n dod ag amdo a chistfeddau iâ,
I gladdu meirwon flodau ha'.
Y nef sy'n galw y blodyn hardd
I fyw a gwenu o lwch yr ardd,
A phan fydd farw, nis anghofia'r nef
Mo'r dyrfa wen ei angladd ef.
GWERSI.
I.—Dodwch ansoddeiriau cyfaddas wrth bob un o'r geiriau Hyn:— plu; mantell; bywyd; ystad; murmur; gem; gwisg; ffenestr; tyrfa.
II.—Chwiliwch a oes syniadau cyffelyb gan Dyfed a Cheiriog am y gaeaf, ac ysgrifennwch hwy mewn Cymraeg da.
III.—Llennwch y bylchau hyn, ac atalnodwch y llinellau:—
(a) Mae'r yn y coed
Er mor yw ei
Yn sancteiddiach nag
Dan dy di.
(b) Mae golwg tros y fawr
Ac yn Gan y ffordd wrth i
Gan trwy'r ban,
gyda'r o fan i
IV.—Disgrifiwch olygfa aeafol, gan sylwi ar dawelwch a heddwch yr olygfa; lliw y mynyddoedd, y coed, cerrig, dail a'r dwfr; arferion a chwareuon y plant yn y gaeaf.
IX. TEILWRIAID.
BETH a ddeuai o'r byd heb y Teiliwr? Onid efe sy'n gwisgo'r byd â dillad? Byd noeth, llwm, barbaraidd, fyddai'r byd yma heb deiliwr. Beth fyddai defnydd dillad o werth heb y dilledydd? Ni fyddai ond ynfydrwydd i chwi fynd â chorn[46] o frethyn i'r efail at y gôf, nac i siop y saer, chwi wyddoch o'r gorau. Y teiliwr sydd yn harddu, yn cynhesu, ac yn coethi'r byd; ei swydd ef, mewn gwirionedd, yw yr un bwysicaf a gwerthfawrocaf o'r cwbl. Mewn gair, y mae y teiliwr yn anhebgorol i fywyd a chysuron cymdeithas, a dylai gael pob parch ac anrhydedd gan gymdeithas, ac nid ei ddirmygu fel bôd israddol. Yr wyf wedi teimlo awydd lawer gwaith i sefyll i fyny dros urdd anrhydeddus y nodwydd.
Y mae cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle yn y byd teilwrol, fel pob byd arall, er pan yr wyf fi yn cofio, yn enwedig yng Nghymru. Nid oes fawr o weithio o dŷ i dŷ fel fyddai ers talwm. Dygir y gwaith at y teiliwr yn awr, yn lle y teiliwr at y gwaith; felly, nid yw y teilwriaid y dyddiau hyn yn meddu cystal manteision i adnabod y byd ag oedd gan deilwriaid y dyddiau gynt. Ond yr oedd i'r manteision hynny eu hanfanteision cysylltiedig, a'r un modd y mae i'r anfanteision presennol eu manteision. Yr oedd y teiliwr y pryd hynny, mae'n wir, yn cael cyfleustra i weld ac adnabod dull y byd,—nodweddau gwahanol bersonau a theuluoedd, a chlywed pob newydd a phob cyfrinach, a barnau pobl am eu gilydd trwy holl gylchoedd eu symudiadau teilwraidd. Ond wedi'r cwbl, gwybodaeth isel iawn oedd y cyfryw wybodaeth, a gallai pob teiliwr ystyriol ddweyd am dani,—"Y neb a chwanego y wybodaeth hon, a chwanega ofid." Yr oedd yn fywyd profedigaethus iawn hefyd, canys holid y teiliwr bron ymhob tŷ am hanes y cymdogion, ac os byddai dau gymydog wedi digwydd syrthio allan â'u gilydd, tywalltai gwragedd y naill dŷ a'r llall y cwbl a fyddai ganddynt i'w ddweyd am eu gilydd i glustiau'r teiliwr pan ai i'w tai i weithio, a disgwyliai'r naill a'r llall iddo redeg yr un ffordd a hwy i redeg eu gilydd i lawr. Byddai raid heddyw, yn y Tŷ Cerrig, redeg pobl Tan y Graig i lawr, ac yforu, hwyrach, yn Tan y Graig, byddai raid iddo droi ei dôn a lladd ar bobl y Tŷ Cerrig, ac os na chytunai i wneud felly yn y ddau dŷ, ni chai ond wyneb surllyd a bywioliaeth wael yn y naill a'r llall tra fyddai yno.
Yn sicr i chwi, sefyllfa bwysig a pheryglus iawn oedd eiddo'r teiliwr yn y dyddiau hynny; sefyllfa oedd yn gofyn llawer iawn o ofal, gochelgarwch, a doethineb, i gadw ei droed o'r fagl a'i ben o'r cebystr.[47] Efe oedd y dyn pwysicaf yn ei ardal mewn gwirionedd. Byddai heddwch y cym— dogaethau yn dibynnu mwy arno ef nag ar un dyn arall yn y fro. Yr oedd yn cael mwy o gyfleusterau i chwythu tân cynhennau, os dewisai, nag un dyn arall; neu ynte i daflu dwfr arno i'w ddiffoddi. Mae teilwriaid y dyddiau presennol yng Nghymru, oddieithr mewn ambell i ardal fynyddig, hwyrach, yn rhyddion oddiwrth y profedigaethau hynny, a dylent fod yn ddiolchgar am hyn ar y cyfan. Ond wedi'r cwbl, y mae'n chwithdod i feddwl fod hen ddefod ac arfer gwlad er dyddiau Brochwel Ysgythrog, os nad er dyddiau Abraham, yn cael ei rhoi heibio; ond mynd heibio y mae dull y byd hwn yn ei agweddau teilwraidd fel pethau eraill.
GWERSI.
I. Ysgrifennwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y geiriau hyn:—
(a) noeth, llwm, tlawd; (b) harddu, prydferthu, coethi; (c) ai, a'i; (ch) ardal, gwlad; (d) hen, henafol; (dd) pwysig, gwerthfawr; (e) yn awr, presennol, y dyddiau hyn; (f) newydd, cyfrinach.
II.—Ysgrifennwch a ganlyn fel pe bae y teiliwr ei hun yn siarad yn yr amser presennol, ac atalnodwch eich gwaith:—
Yn sicr i chwi sefyllfa bwysig a pheryglus iawn oedd eiddo'r teiliwr yn y dyddiau hynny: sefyllfa oedd yn gofyn llawer iawn o ofal gochelgarwch a doethineb i gadw ei droed o'r fagl a'i ben o'r cebystr: efe oedd y dyn pwysicaf yn ei ardal mewn gwirionedd: byddai heddwch y cymydogaethau yn dibynnu mwy arno ef nag ar un dyn arall yn y fro: yr oedd yn cael mwy o gyfleusterau i chwythu tân cynhenna u os dewisai nag un dyn arall neu ynte i daflu dwfr arno i'w ddiffoddi. III.—Newidiwch drefn y geiriau yn y brawddegau hyn fel ag i'w cywiro:— (1) Ni fyddai mynd â chorn o frethyn at y gôf i'r efail ond ynfydrwydd; (2) Mewn gair, y mae i fywyd a chysuron cymdeithas y teiliwr yn anhebgorol; (3) Yr wyf wedi teimlo lawer gwaith; (4) Yn y byd teilwrol y mae cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle; (5) Nid ydynt y teilwriaid yn y dyddiau hyn yn meddu cystal manteision; (6) Yr oedd y teiliwr y pryd hynny yn cael cyfleustra; (7) Byddai heddwch y cymydogaethau yn dibynnu mwy arno ef nag ar un dyn arall.
IV.—Nodwch nifer o'r hen arferion yn eich ardal sydd wedi diflannu, (1) er gwell, (2) er gwaeth.
Ar arferion Cymru gynt
Newid ddaeth o rôd i rôd."—Ceiriog.
V.—Newidiwch y gofyniadau canlynol yn ddywediadau:—
- (a) Beth a ddeuai o'r byd heb y teiliwr?
- (b) Onid efe sy'n gwisgo'r byd â dillad?
- (c) Ai sefyllfa beryglus oedd eiddo teiliwr yn yr hen amser?
- (ch) Onid oedd heddwch y gymydogaeth yn dibynnu arno?
VI. Ewch am ddiwrnod i weithdŷ'r crydd neu'r teiliwr yn eich ardal, a rhoddwch hanes a welsoch yno.
X.—BRO ANN GRIFFITHS.
TOC, dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a'm denai i'w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau'n noeth, weithiau'n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau gwyrddion, serth. Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn ddedwydd. Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch ei phen dros y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dŵr, llawn o lysiau'r neidr a llafrwyn a'r olcheuraid, gyda chwys Mair a'r feidiog las dipyn ymhellach oddi wrth y dŵr, a rhedyn tal yn edrych ar eu prydferthwch oddiar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,—ni wiw i mi ddechreu enwi'r côr,— oddigerth pan ddistawent tra canai'r gog, yr hon oedd heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth, oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai'n dechreu canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddiwrthynt at bethau byd a bery byth. Pwy a ŵyr nad yn sŵn yr afon hon y canwyd gyntaf,—
"Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
O dan riniog tŷ fy Nuw,
Sydd yn llanw ac yn llifo
O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloew fel y grisial,
I olchi'r euog, nerthu'r gwan,
Ac a ganna'r Ethiop duaf
Fel yr eira yn y man.”
Toc, gadawodd yr afonig a minnau gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais innau ddringo bryn lled serth, a gwelwn Ddolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Ni welwn o'm blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn mynd i fyny'r bryn, a'r gwrychoedd o bobtu'n gwywo yng ngwres llethol yr haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gŵr ieuanc, yn ymgodi'n brydferth a gwyrdd. Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y dois at lidiart y mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd, braf, gydag eithin a danadl poethion a brigau'r twynau'n tyfu ar hyd—ddo, a bryniau Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth_ei chadwyni aur o flodau, yn crogi uwch ei phen. Eis trwy'r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig funudau, gwelwn Ddolwar Fechan o'm blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd Maldwyn. Y mae'r ty'n newydd, a golwg lân a chysurus arno yng nghanol ei erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn bychan, y mae'r adeiladau,—yr ysguboriau, y beudai, yr helm drol, rhai ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded gyda'u muriau. Yn nes i lawr y mae'r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna gweirgloddiau dan eu gwair.
GWERSI.
I.—Dodwch dy, fy, ei (gwrryw a benyw) o flaen pob un o'r geiriau hyn, a newid y llythyren gyntaf fel bo'r angen:— croesffordd; llaw; braich; pen; meddwl; cyfan nedd; gwrych; breuddwyd; twyn; dyffryn.
II.—Defnyddiwch yr ymadroddion hyn mewn brawddegau cyfain:— (1) ar yr ochr arall; (2) yn dryloew; (3) ar fin y dŵr; (4) ni wiw; (5) wedi ei dorri; (6) mai wrth syllu; (7) ymhellach bellach; (8) gwmni ein gilydd; (9) o bobtu; (10) y tu hwnt; (11) rhai ohonynt.
III.—Chwiliwch am eiriau a'u hystyr yn wrthgyferbyniol i'r rhain:—
gwaelod; ar y dde; serth; tawel; prydferthwch; miloedd; dechreu; dwfn; cyfoeth; glân a chysurus. poeth; gwastad;
IV.—Disgrifiwch a ganlyn gyda'r geiriau yn y dyfyniad neu â rhyw eiriau a gofiwch chwi:—
craig; cae; llecyn; rhedyn; llwybr; ffrwd; cwm; bryn; gwres; ffordd; dwfr.
V.—Gwnewch restr o'r blodau a enwir yn y darn uchod a disgrifiwch hwy yn fanwl.
VI.—Ewch chwithau am dro i gartref enwog yn eich cymdogaeth, ac ysgrifennwch hanes y daith mor fyw ag y gwna yr awdwr uchod.
XI.—HEN GWCH FY NHAD.
DAN gysgodion y clogwyn certh,[48]
Lle mae'r llyn yn ddwfn, a'r lan yn serth;
Lle plyga'r helygen i lawr yn syn
I weled ei hunan yn nrych y llyn;
Lle sieryd yr awel yn lleddf[49] a gwan,
Ac yr etyb mân-donnau wrth olchi y lan,
Yng nghysgod yr haul, ac o olwg y wlad,
Fan honno y gorwedd hen gwch fy nhad.
Y rhwyfau ymsuddant i lawr i'r dwfr,
Fel edyn hen wylan luddedig a llwfr,
A chroesant eu gilydd uwchben y llyn llaith,
Fel breichiau y gweithiwr 'r ol gorffen ei waith; '
Does dim yn torri ar ddistawrwydd y lle
Ond hedydd y boreu wrth esgyn i'r ne',
A "thw hw" dalluan y nos gyda'i nâd,
O'r ceubrenpren gwag; sy'n gwyro uwch cwch fy nhad.
Ei waelod pydredig, mor freullyd yw,
Yn hanner gladdedig mewn beddrod byw,
Ymgripia y mwswg' i fyny o'r llyn
Fel i hanner guddio y pydredd hyn;
Yn debyg i gyfaill caredig ei wedd,
Yn taenu blodau dros bydredd y bedd,
A lili y dwfr sydd yn dyrchu[50] 'i phen mâd[51]
I wenu yng nghysgod hen gwch fy nhad.
Y tonnau o dano a hunant bob un
Mor llonydd a bron sefydlogrwydd ei hun,
Ond sigla yr awel y cwch ol a blaen
Holl hyd yr hen gadwen sy'n rhwym wrth y maen,
Gan guro yr amser yn drymaidd a phrudd
Fel math o ymdeithdôn o ddydd i ddydd;
A chanu mae'r awel mewn pruddaidd fwynhad,
Wrth siglo a siglo hen gwch fy nhad.
Bu 'nhad yn fy nghario i'r cwch lawer gwaith,
Ac yna'n ei wthio ar fron y llyn llaith;
Cyd-chwarddem, cyd-ganem, cyd-rwyfem ein dau,
Heb feddwl am ddim hyd y dydd, ond mwynhau;
Dau wyneb pryd hynny edrychent i'r don,
Un tadol, llawn cariad,—un ieuanc a llon,
Ond heddyw wrth edrych dros ochrau y bâd,
Un welai'n y tonnau dan gwch fy nhad.
Mae llanw'r mân-donnau yn mynd ac yn dod,
Fel llanw anrhydedd, goludoedd, a chlod;
Mae gwanwyn yn trwsio ei hun uwch y llyn
A dail ac â blodau, gwyrdd, cochion, a gwyn;
A hydref sy'n dyfod â'i stormydd a'i gri,
I gludo'r dail meirwon i lawr ar y lli;
Ond tebyg i hendaid yn siglo ei hun,
Ac awydd mynd ffordd, ond rhy wan a di-lun,
A'i draed yn y dwfr, ac yn disgwyl rhyddhad
Oddiwrth gadwen bywyd, yw hen gwch fy nhad.
GWERSI.
I.—Cyfansoddwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y geiriau hyn:—
llyn, llun; syn, sy'n; tonnau, tonau; llaith, llaeth; nâd, nad; a, â; i'w, ydyw; ei, eu.
II.—Y mae barddoniaeth yn llawn o gymhariaethau prydferth; Os ydynt yn naturiol, y maent yn addurn tlws. Chwiliwch am gymhariaethau cyfaddas i'r ymadroddion hyn:— (a) Y rhwyfau ymsuddant i lawr i'r dwfr; (b) Croesant eu gilydd; (c) Ymgripia y mwswgl i fyny o'r llyn; (ch) Gan guro yr amser yn drymaidd a phrudd; (d) Mae llanw'r mân—donnau yn mynd ac yn dod; (dd) Ond tebyg . . . yw hen gwch fy nhad.
III.—Ysgrifennwch y ddau bennill cyntaf mewn Rhyddiaith.
IV.—Ysgrifennwch yr holl gân yn eich geiriau eich hun, gan sylwi ar (a) olwg y llyn; (b) y clogwyn a'r coed o gwmpas; (c) yr hen gwch,—ei rwyfau, ei waelod, y gadwen; (ch) arfer y bachgen a'r tad.
V.—A fuoch chwi yn rhwyfo cwch? Os buoch, rhoddwch hanes byw o'r amgylchiad.
XII.—COLLI PRYDERI.
PA hyd bynnag y buont ar y ffordd, hwy a ddaethant i Ddyfed, ac Arberth a gyrchasant. Lladd tân a wnaethant, a dechreu ymborthi a hela, a threulio mis felly. A chynhullasant eu cwn atynt, а bod felly flwyddyn. A boregwaith cododd Manawyddan a Phryderi i fyned i hela, a chyweiriaw[52] eu cwn a myned oddiwrth y llys. Sef a wnaeth rhai o'r cwn, cerdded o'u blaen, a myned i berth fechan oedd ger eu llaw, a chydag yr aethant i'r berth, cilio yn ol yn gyflym a'u gwrychyn i fyny, a dychwelyd at y gwŷr. "Neshawn," ebe Pryderi, tua'r berth i edrych beth sydd ynddi."
Neshau tua'r berth wnaethant, a phan a neshasant, wele faedd coed claerwyn yn codi o'r berth. Hyn a wnaeth y cwn,—y gwŷr yn eu hannos,—rhuthro arno. Sef a wnaeth yntau,— gadael y berth a chilio encyd oddi wrth y gwŷr. Ac oni fyddai y gwŷr yn agos iddo cyfarthai ar y cwn heb gilio erddynt; a phan agoshai y gwŷr, ciliai eilwaith a pheidiai gyfarth.
Ac ar ol y baedd y cerddasant hyd oni welent gaer fawr aruchel, a gwaith newydd arni mewn lle na welsent na maen na gwaith erioed. A'r baedd a redodd yn fuan i'r gaer, a'r cwn ar ei ol.
Ac wedi myned y baedd a'r cwn i'r gaer, rhyfeddu a wnaethant weled y gaer yn y lle ni welsent erioed waith cyn hynny. Ac o ben yr orsedd edrych a wnaethant, ac ymwrandaw am y cwn. Pa hyd bynnag y byddent felly, ni chlywent un o'r cwn na dim oddiwrthynt.
"Arglwydd," ebe Pryderi, "mi a af i'r gaer i holi ynghylch y cwn. "Yn wir," ebe yntau, nid da dy gyngor fyned i'r gaer hon nas gwelaist erioed, ac os gwnei fy nghyngor i, nid ei iddi; a'r neb a ddododd hud[53] ar y wlad a barodd fod y gaer yma. "Yn wir," ebe Pryderi, "ni fynnaf golli fy nghwn."
Pa gyngor bynnag a gaffai ef gan Fanawyddan, y gaer a gyrchodd efe. Pan ddaeth i'r gaer, ni welai ynddi na dyn nac anifail, na'r baedd, na'r cwn, na thŷ nac annedd. Ef a welai tua chanol llawr y gaer, ffynnon a gwaith o faen marmor yn ei chylch; ac ar lan y ffynnon gawg[54] aur uwch ben llech o faen marmor, a chadwynau yn estyn tua'r awyr, a diwedd nis gwelsai arnynt. Ymhyfrydu a wnaeth yntau gan deced yr aur, a daed gwaith y cawg. A dyfod a wnaeth hyd at y cawg ac ymafael âg ef. Ac fel yr ymafaelodd â'r cawg, glynnodd ei ddwylaw wrth y cawg, a'i draed wrth y llech yr oedd y cawg yn sefyll arni; a chymerwyd ei leferydd oddi wrtho fel nad allai ddywedyd un gair. A sefyll a wnaeth felly.
A'i aros yntau a wnaeth Manawyddan hyd tua diwedd y dydd. A phrydnawn byr, gwedi bod yn ddiau ganddo na chai ddim newyddion am Bryderi nac am y cwn, dychwelodd tua'r llys.
GWERSI.
I.—Gorffennwch yr ymadroddion hyn gydag arddodiad priodol:—
(a) a chynullasant eu cwn ; (b) a myned y llys; (c) dychwelyd y gwŷr; (ch) cyfarthai y cwn gilio; (d) holi y cwn; (dd) pan ddaeth gaer; (e) ef a welai chanol llawr y gaer; (f) ben llech faen marmor.
II.—Profwch, drwy eu defnyddio mewn brawddegau, y gellir arfer y geiriau hyn fel mwy nag un "rhan ymadrodd,"—
a; tan; flwyddyn; neshau; coed; gwyr; na; hyd; ei; glan.
III.—Cywirwch y brawddegau canlynol:—
(1) a chyweirio ei cwn a myned o'r llys; (2) sef a wnaeth rhai o'r cwn, cerdded o'i blaen, a myned i berth bychan; (3) wele faedd coed claerwen; (4) y gwŷr yn eu hannos; (5) nid da dy gyngor i fyned i'r gaer na welaist erioed; (6) ymhyfrydu a wnaeth yntau mor dda yr aur ac mor dda gwaith y cawg.
IV.—Ysgrifennwch yr hanesyn mewn Cymraeg presennol.
XIII.—GWLAD BEULAH.
YN awr, gwelwn yn fy mreuddwyd fod y pererinion, erbyn hyn, wedi myned dros y Tir Rheibiedig, ac yn trigo yng ngwlad Beulah, awyr yr hon sydd hyfryd a dymunol; gan fod y ffordd yn myned yn union trwyddi, aroshasant ynddi i ymddifyrru dros ennyd. Yma y clywent yr adar yn canu yn barhaus, a gwelent y blodau yn ymddangos yn feunyddiol, a chlywent lais y durtur yn y wlad. Yn y wlad hon y tywynna'r haul nos a dydd; y mae, gan hynny, ymhell tudraw i Lyn Cysgod Angau, ac allan o gyrraedd Cawr Anobaith; ac nid allent oddiyma gymaint a chanfod Castell Amheuaeth. Yr oeddynt yma yng ngolwg y Ddinas yr aent iddi; cyfarfuant yma â rhai o'i thrigolion, canys y rhai disglair yn fynych a rodiant yn y wlad hon, am ei bod ar gyffiniau y nef. Yn y wlad hon hefyd yr adnewyddwyd y cyfamod rhwng y briod-ferch a'r priodfab; ie, yma y "llawenycha eu Duw o'u plegyd hwy â llawenydd priodfab am briod-ferch." Nid oedd arnynt yma eisiau nac ŷd na gwin; canys cawsant yma lawnder o'r hyn oll a ymofynasant am dano yn eu pererindod. Hefyd, clywsant yma leisiau allan o'r Ddinas, gorfloeddion yn dywedyd, "Dywedwch wrth ferch Sion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod! Wele ei gyflog gydag ef! "
Yn awr, fel yr oeddynt yn ymdeithio yn y wlad hon, cawsant fwy o orfoledd nag mewn mannau pellach oddiwrth y deyrnas y cyrchent iddi; ac fel yr oeddynt yn dynesu at y Ddinas, cawsant olwg eglurach arni. Adeiladwyd hi â pherlau a meini gwerthfawr, a phalmantwyd yr heolydd âg aur; a chan ogoniant y Ddinas, a phelydr yr haul yn disgyn arni, aeth Cristion yn glaf o wir serch ati; Gobeithiol hefyd a gafodd loes neu ddwy o'r un clefyd. Felly, gorweddent yma dros dro, gan lefain, "Os gwelwch fy Anwylyd, mynegwch iddo fy mod yn glaf o gariad."
Ond wedi cryfhau ychydig, a dyfod yn alluocach i ymgynnal dan eu clefyd, aethant ymlaen i'w ffordd, a daethant yn nes nes i fan yr oedd perllenni, gwinllannoedd a gerddi, a'u pyrth yn agored tua'r brif—ffordd. Yn awr, fel yr oeddynt yn dyfod i fyny at y lleoedd hyn, wele, y garddwr a safai yn y ffordd; y pererinion a ofynasant iddo,—" Pwy bia'r gwinllannoedd a'r gerddi hyfryd hyn?" Yntau a ddywedodd," Eiddo'r Brenin ydynt, ac fe'u plannwyd yma er ei hyfrydwch ei hun, a diddanwch i bererinion." Felly, dygodd y garddwr hwynt i mewn i'r gwinllannoedd, a pharodd iddynt ymlonni â'r danteithion; danghosodd iddynt hefyd brif rodfeydd y Brenin, a'r hafdai yr ymhoffai ynddynt. Yma yr aroshasant ac y cysgasant.
GWERSI.
I.—Ysgrifennwch y darn canlynol fel pe na buasai ond un pererin yn teithio:—
Yma y clywent yr adar yn canu yn barhaus, a gwelent y blodau yn ymddangos yn feunyddiol, a chlywent lais y durtur yn y wlad. Yn y wlad hon y tywynna'r haul nos a dydd: y mae, gan hynny, ymhell tudraw i Lyn Cysgod Angau, ac allan o gyrraedd Cawr Anobaith; ac nid allent oddiyma gymaint a chanfod Castell Amheuaeth. Yr oeddynt yma yng ngolwg y Ddinas yr aent iddi; cyfarfuant yma â rhai o'i thrigolion, canys y rhai disglair yn fynych a rodiant yn y wlad hon, am ei bod ar gyffiniau y nef.
II.—Dywedwch, mewn Cymraeg da, gymaint ag a gofiwch am (a) awyr, haul, trigolion gwlad Beulah; (b) y Ddinas yr elent iddi,—ei hadeiladau a'i heolydd; (c) gwinllannoedd y Brenin.
III.—Ceisiwch roddi y gair gwrthgyferbyniol i'r un sydd mewn llythrennau italaidd yn y brawddegau hyn:—
(1) Yr oedd awyr y wlad yn hyfryd a dymunol; (2) aroshasant ynddi i ddifyrru dros ennyd; (3) cyfarfuant yma â rhai o'i thrigolion; (4) canys cawsant yma lawnder; (5) ac fel yr oeddynt yn dynesu at y Ddinas; (6) Adeiladwyd hi â meini gwerthfawr.
IV.—Ysgrifennwch hanes ryw freuddwyd ryfedd a gawsoch, gan ofalu fod pob rhan o'r hanesyn yn dilyn ei gilydd yn drefnus.
XIV. DAU HEN FURDDYN.
I. CASTELL CAERNARFON.
MAE ysbryd yn y castell hwn,
Ac nid oes Cymro tan y nef
Eill basio tan y muriau mawr
Na sylla'r ysbryd arno ef.
O ben y tŵr a phen y mur
Fe laddodd filoedd yn ei wg;
Ond ysbryd da yw ef yn awr
Er iddo fod yn ysbryd drwg.
I Gymry gynt 'roedd ef yn fraw,
Yn fwgan erch yn ysgwyd cledd:
Ond beth sydd heddyw yn ei law?
Y lawryf werdd a'r faner Hedd!
Mae'r eiddew yn coroni'r mur,
A'r glaswellt yn cysegru'r llawr:
Ac yn lle Eryr ar y tŵr,
Y Glomen ddof sydd yno'n awr.
Mae ysbryd yn y Castell hwn,
Ac nid oes Cymro tan y nef
Eill basio tan y muriau mawr
Na sylla'r ysbryd arno ef.
A hyn mae'r ysbryd yn ei ddweyd,
A'i lais yn fwyn, a'i wedd yn llon,—
"Britannia fawr a Gwalia fach
Gymodwyd yn y fangre hon."

Mae pawb fu farw tros ein gwlad,
Pob milwr dewr, pob gwladgar fron,
O anweledig fyd uwchben,
Yn edrych ar y fangre hon,
Yn hoffi gweld yr undeb wnaed
I rwymo'r Ynys Wen ynghyd,—
Mewn undeb, nerth, a bri parhaed
Yn deyrnas rydda', bena'r byd.
II. ABATY TINTERN.
Pa sawl bron a oerodd yma?
Pa sawl llygad gadd ei gloi?
Pa sawl un sydd yn y gladdfa,
A'r côf ohonynt wedi ffoi?
Pa sawl gwaith ar wawr a gosber
Swniai'r gloch ar hyd y glyn?
Pa sawl Ave, Cred a phader,
Ddwedwyd rhwng y muriau hyn?
Ar y garreg sydd gyferbyn,
A faluriwyd gan yr hin,
Tybiaf weld, o flaen ei eilun,
Ryw bererin ar ei lin;
Tybiaf fod y mwg o'r thuser[55]
Eto'n codi'n golofn wen,
A bod sŵn yr organ seinber
Eto yn dadseinio'r nen.
Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell
Lle cartrefai'r anthem gynt;
Nid oes yma, o gôr i gangell,
Un erddygan[56]. ond y gwynt.
Felly darffo pob coel-grefydd,
Crymed byd ger bron y Gwir;
Hedd a chariad, ar eu cynnydd,
Fo'n teyrnasu tros y tir.
GWERSI.
I.-Gorffennwch yr ymadroddion hyn â'r geiriau a geir yn y darnau uchod:—
eill tan y muriau hyn; yn cledd; yn mur; yn llawr; yn ar y fangre hon; yn hoffi yr undeb wnaed; eto'n golofn wen; yn nen; fo'n tros y tir.
II.—Ennwch, mewn brawddegau cyflawn, rai o'r gwahaniaethau ym mywyd y castell a'r abaty i'r hyn a fu yn yr hen amser gynt, gan ymhelaethu ar y pennau hyn:—
(1) Fe laddodd filoedd yn ei wg; ysbryd da yw ef yn awr. (2) Bwgan erch yn ysgwyd cledd; Ꭹ llawryf werdd a'r faner hedd. (3) Yn lle Eryr ar y tŵr; y Glomen ddof sydd yno'n awr. (4) a bod swn yr organ seinber; un erddygan ond y gwynt. (5) Tybiaf weld o flaen ei eilun; crymed byd ger bron y Gwir.
III.—Ysgrifennwch nodiadau byrion i ddangos gwahaniaeth rhwng gwaith y castell ac eiddo'r abatŷ yng Nghymru.
IV. Disgrifiwch hen gastell neu abatŷ y buoch chwi ynddynt neu y gwyddoch am danynt.
V.—Disgrifiwch y darlun o Gastell Caernarfon."
VI.—Rhoddwch hanes yr amgylchiad y cyfeirir ato gan Ceiriog yn y ddwy linell olaf o'r trydydd pennill.
XV.—CLODDIAU A GWRYCHOEDD.
DYLAI amaethwr ystyried y drefn oreu i wneuthur ei gloddiau a'i wrychoedd. Y mae chwech o bethau i'w cydystyried ganddo wrth wneuthur ei amgaeau, harddwch, cysgod, diogelwch, parhâd, cyniliad ei arian, ac arbediad ei dir. Oddeutu gerddi a pherllannoedd, y mae cloddiau o gerrig neu briddfeini yn fwy dewisedig na pherthgaeau, am eu bod yn fwy cynhesol i'r lle, trwy beri cysgod yn gystal a diogelwch. Ar le uchel, caregog, ceir fod clawdd meini da mor radlawn a defnyddiol ag unrhyw amgae. Ar weunydd a rhosydd gwlybion, gall clawdd daear, wedi ei wneuthur gyda gofal, barhau am hir flynyddoedd. Mewn lleoedd coediog, gall amgae polion ateb y diben; ac, ond torri y coed yn y gaeaf, a gosod y pyst yn lled aml, a hollti neu naddu y croes-bolion yn drionglog fel na safo y gwynt arnynt, parha pawlgae felly dros ddeugain mlynedd; ac y mae yn fanteisiol hefyd, am nad yw yn cymeryd ond ychydig iawn o'r tir.
Ond wrth ystyried y cyfan, i dyddynwr yn gyffredin, perthgae ydyw y gorau, y rhataf a'r harddaf. Y planhigion mwyaf dewisol i wneuthur perthgae ydyw drain gwynion, am y tyfant yn gyflym ymhob math o dir, ond mewn graian sych. Y mae drain duon hefyd yn dda er diogelwch, am eu bod yn llai agored na'r lleill i gael eu cropio gan greaduriaid, ond nid ydynt mor sicr o dyfu a'r lleill; ac, os tyfant, y mae eu gwreiddiau yn fynych yn lledu yn ormodol.
Gwneir perthgaeau cryfion o gyll a bedw; ond dichon nad oes dim sydd yn fwy hardd, diogel a chysgodol, na chae[57] celyn, pe medrid ei fagu; a byddai yn dda ymdrechu mwy i fagu planhigion celyn. Wrth eu plannu mewn cae, ni ddylid eu gosod yn rhy agos at eu gilydd. Gellid rhoddi pedair draenen rhwng pob celynen; ac fel y lledid, neu yr ymledai y celyn, byddai yn hawdd tynnu y drain. Dylid gofalu plygu y cangau yn gyfamserol, a byddai yn fuddiol rhoddi pridd neu dyweirch dros rannau ohonynt. Mewn lleoedd gwlybion, gellid plannu gwern neu helyg; a hawdd iawn fyddai gwneud amgae rhagorol ohonynt ond plannu gwrysg[58] hirlathraidd[59] rhwygedig yn ddwy res, a gogwydd yn naill yn groes i'r llall. Tyfant felly yn gyflym, cryfhant yn fuan, ac ymddanghosant yn hardd, fel plethwaith cywreiniaf.
GWERSI.
I. Eglurwch paham y dylai amaethwyr ystyried y chwe peth a enwir gan S. R. wrth wneuthur eu hamgaeau.
II.—Ennwch y cloddiau gorau yn y lleoedd hyn, gan gofio rhoddi rheswm yr awdwr, ac ymhelaethu arno eich hunain os yn bosibl:—
(a) oddeutu perllannoedd; (b) lle uchel, caregog; (c) gwaen a rhos; (ch) lle coediog.
III.—Atebwch y gofyniadau hyn yn gryno:—
(1) Paham y mae drain duon yn well ac eto'n waeth na drain gwynion i wneuthur amgaeau? (2) Pa un yw y perthgae gorau, a phaham? Ennwch hefyd yr holl gyfarwyddiadau a roddir gan yr awdwr i wneud y perthgae hwnnw.
IV. Rhoddwch ddisgrifiad byr o, (1) ffurf y dail; (2) lliw rhisgl; (3) lliw, ffurf ac amser ffrwyth neu flodau yr holl goed a ennwir yn y dyfyniad uchod.
Atebwch yr holl ofyniadau uchod mewn Cymraeg mor fyw a chryno ag y gellwch.
V.—Ysgrifennwch y geiriau canlynol yn y rhif lluosog:—
clawdd, post, carreg, polyn, gwraidd, draenen, cangen, tywarchen; a'r geiriau hyn yn y rhif unigol:—priddfeini, rhosydd gwlybion, gweunydd, planhigion, cyll, bedw, helyg.
VI.—Ffurfiwch ansoddeiriau o'r enwau hyn:—
cysgod, diogelwch, cyniliad, carreg, coed, congl, mantais, amser, rhwyg.
XVI.—YR YSGOLION RHAD.
YNGHYLCH can mlynedd ar ol y gwŷr defnyddiol uchod, sef yr hen Ficer a'i gyfeillion, gwelodd yr Arglwydd yn dda gymeryd yn ei law y Parchedig Griffith Jones, Person Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, a fu yn ymdrechgar a diwyd dros lawer o flynyddoedd, i bregethu yr efengyl i dorfeydd lluosog gyda grym, dwyster, ac arddeliad mawr, a hynny mewn amser o ddirywiad trwm.
Wedi iddo ystyried fod y wlad, gan mwyaf, yn anllythrennog ac yn dra anwybodus, nid oedd ganddo, dros amser, ddim i'w wneuthur ond ymofidio o'r herwydd. Ond daeth i'w feddwl i ystyried a oedd yn bosibl cael rhyw foddion i osod i fyny ysgolion rhad i ddysgu plant tlodion i ddarllen gair Duw, a'u hegwyddori mewn gwir grefydd.
Dechreuodd ymosod yn egniol at y gwaith, a llwyddodd yn ei amcan tu hwnt i bob disgwyliad; ac o radd i radd, ymdaenodd yr ysgolion rhad dros y rhan fwyaf o holl ardaloedd Cymru, a rhyfedd fendithion a'u dilynodd. Cafodd Mr. Jones gymorth gan amryw o wŷr cyfrifol a haelionnus at y gorchwyl tra angenrheidiol hwn; ond y fwyaf nodedig oedd y bendefiges elusengar honno, Mrs. Bevan, o Lacharn, oedd megis mam yn Israel. Cynhaliodd hon yr ysgolion ymlaen, gan mwyaf, ar ei thraul ei hun, hyd ddiwedd ei hoes, er fod Griffith Jones wedi gorffen ei yrfa flynyddau o'i blaen. Gadawodd ddeng mil o bunnau yn ei hewyllys tuagat barhad y gwaith elusengar hwn hyd ddiwedd amser. Ond, rywfodd, y mae y rhodd haelionnus honno wedi ei throi i lwybr nad ydym ni yng Ngwynedd yn cael dim o'i llesad, na neb yn unman arall nemor well erddi. Pan ddaeth yr ysgolion hynny gyntaf i Wynedd, daeth y gelyn a heuodd efrau ymysg y gwenith. Trodd golygwr yr ysgolion allan yn ddyn meddw a hollol annuwiol. Ond er yr holl annhrefn oedd ar yr ysgolion, cafodd miloedd ynddynt y fraint o ddysgu darllen gair Duw. Gellir priodoli dechreuad y diwygiad i'r ysgolion rhad a fu fel caniad y ceiliog yn arwyddo fod gwawr y bore ar ymddangos.
Cynhaliwyd ysgolion y nos yn y tymor gaeaf tros lawer o flynyddoedd, yn aml ddwywaith yn yr wythnos. Yr oeddynt wedi dechreu yn y Deheudir cyn i ni yma glywed son am danynt. Y gyntaf yng Ngogledd Cymru, hyd y gwn i, a gynhaliwyd yng Nghapel Curig yn y flwyddyn 1767, i ddysgu'r bobl ieuainc ddarllen na allent gael amser i ddyfod i'r ysgol y dydd. Nid hir y bu ein gwlad ar ol hyn heb golli yr ysgolion rhad yn llwyr; nid oedd, wedi hynny, ond naill ai ymdrechu i gadw ysgolion y nos, neu adael i'r plant tlodion fyned ymlaen, fel paganiaid, heb fedru llythyren ar lyfr. Ymdaenodd y rhain yn raddol trwy amryw o ardal— oedd, a buont o fawr fendith i gannoedd; a chafodd nifer fawr eu tueddu yn wirfoddol i fod yn ddysgawdwyr ynddynt, heb na gwerth na gwobrwy.
GWERSI.
I.—Unwch y brawddegau hyn yn un frawddeg gyda gair cysylltiol cyfaddas, er enghraifft:—
(a) Cerddais ar hyd y ffordd gul.
(b) Gwelwyd blodau hardd ar bob tu.
Wrth gerdded ar hyd y ffordd gul, gwelais flodau hardd ar bob tu.
(1) Ystyriodd fod y wlad, gan mwyaf, yn anllythrennog ac yn dra anwybodus; nid oedd ganddo ddim i'w wneuthur ond ymofidio o'r herwydd. (2) Dechreuodd ymosod yn egniol at y gwaith; llwyddodd yn ei amcan tu hwnt i bob disgwyliad. (3) Daeth yr ysgolion hyn gyntaf i Wynedd; daeth y gelyn a heuodd efrau ymysg y gwenith. (4) Yr oedd yr holl ysgolion mewn annhrefn; cafodd miloedd ynddynt y fraint o ddysgu darllen gair Duw.
II.—Ysgrifennwch y dyfyniad hwn ar ol y frawddeg, "Dywedodd Robert Jones." Newidier pob gair fel bo angen.
Dechreuodd ymosod yn egniol at y gwaith, a llwyddodd yn ei amcan tu hwnt i bob disgwyliad; ac o radd i radd, ymdaenodd yr ysgolion rhad dros y rhan fwyaf o holl ardaloedd Cymru, a rhyfedd fendithion a'u dilynodd. Cafodd Mr. Griffith Jones gymorth gan amryw o wŷr cyfrifol a haelionnus at y gorchwyl tra angenrheidiol hwn; ond y fwyaf nodedig oedd y bendefiges elusengar honno, Mrs. Bevan, o Lacharn, oedd megis mam yn Israel."
III.—Cyfansoddwch frawddegau i brofi'r gwahaniaeth rhwng y geiriau hyn:—
da, defnyddiol; ymdrechgar, egniol, diwyd; grym, gallu, nerth; trwm, swrth, didaro; anllythrennog, anwybodus, annuwiol; dysgu, egwyddori, hyfforddi; gorchwyl, gwaith, llafur; elusengar, caredig, haelionnus; gwawr, bore.
IV.—Ysgrifennwch draethawd byr i ddangos manteision addysg yr oes hon rhagor oes Griffith Jones,—elfennol, ganolraddol, ac uwchraddol.
XVII.—Y GWANWYN.
1
DADSEINIO 'roedd y brigog lwyn
Gan gerdd pob mwyn aderyn;
A minnau'n un â'r adar mân,
Ddatgenais gân i'r gwanwyn.
Y meillion tyner welid draw
Ar fur y dedwydd fwthyn,
Atebent fi mewn siriol wrid,
Pan genais enw'r gwanwyn.
Y pren afalau acw sydd
Ar fur y dedwydd fwthyn,
Ei flodau gwynion wisga'n llu
Er mwyn croesawu'r gwanwyn.
O gopa'r bryn lle hulia'r grug,
Y myg ehedydd esgyn:
Ei dant yw'r cyntaf gryn gan fawl
Yng nghlust yr ieuanc wanwyn.
Y gornant fach sy'n dod i lawr
I afon fawr y dyffryn;
Rhy hithau ar ei llannerch werdd
Furmurawl gerdd i'r gwanwyn.
Os gwelsom eira'n hulio'r byd,
A'r cyd-ddadmeriad wedyn :
Adgofio'r gaeaf hwnnw'n awr
Ry fwy o wawr i'r gwanwyn.
2.
Nid oes dim ia ar war y llyn,
Na rhew ar fryn na mynydd;
Blodeuog yw briallu'r fron,
A gwyrddion ydyw'r coedydd;
Datodwyd clo y nant a'r ia,
Fe dreigla yr afonydd.
Y ddaear sydd yn wych ei gwedd,
A'i hagwedd yn llawn bywyd;
Ei chŵysau'n barod sydd i waith
Ar ol hin laith ac annwyd;
Fe ddaeth y Gwanwyn yn ei dro
I'w deffro a'u dadedfryd.[60]
Er gwywo'i gwedd, a cholli 'i phryd,
A dwyn ei chlyd fantelloedd,
Wrth fod mewn llafur trwm dros ddyn
Bob blwyddyn am ganrifoedd,
Mewn gwawr mor newydd ac erioed
Cadd ar ei hoed ail wisgoedd.
Fe'i gwelir yn y Gwanwyn gwyrdd
A myrdd o'i hepil meirwon
Yn dod i'r lan, a'u lliw yn iach,
A'u gruddiau bach yn gochion;
A rhai yn wyn, rhai'n wyrdd, rhai'n frith,
Yn dewfrith hyd ei dwyfron.
Ni fydd na maes, na dôl, na bryn
Y Gwanwyn heb friallu,
A'r rheiny ar bob dyn a'u gwel,
Os heibio'r êl, yn gwenu;
A'r adar mân ar frigau'r pren
Yn llon uwchben yn canu.
Y gwlith o berl fu'n llechu'r nos
Ym mynwes y rhosynnau
Fydd yn ffarwelio'n llwyr yn awr
Ar doriad gwawr y boreu,
Gan fynd i'w taith, i'r nef uwch ben,
Ar amnaid heulwen oleu.
Y mae holl natur dan ei hurdd,
Mae'n wyrdd bob bryn a chlogwyn;
Mor brydferth ydyw'r ddôl a'r fron,
Mae meillion ar y dyffryn;
Ac O, mor hardd a fyddai'r byd
Pe bai o hyd yn Wanwyn!
Fe glywir tyner lais y gog
Ar lwyni brigog gwyrddion,
A thwi, twi, twi y wennol fwyn,
Aderyn sy'n dwyn hinon;
A llu y goedwig yn gytun
O un i un mewn calon.
Bydd pawb o'r mwya i'r lleia oll
Heb goll yn adeiladu,
Pob un ei fan a'i ddull ei hun,
Heb un yn croes ymdynnu;
Rhai'n uwch, rhai'n is, rhai'n wych, rhai'n wael,—
Pawb am gael lle i lechu.
GWERSI.
I.—Ychwanegwch ansoddeiriau neu ymadroddion i roddi darluniad byw o'r geiriau hyn. Gorffennwch eich ymadroddion hefyd yn frawddegau.
llwyn; meillion; bwthyn; ehedydd; cerdd; coed; hin; mantell; llafur; llais; gwennol; briallu.
Gofaler fod digon o newid yn ffurf a geiriau'r brawddegau.
II.—Ceisiwch wella y rhain:—
(1) A minnau yn un a'r adar mân; (2) O gopa y bryn lle hulia y grug; (3) os gwelsom eira yn hulio y byd; (4) i'w deffro ac i'w dadedfryd; (5) er gwywo ei gwedd, a cholli ei phryd.
III.—Gwnewch restr o'r geiriau sy'n odli â'u gilydd yn unrhyw dri phennill o bob awdwr, gan ddewis geiriau (1) ar ddiwedd llinell; (2) yng nghanol llinell. Danghoswch y gwahaniaeth a'r tebygolrwydd rhwng mydr Ceiriog a Chaledfryn.
IV.—Cymherwch syniadau y ddau fardd am y Gwanwyn, hynny yw, a ydynt yn meddwl rhywbeth yn debyg i'w gilydd, neu yn annhebyg, am y tymor cyntaf o'r flwyddyn. Pa ddarn yw'r goreu gennych? Rhoddwch resymau.
V.—Beth yw'r geiriau barddonol sy'n cyfateb i'r rhain:—
pen y bryn; can; llecyn; gorchuddio; bore; rhew; rhedeg; tywydd; gwlyb; prydferth; caredig; gwres.
VI.—Ysgrifennwch draethawd ar y Gwanwyn, gan ymhelaethu ar y pennau hyn:—
(1) Ymddanghosiad y caeau, y gwrychoedd, y coed, y mynyddoedd, yr afonydd a'r cymylau. (2) Arferion yr adar. (3) Gwaith yr amaethwyr. (4) Arferion a chwareuon y plant.
XVIII.—Y CREADUR BACH MAWR.
FEL y mae'r bedwaredd Salm ar bymtheg yn Salm y dydd, felly y mae'r wythfed Salm yn Salm y nos.
Yn honno y mae'r Salmydd yn traethu am ogoniant Duw yn y ffurfafen pan fo'r lloer a'r ser wedi diflannu, a'r haul yn unig yn ymddangos ynddi. Yn hon y mae yn traethu am ogoniant Duw yn y ffurfafen pan fo'r haul wedi machlud, a'r lloer a'r ser yn ymddangos ynddi. Gellid meddwl mai edrych ar y nefoedd yn y nos, ac nid edrych arnynt yn y dydd, oedd yn magu ynddo fwyaf o syndod ac o barchedigaeth. Hynny, o'r hyn lleiaf, oedd yn rhoi'r syniad gorau am fawredd Duw ac am fychander dyn. Y mae'r greadigaeth ei hun yn ymddangos yn fwy yn y nos nag yn y dydd; ac am hynny y mae'r Creawdwr hefyd yn ymddangos yn fwy. Y mae rhyw ehangder a dyfnder yn y wybren serog sy'n anad dim arall yn galluogi dyn i weld godreon yr Anfeidrol. Y mae'r ddaear yn amlycach yn y dydd nag yn y nos, ond mae'r nefoedd yn amlycach yn y nos nag yn y dydd; ac y mae mwy o Dduw yn y nefoedd nag sydd ar y ddaear. Duw yn unig sy fawr yn nhywyllwch a distawrwydd y nos; a'r pryd hwnnw, y mae dyn yn fychan hyd yn oed yn ei olwg ei hun. Yn y dydd, y mae dyn yn rhy fawr yn ei olwg ei hun i weled Duw. Wrth edrych ar y ddaear, y mae yn anghofio'r nef; ac y mae trwst ei waith ef ei hun yn ei wneyd yn rhy fyddar i glywed llais hyfrytaf tawel y byd a ddaw.
Melus, yn ddiau, yw'r goleuni, a hyfryd yw i'r llygaid weled yr haul; ac yn niffyg goleuni'r haul, hyfryd yw goleuni nwy, neu oleuni llusern, neu oleuni cannwyll; ond os mynnai rhywun weled yr Arglwydd Iôr yn dangos ar y gynfas ddarlun gwych ohono'i hun, rhaid cael 'stafell weddol dywyll. Rhaid aros i'r haul fachludo, a lleihau goleuni'r llusernau. Rhaid troi'r llygaid oddi wrth bob tipyn o oleuni oddieithr y goleuni sydd yn y darlun ei hun. Os myn dyn weld rhywbeth a rhywun mwy nag ef ei hun, eled allan ar ei ben ei hun, ar noswaith dawel, serog, loergan, ac edryched ar y ser melynion, a thu hwnt i'r ser, i'r glas dwfn diderfyn sy'n ymgolli ynddo'i hun. Hynny a wnai'r Salmydd yn fynych iawn; ac wrth wneyd hynny, yr oedd ei enaid yn ymddyrchafu, yn ymehangu, ac yn ymlenwi â Duw. Ond ar ol edrych ar y nefoedd uchod, yr oedd yn ddiogel i'r Salmydd edrych ar y ddaear isod. Ar ol ystyried gogoniant Duw yn y nefoedd, yr oedd yn fuddiol iddo ystyried dyn, yr hwn a grewyd i gydnabod y gogoniant hwnnw. Wrth edrych i fyny ar y nefoedd, ac ar Dduw'r nefoedd, teimlo a wnaeth ei fod yn greadur distadl iawn; ond wrth edrych i lawr ar y ddaear, ac ar anifeiliaid y ddaear, teimlo a wnaeth ei fod yn greadur pwysig iawn. I iawn synio am ddyn, rhaid inni gofio ei fod yn greadur bach ac yn greadur mawr hefyd. Arno'i hun, efallai nad yw na bach na mawr; er hynny, bach ydyw o'i gymharu â'r hyn sydd uwch ei law, ond y mae yn fawr o'i gymharu â'r hyn sydd is ei law.
Dyfyniad yw'r uchod o bregeth ar Salm viii., adnodau 3-6.
GWERSI.
I.—Defnyddiwch y geiriau hyn, ynghyd a'r rhai gwrth-gyferbyniol iddynt, mewn un frawddeg bob un:—
dydd; lloer; machlud; mawredd; dyfnder; tywyllwch; distawrwydd; byddar; gwych; diderfyn; mynych; diogel; pwysig; bach; uchod.
II.—Graddau cymhariaeth ansoddeiriau.—Llennwch y bylchau hyn â gradd briodol o ansoddair cyfaddas:—
(1) gellid meddwl mai edrych ar y nefoedd yn y nos oedd yn magu ynddo syndod; (2) hynny, o'r hyn oedd yn rhoi'r syniad ; (3) y mae'r greadigaeth ei hun yn ymddangos nos; (4) y mae'r ddaear yn yn y dydd nag yn y nos; (5) yn rhy fyddar i glywed llais tawel y byd a ddaw.
III.—Cyfansoddwch frawddegau nad ydynt yn y dyfyniad yn cynnwys yr ymadroddion hyn:—
(1) pan fo; (2) o'r hyn lleiaf; (3) anad dim arall; (4) yn ddiau; (5) rhaid; (6) eled; (7) tu hwnt; (8) ar ol; (9) efallai; (10) er hynny; (11) cymharu.
IV.—Ysgrifennwch draethawd byr, mewn Cymraeg da, ar "Y Nos," gan ymhelaethu ar y pennau hyn:—
(a) distawrwydd y nos; (b) y ffurfafen; (c) nos-weithiau'r haf a'r gaeaf; (ch) adar y nos; (d) anifeiliaid y nos; (dd) achos o'r nos.
"Nos yw'r dydd sy'n cadw'r ser o'r golwg,
A dydd yw'r nos sy'n gwneyd y nef yn amlwg."
XIX.—LLONGDDRYLLIAD.
WEDI treulio ychydig o oriau mewn awyddfryd brwd am gael rhoi troed ar dir Cymru, daethom gerllaw i enau afon, ac adnabuom wrth y tonnau mawrion a thoredig oedd o'n blaen fod yno fryniau erchyll[61] a thraethelli mawrion o dywod; a chawsom fod y trai hefyd yn rhuthro allan mor chwyrn, fel nad oedd gennym ddim i'w wneyd ond ymdrechu dychwelyd yn ol i'r môr gyda y rhyferthwy,[62] rhag i'r nos ein goddiweddyd ymhlith y traethau oedd mor anadnabyddus i ni, yr hyn a'n rhoddai yn agored i'r perygl mwyaf. Yng ngwyll[63] y nos, trowyd y llong oddiamgylch, a chalonogwyd ni â gradd o obaith am drwydded dihangol; ond er bod y trai yn gweithredu yn gadarn o'n tu i'n gwthio allan i'r môr, chwythai y gwynt mor ffyrnig yn ein herbyn fel nad oeddym yn alluog i fyned ond ychydig iawn. Ymhen ennyd fer, tynnodd y nos ei llen gadduglyd[64] am danom, a gwnaeth ni mor ddeillion fel na welem gledr ein llaw; y gwynt yn chwythu yn ffyrnicach, gan chwibanu yn nhaclau y llong; y môr yn ymgynddeiriogi ac yn lluchio y llestr oddiamgylch fel plyfyn, nes oedd pawb ohonom wedi anobeithio am fywyd ac amser mwy. Pan oedd y dymestl yn rhuo ar bob tu, i wneyd ein sefyllfa yn echryslonach fyth, chwydai yr awyr y fath fellt dychrynllyd o'n hamgylch, a holltent y tywyllwch dudew ac a roddent inni gipolwg ar ein cyflwr erchyll ac arswydus, nes oeddym ar lewygu gan ofn. Yr oedd tonnau chwyddedig y môr yn rhuthro arnom megis meirch i frwydr, gyda'r fath grochferw[65] syfrdanllyd fel na allai neb ohonom glywed llais y llall; y llestr yn gwib—ddawnsio fel mai braidd y gallai neb ohonom sefyll ar ei bwrdd; yr awyr, fel pe buasai wedi ymuno â'r môr i wneyd un distryw cyffredinol arnom, a'n cuddio o olwg dydd a dyn am byth.
Wedi cael ein hysgwyd a'n lluchio ar geulannau y dyfnder, ar gyfwng rhwng byw a marw, gwelem adlewyrchiad bychan yn y dwyrain, ac ni chafodd dyfodiad dydd erioed ei groesawu gyda mwy o awydd a hiraeth am dano, nag a gafodd y pryd hwnnw gennym ni. Pan oedd ein gobaith wedi adfywio ychydig, a rhyw radd o gysur wedi mynd i mewn i'r mynwesau galarus, tarawodd y llong ar fryn o dywod. O! y waedd dorcalonnus ddyrchafai oddiwrth holl ddynion y llong, yr hon oedd yn ddigon i chwilfriwio calon o gallestr[66]; ond yn lle ein hollti yn ddarnau, dygodd y don nesaf ni ymaith i'r dwfn drachefn; a chan ein bod ynghylch tair milltir oddiwrth y sychtir, a'r llong wedi ei hysigo trwyddi ar y tarawiad, yr oeddym o dan yr angenrheidrwydd o weithio y sugn—bibau â'n holl egni i'r diben o'i chadw ar wyneb y tonnau. Pan lwyd—wawriodd y bore, gwelem mai i ddannedd creigiau geirwon a dychrynllyd yr oeddym yn sicr o fyned, oni throai y gwynt yn ddioed. Nid oedd gennym yn y fath amgylchiad fawr o obaith am fyw ond ychydig funudau yn hwy, a rhyw brudd—ddisgwyl ofnadwy am y tafliad tros y geulan[67] amserol i'r cyfwng mawr tragwyddol. Rhyfeddol y gwahaniaeth a wnaethai un dydd ar y llong a'r dynion oedd arni. Y bore ddoe yn llestr dlos, dalgref, mor hardd a galluog ag un ym Môr Werydd; yn ei llawn hwyliau, a'i hwylbrenni hir—feinion yn hollti y cymylau fry, a'i chorff megis castell cadarn ar y môr berwedig. Ond heddyw, y castell cadarn wedi hollti trwyddo, a chymaint a allai ei breswylwyr wneyd oedd ei gadw rhag llwyr suddo; yr hwyliau wedi eu hollti fel gardysau, ac ambell ddernyn ohonynt wedi glynnu yn y rhaffau, ac yn chwyrnu yn nannedd cynddaredd[68] y gwynt.
GWERSI.
I.—Unwch y brawddegau hyn yn un frawddeg â geiriau cysylltiol priodol:—
(1) Treuliasom ychydig o oriau mewn awyddfryd brwd am gael rhoi troed ar dir Cymru; daethom gerllaw i enau afon. (2) Gweithredai y trai yn gadarn o'n tu i'n gwthio allan i'r môr; chwythai y gwynt yn ffyrnig yn ein herbyn; nid oeddym yn alluog i fynd ond ychydig iawn. (3) Cawsom ein hysgwyd a'n lluchio ar geulannau y dyfnder; gwelem adlewyrchiad bychan yn y dwyrain. (4) Ni holltwyd ni yn ddarnau; dygodd y don nesaf ni ymaith i'r dwin drachefn.
II.—Gwersi ar y rhagenwau. Llennwch y bylchau â rhagenwau priodol:—
(a) adnabuom wrth y tonnau mawrion oedd o blaen; (b) yr hyn rhoddai yn agored i'r perygl mwyaf; (c) ond er bod y trai yn gweithredu yn gadarn o tu i gwthio allan i'r môr; (ch) a gwnaeth mor ddeillion fel na welem gledr llaw; (d) wedi cael hysgwyd a lluchio; (dd) o dan yr angenrheidrwydd o weithio y sugn-bibau â holl egni i'r diben o chadw ar wyneb y tonnau.
III.—Gorffennwch yr ymadroddion gyda chymhariaethau cymwys:—
(1) Lluchio y llestr oddiamgylch fel ; (2) yr oedd tonnau chwyddedig y môr yn rhuthro arnom ; (3) yr awyr i wneud un distryw; (4) yr hwylbrenni hir-feinion yn hollti y cymylau fry, a'i chorff ; (5) yr hwyliau wedi eu hollti
IV. Disgrifiwch y pethau a enwir isod âg un ansoddair:—
traethau; gwynt; llen; sefyllfa; tywyllwch; cyflwr; crochferw; adlewyrchiad; mynwes; calon; craig; llestr; hwylbrenni; castell; tonnau.
Sylwch fod rhif rhai o'r geiriau wedi ei newid, ac felly rhaid newid y llythyren gyntaf mewn ambell ansoddair.
V.—Ysgrifennwch ychydig o frawddegau am y pethau hyn:—
(a) y llong yn agoshau at y tir; (b) effaith y nos; (c) y wawr yn torri; (ch) ymddanghosiad y llong cyn yr ystorm ac ar ei hol.
VI.—Newidiwch y dywediadau hyn yn ofyniadau:—
(a) Yng ngwyll nos trowyd y llong oddiamgylch. Enghraifft,—Pa bryd y trowyd y llong oddiamgylch?
(b) Y môr yn ymgynddeiriogi ac yn lluchio y llong fel plyfyn.
(c) Y bore ddoe y llestr yn dlos, dalgref.
(ch) Yr oeddym rhwng byw a marw.
XX.—SABOTH CYMRU, YN Y WLAD.
MOR llawn o santaidd asbri,[69]
I wella'r enaid claf,
Yw bore Sul mewn gwledig fro,
Ynghanol mwynder haf!
Mae'r ddaear fel yn gwybod
Mai dyma ddydd ei Duw;
Mae rhyw santeiddrwydd ar bob man
Yn nefoleiddio'i lliw.
Mae afon o dawelwch
Yn llifo'n llydan glaer;
Mae'r byd fel pe yn plygu ei ben
Yn swn y delyn aur.
Fe deimlir fod y bryniau
Yn edrych tua'r nen,
Gan ddisgwyl llaw rhyw angel hardd
I dynnu'n ol y llen;
A'r afon wedi dysgu
Rhyw salm yn odfa'r ser,
Fel yn ei hadrodd ar ei thaith
Mewn llawer adnod bêr.
Y blodau sy'n addoli,
A'u llygaid ar yr haul;
A'r awel ir yn arwain mawl
Cymanfa ganu'r dail.
Mae'r adar fel yn taro
Nodau emynnau'r nef;
A'r hedydd fry yn adrodd cainc
O gân yr "Iddo Ef!"
Mireinder yr ysbrydol,
Prydferthwch moliant Iôr,
Sy'n freuddwyd o addoliant pur
Ar wyneb tir a môr;
Ar fryn ei gweddnewidiad
Saif Anian, yn ei hawl;
A'i gwisg yn ddisglair fel yr haul,
Ynghanol dydd o fawl.
Ah enaid dall anianol,
Na welodd berth erioed
Yn llosgi gan ogoniant Duw,
Pan ddel yr haf i'r coed:
Na theimlodd fel mae Natur,
Ddydd Duw, yn cadw gwyl:
Ac ar bob tant o'r cread mawr
Law wen mewn dwyfol hwyl!
(Trwy ganiatad, o "Ganeuon Elfed," cyhoeddedig gan y Welsh Educational Co., Caerdydd).
GWERSI.
I.—Chwiliwch am gymhariaethau pwrpasol i'r canlynol:—
(a) y ddaear ar y Sul; (b) y byd; (c) yr afon; (ch) yr adar; (d) gwisg anian. Ceisiwch roddi eich brawddegau mewn Cymraeg mor ystwyth ag yw y gwreiddiol.
II.—Ysgrifennwch a ganlyn mewn iaith farddonol:—
O mor llawn o fywyd santaidd yw bore Sul yn y wlad, ynghanol yr haf; mae'r ddaear ar bob tu yn edrych yn brydferth. Edrycha y bryniau megis tua'r nef gan ddisgwyl am law ryw angel hardd i symud y gorchudd. Y mae'r afon fel pe buasai wedi dysgu salm gan y ser, ac yn ystod ei thaith edrydd aml adnod felus ohoni.
III.—Ysgrifennwch y trydydd a'r pedwerydd pennill mewn Rhyddiaith.
IV.—Gorffennwch y llinellau hyn â'r geiriau yn y dyfyniad:—
(1) Mae o dawelwch
Yn llydan ;
Mae'r fel pe plygu
Yn y aur.
(2) Mae'r fel yn taro
emynnau'r ;
A'r fry yn adrodd
O yr "
XXI.—RHYFEL Â'R RHUFEINIAID.
AC ar hynny, Cesar a ymwrolodd ac a gynhullodd ei sawdwyr[70] ynghyd, sef oedd eu rhifedi pum mil ar hugain o wŷr traed, a phedair mil a phum cant o wŷr meirch, ac mewn pedwar ugain o ysgraffau[71] a fordwyodd efe a'i wŷr tuag at ynys Brydain.
Yr oedd y Brutaniaid hwythau yn gwybod eu bod ar fedr ymweled â hwy, canys nid amser i fod yn segur ac ysmala oedd hwn; ac am hynny yr oedd yspiwyr yn disgwyl yn y prif aberoedd rhag i'r gelynion i dirio yn ddiarwybod, a'u lladd yn eu cwsg. A chyn gynted ag y daeth y llongau i olwg y tir, y swyddogion a anfonasant yn ddiaros i fynegi i'r brenin fod y gelynion wedi dyfod. Ac ar hynny y brenin a archodd i'r penrhingyll i ganu'r cyrn-cychwyn i gynnull ei wŷr rhyfel ynghyd. A brysio a wnaethant yn llu mawr arfog at y porthladd ar fin môr Kent, ac erbyn hynny yr oedd y gelynion o fewn ergyd saeth. Nid oedd gan y Brutaniaid y pryd hwnnw na lluryg,[72] nac astalch,[73] na tharian, na phenffestin,[74] nac un trec[75] na pheiriant i amddiffyn rhag y saethau a'r gwaywffyn; lle yr oedd gan wŷr Rhufain helm o bres ar eu pennau, tarian yn eu dwylaw, a lluryg ddur o gylch eu dwyfron. Ond er hyn o anfantais, pobl noeth yn erbyn gwŷr arfog, eto, bernwch chwi, a fu achos gan wŷr Rhufain fostio mai hwy a gawsant y trechaf yn y diwedd? Canys am y glewion Frutaniaid, rhai a safasant ar bennau y creigydd, rhai a ddisgynasant i'r traeth, eraill a aethant i'r môr, a phawb yn ergydio eu saethau cyn amled at y gelynion, nes oedd gwaed y lladdedigion yn ffrydio megis pistyll yma ac acw dros ystlysau'r llongau i'r môr.
Yr oedd Iwl Cesar yn bwrw cael hawddgarach triniad; ac er gwyched rhyfelwr oedd efe, efe a edrychodd yn awr yn lled ddiflas ar y mater, wrth weled ei wŷr wedi digalonni, rhai yn ei regi ef am eu tynnu i'r fath ddinistr, rhai yn hanner marw yn ochain ac yn griddfan, eraill yn gorwedd yn gelaneddau meirw. Unwaith, yn wir, y meddyliodd i godi hwyliau a myned adref; ond yna efe a ystyriodd y byddai hynny yn ddifenwad ac yn gywilydd byth iddo ymysg ei gyd—wladwyr; ac o achos hynny, efe a ymwrolodd drachefn ac a ddywedodd rhwng bodd ac anfodd,—"Gwaradwydd, ie, gwaradwydd tuhwnt i ddim inni ddychwelyd adref wedi dyfod cyn belled a hyn; nage, ni a fynnwn dirio."
Ac yna, fel y gwelwch chwi darw yn taflu ac yn gwylltio ar ol bod dau neu dri o waed—gŵn wrtho un hanner awr; felly gwŷr Rhufain, hwythau a chwerwasant oddi mewn, gan ergydio eu saethau cyn amled a chenllysg at y Brutaniaid; a lladdwyd y fath nifer o bob ochr, nes oedd y môr agos yn wridog gan waed y lladdedigion, a chyrff y meirw a'r clwyfus cyn dewed yn gorwedd ar fin y môr a defaid mewn corlan. A phe buasai elw i Iwl Cesar osod ei draed ar dir Brydain, hynny a gas[76] efe; eto pe ni buasai efe a'i wŷr redeg yn gyflym i gael diogelwch yn eu llongau, fel y gwelwch chwi haid o wenyn yn taro i'r cwch o flaen tymestl, hwy a larpiesid yn dameidiau â chleddyf y Brutaniaid dewrion.
GWERSI.
I.—Cywirwch y brawddegau canlynol:—
(a) Ac ar hynny, Cesar a ymwrolodd. (b) Yr oedd yr yspiwyr yn disgwyl yn y prif aberoedd rhag i'r gelynion i dirio yn ddiarwybod. (c) Ac ar hynny, y brenin a archodd i'r penrhingyll i ganu'r cyrn- cychwyn. (ch) Unwaith, yn wir, y meddyliodd i godi hwyliau a myned adref.
II. Chwiliwch am gymhariaethau cyfaddas i'r ymadroddion hyn:—
(a) gwŷr Rhufain wedi chwerwi oddi mewn; (b) cyrff y meirw a'r clwyfus; (c) gwŷr Cesar yn rhedeg yn gyflym am ddiogelwch; (ch) gwaed y lladdedigion.
III.—Gwers ar y rhag-enwau. Llennwch y bylchau hyn â rhyw rag-enw cywir
- —
(a) yr oedd y Brutaniaid yn gwybod bod ar fedr ymweled â ; (b) rhag i'r gelynion i dirio yn ddiarwybod a lladd yn cwsg; (c) ac er gwyched rhyfelwr oedd ; (ch) ac yna, fel y gwelwch darw yn taflu ac yn gwylltio; (d) felly gwŷr Rhufain ; (dd) a phe buasai elw i Cesar osod ei draed ar dir Brydain, gas
IV.—Atebwch y gofyniadau canlynol mewn brawddegau llawn:—
(1) Pa nifer o filwyr a feddai Cesar pan yn ymosod ar Brydain?
(2) Pa beth a wnaeth y Brutaniaid wrth weled y llongau yn agoshau?
(3) Pa arfau a wisgai y Rhufeiniaid?
(4) Paham y meddyliodd Cesar droi yn ol, a phaham y peidiodd?
(5) Beth oedd canlyniad yr ymgyrch?
XXII.—HYNT Y BARDD CWSG.
AR ryw brydnhawngwaith teg o ha hir-felyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbienddrych i helpu'm golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr. Trwy'r awyr deneu, eglur, a'r tes ysblennydd, tawel, canfyddwn ymhell bell tros Fôr y Werddon lawer golygiad hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid oedd yr haul ar gyrraedd ei gaerau'n y Gorllewin, gorweddais ar y gwelltglas, tan synfyfyrio deced a hawddgared, wrth fy ngwlad fy hun, oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a gwyched oedd gael arnynt lawn olwg, a dedwydded y rhai a welsant gwrs y byd wrthyf fi a'm bath. Felly, o hir drafaelio â'm llygaid, ac wedyn â'm meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac â'i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid a'm holl synhwyrau eraill yn dyn ddiogel. Eto gwaith ofer oedd iddo geisio cloi'r Enaid a fedr fyw a thrafaelio heb y corff: canys dihangodd fy ysbryd ar esgyll ffansi allan o'r corpws cloiedig, a chyntaf peth a welwn i yn fy ymyl dwmpath chwarae, a'r fath gadgamlan mewn peisiau gleision a chapiau cochion yn dawnsio'n hoew-brysur. Sefais ennyd ar fy nghyfyng gyngor awn i atynt ai peidio, oblegid ofnais yn fy ffwdan mai haid oeddynt o Sipsiwn newynllyd, ac na wnaent lai na'm lladd i i'w swper a'm llyncu yn ddihalen. Ond o hir graffu, mi a'u gwelwn hwy'n well a thecach eu gwedd na'r giwed felynddu gelwyddog honno. Felly, anturiais neshau atynt, yn araf deg fel iar yn sengi ar farwor, i gael gwybod beth oeddynt; ac o'r diwedd, gofynnais eu cennad fel hyn,— "Atolwg, lân gynulleidfa, 'rwy'n deall mai rhai o bell ydych, a gymerech chwi Fardd i'ch plith sy'n chwennych trafaelio? Ar y gair, distawodd y trwst, a phawb a'i lygad arnaf, a than wichian,—"Bardd," ebe un; trafaelio," eb un arall; "i'n plith ni," ebe y trydydd. Erbyn hyn, mi adwaenwn rai oedd yn edrych arnaf ffyrnica o'r cwbl. Yna, dechreuasant sibrwd o glust i glust ryw ddirgel swynion ac edrych arnaf; a chyda hynny torrodd yr hwndrwd,[77] a phawb â'i afael ynof, codasant fi ar eu hysgwyddau, fel codi Marchog Sir, ac yna ymaith a ni fel y gwynt tros dai a thiroedd, dinasoedd a theyrnasoedd, a moroedd a mynyddoedd, heb allu dal sylw ar ddim gan gyflymed yr oeddynt yn hedeg.
GWERSI.
I.—Unwch y brawddegau yma â'u gilydd:—
(1) Porthais fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch; yr oedd yr haul yn cyrraedd ei gaerau'n y gorllewin; (2) trafaeliais yn hir â'm llygad; daeth blinder; (3) Sefais ennyd ar fy nghyfyng gyngor awn i atynt ai peidio; ofnais yn fy ffwdan mai haid o Sipsiwn newynllyd oeddynt. (4) Creffais yn hir; gwelwn hwy'n well a thecach eu gwedd na'r giwed felynddu honno.
II.—Newidiwch yr ymadroddion hyn, fel y darllenont yn fwy persain:—
(1) I helpu fy ngolwg gwan; (2) a'r tes tawel ysblennydd canfyddwn bell ymhell; (3) ar bob rhyw hyfrydwch o fy amgylch; (4) felly, wedi trafaelio'n hir gyda'm llygad, a wedyn â fy meddwl; (5) bardd sydd yn chwennych trafaelio; (6) tros diroedd a thai, teyrnasoedd a dinasoedd.
III.—Disgrifiwch y geiriau canlynol gyda'r ansoddeiriau a
ddefnyddir yn y dyfyniad:—
haf; awyr; tes; gwastadedd; corpws; giwed; swynion; agoriadau.
IV. Dodwch yn y bylchau yma y gair neu'r geiriau a ddefnyddir gan Ellis Wynne:—
(a) i weled yn , a phethau yn ; (b) canfyddwn ; (c) tan synfyfyrio a wrth fy ngwlad fy hun; (ch) a oedd gael arnynt olwg; (d) a'm holl synhwyrau eraill yn ; (dd) yn dawnsio'n ; (e) na wnaent na'm lladd i; (f) ac ymaith fel y gwynt; (f) yn araf deg fel yn ar ; (g) ac â'i agoriadau plwm fe ffenestri fy .
V.—Ysgrifennwch y darn hwn ar ol y frawddeg "Dywed Ellis Wynne:—
Ar ryw brydnhawngwaith teg o ha hir-felyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbienddrych i helpu'm golwg egwan. Canfyddwn tros Fôr y Werddon lawer golygiad hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, gorweddais ar y glaswellt tan synfyfyrio deced wrth fy ngwlad fy hun oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion, a dedwydded y rhai a welsant gwrs y byd wrthyf fi a'm bath.
XXIII.—YR HWYR.
1
NOS dywell yn distewi,—caddug
Yn cuddio Eryri,
Yr haul yng ngwely'r heli,
A'r lloer yn ariannu'r lli.
2.
Yr hwyrnos brudd sy'n ocheneidio'n wanllyd
Wrth roi ei phen i lawr mewn melus hun,
Mae'r bryniau oll mewn dwyfol orchudd tanllyd
Yn moli Duw am wylio dyn;
Cyd-nofio mae'r cymylau,
Ac aur hyd eu hymylau;
Yn seiniau cerddi hwyrol ha',
Tyner chwa
Ddwed "Nos da!"
Y blodau mân a wylant wlith ariannaidd,
Ymgrymant oll o flaen yr hwyrnos gu,
Yr hon sy'n dod ar draed o bluf sidanaidd
I guddio'r byd mewn pruddaidd amdo du;
Ac o'r aelwydydd tawel,
Ehedeg gyda'r awel
Mae seiniau cerddi hwyrol ha';
Yna'r chwa
Ddwed Nos da!"
3.
O! Henffych gysgodau yr hwyr,
Breuddwydion afradlon y dydd;
A'u distaw amneidion yn gollwng y galon
O ganol gofalon yn rhydd;
Mor felus pan gyfyd y ser,
Yw bwrw y beichiau i lawr;
A chroesi mewn heddwch i fyd o dawelwch,
I hela breuddwydion,
Dan ofal angylion,
Hyd doriad y wawr.
O! Henffych gysgodau yr hwyr,
Adfywiol dangnefedd prydnawn;
A'r blodau yn hwylio i dawel noswylio,
A'u llygaid o haul yn llawn;
Y llenni a dynnir i lawr,
Dros hawddgar orielau y gwŷdd;
A chysga'r aderyn, a'i bwys ar ei delyn,
I ganu'n felusach,
A chalon gynhesach,
Ar doriad y dydd.
O! Henffych gysgodau yr hwyr,
Mae'r gorwel yn ddwyfol i gyd,
Yn cymell y meddwl drwy flodau y cwmwl,
I holi am loewach byd;
Dwyfola cyfaredd mor fwyn
Feddyliau daearol y dref;
A chrwydra yr enaid, heb gwrdd âg ochenaid,
Gan foli a synnu
Yng nghanol briallu
Aneirif y nef.
GWERSI.
I.—Gwers ar y berf—enw,—Llennwch y bylchau yma â geiriau priodol:—
(1) a'r lloer yn lli; (2) yn Duw am dyn; (3) i byd mewn pruddaidd amdo du; (4) a'u distaw amneidion yn y galon; (5) ar blodau yn i dawel ; (6) mae'r gorwel yn ddwyfol i gyd yn y meddwl drwy flodau y cwmwl i am loewach byd.
II. Dodwch air i ddisgrifio'r geiriau hyn mewn brawddegau cyflawn; sylwer fod rhif a rhyw rhai o'r geiriau wedi eu newid:—
nosweithiau; hwyrnos; melus; gorchudd; cerdd; gwlith; pluen; amdo; aelwyd; breuddwyd; tangnefedd; calonnau; briallu.
III.—Eglurwch paham y dywed y bardd fod (1) yr hwyrnos yn brudd, a'i bod yn gwyro ei phen mewn melus hun; (2) fod y bryniau, gan eu bod mewn gorchudd tanllyd, yn moli Duw; (3) y blodau mân yn wylo; (4) yr hwyrnos yn dyfod ar draed o blu sidanaidd; (5) cysgodau yr hwyr fel breuddwydion afradlon.
IV.—Aralleiriwch y pennill cyntaf a'r ail gan Ddyfed.
V.—Cyfansoddwch draethawd ar "Yr Hwyr," gan roddi sylw neilltuol i liw yr awyr, y mynyddoedd a'r môr; arferion yr amaethwyr a'r gweithwyr fin yr hwyr.
XXIV.—Y TRI ADERYN.
ERYR.—Ond gwrando, Gigfran, pa newydd yr wyti yn ei ddwyn ar ol dy holl hedeg dros y gwledydd?
CIGFRAN.—'Rwyf yn gweled mai gwych yw bod yn gyfrwys pa le bynnag y bwyf.
COLOMEN.—Nid yw dy gyfrwystra di ond ffolineb, canys ni fedri ac ni fynni ddyfod yn ol at Noah.
CIGFRAN.—Gwel, O Eryr frenin, fel y mae'r golomen o'th flaen di yn fy marnu i.
COLOMEN.—Nid wyf i ond dywedyd y gwir am danat ti, ac fe fyn y gwir o'r diwedd ei le.
ERYR.—Ond dangos di, o aderyn du, i'th gyfiawnhau dy hun, pa gyfrwystra sydd ynot ti mwy nag mewn aderyn arall?
CIGFRAN.—Mi fedraf droi gyda phob gwynt, ac arogli fy mwyd o bell, a gochelyd y saethyddion. Ni ddisgynnaf yn agos i neb heb fy llygad yn fy mhen. Pa opiniwn bynnag a fo gan yr uchelwyr,[78] mi fedraf ei lyncu, am y caffwyf lonyddwch yn fy nyth.
ERYR.—Oni fedr y golomen hynny hefyd?
CIGFRAN.—Crawc. Mae rhai o'r proffeswyr newyddion yma mor wancus a minnau, ac mor gyfrwys am y byd a'r gigfran dduaf. Ond os troi'r ddalen a darllain y tu arall i'r gwir, mae llawer o'r dynion newyddion yma heb ganddynt bris am y byd nag am danynt eu hunain, nag am ddim am y caffont fod gyda Noah yn yr Arch, mewn cymdeithas yn ysbryd yr ail Adda; ac ni adwaen i yr un ohonom ni, y Cigfrain, o'r meddwl hwnnw.
COLOMEN.—Gwir y mae'r gigfran yn ei ddywedyd yn hyn, canys y mae llawer a lliw colomennod arnynt, a naturiaeth y gigfran ormod ynddynt.
ERYR.—Ond gwrando di, Gigfran gyfrwys, onid oes ewyllys rhydd gennyt? Oni elli, os mynni, beidio a lladd yr ŵyn bach, a chymeryd rhyw ffordd arall i fyw?
CIGFRAN.—Ped fai ewyllys fe fyddai allu. Ped fai'r gwaethaf yn gallu iawn ewyllysio bod yn orau, fe fynnai fod felly. Ond mae ewyllys pawb wedi ei garcharu yn ei naturiaeth ei hun.
ERYR.—Ond oni elli di ddyfod allan o'th ewyllys, a'th wadu dy hun?
CIGFRAN.—Na allaf. Trech yw naturiaeth na dim, ac ni welaf fi fawr yn nofio yn erbyn y ffrwd honno. Ie, ni all neb ei gwrthwynebu yn hir, ond y sawl sydd a naturiaeth newydd ganddo.
ERYR.—Da yr wyt ti yn dywedyd dy reswm, ond drwg yr wyt ti yn gwneuthur. Pa le y cefaist ti y synwyr i ymresymu fel hyn?
CIGFRAN.—Ymha le y cawn i hi, ond yn ysgolion y deyrnas? Ond yn aderyn du yr aethym i i'r ysgol, ac yn gigfran ddu, fel y gweli, y daethym i adref.
ERYR.—Wrth hynny, ni fuasai waeth i ti aros gartref. CIGFRAN.—O, ni fynaswn i er dim aros gartref, canys mi a enillais gallineb i dwyllo'r adar, a phe rhoit ti gennad, O Eryr, mi a'th dwyllwn dithau.
ERYR.—Ond a welaist ti mo'r colomennod yn yr ysgolion lle buost ti?
CIGFRAN.—Yr oedd ambell un. Ond ni fedrwn i ddarllain mo'u hiaith hwy, na hwythau ddeall mo'm meddyliau innau. Ond pam yr wyt, O Eryr, yn taro gyda'r golomen o'm blaen i?
ERYR.—Mae Noah yn ei hoffi hi yn fwy na thydi. Onid hwy yw'r adar gwirion, hawddgar, cyflym, cwynfannus, diniwed; ac mae yn y gwledydd bobl o'r fath honno, er dy fod ti yn crowcian yn eu herbyn; gwell a fyddai iti aros gyda ni yn ddiniwed. Fe ŵyr Noah mai aderyn drwg wyt ti, ac y mae ei fwa ef yn cyrhaeddyd o entrych y ffurfafen, i waelod y ddaear, a'i saeth ar y llinyn yn erbyn pob aderyn drwg sydd wedi ei adael ef heb ddychwelyd ato.
GWERSI.
I. Gwnewch restr o hanner dwsin o ymadroddion byw a chynhwysfawr yn y dyfyniad uchod, a dysgwch hwy.
II.—Cyfansoddwch frawddegau yn cynnwys y geiriau neu'r ymadroddion hyn gyda'r un ystyr ag sydd iddynt yn y dyfyniad:—
pa le bynnag; mynnu; am y caffwyf; adwaen; mor; mo'u; taro; mwy nag; a fo.
III.—Atebwch y gofyniadau hyn debyced ag sy'n bosibl i Gymraeg Morgan Llwyd:—
(a) Pa gyfrwystra oedd yn y Gigfran rhagor un aderyn arall?
(b) Beth oedd syniadau'r Gigfran ar Ewyllys Rydd?
(c) Pa beth a ddysgodd y Gigfran yn yr Ysgol?
(ch) Pa aderyn a hoffid gan Noah, a phaham?
XXV.—Y BEIBL CYMRAEG.
YN nechreu teyrnasiad y frenhines Elisabeth, gorchymynwyd drwy Act O Barliament droi'r Beibl yn Gymraeg. Ond yr oedd ein gwlad ni wedi myned yn ddichwant am dano, neu yn anfedrus tuag at y fath beth. Am hynny, safodd y gwaith ynghylch naw mlynedd, ac yna, Richard Davies, esgob Mynwy, a William Salesbury, gwr bonheddig, a gyfieithasant y Testament Newydd i'r Gymraeg, ac a'i printiasant ym mlwyddyn yr Arglwydd mil a phum cant a thrigain a saith.
Dros ugain mlynedd wedi hyn, bu Cymru heb nemor o bregethwyr ynddi, na'r hen Destament yn ei hiaith, er bod rhai ewyllyswyr da iddi. Ym mlwyddyn yr Arglwydd mil a phum cant a phedwar ugain ac wyth, cyfieithwyd a phrintiwyd y Beibl cyfan yn Gymraeg gan y Doctor Morgan, ficer Llanrhaiadr ym Mochnant. Ond nid hwyrach, fel y dywedodd Nathanael, "a ddichon da ddyfod o Nazareth?" yr amheua'r Gwyneddwr a allai'r fath gymwynas iachusol ddeilliaw o'r gymdogaeth honno. Eto, gwel fel y prifiodd cecru[79] rhai o'i blwyfolion yn fantais i'r athro hwn yn ei orchwyl pwysfawr. Canys pan orfu iddo fyned i lys yr Archesgob i ateb iddynt, canfu'r prelad pwyllog ei odidowgrwydd ef, ac a'i hanogodd ef i'r gwaith bendigaid hwnnw.
Yn nheyrnasiad y brenin James, wedi diwygio cyfieithiad y Beibl yn Saesneg, gwnaeth yr esgob Parry drwy gynorthwy y Doctor Davies o Fallwyd yr un gymwynas i'n gwladwyr ni yn cywreinio[80] y Beibl Cymraeg, gan addef, yn ei lythyr Lladin at y brenin, iddo daclu'r adeilad a wnaethai ei ragflaenoriaid ef, a lloffa tywysennau ar ol eu cynhaeaf hwy.
Er dyfod y Beibl Cymraeg i'r llannau, ni ddaethai mono eto yn gyfan i dai, am ei fod o brint mawr, ac o gymaint pris na chlywai ond rhyw un arno ei bwrcasu; am hynny, yn y flwyddyn 1630, drwy draul yr anrhydeddus Syr Thomas Middleton a Mr. Heilyn, Alderman o Lundain, printiwyd ef â llythrennau mân, ac aeth ei faintioli a'i bris yn gynhwysach[81], ac yna daeth i ddwylaw'r werin yn amlach. Ac fel y rhoddes Duw hâd i'r hauwr, amlhaodd y torthau i'r bwytawyr, a phrintiwyd eilwaith chwe mil o Feiblau Cymraeg â llythrennau mân, ac aethont cyn rated a Beiblau Saesneg. Ac er mwyn hen bobl, a rhai fyddent â golygon gwannach, printiwyd llaweroedd o'r Testament Newydd yn Gymraeg ar eu pennau eu hunain â llythrennau brasach.
Er pan ddaeth yr ysgrythyrau yn Gymraeg i'n plith, y mae'r helynt orau ar ein cenedl ni ag a fu ers llawer o genedlaethau. Rhoddes Duw iddi heddwch oddiamgylch. Ni ŵyr y to presennol oddiwrth y cyfyngdra gofidus ydoedd gynefin i'n hynafiaid ni gynt. Y mae'r Saeson, oeddent fleiddiaid rheibus, wedi myned i ni yn fugeiliaid ymgeleddgar, ac agos cyn hynawsed wrthym ni ag ydym ni wrth ein gilydd. Hwy sy'n printio ein llyfrau ni, ac yn dysgu celfyddydau i ni; ac yn marchnata â'n gwlad, nid wrth y dur a'r haiarn, ond yr aur a'r arian. Yr hon sydd yn awr lawnach o ddynion ac o olud nag a fu ers talm o'r blaen; a'n celloedd yn llawn o bob ryw luniaeth, a'n defaid yn dwyn myrddiwn, a'n hychen yn gryfion lafurio, heb na rhuthro i mewn na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd. Mae gwybodaeth wedi amlhau, a'n moddion hefyd wedi rhywiogeiddio.[82] Nid oes mo'r fath yspeilio, a threisio, a mwrdro ag a glywsom ni gan ein hynafiaid ei fod yn eu mysg ers talm. Mae Powys yn weddus fel y bu. Mae Lloegr yn agored i ni hefyd, a chyn hyfed inni breswylio ynddi mewn cyfiawnder ag oedd i'n hen rieni ni cyn ei cholli.
GWERSI.
I.—Disgrifiwch y pethau hyn gyda'r cymhariaethau byw sydd gan yr awdwr:—
(a) cyfieithiad Dr. Parry o'r Beibl; (b) argraffiad rhad o'r Ysgrythyr; (c) y Saeson; (ch) hawddfyd Cymru.
II.—Ysgrifennwch hanes cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg hyd at y flwyddyn 1630.
III.—Llennwch y bylchau hyn â geiriau gwrthgyferbyniol eu hystyr i'r rhai a roddir yn y frawddeg. Gofaler fod y frawddeg yn gyflawn o ran synwyr:—
(a) yn lle , y mae heddwch yn y tir; (b) yn lle cyfyngdra gofidus cawn ni ; (c) y mae'r Saeson, oedd fleiddiaid rheibus, yn ; (ch) nid yw'n celloedd yn wag o fwyd ond yn ; (d) yr oedd ein hychen yn wan a diddim, ond yn awr y maent yn ; (dd) ac nid cythryblus yw Powys.
IV.—Cyfansoddwch draethawd ar y Beibl Cymraeg, gan sylwi ar ei effaith ar (a) foes, (b) iaith, (c) lenyddiaeth ein gwlad.

(Oddiwrth y darlun gan Warren Williams).
Ymddanghosodd y darlun uchod yn y "Cymru" am Fedi, 1911.
Tud. 83.
XXVI.—Y MÔR.
1.
O mor hoff yw gennyf gerdded
Glan y môr!
Ac mor anwyl gennyf glywed
Swn y môr!
Mwyn-gan ddwys yr afon fechan
Wrth ymdreiglo dros y graian
Sydd yn hoff, ond nid fel prudd-gan
Swn y môr.
Man fy ngenedigaeth ydoedd
Min y môr;
Y swn a'm suodd gyntaf ydoedd
Swn y môr;
Mae fy ysbryd wedi helaeth
Yfed chwerwder ei alaeth,[83]
Cyfran heddyw o'm bodolaeth
Ydyw swn y môr.
Pan o ddwndwr byd yn cilio
I lan y môr,
Yno am orffwysdra i chwilio
Yn swn y môr,
Cefais lawer tawel ennyd
Hamdden i fyfyrio bywyd
Draw ymhell o'i dwrf terfysglyd,
Yn swn y môr.
2.
Gorffwys don!, dylifa'n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio,
Pa'm y byddi di yn effro?
Dwndwr daear sydd yn darfod,—
Cysga dithau ar dy dywod.
Gorffwys fôr! mae ar dy lasdon
Un yn dwyn serchiadau 'nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur;
Bydd dda wrtho, fôr diddarfod,
Cysga'n dawel ar dy dywod!
Paid a grwgnach,—bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;
A pha esgus iti ffromi?
Nid oes gwynt ym mrig y llwyni:
Tyrd a bad fy ngŵr i'r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.
3.
Hyd y feisdon crwydrai'r wendon, gan ymdaenu dros y traeth,—
Weithiau'n codi yn ei chwman, weithiau'n llonydd megis llaeth;
Byddai weithiau'n hir a chribog, a chantellog yn ei thro,
A phryd arall yn cynddeiriog ruglo'r cregyn yn y gro.
Gwelwn yn y du Orllewin dew gymylau'n do ar do,
Rhai'n fynyddau, creigiau gwgus, ereill megis bryniog fro;
Rhuai'r môr, a thyrfai'r tonnau, moryn ar ol moryn ddaeth,
Fel i ddangos ei wrhydri wrth ymlafnio hyd y traeth.
Sisial 'r oedd y gro a'r cregyn wrth eu rhygnu yn ddi-ball,
Minnau yn y môr—luwch—ddrycin yn palfalu fel un dall.
Du-fantellog dawch[84] y Dwyrain, i'r Gorllewin rithiog len,
Ymdaenasant nes oedd pygddu fwrllwch[85] tew o gylch fy mhen.
Codai'r môr ei ruwch yn feiddgar, gwaeddai'r tonnau'n wallgof groch,
A phob cragen ar y feisdon oedd yn swnio megis cloch.
Methai'r gwynt a bod yn llonydd, rhuthrai'n hyf gan faeddu poer,
Ac ysgytiai'r tonnau'n enbyd. Rhwng dau gwmwl corniog loer
Daflodd oleu gwelw, egwan, goleu rhithiog, dawnsiog, gwyllt,
Goleu—arlliw gwibiog fellten, pan fo Grym yn lluchio byllt;
Gwelwn long, neu rywbeth tebyg,—ar amrantiad collodd hon,
"Soddi, soddi, boddi, boddi," ydoedd stwr y drystiog don.
GWERSI.
I.—Ysgrifennwch benillion Alun mewn Rhyddiaith, gan ofalu newid y geiriau na oddefir mewn Rhyddiaith.
II.—Cymherwch syniadau y tri bardd am y môr. A ydynt oll yn hoff ohono, neu yn ei gashau, ai nad ydynt? Ceisiwch feddwl paham y mae beirdd yn synied fel y gwnant am y môr.
III.—Chwiliwch am y cymhariaethau goreu i'r syniadau canlynol:—
(a) sŵn y môr; (b) anian fin nos; (c) tonnau'r môr; (ch) y wendon yn llonydd; (d) y cymylau yn y Gorllewin; (dd) dyfodiad moryn ar ol moryn; (e) y bardd yn y môr—luwch—ddrycin; (f) sŵn y gragen ar y feisdon; (f) y gro a'r cregin wrth ruglo ar y traeth.
IV.—Disgrifiwch y môr fel y gwelsoch chwi ef, naill ai'n dawel neu ynte'n ystormus.
V.—Drwy gymorth y darlun o'r môr, ysgrifennwch draethawd byr arno, gan ymhelaethu ar y pennau canlynol:—
(a) Ei anwadalwch:—
"Y môr, mor ddynol newidiol,
Ac eto mor ddwyfol yr un."—Robert Owen.
(b) Fel beddrod aml forwr:—
Cwsg ef ymhell o'i annwyl fro,
A'i lan, O! lymed wedd;
Lle mae tymhestloedd lawer tro
Yn rhuthro tros ei fedd."—Gwenffrwd.
(c) Ei wasanaeth i ddyn:—
"Llongwriaeth ry'i llaw yng ngoror
Pob llyn o faint, pob llain o fôr;
A'i dwrn gwlyb hi dery'n glau
Wrth ddrws aur ei thrysorau;
Y 'tunnelli' tynn allan,
Buan rhydd i bawb eu rhan."—Eben Fardd.
XXVII.—CWYNFAN ALLTUD.
GR.—Mae yn esmwythach arnom o beth, ac yn lai'r boethfa, er pan ddeuthom i'r winllan hon nag ydoedd tra fuom yn y tŷ gartref. Canys yno 'roedd gwres anosparthus i'n poeni, a myllni (o eisiau awyr a gwynt) ddigon i fygu dynion. Ond yma mae cangau a dail y gwinwydd i'n cadw rhag pelydr yr haul, a'r gwynt arafaidd o'r gogledd yn oeri, ac yn difyllu y rhodfa a'r eisteddfa hon, fel na bo cyn flined arnom ganol dydd, ag a fu y dyddiau a aeth heibio.
MO.—Er bod yn deg y fangre lle'r ydym, ac yn hyfryd gweled y dail gwyrddleision yn gysgod rhag y tês, ac yn ddigrif clywed yr awel hon o'r gogleuwynt yn chwythu tan frig y gwinwydd i'n llawenychu yn y gwres anrhesymol hwn sydd drwm wrth bawb a gafodd eu geni a'u meithrin mewn gwlad cyn oered ag yw tir Cymru, eto, mae arnaf hiraeth am lawer o bethau a gaed yng Nghymru i fwrw'r amser heibio yn ddifyr ac yn llawen wrth ochel y tês hirddydd haf. Canys yno, er poethed fai'r dymyr,[86] ef a gaid esmwythtra a diddanwch i bob math ar ddyn. Os byddai un yn chwenychu digrifwch fe gai buror[87] a'i delyn i ganu mwyn bynciau, a datceiniaid[88] pêroslan i ganu gyda thant, hyn a fynnwch chwi ai mawl i rinwedd ynte gogan i ddrwg gampau. Os mynnwch chwithau glywed arfer y wlad yn amser ein teidiau ni, chwi a gaech henafgwŷr briglwydion a ddanghosai i chwi ar dafod leferydd bob gweithred hynod a gwiwglod a wnaethid trwy dir Cymru er ys talm o amser. Ond os myfyrio a ddymunech neu ddarllen ar eich pen eich hun, chwi a gaech ddewis lle cymwys i hynny, er maint fyddai boethni'r tês,—naill ai mewn tai gleision hafaidd neu ger llaw'r dwfr rhedegog mewn glyn ac îrgoed, neu mewn dyffryn llysieuog, neu ar ael doldir meillionnog, neu mewn cadlas o fedw neu o ynn planedig, neu ar fynydd amlwg awelog, neu mewn rhyw gyfle arall lle ni byddai na blinder na lludded wrth wres yr hinon. Ond ynghylch y dref hon nid oes dim tebyg; canys os i ogo' y cyrchwch neu i gilfach heb haul yn tywynnu un amser arni, chwi a gewch oerfel angheuol, os ynte mewn lle amlwg y trigwch y brydni[89] a dawdd frain ac adar; os aros a wnewch yn y tŷ chwi a fygwch gan fyllni; a'r gwinllannau o'r fath yma, er eu bod yn deg yr olwg arnynt ac yn hyfrytach aros ynddynt nag mewn mannoedd eraill o'n hamgylch, eto ni chynhesa calon Cymro wrthynt megis y gwnai wrth lan Dyfrdwy neu lawr Dyffryn Clwyd, neu wrth leoedd a fedrwn eu henwi o faenol Dewi i Gaergybi ym Mon. A phe bai'r lle o hono ei hun yn gystal a'r fan oreu yng Nghymru, eto fe lawenychai fy nghalon i yno yn gynt wrth glywed y gog yn canu nag a wnai yma wrth glywed perbynciau'r eos neu fwynlais bronfraith neu lathreiddgan mwyalch neu pe gwnaed miwsig cyson cyfangan o gydlais paradwysaidd holl adar y byd yn yr un lle.
GWERSI.
I.—Disgrifiwch y pethau yma gyda'r geiriau a ddefnyddir yn y dyfyniad; gorffennwch eich disgrifiad yn frawddeg gyflawn:—
(a) gwres mewn tŷ yn yr Eidal; (b) y fangre lle'r eisteddai'r alltud yn awr; (c) tai, glyn, dyffryn, doldir, cadlas yng Nghymru; (ch) canu'r adar yng Nghymru.
II.—Ail drefnwch y dernyn hwn fel y darlleno'r brawddegau yn fwy llyfn:—
Er fod y fangre lle'r ydym yn deg, ac yn hyfryd gweld y dail gwyrddleision rhag y gwres yn gysgod, ac yn ddigrif clywed yr awel hon yn chwythu o'r gogleuwynt tan frig y gwinwydd i'n llawenychu yn y gwres anrhesymol hwn sydd wrth bawb a gafodd eu geni a'u meithrin mewn gwlad mor oer ag yw Cymru, yn drwm, eto hiraeth sydd arnaf am lawer o bethau a gaed yng Nghymru i fwrw'r amser yn ddifyr heibio, ac wrth ochel y tes hirddydd haf yn llawen.
III.—Gwersi ar yn." Dodwch " yn o flaen pob gair a ysgrifennir mewn llythrennau italaidd yn y brawddegau
hyn:—
(1) ac difyllu y rhodfa a'r eisteddfa hon; (2) er bod ; teg y fangre lle'r ydym; (3) hyfryd gweled y dail gwyrddleision cysgod rhag y tês; (4) mae arnaf hiraeth am bethau a gaed Cymru i fwrw'r amser heibio difyr ac llawen; (5) heb haul tywynnu un amser arni; (6) i Gaergybi Mon; (7) eto fe lawenychai fy nghalon cynt wrth glywed y gôg.
IV. Chwiliwch am enwau cyfaddas i'r ansoddeiriau hyn:—
arafaidd; gwyrddleision; anrhesymol; pêroslan; briglwydion; rhedegog; llysieuog; meillionnog; angheuol; cyson, paradwysaidd.
V.—Tybiwch eich bod yn alltud o'ch gwlad, ac ysgrifennwch lythyr at eich cyfaill yng Nghymru yn hiraethu am
(a) ei mynyddoedd:—
"Ond mae'm calon ar y mynydd
Efo'r grug a'r adar mân."—Ceiriog.
(b) ei hawel a'i dŵr:—
"Mae gwlad yr awen, geinwen gell,
Er hynny'n well o'r hanner;
Ei hawel iach a'i melus ddwr,
A chyflwr ei thrigolion."
—John Jones, Llansantffraid.
(c) ei phentrefi:—
"Hyfrytach, Gymru, fil i mi
Tawelwch dy bentrefi di."—Glan Alun.
(ch) ei chaeau:—
"Mae'r rhosydd, a'r gweunydd gwâr
A droediwn yn ddi—drydar?
Mae'r dolydd, a'r meusydd maith
Yn geinwych lle bum ganwaith? "
—Ieuan Glan Geirionnydd.
(d) fedd yng Nghymru:—
"Gwedi f'oes a gloes y glyn,
O am orwedd ym Merwyn;
Od oes byth gael dewis bedd,
I Ferwyn af i orwedd."—Cynddelw.
XXVIII.—ANRHYDEDD BUCHEDD GYFIAWN.
YNA Job a barablodd trachefn, ac a ddywedodd,
O na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fyfi.
Pan wnai efe i'w oleuni lewyrchu uwch fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn drwy dywyllwch.
Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, ac ymgeledd Duw ar fy mhabell.
Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a'm llanciau o'm hamgylch.
Pan olchid fy nhraed ag ymenyn, a phan dywalltai y graig arnafi afonydd o olew.
Pan awn i allan i'r porth trwy'r dref, parwn baratoi fy eisteddfa yn yr heol.
Llanciau a'm gwelent ac a ymguddient, a henuriaid a gyfodent, ac a safent.
Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.
Pendefigion cymen[90] a ymguddient, a'u tafod hwy a lynai wrth daflod eu genau.
Canys y glust a'm clywai a'm bendithiai, a'r llygad a'm gwelai a dystiolaethai ohonof.
Canys gwaredwn y tlawd yr hwn a fyddai yn gweiddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.
Bendith y colledig a ddeuai arnaf, a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.
Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai am danaf fi, a'm barn fyddai fel mantell a choron.
Llygaid oeddwn i'r dall, a thraed oeddwn i'r cloff; tad oeddwn i'r rhai anghennog, a'r cŵyn nid adwaenwn a chwiliwn i allan.
Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, a gwnawn iddo ef fwrw'r ysglyfaeth allan o'i ddannedd. Am hynny y dywedwn, byddaf farw yn fy nyth, a byddaf mor aml fy nyddiau a'r tywod.
Fy ngwreiddyn oedd yn agored i'r dyfroedd, a'r gwlith a arhosodd yn fy mrig.
Fy ngogoniant oedd ir gyda mi, a'r bwa a adnewyddai yn fy llaw.
Hwynt a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent am fy nghyngor.
Ar ol fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; canys fy ymadrodd a ddiferai arnynt hwy.
A hwy a'm disgwylient i fel glaw, ac a agorent eu genau fel am y diweddar—law.
Chwarddwn arnynt hwy, ond ni chredent, ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.
Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysuro rai galarus.
GWERSI.
I.—Cymherwch gyfieithiad Dr. Morgan gyda'r un sydd yn eich Beibl chwi, Llyfr Job, y 29ain bennod.
II.—Newidiwch drefn y geiriau yn y brawddegau i'w gwneud yn fwy melodaidd, ac os oes angen, ychwanegwch atynt:—
(1) O na bawn fel o'r blaen, fel yn yr amser pan y gwnai Duw fy nghadw; (2) a phan yr oedd y graig yn tywallt afonydd o olew arnaf fi; (3) canys y tlawd yr hwn a fyddai yn gweiddi a waredwn; (4) a gwnawn i galon gwraig lawenychu; (5) gwisgwn gyfiawnder, ac am danaf fi y gwisgai hi, ac fel mantell a choron y byddai fy mhen; (6) fy ngwreiddyn i'r dyfroedd oedd agored,—ac arhosodd y gwlith yn fy mrig; (7) a thrigwn fel brenin, megis yr hwn a gysuro y galarus.
III.—Gorffennwch y canlynol:—
(1) pan wnai efe oleuni uwch fy mhen; (2) a'm llanciau ; (3) ac a osodent eu llaw ; (4) a'u tafod a lynai ; (5) canys y glust a'm a'r gwelai ohonof; (6) llygaid oeddwn a oeddwn cloff; (7) byddaf farw ; (8) a'r gwlith a arhosodd ; (9) canys fy ymadrodd (10) a thrigwn fel
IV.—Ysgrifennwch draethawd ar "Gymeriad Pur," gan ymhelaethu ar werth bywyd dilychwin,
(a) i'r dyn ei hun:—
"Canys hir ddyddiau a blynyddoedd bywyd, a heddwch a chwanegant i ti (drwy gadw gorchmynion Duw)."—Y Gwr Doeth.
(b) I'w gyd-ddynion:—
"Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur." —Y Gwr Doeth.
V.—Ysgrifennwch yr holl bennod, o'r ail linell, gan dybied eich bod yn anfon yr hanes i'r newyddiadur. Gofaler am newid yr holl rag-enwau i'r trydydd person, a'r berfau i amser gwahanol pan fo angen am hynny.
XXIX.—ANIFEILIAID Y MAES.
Y LLEW melynddu blewog,
Newydd a glân oedd ei glôg.
Ysgydwai 'i fwng cysgodol—a rhodiai'n
Greadur brenhinol;
Dros bob bryn, dyffryn a dôl,
Chwareuai 'i lais crochruol.
Y cawrfil[91] uthrwanc erfawr,
Oedd yno yn llwybro'r llawr,
Gan estyn y duryn[92] du,
At ei borthiant i'w barthu;
Torrai flys ei felus fant
Ar lysiau er ei lesiant;
A'r rhai a fai wrth ei fodd,
A ddoeth—hwylus ddetholodd.
A'r march anhafarch[93] nwyfus—a neidiai
Mewn nodwedd tra champus;
Ffroenio gan brancio heb rus,
Yr oedd yn dra mawreddus.
Ei gyflym draed grymus—yn cloddio'r llawr;
Esgynnai 'i erfawr lais cynhyrfus.
Dan nawdd glyd ei newydd glôg,
At ael bryn hyfryd heulog, Y ddof garuaidd ddafad,
Ddeuai mewn hedd a mwynhad,
Heb berygl yno'n pori
Yn eorth[94] o'i hymborth hi.
Hithau'r afr ar lethr hyfryd,
Oedd lawen uwch ben y byd;
Daliai ei thraed, dilithr oedd,
Yn yfed gwynt y nefoedd;
A choron hardd ei chyrn hi
Yn nawdd ac addurn iddi.
A'r fuwch mewn llawnder o fwyd,
Ar y ddôl iraidd welwyd,
Yn y gwair hir yn gorwedd,
Yn mwynhau ei rhan mewn hedd;
Cilgnoi, heb gyffroi ei phryd,
Yn dawel iawn a diwyd.
Llyfnion iyrchod ac ewigod,
Tirfion hyddod mewn trefn weddus,
Oedd yn pori'n mysg y lili,
Oll mewn ynni'n llamu'n hoenus.
GWERSI.
I.—Gwnewch restr gyhyd ag sy'n bosibl o'r llinellau yn y dyfyniad a rydd y syniad o dawelwch, ac hefyd o'r syniad gwrthwynebol.
II.—Llennwch y bylchau hyn yn ofalus, gan sylwi pa gyd-seiniaid neu sain sy'n cyfateb i'w gilydd:—
(1) Newydd a oedd ei glôg.
(2) Gan estyn y du.
(3) Ar er ei lesiant.
(4) Y garuaidd
Ddeuai hedd a mwynhad.
(5) A hardd ei chyrn
Yn ac iddi.
III. Pa eiriau wna odli â'r canlynol:—
llesiant; dafad; byd; gwelwyd; pryd; ynni.
IV. Rhoddwch eiriau i ddisgrifio'r anifeiliaid hyn, fel y caffoch linell gynganeddol:—
llew; march; dafad; afr; hyddod; y fuwch.
V.—Ysgrifennwch mewn Rhyddiaith ddisgrifiad y bardd o'r cawrfil a'r fuwch.
XXX.—BREUDDWYD RHONABWY.
RHONABWY gan nad allai na chysgu na gorffwys, a feddyliodd fod yn llai poen iddo fyned ar groen y dyniawed melyn ar y llawr i gysgu. Ac yno y cysgodd. A chyn gynted ag y daeth hûn i'w lygaid, breuddwydiodd ei fod ef a'i gymdeithion yn cerdded ar draws maes Argyngroeg, ac oddi yno, debygai, tua Rhyd y Groes ar Hafren. Ac fel yr oedd yn cerdded clywai dwrf, a thebyg i'r twrf hwnnw ni chlywsai erioed. Ac edrych a wnaeth drach ei gefn, a gwelai ŵr ieuanc pengrych melyn, a'i farf newydd eillio, ar farch melyn, ac o ben ei ddwygoes a thal ei ddeulin i waered yn las. A gwisg o bali[95] melyn am y marchog wedi ei gwnio âg edafedd glas, a chleddyf eurdrwm ar ei glun, a gwain o gordwal[96] newydd iddo, a charrai o ledr ewig a chlasp arni o aur. Ac ar hynny yr oedd llen o bali melyn wedi ei wnio â sidan glas, a'i godre hefyd yn las. A'r hyn oedd las o wisg y marchog a'i farch oedd cyn lased a dail y ffynidwydd[97], a'r hyn oedd felyn ohoni oedd cyn felyned a blodau y banadl. Ac mor ofnadwy yr edrychai y marchog, ofni a wnaethant, a dechreu ffoi. A'u hymlid a wnaeth y marchog. A phan yrrai ei farch ei anadl oddi wrtho y pellhai y gwŷr oddi wrtho, a phan y tynnai ei anadl ato, neshai y gwŷr ato,—hyd ym mron y march. A phan y goddiweddodd hwy, erchi ei nawdd a wnaethant.
"Chwi a'i cewch yn llawen, ac nac ofnwch."
"Ha, unben, gan it roddi nawdd i ni, a ddywedi di imi pwy wyt," ebe Rhonabwy. "Ni chelaf oddiwrthyt fy hanes. Iddog fab Mynyo wyf, ac nid ar fy enw y'm gelwir fwyaf, ond ar fy llysenw.' "A ddywedi di imi beth yw dy lysenw?"
Dywedaf, Iddog Cordd Prydain y'm gelwir."
Ar hynny, wele, clywent dwrf oedd fwy o lawer na'r twrf gynt. A phan edrychasant tua'r twrf, wele was melyngoch heb farf ac heb drawswch[98] arno, a gosgedd bonheddig arno ar farch mawr. Ac o ben y ddwy ysgwydd ac o'i ddeulin i waered melyn oedd y march. Gwisg oedd am y gŵr o bali coch wedi ei gwnio â sidan melyn, a godre y llen yn felyn. A'r hyn oedd felyn o'i wisg ef a'i farch oedd cyn felyned a blodau y banadl, a'r hyn oedd goch ohonynt oedd cyn goched a'r gwaed cochaf yn y byd. Ac yna, wele, y marchog yn eu goddiweddu, ac yn gofyn i Iddog a gaffai ran o'r dynion bychain hynny ganddo.
"Y rhan a weddai i mi ei roddi, mi a'i rhoddaf; bydd yn gydymaith iddynt fel y bum innau." A hynny a wnaeth y marchog, a myned ymaith.
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y marchog hwn?" "Rhuawn Bebyr, fab Deorthach Wledig.'
Ac yna y cerddasant ar draws maes mawr Argyngroeg hyd yn Rhyd y Groes ar Hafren. A milltir oddi wrth y Rhyd, o bob tu i'r ffordd, y gwelent luestai a phebyll, a thwrw torf fawr oedd yno. Ac i lan y Rhyd y daethant. Sef a welent, Arthur yn eistedd mewn ynys wastad is y Rhyd, ac ar y naill du iddo Bedwin Esgob, ac ar y tu arall Gwarthegydd fab Caw, a gwas gwineu [99] mawr yn sefyll ger eu bron, a'i gleddau trwy ei wain yn ei law, a gwisg a chapan o bali purddu am dano. A'i wyneb cyn wynned ag asgwrn eliffant, a chan ddued ei aelau a'r muchudd[100], a'r hyn welai dyn o'i arddwrn rhwng ei fenyg a'i lewis gwynnach oedd na'r lili, a mwy oedd na ffer milwr. Ac yna y daeth Iddog, a hwythau gydag ef, ger bron Arthur, a chyfarch gwell iddo.
"Duw a roddo dda it," ebe Arthur. "Pa le, Iddog, y cefaist y dynion bychain hyn?
"Mi a'u cefais, arglwydd, uchod ar y ffordd." Sef a wnaeth yr Ymherawdr oedd lledwenu.
"Arglwydd," ebe Iddog, "am beth y chwerddi di? "
"Iddog," ebe Arthur, "nid chwerthin a wnaf, ond gofidio fod dynion mor wael a hyn yn gwylio yr ynys hon yn lle y gwŷr da a'i gwyliai gynt". Ac yna y dywedodd Iddog,—
"Rhonabwy, a weli di y fodrwy a'r maen ynddi ar law yr Ymherawdr?" "Gwelaf," eb ef. "Un o rinweddau y maen yw y cofi a welaist heno, a phe na welit ti y maen ni ddoi gof iti ddim o hyn o dro."
GWERSI.
I.—Ysgrifennwch y paragraff cyntaf mewn cyn lleied o eiriau ag y gellwch heb ddifetha y synwyr. Gofelwch am uno y brawddegau gyda geiriau cysylltiol cyfaddas.
II.—Gorffennwch y brawddegau gyda chymhariaeth:—
(1) a thebyg i'r twrf hwnnw. ; (2) a'r hyn oedd las o wisg y marchog oedd cyn ; (3) a'r hyn oedd felyn ; (4) a'r hyn oedd felyn o'i wisg ef a'i farch ; (5) a'r hyn oedd goch oedd ; (6) a'i wyneb cyn wynned ; (7) a'i aeliau cyn ddued ; (8) gwynnach oedd ei arddwrn
III.—A'r llyfr wedi ei gau, ysgrifennwch ddisgrifiad llawn o'r "gwr ieuanc pengrych melyn," gan grybwyll am ei arfau a'i wisg.
IV.—Ysgrifennwch y paragraff sy'n dechreu, "Ac yna y cerddasant ar draws," mewn Cymraeg presennol, gan gofio rhoddi'r ferf ar ddechreu y frawddeg, os na roddir pwyslais ar ryw air arall ynddi.
XXXI.—TŶ A GARDD.
ADEILAIS im fy hun dan gysgod bryn
Dŷ wrth fy modd. Nid yw yn fawr, er hyn
Y mae yn ol fy hoffaf archwaeth i,
Yn sylweddoliad o hen freuddwyd cu.
Mae gennyf ardd tu ol, a lawnt tu blaen
Yn Eden o wyrddolion teg ar daen.
Caiff cadfridogion wrando seinio'u clod,
A rhodio ar yr enfys fel eu rhod,
A byw ar fawl fel awyr, a mwynhau
Gogoniant fel eu hetifeddiaeth glau;
Rhagorach hawddfyd filwaith fydd i mi
Fesuro'm lawnt yn deg rodfaoedd cu,
Rhai'n union, rhai yn grynion, rhai yn groes,
A rhai o luniau ffyrdd ein marwol oes!
O lwyno'r rhysod[101] coch ar ferfa law
I deg addurno'r llwybrau troiog draw
Sydd ddigon hoen i mi.
Caiff Prydain Fawr
Newidio ei gweinyddiaeth heb im ddawr[102];
Caiff Ffrainc ddymchwelyd ei gormesol deyrn,
A siglo'r byd wrth daflu'i thrymion heyrn,
I'w gwisgo drannoeth, 'n ol ei harfer hi,
Anghyfnewidiol fydd fy ymchwil i—
Addurno'm lawnt, gwrteithio'm[103] cefn—ardd gu.
Mae rhywbeth newydd yn yr ardd o hyd,
Rhyw egin newydd fyth, rhyw newydd bryd;
Rhyw greol wyrth o'r impiad cynta' 'rioed;
Rhyw santaidd wên ar flodeu hen eu hoed
Fel rhai'n par'toi i farw; ereill sydd
Mor ieuanc a phelydron gwawr y dydd;
A rhai o ganol oed, yn sobr eu gwedd
Fel rhai yn dechreu meddwl am y bedd.
Mae rhywbeth newydd yn yr ardd bob dydd,
Mae'n arlun im o ddatguddiadau ffydd.
Sy fythoedd yn darganfod pethau gwell
Ym myd yr ysbryd,—byd y pur, y pell.
Tyrd gyda mi, fy Ngweno gu, i'm gardd,
A gwybod beth sy'n swyno calon bardd;
Gwel acw'r gwinwydd dringol,—plygu'n drwm
Y maent gan aml i rawnswp,[104] ddwyfol glwm;
Dyferant gan addfedrwydd, wylo'n brudd
Mae'r gwinrawn am nad oes a yfo'u sudd;
'Rwy'n caru y pren ceirios, a'r pren per,
Fel amrywiaethau gallu creol Nêr;
Ond pennaf destyn y farddonol ddawn
Yw'r pren afalau yn ei flodau llawn,
Y mae yn fyd o harddwch ynddo'i hun,
A theimla yr edrychydd bron yn flin
Fod tegwch mor ddi—ail i roddi lle
I ffrwythau gwiw mor fuan; mynnai e
Ei gadw yn ei flodau llawn o hyd,
I gael rhyw ddrych i weled gwyneb pryd
Hawddgarach gwrthrych fry yn nef y nef—
Merch Seion gynt a'i cyffelybai ef
I bren afalau ym mysg prennau'r coed
A'i ffrwyth i'w harchwaeth y melusa'r 'rioed,
Tra'n yfed o'i afalau neithdar[105] nef
Cai ddiogelwch bythol o "dan ei gysgod Ef."
GWERSI.
I.—Rhoddwch y gair barddonol sy'n cyfateb i'r rhain:—
annwyl; tlws; bywyd; brenin; bore; Duw.
II.—Atebwch y gofyniadau hyn gyda'r geiriau a ddefnyddia Islwyn:—
(1) Paham yr adeiladodd y bardd y tŷ? (2) Pa waith a wnai'r bardd yn ei ardd? (3) Pa nifer o goed oedd yn yr ardd, ennwch hwy, a disgrifiwch eu ffrwyth; (4) Ymhelaethwch ar yr ymadrodd olaf, "O dan ei gysgod ef."
III.—Ysgrifennwch ddisgrifiad byw o hen fwthyn Cymreig y gwyddoch am dano, gan nodi yr ardd a'r blodau sydd o'i gwmpas. Sylwch ar ffurf y ffenestri, lliw y muriau, a'r to, a ffurf y cyrn. Sylwch hefyd ar,
(1) Y teulu yn y bwthyn:—
"Er hyn wrth dân o fawn heb sen
Y tylwyth sydd yn ymddiddan;
Fy mam a'i throell, gwna'm tad lwy bren,
Tra'm chwaer yn gwau a minnau'n canu."
(2) Distawrwydd y fangre:—
"O ddistaw Fythod Cymru, sy'n mhell o sŵn y dref!
Ni flinir chwi gan derfysg nac un anfoesol lef;
Ni thyr ar eich distawrwydd ond chwarddiad llon y plant,
A sibrwd daily goedwig, a murmur mwyn y nant."
XXXII.—HEDDWCH A THERFYSG.
AC ar hyn o bryd, wele ddychymyg arall ac ystryw o eiddo'r Rhufeiniaid i gadw tan law yr hen drigolion. Canys gwnaethant glawdd mawr o dyweirch a pholion bedwar ugain milltir o hyd, ar draws yr ynys o fôr i fôr, sef o Aber Cwnrig y naill ran o'r ynys tua'r dwyrain, hyd yn Ystrad Clwyd, tua'r gorllewin, sef yn agos i gydiad Lloegr ac Is—coed Celyddon, neu Scotland, lle mae'r ynys yn gulaf drosti. Pwy bynnag ni roddai ufudd—dod i lywodr— aeth y Rhufeiniaid a yrrid allan o gyffiniau Lloegr y tu arall i'r clawdd; a sawdwyr yn gynifer pentwr yma ac acw ar bwys y clawdd yn gwylied i gadw pawb allan o'r tu draw.
Dros dalm ar ol hyn y bu amser lled heddychol, megis heddwch rhwng boneddigion, oddieithr wth a bonclust yn awr a phryd arall yma ac acw. Ond, megis wrth gronni afon redegog, hi a erys ond odid yn llonydd ac yn dawel dros encyd; eto, pan ddel Ilifeiriant, hi a ffrydia yn rhaiadr gwyllt dros yr ystanc, ac a dreigla ac a chwilfriwia pa beth bynnag a saif ar ei ffordd; felly y Brutaniaid hwythau, er eu bod dros amser yn lled esmwyth, eto wrth weled eu trin mor hagr, ac fel estroniaid yn eu gwlad eu hun, a gymerasant galon o newydd eto, er bod eu gwŷr dewisol, pigion a blodau ieuenctid y wlad wedi eu cipio o drais y tu draw i'r môr, megis yr oedd y Rhufeiniaid yn arferol o wneuthur, eto yr oedd digon o ysbryd chwerw o ymddial yn brydio calonnau y gwŷr oedd gartref. Canys y gwŷr y tu draw, ni wnaethant fwy cyfrif o'r clawdd nag a wna march rhyfel i neidio dros gornant; a phreswylwyr Lloegr a Chymru hwythau y tu yma i'r clawdd, a godasant yn un a chytun dros wyneb yr holl wlad, nes ei bod hi yn amser gwaedlyd y pryd hwnnw ym Mhrydain. Cynllwyn am waed,— lladd a difetha eu gilydd drwy boenau a chreulonder, llosgi tai a gwŷr a gwragedd o'u mewn, ar air, ymffyrnigo mewn dialedd, oedd agos yr unig beth ag oedd y Rhufeiniaid a'r Brutaniaid yn astudio arno dros amryw ac amryw flynyddoedd. Digon gwir, hwy a lonyddent dros ychydig amser, i gymeryd eu hanadl, megis dau darw gwyllt yn ymgornio, ac yn gadael heibio dros ychydig; ond yna eu llid a frydia o newydd, a myned i ymdopi[106] yn ffyrnicach nag o'r blaen.
GWERSI.
I.—Defnyddiwch y geiriau a'r ymadroddion hyn mewn brawddegau cyfain:—
(a) o eiddo; (b) cadw tan law; (c) yma ac acw; (ch) wth a bonclust; (d) erys; (dd) dros encyd; (e) cymeryd calon; (f) un a chytun; (f) nes ei bod; (g) nag o'r blaen.
II.—Gwnewch restr o'r geiriau neu'r ymadroddion hynny yn y dyfyniad a rydd i chwi syniad (a) o dawelwch a thlysni; (b) o rym a gallu.
III.—Ysgrifennwch grynodeb o'r dyfyniad uchod; ceisiwch ddefnyddio geiriau tlysion ac ymadroddion persain a fedd Theophilus Evans.
IV.—Darllennwch y tri dyfyniad yma gyda'u gilydd
(1) Rhyfel â'r Rhufeiniaid; (2) Heddwch Therfysg; (3) Anrhaith y Saeson. Beth a feddyliech wedi eu darllen, ai lles ynteu nage, oedd i'r Rhufeiniaid ymweled â Phrydain? Ceisiwch feddwl yn ddyfal cyn ysgrifennu eich ateb, a phwyswch y ffeithiau hyn:
(a) Cynllwyn am waed,—lladd a difetha eu gilydd drwy boenau a chreulonder, llosgi tai a gwŷr a gwragedd o'u mewn, ar air, ymffyrnigo mewn dialedd, oedd agos yr unig beth ag oedd y Rhufeiniaid a'r Brutaniaid yn astudio arno dros amryw ac amryw flynyddoedd.
(b) Dysgodd y Rhufeiniaid y Brutaniaid i drin a sychu'r tir, i adeiladu muriau a chaerau ac i wneud ffyrdd. Tybir hefyd fod tua chwe chant o eiriau wedi eu benthyca o bryd i bryd o'r Lladin i'r Gymraeg.
V.—Ysgrifennwch draethawd byr ar "Rhyfel."
XXXIII.—WALTON.
FY ANNWYL GAREDIG GYDWLADWR,
Dyma fi yn Walton o'r diwedd, ar ol hir ludded yn fy nhaith. Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, ynghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth, a'r Person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon. Ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen y gwasanaeth a phregethu fy hun y bore, a darllen gosper y prydnawn, ac yntau a bregethodd. Y mae'r gŵr yn edrych yn ŵr o'r mwynaf; ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymeryd ef yn ei ffordd. Mae y gwas a'r forwyn (yr hyn yw yr holl deulu a fedd) yn dywedyd mai cidwm[107] cyrrith,[108] anynad,[109] drwg—anwydus, aruthr yw. Ond pa beth yw hynny imi? Bid[110] rhyngddynt hwy ac yntau am ei gastiau teuluaidd; nid oes imi ond gwneyd fy nyledswydd, ac yna draen yn ei gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hŷf am dano, na chlywais erioed haiach[111] well pregethwr, na mwynach ymgomiwr. Cliniach[112] o ddyn amrosgo[113] ydyw—garan anfaintunaidd[114]—afluniaidd yn ei ddillad, hyd a lled aruthr, anhygoel, ac wynebpryd llew, neu ryw faint erchyllach, a'i ddrem[115] arwguch[116] yn tolcio ym mhen pob chwedl ddigrif, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed tu yma i'r Affric. Yr oedd yn swil gennyf ddoe wrth fyned i'r eglwys yn ein gynnau duon fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bâd ar ol llong. Bellach e fyddai gymwys rhoi i chwi ryw gyfrif o'r wlad o'm hamgylch; ond nis gwn eto ddim oddiwrthi, ond mai lle drud anial ydyw ar bob ymborth. Eto fe gynhygiwyd imi le i fyrddio (hyd oni chaffwyf gyfle i ddwyn fy nheulu ataf) yn ol wyth bunt y flwyddyn; a pha faint rhatach y byrddiwn ym Môn? Nid yw y bobl y ffordd yma, hyd y gwelaf fi, ond un radd uwchlaw Hottentots—rhyw greaduriaid anfoesol, didoriad. Pan gyfarfyddir â hwy, ni wnant onid llygadrythu yn llechwrus, heb ddywedyd pwmp mwy na buwch. Eto yr wyf yn clywed mai llwynogod henffel,[117] cyfrwys—ddrwg, dichellgar ydynt. Ond yr achlod iddynt, ni'm dawr[118] i o ba ryw y bônt.
Pymtheg punt ar hugain yw yr hyn a addawodd fy mhatron imi, ond yr wyf yn deall y bydd yn beth gwell na'i air. Ni rydd imi ffyrling ychwaneg o'i boced, ond y mae yma Ysgol Râd, yr hon a gafodd pob Curad o'r blaen, ac a gaf finnau, oni feth, ganddo. Hi dâl dair punt ar ddeg yn y flwyddyn, heblaw tŷ yn y fynwent i fyw ynddo. Fel hyn y mae. Pan fu farw y Curad diweddaf, fe ddarfu i'r plwyfolion roi yr ysgol i'r clochydd; ac yn wir, y clochydd a fyddai yn ei chadw o'r blaen, ond bod y Curad yn rhoi iddo bum punt o'r tair ar ddeg am ei boen. Ond nid oes, erbyn edrych, gan y plwyfolion ddim awdurdod i'w rhoi hi i neb; ond i'r Person y perthyn hynny; ac y mae efe yn dwrdio gwario 300 neu 400 o bunnau cyn y cyll ei hawl. Felly, yr wyf yn o led sicr o'i chael hi.
GWERSI
I.—Defnyddiwch yr ymadroddion hyn mewn brawddegau cyfain:—
(a) yn fy nhaith; (b) yn groesawus ddigon; (c) fe orfu arnaf; (ch) o'r mwynaf; (d) rhyngddynt hwy a; (dd) draen yn ei gap; (e) ond ni waeth i chwi hynny na phregeth; (f) llygadrythu; (f) pwmp mwy na buwch; (g) y bônt; (ng) erbyn edrych; (h) ym mhen; (i) ymhen.
II.—Dodwch ansoddair neu enw, ar ol, neu o flaen, y geiriau hyn fel y bo'r angen:—
lludded; anynad; teuluaidd; ymgomiwr; amrosgo; afluniaidd; aruthr; trem; ffrwd; anferth; lle; creaduriaid; henffel.
III.—Disgrifiwch y pethau hyn mewn ychydig eiriau:—
(1) Person Walton,—ei faint, ei drem a'i arferion.
(2) Y wlad o amgylch Walton.
(3) Trigolion Walton yn amser Goronwy Owen.
IV.—Ysgrifennwch lythyr at eich cyfaill yn darlunio, mor fyw a naturiol ag y gwna Goronwy Owen, ryw gymeriad hynod sy'n byw yn eich ardal.
XXXIV.—CYFLAFAN MORFA RHUDDLAN.
CILIA'R haul draw dros ael bryniau hael Arfon,
Llenni nos sy'n mynd dros ddol a rhos weithion;
Pob rhyw chwa ymaith a gilia o'r llwyni;
Ar fy nghlust draw mae ust y donn yn distewi;
Dan fy mron clywa'm llon galon yn curo,
Gan fawr rym digter llym, wrth im' fyfyrio
Ar y pryd pan fu drud waedlyd gyflafan.
Pan wnaed brad Cymru fad ar Forfa Rhuddlan.
Trwy y gwyll[119] gwelaf ddull teryll[120] y darian;
Clywaf si eirf heb ri arni yn tincian.
O'r bŵau gwyllt mae'n gwau saethau gan sio;
A thrwst mawr nes mae'r llawr rhuddwawr yn siglo;
Ond uwch sain twrf y rhai'n, ac ochain y clwyfawg
Fry hyd nef clywir cref ddolef Caradawg,—
Rhag gwneyd brad ein hen wlad, trown eu câd weithian,
Neu caed lloer ni yn oer ar Forfa Rhuddlan!"
Wele fron pob rhyw lon Frython yn chwyddo,
Wele'u gwedd, fel eu cledd fflamwedd yn gwrido;
Wele'r fraich rymus fry'n dyblu'r ergydion;
Yn eu nwy'[121] torrant trwy lydain adwyon;
Yr un pryd Cymru i gyd gyfyd ei gweddi,—
"Doed yn awr help i lawr yn ein mawr gyni;
Boed i Ti, O! ein Rhi, noddi ein trigfan;
Llwydda'n awr ein llu mawr ar Forfa Rhuddlan."
Troswyf daeth fel rhyw saeth alaeth[122] a dychryn,
Och! rhag bost, bloeddiau tost ymffrost y gelyn;
Ond O! na lawenha, fel a wnai orchest;
Nid dy rym ond dy ri' ddug i ti goncwest.
Ow! rhag braw'r dorf sy' draw'n gwyliaw o'r drysau,
Am lwydd cad[123] Cymru fad—rhad ar eu harfau;
Mewn gwyllt fraw i'r geillt fry, rhedy pob oedran,
Wrth weld brad gwyr eu gwlad ar Forfa Rhuddlan.
Bryn a phant, cwm a nant, lanwant a'u hoergri;
Traidd y floedd draw i goedd gymoedd Eryri;
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru,
Am fawr freg[124] ei meib teg, gwiwdeg, yn gwaedu:
Braw a brys sydd trwy lys parchus Caradawg;
Gwaeddi mawr fynd i lawr flaenawr galluawg:
Geilw ei fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery don hen "Forfa Rhuddlan."
Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio
Am y fan mae eu rhan farwol yn huno;
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod,
A'i wyrdd frwyn, a'r hesg lwyn, yw eu mwyn gofnod;
Ond caf draw gerllaw'r llan, drigfan uchelfaith
Ioan lân, hoftwr cân, diddan gydymaith;
Ac yn nhy'r ficar fry, gan ei gu rian,
Llety gaf:—yno'r af, o Forfa Rhuddlan.
GWERSI.
I.—Darllennwch y darn uchod lawer gwaith trosodd, ac wedi cau y llyfr, gwnewch restr o'r geiriau mwyaf melodaidd sydd yn y dyfyniad.
II.—Ewch drwy y pennill cyntaf, a rhoddwch y nôd hwn / uwchben pob sill a acennir yn drwm.
III.—Darllennwch ddisgrifiad Emrys o'r Wawr, ac yna y dyfyniad uchod. Pa wahaniaeth sydd yn y mydr? Paham y defnyddir mydrau gwahanol gan y ddau fardd? Beth yw'r argraff ar eich meddwl wedi darllen cân Talhaiarn i "Gymru," a chân Ieuan Glan Geirionnydd i "Forfa Rhuddlan."
IV.—Gwnewch grynhodeb o'r gân mewn Rhyddiaith da.
V.—Rhoddwch y geiriau barddonol a ddefnyddia Ieuan Glan Geirionnydd am y rhain:—
gwynt; yn awr; lladdfa neu frwydr; arfau; coch; byddin; Arglwydd; tristwch; dychryn; bendith; meibion; cysgu; gwlyb; gwraig; arweinydd.
VI.—Cenwch y geiriau ar y dôn gwynfannus, "Morfa Rhuddlan."
XXXV.—ANRHAITH Y SAESON.
OND am fod Prydain yn gwybod ewyllys ei Harglwydd ac heb ei wneuthur, darperir iddi lawer o ffonodiau; ac am ei bod yn dir cyndyn, yn dwyn drain a mieri yn lle llysiau cymwys i'r llafurwr nefol, aeth yn anghymeradwy ac yn agos i felldith a llosgiad. Ynghylch 460 o oed Crist, y mae'r Rhufeiniaid a fuasent yn llywodraethu arni hi yn hir, yn ei gadael yn weddw. Y mae'r Phichtiaid a'r Scotiaid yn rhuthro iddi fel bleiddiaid yr hwyr, ac y mae'r Saeson anghredadwy, pobl o ogledd-dir Germania, a gyflogasid i'w gwrthsefyll hwy, yn lle cynorthwywyr yn prifio[125] yn llwyr ddinistrwyr ein cenedl ni; a thrwy dân a chleddyf yn troi'r dinasoedd yn garneddau, a'r hyn nis gallent ei reibio wrth chwarae llewod, ysglyfaethent ef ar ddull llwynogod. Canys wedi i'r Brutaniaid eu curo hwy yn ddewr, ac wrth gytundeb ddyfod o'r penaethiaid ynghyd yn ddiarfog i dynnu amodau heddwch, ac i gydwledda â'u penaethiaid hwythau, cawsant eu lladd yn dwyllodrus â chyllyll hirion yng ngwastadedd Caer Caradog. A rhoddes hynny o drychineb fantais i'r dihirwyr i oresgyn llawer o'r ynys.
Yr achlysur o wanychiad ein gwlad ydoedd rheoliad y Rhufeiniaid arni a'u hymadawiad hwy ohoni i amddiffyn yr Eidal. Megis mewn dychryn pan gilio'r gwaed o'r wyneb a'r aelodau at y galon i'w diddanu hi, digwydd glesni a llesgedd ynddynt hwy. Ni adawodd yr hen feistriaid fawr o'u hol, ond amryw eiriau Lladin yn gymysgedig â'n hiaith ni. Anghydfod y penaethiaid hefyd a agorodd adwyau i ollwng aflwydd i'r ynys. Pan aeth Fortigern, duwc Cernyw, yn frenin drwy frad gwaedlyd, rhoddodd fwy ymddiried yn y Saeson a gyflogasai nag yn ei ddeiliaid genedigol. Gorfu i'r brenin Arthur ryfela â'i wladwr Melfas, tywysog gwlad yr haf, i ddial trais ei frenhines Gwenhwyfar. A chwedi iddo ennill deuddeg brwydr oddiar y Saeson, trwy anfoddlonrwydd ei nai, Modred, cafodd ei farwolaeth; a chydag of syrthiodd llwyddiant ei genedl; a'r deyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddwyd. Hefyd, tra yr oedd Prydain yn wan, yr oedd hi yn brydferth, a'i glendid a barodd i gymaint o ddieithriaid ei threisio hi. Ni chafodd lonydd gan ysbeilwyr wrth fod ei thir mor gyfoethog. Ffrwythlondeb y pren afalau a wnaiff ergydio cymaint o bastynnau ato, yn enwedig os bydd heb gae yn ei gylch. Aeth ei hamddiffynfeydd fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt, pan ysgydwyd hwynt, syrthiasant yn safnau y bwytawyr. Pe buasai yn addoli Duw yn ddyladwy, ni chawsai neb chwenychu mo'i thir, er anamled ei gwrywiaid; ac os buasai rhuthr iddi, creuasai'r Arglwydd amddiffyn ar ei holl ogoniant. Ond wedi iddi ddigio Duw, aeth ei golud hi yn obrwy i'r sawl a'i lluddent hi.
GWERSI.
I.—Gwers ar y ferf. Llennwch y bylchau hyn â berf yn yr amser a'r person priodol:—
(1) ac am ei bod yn dir cyndyn, yn anghymeradwy; (2) y mae'r Rhufeiniaid a llywodraethu arni; (3) ac y mae'r Saeson anghredadwy, pobl o Germania, a i'w hwy; (4) a'r hyn nis ei reibio wrth chwarae llewod, ef ar ddull llwynogod; (5) a hynny o drychineb fantais i'r dihirwyr; (6) i'r brenin Arthur ryfela â'i wladwr Melfas; (7) Pe yn addoli Duw yn ddyladwy, ni neb chwenychu mo'i thir; (8) ac os rhuthr iddi, Arglwydd amddiffyn ar ei holl ogoniant.
II.—Ysgrifennwch eiriau ag iddynt ystyr gwrthgyferbyniol i'r geiriau mewn llythrennau italaidd, yn y bylchau yma:—
(a) yn dwyn drain a mieri yn lle ; (b) yn lle yn prifio yn llwyr ddinistrwyr ein cenedl ni; (c) a'r hyn nis gallent ei reibio wrth chwarae llewod, ysglyfaethent of ar ; (ch) rhoddodd fwy ymddiried yn y Saeson a gyflogasai nag yn ei ; (d) ac os buasai iddi, creuasai'r Arglwydd amddiffyn ar ei holl ogoniant.
III.—Disgrifiwch a ganlyn yng ngeiriau Charles Edwards:—
(1) Prydain wedi i'r Rhufeiniaid ymadael; (2) Dinistr y Saeson; (3) Gwanychiad ein gwlad; (4) Prydferthwch a gwendid Prydain yn achos o'i cholled.
Er gwneud eich disgrifiad mor brydferth ag sy'n bosibl, defnyddiwch y ffigyrau sydd gan yr awdwr i addurno ei arddull.
IV. Aralleiriwch y paragraff cyntaf.
XXXVI.—YR HAF.
1.
MAE rhosyn yr haf yn dechreu blaen-darddu,
A mantell y maes yn newydd yn awr;
Mae egin yr ŷd yn edrych i fyny,
A'r haul yn ei wres yn edrych i lawr.
Mae'r wennol yn dychwel i'w hannedd ei hunan,
Ac iechyd yn dychwel i fynwes y claf:
'Does neb yn rhy hen i wenu ar anian,
Pob wyneb a wên ar rosyn yr haf.
Mae rhosyn yr haf yn dechreu blaen-darddu,
Y Gwanwyn a drodd, a gwynnodd y drain;
Mae'r helyg yn îr, a'r gweunydd yn gwenu,
Y dolydd yn deg, a'r goedwig yn gain.
Mae blodau afalau fel eira'n y berllan,
Ac adar yn canu ple bynnag yr af;
'Does neb yn rhy hen i wenu ar anian,
Pob wyneb a wên ar rosyn yr haf.
2.
Daw'r Pryfaid o'u llaid a'u llwch,
Hen nawdd eu "hûn a'u heddwch,"
I'w haf hynt, i ail fywhau,
O'u lleoedd yn bob lliwiau;
Haid o arliw diweir-lan
Beryl[126] glwys neu berlau glân;
Milionos fel melynaur,
Dymchwel y dom chwilod aur.
Y "Gloyn Byw" glân ei bais
Oddi amgylch ddaw i ymgais
Yn ei awyr wen, newydd,
Neu, a'i draed ar flodeu'r dydd.
Caccwn â'i swn unseiniol
Lunia gylch ymlaen ac ol;
Ei bwysig gaingc mewn "Bys coch,"
Chwery pan y'i carcharoch!
Ond gwyliwch nôd ei golyn,
Gwna wayw tost trwy gnawd dyn.
Y gwenyn o'u ceginau—a heidiant
Hyd y newydd flodau,
Ar eu mel hynt, er amlhau
Hardd olud eu pêr ddiliau.
Pladurwyr, gwŷr miniog wedd,
Gwŷr y maes a'r grymusedd,
Gwisgi[127] o glun ac esgair,[128]
Di ludd eu gwynt at "ladd gwair,"
Ant oll yn fintai allan,
Yn arfog miniog, i'w man;
Abl a dewr o bladurwr,
A bywiog iawn yw pob gŵr;
A'i fraich of, gref a di-gryn
Dery arfod â'r erfyn;
Egyr wanaf gywreiniol,
Rhed ei ddur ar hyd y ddôl;
A'i bladur gaboledig,
Glaer wawr, yn goleuo'r wig.
GWERSI.
I.—Ysgrifennwch benillion Ceiriog mewn Rhyddiaith.
II.—Cymherwch a ddywed y ddau fardd am yr Haf; pa ddisgrifiad yw'r goreu gennych? Rhoddwch eich rhesymau.
III.—Ymhelaethwch ar a ganlyn:—
(a) Mae mantell y maes yn newydd yn awr; (b) Daw'r pryfaid o'u llaid a'u llwch, hen nawdd eu "hûn a'u heddwch; (c) Y gwenyn a heidient ar eu mel hynt; (ch) a'i bladur gaboledig yn goleuo'r wig.
IV. Gorffennwch y llinellau yma:—
(1) Mae'r helyg yn a'r gweunydd yn
Y dolydd yn a'r goedwig yn
(2) "Caccwn â'i unseiniol
Lunia ymlaen ac "
(3) Pladurwyr, gwŷr wedd,
y maes a'r
V.—Cyfansoddwch draethawd ar yr Haf, gan dalu sylw i'r pennau hyn:—
ymddanghosiad y ddaear, y coed, yr afonydd, a'r mynyddoedd, y tai a'r bythynod; arferion yr adar, уг anifeiliaid, yr amaethwyr a'r bugeiliaid; chwareuon y plant. Sylwch ar y gwahaniaeth cydrhwng y pethau hyn yn yr Haf ac yn y Gaeaf.
XXXVII.—LLYS IMANUEL.
"TYRD trwodd weithian," eb yr Angel, ac a'm tynnodd i mewn, lle gwelwn yn y porth, yn gyntaf, fedyddfaen[129] mawr; ac yn ei ymyl ffynnon o ddwr hallt. "Beth a wna hon ar lygad y ffordd? " ebr fi. Am fod yn rhaid i bawb ymolchi ynddi cyn cael braint yn llys Imanuel; hi a elwir Ffynnon Edifeirwch. Uwch ben gwelwn yn ysgrifenedig,—Dyma borth yr Arglwydd," &c. Yr oedd y porth a'r ystryd hefyd yn lledu ac yn ysgafnhau fel yr elid ymlaen. Pan aethom ronyn uwch i'r ystryd, clywn lais araf yn dywedyd o'm hol,—" Dyna'r ffordd, rhodia ynddi." Yr oedd yr ystryd ar orifyny, eto'n bur lân ac union; ac er nad oedd y tai ond is yma nac yn y Ddinas Ddihenydd, eto'r oeddynt yn dirionach; os oes yma lai o feddiannau, mae yma hefyd lai o ymryson a gofalon; os oes llai o seigiau, mae llai o ddoluriau; os oes llai o drwst, mae hefyd lai o dristwch, a mwy yn sicr o wir lawenydd. Bu ryfedd gennyf y distawrwydd a'r tawelwch hawddgar oedd yma wrth i waered. Yn lle'r tyngu a'r rhegi, a'r gwawdio a meddwi; yn lle balchder ac oferedd, y syrthni'n y naill gwrr, a thrawstni'n y cwrr arall; ie, yn lle'r holl ffrio ffair, a'r ffrost, a'r ffrwst, a'r ffrwgwd oedd yno'n pendifadu dynion yn ddibaid; ac yn lle'r aneirif ddrygau gwastadol oedd isod, ni welit ti yma ond sobrwydd, mwynder, a sirioldeb, heddwch a diolch— garwch, tosturi, diniweidrwydd, a boddlonrwydd, yn eglur yn wyneb pob dyn; oddieithr ambell un a wylai'n ddistaw o fryntni fod cyd yn Ninas y Gelyn. Nid oedd yma na chas, na llid, ond i bechod, ac yn sicr o orchfygu hwnnw; dim ofn ond rhag digio eu Brenin, a hwnnw'n barotach i gymodi nag i ddigio wrth ei ddeiliaid; na dim swn ond Salmau mawl i'w Ceidwad.
"Ertolwg,"[130] ebr fi, "f' Arglwydd, a gawn ni neshau i gael manylach golwg ar y brenhinlle godidog hwn?" Canys cyneshasai fy nghalon i wrth y lle er y golwg cyntaf. "Cei'n hawdd," eb yr Angel, oblegid yna mae fy lle, a'm siars, a'm gorchwyl innau." Pa nesaf yr awn ati, mwyfwy y rhyfeddwn uched, gryfed a hardded, laned a hawddgared oedd pob rhan ohoni, gywreinied y gwaith, a chariadused y defnyddiau. Craig ddirfawr, o waith a chadernid annhraethol oedd y sylfaen; a meini bywiol ar hynny, wedi eu gosod a'u cysylltu mewn trefn mor odidog, nad oedd bosibl i un maen fod cyn hardded mewn unlle arall ag ydoedd ef yn ei le ei hun.
GWERSI.
I.—Rhoddwch y geiriau gwrthgyferbyniol eu hystyr i'r rhain:—
meddiannau; trwst; tyngu a rhegi; tosturi; cas; isod; seigiau.
II.—Gwnewch frawddegau cyflawn yn cynnwys y geiriau neu'r ymadroddion hyn:—
(a) ar lygad y ffordd; (b) fel yr elid; (c) ronyn; (ch) bu ryfedd; (d) wrth i waered; (dd) mwyfwy; (e) er y golwg cyntaf.
III.—Disgrifiwch a ganlyn mewn byr eiriau mor fyw ag y gwna Ellis Wynne:—
(1) Porth y ddinas; (2) Meini'r ddinas.
XXXVIII.—Y BUGAIL.
WERINWR syml y bryniau,—ni rydd ef
Werth ar dda na moethau;
Yn fwy na'r oll câr fyw'n rhydd,
Câr llonydd y corlannau.
Llin[131] a gwlan wisg am dano,—edafedd
A lliw difalch arno;
Ni cheir sidan dan ei do,—nac ychwaith,
Ryw segur eddwaith[132] ar wisg o'i eiddo.
O ba werth ymhlith perthi—y mynydd
Fa'i meinwisg o bali?
Mewn diwrnod ei datod hi
Wnai'r marian[133] a'r mieri.[134]
Onid gwell un wedi'i gwau—o gnuog[135]
Gynhaea'r corlannau?
Ni eill llem hin ei llymhau,
Na gwyfyn[136] y gaeafau.
Troer i gel gartre'r gŵr,
I'w dyddyndŷ diddwndwr;
Gyda'i wledig frig o frwyn,
Ger cilwgus gwr clogwyn.
Is gwiail llwyn ysgawen,
O olwg byd, plyg ei ben
Fel o wylder, tra'i gerrig
Yr un gen[137] a phrennau gwig:
O liw arno, cen henoed
A lliw'r hin yw'r oll a roed.
Wedi hirnych[138] pob diwrnod
Iddo daw o'i fynydd, dod
Fel aderyn—derfyn dydd
O fe gâr ei fagwyrydd![139]
Ni cha yno gofio'i gur
Gan y gusan ga'n gysur.
Fab rhyddaf y boreuddydd,—ei ofal
A'i cyfyd o newydd;
Cyn llwydole'r bore bydd
Yn rhodiannwr hyd waenydd.
Foreued cwyd uchedydd
O'r rhedyn er derbyn dydd;
Heibio'i nyth â chwiban iach
A rhywun yn foreuach.
Trwy'r wlithog ddol dyddiol dyr
Ei wlyb blygeiniol lwybyr.
Gyda'i gi i'w adeg el—i'r mynydd,
Er meined yr awel;
O dawch rhyw gwmwd uchel,
Gwrid y wawl ar gread wel.
Ar gernau[140] a grug arnynt
Yf, fel geifr, lif haul a gwynt;
Cymydog i hebog_yw,
Ac i redyn câr ydyw.
Liw dydd tan wŷdd teneuddail
Yng nghysgod eisteddfod dail,
Fe wrendy ar fireinder[141]
Caethiwol pob cathlau pêr;
Neu beroriaeth ffraeth y ffrwd
Yn nhes Ebrill yn sibrwd
Wrthi 'i hun, ar ddechreu 'i thaith,
Am ei haber,—am obaith.
GWERSI.
I.—Gwnewch restr o'r seiniau a'r geiriau hynny yn y dyfyniad a rydd i chwi syniad o dawelwch.
II.—Disgrifiwch mewn ychydig linellau (a) gwisg y bugail; (b) ei gartref,—y tu mewn ac oddiallan; (c) diwrnod bugail ar y mynydd.
III.—Ysgrifennwch y brawddegau fel llinellau o farddoniaeth:—
(a) Car fyw'n rhydd, a llonydd y corlannau yn fwy na dim; (b) Am dano gwisga lin a gwlan; (c) plyg ei ben o dan wiail llwyn ysgawen, o olwg y byd; (ch) Nid yw yn cael cofio'i gur yno gan y gusan a gaiff yn gysur; (d) Tyr ei lwybr gwlyb a phlyg— einiol trwy ddôl bob dydd; (dd) Yr hebog yw ei gymydog a'i gâr yw'r rhedyn.
IV.—Ysgrifennwch draethawd ar "Y Bugail," gan sylwi ar a ganlyn:—
(1) Ei fywyd hapus:—
"Bywyd bugail, bywyd yw
Nas gŵyr y byd am dano."—Ceiriog.
(2) Cŵn y bugail:—
"Un o anhebgorion bugail yw ei gi."—Gwilym Marles.
(3) Adnabod ei ddefaid:—
"Un o'r profion goreu o fugail da yw y gŵyr os bydd un ddafad ar ddisperod heb rifo."
—Gwilym Marles.
XXXIX.—Y GYMRAEG.
NID oes nemor o iaith, hyd y gwn i, yn Europa a'i hynysoedd nas cafodd ei hymgeleddu a'i choledd[142] gan ei heithyddion a'i gwladwyr ei hun, o amser i gilydd onid ein hiaith ni y Cymry. Yr hon, yn awr yn hwyr, ac o braidd, a ddechreuodd gaffael peth gwrtaith gan wŷrda dysgedig o'n hamser ni, a hynny yn enwedig o ran cymreighau corff yr ysgrythyr lân. Canys os golygwch ar genhedloedd a phobloedd eraill megis y Groegiaid a'r Lladiniaid, chwi a ellwch ganfod nad oes neb ryw wybodaeth na chelfyddyd[143] dan yr haul ar a ddichon fod mewn dyn, nas caffer eu gweled yn amlwg yn eu hiaith a'u llyfrau hwy, yn gyn amled a bod holl Europa yn gyflawn o'u hiaith a'u llyfrau hwy, yn tragwyddoli moliant a gogoniant i'r gwledydd hynny, ac i'r awduriaid ac i ymgeleddwyr yr ieithoedd hynny hyd tra byddo byd. Ac wedi y rhai hyn, y dilynasant yr ieithoedd cyffredin megis yr Italiaith, yr Hispaniaith, y Ffranceg, yr Almaniaith, y Saesneg, y Scotiaith, ac ieithoedd eraill heblaw hynny a fedrwn eu hadrodd oni bae rhag ofn eich trablino. A'r ieithoedd hyn oll a gyfarfuant o amser i amser â ieithyddion ac ieithymgeleddwyr hawddgaraf o'r byd, ac ewyllysgaraf i ymgeleddu a choledd, a mawrhau bob un ohonynt ei iaith ei hun, hyd yn y diwedd nad oes cymeint ag un, meddir, o'r holl ieithoedd cyffredin uchod na bod ynddi holl gelfyddydau'r byd wedi eu cyfleu a'u cymhennus[144] yn brintiedig mewn coflyfrau, a barhaont hyd tra byddo ffurfafen. Yr hyn beth a fagodd ddirfawr barch a mawrhad tragwyddol, nid yn unig i'r ieithyddion, a'r gwrteithwyr, a'r awduriaid, ond hefyd i'r gwladwyr a'r cenhedloedd hynny.
Eithr ninnau, y Cymry, mal gweision gwychion, rhai ohonom yn myned mor ddiflas ас mor fursenaidd,[145] ac (yn amgenach nag un bobl arall o'r byd) mor benhoeden5 [146] ag y daw brith gywilydd arnom gynnyg adrodd a dywedyd ein hiaith ein hunain. Ie, a gwyn ein byd, ryw rai ohonom fedru bod mor findlws a chymeryd arnom ddarfod inni o gwbl ebargofi y Gymraeg, a medru weithian, fel pe byddai, ddysgu Saesneg, a Ffranceg, ac Italiaith, neu ryw iaith alltudaidd arall, pa ryw bynnag a fo honno, oddieithr Cymraeg, er ei fod yn wir yn y cyfrwng hwn na fedrem y ganfed ran o'r ddieithr— iaith a gymerasom arnom ei gwybod a'i dywedyd mor hyfedr. Eithr nid yw y fursenaidd sorod hyn o Gymry, os teg dywedyd y gwir, ond gohilion[147] a llwgr, a chrachyddion y bobl a'u brynteion. Ac yn yr un orseddfa a chadair a'r rhai hyn y dylid llehau a gosod y rhai a fynnant doddi a difa holl iaith y Cymry, a chyfleu a dodi iaith y Saeson yn ei lle hi. Yr hyn beth sydd amhosibl ei gwblhau a'i berffeithio, heb ddifa yn llwyr holl genedl y Cymry a'i gwneuthur yn Seisnig.
GWERSI.
I.—Torrwch y frawddeg faith hon yn frawddegau llai:—
Canys os golygwch ar genhedloedd a phobloedd eraill megis y Groegiaid a'r Lladiniaid, chwi a ellwch ganfod nad oes neb ryw wybodaeth na chelfyddyd dan yr haul ar a ddichon fod mewn dyn, nas caffer eu gweled yn amlwg yn eu hiaith a'u llyfrau hwy, yn gyn amled a bod holl Europa yn gyflawn o'u hiaith a'u llyfrau hwy, yn tragwyddoli moliant a gogoniant i'r gwledydd hynny, ac i'r awduriaid ac i ymgeleddwyr yr ieithoedd hynny hyd tra byddo byd.
II.—Ysgrifennwch o "mal gweision gwychion hyd at mor hyfedr," gyda'r frawddeg hon ar y dechreu,—"Dywedodd Sion Dafydd Rhys fod y Cymry, mal gweision," &c.
III.—Ysgrifennwch draethawd llawn ar Yr Iaith Gymraeg," gan dalu sylw neilltuol i'r modd yr ymddygir ati yn awr fel a fu. Sylwch ar a ganlyn hefyd:— (1) Ei hanes:—
"Iaith araul, a'r iaith orau,—iaith gu-deg,
Iaith gadarn ei seiliau;
Iaith fy nhud, iaith fy nhadau,
Iaith bêr oll, iaith i barhau."
(2) Trysorau ei llenyddiaeth:—
"Boed cynnyrch ei llenyddiaeth yn helaeth i'w fwynhau."—Ioan Arfon.
(3) Y Gymraeg yn yr Ysgolion:—
Ni wna dysgu darllen Saesneg am flwyddyn neu ddwy nemor o les i'r plentyn, tra byddo y Gymraeg yn iaith yr aelwyd. Y mae, wrth adael yr ysgol, yn medru darllen iaith na fedr ei deall, ac yn deall iaith na ddichon ddarllen.—Alun.

Tud. 127.
(Oddiwrth ddarlun gan Arthur E. Elias)
Ymddanghosodd y darlun uchod yn y "Cymru" am Orffennaf, 1911.
XL.—Y GWEITHIWR.
1.
MAE y gŵr yn ymguraw,
A'i dylwyth yn wyth neu naw,
Dan oer hin yn dwyn y rhaw,—mewn trymwaith
Bu ganwaith heb giniaw.
Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar ei ewin;
A llwm yw ei gotwm[148] gwel,
Durfing[149] i'w waed yw oerfel.
Noswylio yn iselaidd
A'i fynwes yn bres oer braidd;
Ba helynt cael ei blant cu
Oll agos a llewygu!
Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw!
Edrych yn y drych hwn dro,
Gyr galon graig i wylo;
Pob cell a llogell egyr,
A chloiau dorrau a dyr.
2—Y GOF.
Chwythu 'i dân dan chwibanu
Ei fyw dôn a wna'r gôf du;
Un llaw fegina, a'r llall
Faluria'r glo fel arall;
Wedi trefnu, taclu'r tân
Ar bwynt allor ei bentan,
Yn hyf mewn hen gleddyf glas,
Luniai lawer galanas,[150]
Gafaela y gôf eilwaith,
Chwery ag ef cyn dechreu'r gwaith;
Rhed ei fawd ar hyd ei fin,
Dewrfodd i brofi'r durfin;
Ffugia'r gŵr yn filwr fod,
Neu yn hen gapten hynod:
Areithia, bygythia'n gas
I'w elynion alanas.
Yna try, tery e'n tân,
A chwyth yn gryfach weithian;
A gwreichion fflamgochion gant
Drwy dorchau[151] mwg draw dyrchant;
E dynn allan o dân dig
Ei ffwrn, dan ffrio'n ffyrnig,
Yr hen gledd mawr iawn ei glod
Yn y maes mewn ymosod;
A dwg ef yr adeg hon
Yn wynias[152] ar ei einion;
Ac mewn hwyl â'r morthwyl mawr,
Esgud, â nerth grymusgawr,
Fe'i cura nes â yn swch
Gywrain ei gwas'naethgarwch,
I aru'r ddaear iraidd,
A thy' o hon wenith a haidd.
GWERSI.
I.—Gorffennwch y llinellau canlynol:—
(a) Aml y mae yn min
Yr ar ei
(b) Dwyn ei dan,
Rhoi un rhwng y
(c) Wedi , 'r tân
Ar allor ei
II.—Danghoswch y gwahaniaethau pwysicaf rhwng gwaith y "Gweithiwr " a ddisgrifir gan Ddewi Wyn, ac eiddo "y Gôf," gan sylwi ar y lle y gweithiant ynddo, eu horiau a'u hamgylchiadau.
III.—Disgrifiwch ddiwrnod gwaith ryw weithiwr y gwyddoch chwi am dano, megis saer neu grydd.
IV.—Mewn llenyddiaeth trefnir a ffurfir geiriau yn aml i efelychu sŵn naturiol rhyw wrthrych, er enghraifft:—
(1) Yr afonig:—
'Rhwng y brwyn yn sisial ganu."—Ceiriog.
(2) Y Wenynen:—
"Ar ei haden, yn ei helfen,
Y wenynen oedd yn enwog."—Emrys.
(3) Sŵn tân yn llosgi coed:—
"Trust hon clyw acw'r trawstiau'n clecian." —Eben Fardd.
(4) Y Daran:—
'Bwrw derw o'r wybr dirion."
ac eto, "Gan ruad gwn yr awyr."—Dafydd ap Gwilym.
(5) Y Cawr:—
"Mal cawr aruthr yn rhuthraw."—Goronwy Owen.
(6) Y Lleidr:—
"Mal lladron dison y daw."—Goronwy Owen.
Geilw y Sais hyn yn "Onomatopoeia." Chwiliwch am enghreifftiau o hyn yn y darnau a ddyfynnir uchod.
V.—Ysgrifennwch draethawd ar "Llafur," gan ymhelaethu ar a ganlyn:—
(1) Urddas ac Effeithiau Llafur:—
"Llafur sydd wedi digarregu y meusydd, a diwreiddio y fforestydd, lle y tonna yn awr y cnydiau toraethlawn."—Kilsby Jones.
(2) Llafur yn Elw:—
"Llaw y diwyd a gyfoethoga."—Y Gwr Doeth.
(3) Llafur gonest yn cael mwy o sylw yn awr nag a gafodd yn y gorffennol:—
Ymwelodd y Brenin a'r Frenhines â gweithfeydd mawrion Deheudir Cymru ym Mehefin, 1912.
XLI.—AT Y DARLLENYDD.
PWY bynnag a fwrio olwg ar hyn o lyfran mor bwyllog ac mor ystyriol ag y gweddai i'r defnydd rhagorol y cyfansoddwyd ef ohono, nid rhaid byth ddywedyd iddo fuddioled a godidoced ydyw; gan ei fod yn cadarnhau sylfaen a gwreiddyn y Grefydd Gristionogol; yn goleufynegi sicrwydd ei holl brif bynciau ardderchocaf, gyda phurdeb a gwirionedd ei Hysgrythyrau; ac yn datgan ei godidogrwydd rhagor pob crediniaethau eraill, cyn llwybreiddied[153] a chyn llithriced, mor ddibetrus ac mor gadarn ddihafarch,[154] nad all neb a'i darllenno, a'i hystyrio, ac a'i deallo, amgen na gweled a chydnabod pa achosion anfeidrol sydd iddynt i ymlynu yn ddiysgog yn eu proffes, i ymdrech ym mhlaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint, ac i drefnu eu buchedd a'u hymarweddiad yn gyfatebol; gan fod iddynt y fath hysbysrwydd diameu am wirionedd eu crediniaeth, a'r fath ddilys[155] eglurdeb am wobr gogoneddus a thaledigaeth.
Eglur ddatgan y gwirioneddau dwysfawr hyn yw sylwedd a pherwyl[156] y traethawd digymar sydd ger eich bron; a'r cwbl sydd ynddo gwedi ei osod allan cyn gywreinied a chyn gyflawned, ac eto cyn fyrred, trwy gyfryw ddyfndwr dysgeidiaeth, a'r fath ddoeth ymresymiad didwyll anorfod, nas gwn i erioed ddarllen na chlywed son am un o'i faint yn eilfydd iddo. Ond beth a dal fy marn i a'm bath wrth dystiolaeth cynifer o brif ddysgedigion pob gwlad yng Nghred, a gydnabyddant am awdwr y llyfr yma, ei fod yn ei amser yn un o oleuadau disgleiriaf holl Ewropa, am bob math ar ddoethineb a dysgeidiaeth, fel y mae hefyd amryw lyfrau eraill o'i waith ef, a hwn yn anad un, yn hollawl fynegi.
Gan ei fod wrth hynny gwedi ei gyfansoddi ar y cyntaf er cyfarwyddyd a gwybodaeth i'r gwerin cystal ac i'r dysgedig, a'i gyfieithu mewn amryw dafodau o herwydd yr un perwyl, yr wyf yn gobeithio na wel neb fai am ryfygu ohonof ei droi hefyd yn Gymraeg er mwyn ein cydwladwyr ninnau. Mae cyn rheitied i ni ag i bobl eraill fedru rhoddi rheswm am y gobaith sydd ynnom; mae efrau, ysywaeth, gwedi eu hau yn ein plith ni cyn dewed ag mewn mannau eraill; ac nid wyf yn deall nad oes gan bob math o drigolion Cymru gystal athrylith a synnwyr naturiol i wrando a dirnad rheswm—i wybod rhagoriaeth rhwng da a drwg, rhwng cam ac union, ac rhwng gwir ac anwir, ag sydd gan eraill o'u cydradd yn y gwledydd o'u hamgylch. Gobeithio, ynte, y gall y rhai hyn dderbyn cymaint llesâd ac adeiladaeth wrth ddarllen y llyfr yma yn Gymraeg, ag a gafodd eu cyffelyb yn holl ardaloedd cred wrth ei ddarllen yn ieithoedd y broydd hynny.
Darllen dithau ef, fy annwyl gydwladwr, yn fynych ac yn fyfyriol; ac os byddi gwell erddo, diolch i Dduw yn gyntaf, ac yn nesaf i'r gwŷr da haelionus sydd â'u henwau yma yn argraffedig; esgusoda feiau'r cyfieithydd a'r argraffyddion; ac yn dy weddiau cofia am
Dy wasanaethwr,
E. S.
GWERSI.
I.—Gwers y "radd gyfartal."—Llennwch y bylchau canlynol âg ansoddeiriau:—
(a) nid rhaid byth ddywedyd iddo a ydyw; (b) gan ei fod yn cadarnhau sylfaen a gwreiddyn y Grefydd Gristionogol cyn a chyn fel nad all neb a'i darllenno amgen na gweled; (c) a'r cwbl sydd ynddo gwedi ei osod allan cyn a chyn ac eto cyn nas gwn i erioed glywed son am un eilfydd iddo; (ch) mae cyn i ni ag i bobl eraill fedru rhoddi rheswm am y gobaith sydd ynnom.
II.—Gwers ar "fodd dibynnol " y ferf.—Gorffennwch yr ymadroddion hyn yn frawddegau cyflawn âg un ferf:—
(a) Pwy bynnag a ; (b) nad all neb a'i a'i ac a'i ; (c) deued pryd y (ch) Nid yw ddedwydd pa le bynnag y
III.—Dysgwch y paragraff cyntaf ar dafod leferydd.
IV.—Ysgrifennwch y brawddegau canlynol mewn cynifer o ffyrdd ag y gellwch:—
(a) Eich bod wedi bwrw golwg ar y llyfr; (b) y traethawd sydd ger fy mron; (c) oherwydd yr un perwyl; (ch) os byddi well erddo; (d) i wybod rhagoriaeth rhwng da a drwg.
XLII.—CYFEILLGARWCH.
O DEIMLAD hoff! addurnawl em y Nef!
Mor hyfryd yw dy lais a'th ddistaw lef!
Boddlonrwydd eistedd ar dy wridog rudd,
A gwenau engyl yn dy lygaid sydd.
Cwrelaidd wrid cerubiaid feddi di,
Gweinyddydd hedd gwell na daearol fri.
O fewn dy eirian deml haeddiannawl glod,
Fel aberth mawl, yn wastad it' sy'n dod:
Undeb a serch ger bron dy allor sydd
Yn hoff fwynhau pur wenau bythol ddydd.
Dy amcan ydyw meithrin teimlad pur,
Ac ymlid ymaith wae, a phoen, a chur.
Dedwyddwch yw dy rodd—rhodd fawr i ddyn;
Calonnau wnei, nid dwy, ond myrdd, yn un.
Dy bleser ydyw difa atgas chwyn,
Ac eistedd ar feillionnog laswyrdd fryn,
Er gweled dynion, heb ofidus fraw,
Yn hyfryd chwarae ar y maes islaw.
Dy hoffus waith yw gwych arlwyo gwledd,
A'th bleser pennaf yw gwasgaru hedd;
Addysgu dyn i werthfawrogi'i frawd,
A llwyr ffieiddio creulon wenwyn gwawd,
Gan uno'r byd o fewn dy rwymau cu,
A'i wneud yn debyg i'r Baradwys fry.
Golomen nefol, triga ynwy'n llon,
Ac na fydd alltud byth o'm marwol fron!
Hawddamor i dy ymdaith yn ein byd!
Pob congl ohono llywodraetha i gyd!
Gorlenwa'r ddaear â dedwyddwch syw[157]!
Teyrnasa arni byth dan wenau Duw!
GWERSI.
I. Rhoddwch eiriau barddonol am y rhain:—
boch; angylion; clod; prydferth; ofn; heddwch; annwyl; aros.
II.—Nodwch fendithion cyfeillgarwch a enwir yn y dyfyniad.
III.—Ysgrifennwch draethawd ar Cyfeillion," gan sylwi ar y rhain:—
(1) Gwerth meddu cyfaill da, a bod yn gyfaill i arall.
(2) Nôd cyfaill gonest:—
"Y câr cywir, yn yr ing y gwelir."—Dihareb.:—
(3) Cyfeillion bore oes, yn yr ysgol:—
"Pa le, pa fodd mae heddyw
Y lliaws yma fu
'N cyd-chwarae, a chyd-ddysgu,
A chyd-ymgomio'n gu?
(4) Cyfarfod hen gyfeillion:—
"Fe ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf."—Ceiriog.
XLIII.—DYSGEIDIAETH.
HAWDD fyddai dangos pa fodd i godi rhifedi digonol o ysgolion da yng Ngogledd a Deheudir Cymru; ond, os goddefir inni fenthyca cymhariaeth o eiddo Sophocles,[158] y mae cynlluniau teg ar bapur yn fwy disylwedd na chysgod mwg," hyd nes delo y wlad i deimlo yn deilwng yn yr achos. Ond gwyddom ar yr un pryd fod yn haws cael y wlad i deimlo ac i weithredu, na llawer o bersonau sydd yn cymeryd arnynt ei harwain. Pe argyhoeddid ein cydwladwyr i weld yn iawn pa beth yw dysgeidiaeth, ynghyda'r gwerth sydd ynddo, byddai yr alwad yn rhwym o greu moddion digonol yn fuan tuag at ddiwallu yr angen. Ceid gweld bechgyn doniol yn heidio i'r ychydig ysgolion ieithyddol sydd eisoes wedi eu codi. Adferid yr hen sefydliadau a'r arian sydd yn perthyn iddynt, i'w diben cyntefig. Byddai yn chwyldroad cyffredinol ym myd y pryf copyn, yr hwn sydd yn awr wedi cymeryd meddiant o lawer hen ysgoldy enwog; ac os digwyddai i ambell un fod yn ddigon cyfrwys i lechu yn guddiedig ynghanol y dinistr a oddiweddai ei dŷ a'i dylwyth, nid bychan yn ddiau fyddai ei syndod wrth glywed iaith ardderchog yr hen Homer yn cael ei pharablu unwaith eto, sŵn yr hon sydd yn ddigon i swyno creadur direswm. Ac ni fyddai hyn oll ond rhan o ganlyniadau daionus y cyfnewidiad hwn. Ceid gweld y gwŷr dysgedicaf yn holl drefydd Cymru yn ei chyfrif yn fraint ac yn anrhydedd i gael bod yn ysgolfeistri; a meibion y teuluoedd boneddigeiddiaf yn cael eu dwyn i fyny i'r swydd honno. Ond cyn y gwelir hyn oll, y mae llawer i'w wneuthur tuag at oleuo y genedl, ac ehangu ei golygiadau.
Mewn perthynas i ansawdd dysgeidiaeth, meddylia rhai ei fod yn gynwysedig mewn llaw—ysgrifen dda. Mae yn wir fod hon yn gelfyddyd ddefnyddiol, fel y mae y gelfyddyd o aredig, neu wneyd esgidiau; ond y mae y tu allan yn llwyr i gylch dysgeidiaeth. Meddylia eraill nad oes dim yn angenrheidiol i wneyd dyn yn ddysgedig ond medru rhes o eiriau mawrion, megis,—centrifugal a centripetal. Ac os bydd gan ddyn ryw grap o dair neu bedair o ieithoedd, y mae ei ddysgeidiaeth yn mynd yn anfesuradwy, ac edrychir arno fel yn meddu ar alluoedd gwyrthiol. Llawer un a welwyd yn marchog yn ogoneddus ar gefn y syniad twyllodrus hwn. Ond dealler o hyn allan nad oes neb yn meddu hawl i son am ei ddysgeidiaeth, os na fydd yn alluog i gyfieithu unrhyw lyfr Lladin neu Groeg heb gymorth gramadeg na geirlyfr. Dyma y dosbarth isaf, dyma y cyntedd nesaf allan. Cyn y dichon iddo gael derbyniad i'r dosbarth arall, yn yr hwn y mae y dysgedigion pennaf yn cartrefu, y mae yn rhaid iddo fedru ysgrifennu Lladin a Groeg yn gywir, heb gymorth gramadeg na geirlyfr, a hynny yn rhwydd ac yn rhydd. Dyma i chwi waith, lanciau Cymru, a gwaith y mae yn rhaid i chwi ymaflyd ynddo o ddifrif, os ewyllysiwch fod yn ddynion dysgedig.
GWERSI.
I. Ymhelaethwch ar yr ymadroddion hyn:—
(a) Y mae cynlluniau teg ar bapur yn fwy disylwedd na "chysgod mwg"; (b) Haws cael y wlad i deimlo ac i weithredu na llawer o bersonau sydd yn cymeryd arnynt ei harwain; (c) Mae yn wir fod hon yn gelfyddyd ddefnyddiol.
II. Atebwch y gofyniadau hyn mewn arddull mor gryno ag sydd gan yr awdwr:—
(1) Beth oedd prif angen Cymru yn nechreu y bedwaredd ganrif ar bymtheg?
(2) Beth fuasai'r canlyniadau wedi cyflenwi'r angen hwnnw?
(3) Pa beth yw Dysgeidiaeth yn ol Dr. Edwards? A ydych yn cytuno âg ef? os nad ydych, rhoddwch eich rhesymau.
III.—Ysgrifennwch draethawd byr ar "Addysg," gan sylwi ar yr awgrymiadau canlynol:—
(1) Gwerth addysg i ddyn:—
"Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi; cadw hi; canys dy fywyd di yw hi."—Y Gwr Doeth.
(2) Gwerth dyn dysgedig i'w wlad:—
"Y mae dyn o athrylith yn werth mil o benbyliaid. Ymha gornel bynnag ac ymha ddiwyg bynnag y gwelwch ef, Gymry mwynlan, meithrinwch ef yn ofalus, fel y mae y gwenyn yn meithrin eu brenhines."—Dr. Lewis Edwards.
(3) Dyledswydd y rhieni tuagat addysg eu plant:—
"O flaen popeth, bydded iddynt roddi addysg i'w plant. Gallent eu gadael heb arian, ac heb gyfoeth; ond hwy a agorant y nefoedd a'r ddaear o'u blaen trwy hyn."—Ieuan Gwynedd.
(4) Dyledswydd y plant at eu haddysg.

XLIV.—Y WAWR.
1.
CYN i'r haul ro'i araul[159] wrid,
Y wylaidd wawr a welid;
Fel lliwdeg ragredegydd,
Ar daith yn cyhoeddi'r dydd.
****
I'r nen daeth brenin y dydd!
Llawenhai oll o newydd,
Fel priodfab i'w 'nabod,
Yn hawdd wrth ei wylaidd nôd
Yn dyfod o'i ystafell
Foreu mwyn, fry, fry ymhell;
Neu fel mawr gawr rhagorwych,
A chalon hoen[160] uwchlaw nych,
Gyrchai at enwog orchwyl
Mewn llawn nerth, ac mewn llawn hwyl.
Aeth yn llawen trwy'r entrych,
Yn ei danllyd gerbyd gwych;
Gwisg o dân ei gysgod oedd
Ar ddwyfron y clir ddyfroedd.
***
Y byd dros funud a fu
Fel un f'ai ar ddiflanu
Gan syndod, wrth ganfod gwedd
Lwys yr haul a'i sirioledd;
A phob rhyw syw[161] lysieuyn
Fud syllai, safai yn syn.
Ond ar lygad d'rawiad rhwydd
Y torwyd y distawrwydd,
Boreu awel isel wan
Ledaenai deimlad anian,
Coed gwyrddion llon ar bob llaw,
A'r dail yn curo'u dwylaw;
Dylanwad haul a'i wenau
Ymhob cwm i'w bywiocau.
2.
Nid oes dim yn fwy hyfryd na Natur yn ymagor yn holl brydferthion ei gwenau, ac yn dyfod allan trwy borth y goleuni yn addurniadau pennaf ei gwisgoedd haf. Pa beth ydyw y drem ar ddinasoedd caerog, ac ar dyrrau uchel eu hadeiladau gorwych? Ie, pa beth ydyw y drem ar holl weithiau celfyddydol cywrain doethion y ddaear, at weled y goleuni yn llewyrchu yn llwydaidd allan o borth y Seren Ddydd? Pa beth ydyw edrych yma ac edrych acw, ar y pethau ag y mae dyn wedi eu dyfeisio mewn cymhariaeth i edrych ar ardderchawgrwydd Natur yn datblygu ei gogoniant? Y dwyrain o liw yr aur; trumau y bryniau yn eu gwisgoedd o oleuni glân; yr haul yn ei gerbyd yn esgyn i'r cyhydedd; cynhyrchion y ddaear yn gwenu ar y dydd, a phopeth dan sêl addurniadol Arglwydd y gogoniant. Y ddaear wedi ei seilio ar ei sylfeini, wedi ei thoi â'r gorddyfnder megis â gwisg; y dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd; y ffynhonnau grisialaidd yn ymdywallt i'r dyffrynnoedd, ac yn cerdded rhwng y bryniau; y gwellt yn tyfu i'r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn; prennau yr Arglwydd yn llawn swyn; cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd yr Arglwydd yn ysgwyd ac yn chwarae fel tonnau y môr mawr; ac adar, fil myrdd, yn nythu yn eu canghennau, ac yn cyd—ddyrchafu eu hanthemau mewn cân oddiar eu brigau uchaf,— oes, y mae rhywbeth yn ardderchog yng ngwylltineb Natur!—mynyddoedd gwedi eu crugio ar fynyddoedd, creigiau gwedi eu crugio ar greigiau; y rhaiadr yn ymollwng dros y clogwyn; y corbwll[162] gwyllt berwedig ac ewynog isod yn ei dderbyn ynghanol twrf parhaus; a phopeth yn cydlefain,—Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o'th gyfoeth!
GWERSI.
I.—Darllennwch Ꭹ ddau ddarn uchod yn fanwl lawer gwaith; wedyn, gwnewch restr o'r syniadau am y Wawr sy'n gyffredin i'r ddau awdwr. Hefyd, os gwahaniaethant yn eu disgrifiad o ryw wrthrych, sylwch ar hynny.
II.—Beth yw y gwahaniaeth hanfodol rhwng Rhyddiaith a Barddoniaeth? Beth yw Barddoniaeth, ac i ba amcan yr ysgrifennir ef?
III. Y mae gan Emrys nifer o ffigyrau tlysion i addurno ei arddull. Pa ffigiwr a ddefnyddir ganddo i ddarlunio:—
(a) Y Wawr; (b) yr haul yn y bore a chanol dydd; (c) y byd pan ganfu'r haul; (ch) y llysieuyn (d) y dail ar godiad haul.
IV.—Dysgwch y ddau ddarn ar dafod leferydd, ac ysgrifennwch hwy, â'r llyfr yng nghau, gan dalu sylw neilltuol i'r atalnodau.
V. Edrychwch ar y darlun o'r Wawr yn torri, a disgrifiwch yr olygfa gan ddefnyddio y geiriau a'r ymadroddion a arferir gan Emrys a Brutus.
VI. Pa un a rydd y syniad goreu i chwi am y Wawr,—y darlun, ai ynte y disgrifiad mewn geiriau a geir gan y beirdd? Beth yw y gwahaniaethau hanfodol rhwng darlun o wrthrych mewn lliwiau ac mewn geiriau?
TERMAU GRAMADEGOL YN GYMRAEG A SAESNEG
| ANSODDAIR | adjective. | |
| ARALLEIRIO | paraphrasing. | |
| AR DAFOD LEFERYDD | by heart. | |
| ARDDODIAD | preposition. | |
| ARDDULL | style. | |
| BARDDONIAETH | poetry. | |
| BERF | verb. | |
| BERF-ENW | verb-noun. | |
| BRAWDDEG | sentence. | |
| CYDSEINIAD | consonant. | |
| CYFANBODDI | composing. | |
| DYWEDIADAU | statements. | |
| ENW | noun. | |
| FTIGYR | figure or metaphor. | |
| GRADDAU CYMHARIAETH | grades of comparison. | |
| MODD DIBYNNOL | subjunctive mood. | |
| MYDR | metre. | |
| GWRTHRYCH | object. | |
| GRADD GYFARTAL | equative. | |
| ODLI | rhyming. | |
| PENNAU | points. | |
| PERSAIN | melodious. | |
| RHAG-ENW | pronoun. | |
| RHAN YMADRODD | part of speech. | |
| RHYDDIAITH | prose. | |
| YMADRODD | phrase. | |
| YMHELAETHU AR | enlarging upon. |
TESTYNAU TRAETHODAU.
1. Blodau'r Maes.
2. Llongau a Chychod.
3. Eich tref neu bentref.
4. Adar a'u harferion.
5. Cartref Dedwydd.
6. "Tlws pob peth bychan."
7. Y Fuwch.
8. Eich hoff arwr neu arwres.
9. Gwladgarwch.
10. Cyfarfod Llenyddol, neu Eisteddfod.
11. Anifeiliaid Gwylltion.
12. Gwaith ar y fferm.
13. Cerddoriaeth.
14. Chwarel a Chwarelwr.
15. "I'r pant y rhed y dwr."
16. Garddio.
17. Newyddiaduron.
18. Ymweliad â rhyw Waith.
19. Eich hoff wers yn yr ysgol.
20. Owen Glyndwr.
21. Ymweliad â rhyw dref fawr.
22. Diwrnod gwlawog.
23. Digwyddiad hynod yn
hanes Cymru.
24. "Gyda'r nos y cyfyd malwen."
25. Y tymor goreu gennych.
26. Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon.
27. Darganfyddwyr Enwog.
28. Pysgota.
29. Geirwiredd.
30. Gwisg.
31. Hen olion hanes eich hardal.
32. Y Cynhaeaf.
33. Tylwyth Teg.
34. Eich hoff ddarlun.
35. Rheilffyrdd.
36. Afonydd Cymru.
37. Llyfrgell Rydd.
38. Cneua.
39. Diwydiannau Cymru.
40. "Po ddyfnaf yr afon,
Lleiaf ei thrwst."
41. Y Llythyrdŷ.
42. Eich hoff lyfr.
43. Gwaith mwyafrif eich cymydogion.
44. Cestyll Cymru.
45. Awyrlong.
46. Y Senedd.
47. Diwrnod Gŵyl.
48. Coed Cymru.
49. Tynnu gwawlarlun (Photo)
50. "Ardd cyd bych, ardd cyn ni bych."
51. Ysgolion a Cholegau Cymru.
52. Llywelyn ein Llyw Olaf.
53. Ager.
54. Car Modur.
55. Lle o ddiddordeb y buoch ynddo.
56. Hunangofiant Ci.
57. Hela.
58. Glanweithdra.
59. Darganfyddiadau Gwyddonol.
60. Ysbytai.
61. Gruffydd Jones, Llanddowror.
62. Dewrder.
63. Llynnoedd Cymru.
64. Llawysgrif dda, ei gwerth.
65. "Curwch yr haiarn tra fyddo'n boeth."
66. Hanes plentyndod rhai o enwogion Cymru.
(Gwel y nodiadau bywgraffyddol).
67. "Adar o'r un lliw a hedant i'r un lle."
68. Y Llynges.
69. Aredig.
70. Cerflunwyr Enwog.
71. Cynghorau Lleol.
72. Siopau.
73. Tarth a Niwl.
74. Y Pellebyr.
75. Deddfau.
76. Hen draddodiadau eich hardal.
77. "Goreu dawn, dawn deall."
78. Arlunwyr Enwog.
79. Y Fyddin.
80. Cymylau.
81. Pryfaid.
82. Ymdrochi.
83. Dinesydd da.
84. Nodweddion y Celt.
85. Yr alwedigaeth a ddymunech.
86. Breuddwydion.
87. Yr Ysgol Sul.
88. Oriau Hamddenol.
89. Ymarfer Corfforol.
90. Gwerth Amser.
91. Cyfeillion.
92. Teithio.
93. Ceinion Natur.
94. Cystadleuaeth.
NODIADAU BYWGRAFFYDDOL.
AP VYCHAN (ROBERT THOMAS).—Yn y Tŷ Coch, Llanuwchllyn, y ganwyd ef mewn tlodi mawr yn 1809. Dysgodd gelfyddyd y gôf, a bu'n dilyn yr alwedigaeth honno mewn amryw fannau yng Nghymru. Dechreuodd bregethu yn 1836, a dewiswyd ef yn weinidog gyda'r Anibynwyr yn Ninas Mawddwy yn 1840. Gwnaeth gynnydd eithriadol fel pregethwr a darlithydd, a bu'n gweinidogaethu yn olynol yn Llynlleifiad, Rhosllanerchrugog, Bangor. Dewiswyd ef yn ddarlithydd diwinyddol yng Ngholeg yr Anibynwyr yn y Bala yn 1837, lle y bu farw yn 1880. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol fwy nag unwaith; bu'n golygu "Y Dysgedydd," ac ysgrifennodd liaws o'r erthyglau, yn eu mysg ei "Hunan Gofiant" diddorol.
ALUN (JOHN BLACKWELL). "Y mae caneuon Alun, o ran ffurf a cheinder, gyda'r goreu yn yr iaith Gymraeg." Ganwyd ef ym Mhontarwyl, ger y Wyddgrug, yn 1797. Pan yn brentis gyda chrydd oedd yn fardd, darllenai lawer o lyfrau Cymraeg yn aiddgar. Tynnodd y fath sylw drwy ennill y gadair ar Awdl ar Iorwerth II." yn Eisteddfod Rhuthyn, ac ar Faes Garmon " yng Nghaerwys yn 1823, fel yr anfonodd nifer o foneddigion ef i Rydychen, lle y graddiodd o Goleg yr Iesu yn 1828. Derbyniodd guradiaeth Treffynnon yn 1829, ac yn 1833 gwnaed ef yn rheithor Manordeifi, Sir Benfro, lle y bu farw yn 1840.
BRUTUS (DAVID OWEN), a anwyd yn Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin, yn 1795. Derbyniodd addysg dda, a dechreuodd ddysgu mynd yn feddyg, ond aeth i Goleg y Bedyddwyr ym Mryste. Ymhen y flwyddyn, gadawodd y coleg a bu yn weinidog yn Aber, Bangor, ac wedyn yn Lleyn. Trodd at yr Anibynwyr, a chymerodd ofal eglwys Hebron, ger Llanerchymedd; wedyn bu yn y Bontnewydd ger Caernarfon. Yn 1826, symudodd i Aberystwyth yn olygydd Lleuad yr Oes," ac ymhen ychydig amser, aeth i Lanymddyfri. Gwnaed ef yn olygydd "Yr Efengylydd," cyhoeddiad misol yr Anibynwyr, a pharhaodd yn y swydd hon hyd 1835. Penodwyd ef wedyn yn olygydd yr 'Haul," misolyn yr Eglwys Sefydledig, a llanwodd y swydd am nifer o flynyddoedd. Bu farw yn 1866. Treuliodd oes weithgar, ond ni chafodd yn helaeth o wenau'r byd hwn. Yr oedd yn ddadleuwr gwych ar bynciau llenyddol a diwinyddol. Ysgrifen— nodd hanes Christmas Evans a John Elias, a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth. Cyhoeddodd ddetholiad o'i brif weithiau dan y teitl "Brutusiana" yn 1856.
BUNYAN, JOHN (1628—1688),—a anwyd yn Elstow, ger Bedford, mewn amgylchiadau cyffredin. Ymunodd â'r fyddin yn adeg Cromwel; wedyn, dechreuodd bregethu, ond carcharwyd ef ddwywaith am wneuthur hynny. Ysgrifennodd ei weithiau goreu, "Grace Abounding" a'r " Pilgrim's Progress," —yn y carchar. Yr oedd Bunyan yn ysgrifennu'n rhwydd a llithrig, a gwelir dylanwad y Beibl yn neilltuol ar ei weithiau.
CALEDFRYN (WILLIAM WILLIAMS).—Ganwyd ef yn Ninbych yn 1801. Gwehydd oedd wrth ei alwedigaeth, ond ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Anibynwyr, a bu yn gwasanaethu yn Llanerchymedd, Caernarfon, Llundain, Llanrwst, a'r Groes Wen, Sir Forgannwg. Yr oedd yn feirniad llenyddol da, a chyfansoddodd rai caneuon prydferth, ond nid ystyrrir ef yn fardd o'r dosbarth cyntaf. Bu farw yn y Groes Wen yn 1869.
CAWRDAF (WILLIAM ELLIS), 1795—1848.—Brodor o'r Abererch, ger Pwllheli, ydoedd; bu farw yng Nghaerfyrddin. Dygwyd ef i fyny fel argraffydd yn swyddfa ei gefnder, Richard Jones, Dolgellau, a bu'n gweithio hefyd yng Nghaernarfon. Meddai gryn allu i dynnu darlun, a dilynodd y gelfyddyd honno am beth amser yn Llundain ac ar y Cyfandir. Cymerwyd y darn uwchben ei enw o'i ffugchwedl, Meudwy'r Môr;" ei waith barddonol mwyaf adnabyddus ydyw'r awdl ardderchog, "Hiraeth Cymro am ei Wlad."
CEIRIOG (JOHN CEIRIOG HUGHES), bardd tlysaf a mwyaf poblogaidd Cymru. Yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog y ganwyd ef yn 1839. Am rai blynyddau, bu'n glerc yng ngorsaf y Rheil— ffordd ym Manceinion; wedi hynny, penodwyd ef yn orsaf feistr yn Llanidloes, Tywyn, a Chaersws. Bu farw yn y lle olaf yn 1887. Am Gymru,—ei mynyddoedd a'i dyffrynnoedd, ei blodau a'i hadar y canodd Ceiriog yn ei ganeuon byrion a naturiol.
DEWI WYN O EIFION (DAVID OWEN).—Ganwyd ef yn y Gaerwen ym mhlwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, yn 1784. Derbyniodd addysg dda, ond arhosodd gartref gyda'i dad i drin y tyddyn. Y mae ei awdlau enwocaf ar Amaethyddiaeth ac Elusengarwch" yn ei restru ymhlith beirdd blaenaf ei oes. Nôd amlwg ei farddoniaeth yw brawdgarwch. Bu farw yn 1841, a chladdwyd ef yn Llangybi.
EBEN FARDD (EBENEZER THOMAS, 1802—1863).—Un o feirdd goreu Cymru yn y mesurau caethion. Yn Nhanlan, plwyf Llanarmon, yn Eifionydd, y ganwyd ef. Gwehydd oedd ei dad, a dilynai Eben yr un grefft rhwng ysbeidiau ei addysg, a dderbyniodd yn Llangybi, Abererch, a Thudweiliog. Cymerodd ofal ysgol Llangybi, ac yn 1827 symudodd i Glynog i gadw ysgol, lle y bu farw ac y gorwedd ei weddillion. Cyfrifir ei awdlau ar Dinistr Jerusalem," a gyfansoddodd pan nad oedd ond 22 mlwydd oed, ac ar "Y Flwyddyn," gyda'r gweithiau godidocaf a berthyn i Lenyddiaeth Gymraeg.
EDWARDS, CHARLES (1628——****).—Aeth i Rydychen yn 1644 o rywle rhwng Croesoswallt a Rhuthyn, ac efe yn 16 mlwydd oed; felly, ganwyd ef yn 1628. Pan ymwelodd dirprwywyr y llywodraeth newydd â Rhydychen yn 1648, collodd ei ysgoloriaeth, ond cyn pen y flwyddyn, derbyniwyd ef yn ol i Goleg yr Iesu, graddiodd, a gwnaed ef yn Gymrawd. Ceir ef yn rheithor Llanrhaiadr ym Mochnant yn 1657, ond ymhen tair blynedd, dygwyd y fywioliaeth oddiarno. Treuliodd weddill ei oes mewn tlodi digysur yn Llundain. Ni wyddis pryd y bu farw na'r man y claddwyd ef, ond cedwir côf am dano gan ei lyfr, "Hanes y Ffydd Ddiffuant," a ysgrifennwyd mewn arddull felodaidd.
EDWARDS, DR. LEWIS (1809—1887).—Llenor, ysgolhaig a phregethwr gwych gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a anwyd ym Mhenllwyn, ger Aberystwyth. Derbyniodd ei addysg mewn ysgolion yn y gymdogaeth. Yna aeth i Goleg Prifysgol Llundain, ond dychwelodd mewn ychydig amser oherwydd prinder moddion, ac aeth yn genhadwr i Lacharn, Sir Gaerfyrddin. Symudodd i Brifysgol Edinburgh yn 1833, lle y graddiodd yn M.A. mewn tair blynedd. Agorodd ysgol yn y Bala, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan ei enwad fel Athrofa, ac efe oedd y Prifathro tra y bu fyw. Claddwyd ef yn Llanycil, ar lan Llyn y Bala. Drwy gyfrwng ei erthyglau gwych yn y Traethodydd yr effeithiodd Dr. Edwards fwyaf ar feddwl Cymru. Casglwyd ei ysgrifau yn ddwy gyfrol hardd, yn llenyddol a diwinyddol.
EMRYS (WILLIAM AMBROSE, 1803—1873).—Bardd mwyn a phregethwr hyawdl gyda'r Anibynwyr. Ganed ef ym Mangor; prentisiwyd ef fel dilledydd yn Llynlleifiad yn 1828; ordeiniwyd ef yn fugail ar eglwys yr Anibynwyr ym Mhorthmadog yn 1836, lle yr arhosodd hyd ei fedd. Rhagorai Emrys o ran tlysni disgrifiadol ei waith, a llyfnder cynghanedd mewn barddoniaeth gaeth. Ei brif awdlau yw Gwladgarwch," "Y Greadigaeth," ac Albert Dda."
EMRYS AP IWAN (ROBERT AMBROSE JONES, 1851—1906).— Ganwyd ef ym Mryn Aber, ger Abergele. Prentisiwyd ef fel dilledydd yn Llynlleifiad yn 1864, ond aeth i Goleg y Bala yn 1868. Wedi hynny, treuliodd beth amser yn Lausanne, Switzerland. Aeth i Swyddfa'r "Faner," yn Ninbych, yn 1883, ond symudodd oddiyno yn weinidog i Ruthyn, yna i Abergele a Rhewl. Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw dwy gyfrol drwchus o'i bregethau a elwir "Homiliau Emrys ap Iwan." Dengys y rhain ei fod yn feistr ar Ryddiaith Cymraeg.
EVANS, DANIEL SILVAN (1818—1903).—Brodor o Lanarth, Sir Gaerfyrddin. Urddwyd ef yn offeiriad yn 1849; derbyniodd fywioliaeth Llanymawddwy yn 1862, a rheithoriaeth Llanwrin yn 1876, lle y treuliodd ei oes hyd ei diwedd. Bu'n athro mewn Cymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, ac am ei waith gyda'i famiaith, gwnaed ef yn Gymrawd o Goleg yr Iesu, Rhydychen. Cyhoeddodd liaws o lyfrau Cymraeg, ac erys ei eiriaduron, o'r Gymraeg i Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg, yn deyrnged i'w ddysg a'i lafur er mwyn ei wlad.
EVANS, THEOPHILUS (1693—1767), a anwyd ym Mhenywenallt, Sir Aberteifi. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1719, ac wedi cael llawer dyrchafiad, derbyniodd fywioliaeth Tŷ Ddewi, Llanfaes, Sir Frycheiniog, lle y bu farw. Efe ddarfu ddarganfod dwfr rhinweddol Llanwrtyd. Cyhoeddodd amryw o lyfrau o agwedd grefyddol; cyfrifir " Drych y Prif Oesoedd " yn un o'r clasuron Cymraeg, nid oherwydd cywirdeb ei ffeithiau, ond oblegid ei Ryddiaith llyfn a byw.
GLASYNYS (OWEN WYN JONES), a anwyd yn Rhostryfan, ger Caernarfon, yn 1828. Aeth i weithio i'r chwarel yn ieuanc iawn, ond y fath oedd ei awydd am ddysg fel yr aeth i ysgol Eben Fardd yng Nghlynog, yna i Goleg Athrawol Caernarfon. Oddiyno aeth yn athro ar Ysgol Genedlaethol Clynog. Wedyn, bu am yspaid gydag Ab Ithel yn Ninas Mawddwy. Urddwyd ef yn ddiacon yn Eglwys Loegr yn 1860, a bu'n gurad yn Llan— gristiolus, Môn, a Phontlotyn, Mynwy. Bu farw yn Nhywyn, Meirionnydd, yn 1870. Canodd oreu yn y mesur rhydd, a nodweddir ei ganeuon gan swyn a naturioldeb.
GWALLTER MECHAIN (WALTER DAVIES, 1761—1849), bardd, beirniad, awdwr a hynafiaethydd enwog. Ganed ef ym mhlwyf Llanfechain, Sir Drefaldwyn. Ychydig o addysg a gafodd i ddechreu, ond drwy ddarllen yn ddiwyd, daeth i sylw drwy ennill gwobr am ei draethawd ar 'Ryddid yn Eisteddfod Caerwys yn 1790. Anfonwyd ef i Rydychen, lle y graddiodd yn 1803. Bu'n gwasanaethu fel clerigwr mewn amrywiol fannau cyn derbyn ficeriaeth Llanrhaiadr ym Mochnant yn 1837, lle y bu farw.
GWILYM HIRAETHOG (WILLIAM REES), a wasanaethodd ei genedl fel bardd, llenor, darlithydd, a phregethwr, a rhagorodd ym mhob cangen. Ganed ef yn y Chwibren Isaf, Llansannan, yn 1802, lle y treuliodd fore ei oes yn gweithio ar y tyddyn, ac yn darllen pan gaffai gyfle. Yn 1828 daeth i gryn sylw drwy ennill gwobr am ei awdl аг Fuddugoliaeth Trafalgar." Dechreuodd bregethu gyda'r Anibynwyr yn 1829; treuliodd ran fwyaf o'i oes yn Llynlleifiad fel gweinidog. Bu farw yng Nghaerlleon yn 1883. Erys ei farddoniaeth, caeth a rhydd, megis ei awdl ar Heddwch a'i gerdd i Emanuel," ymhlith pethau goreu ein llenyddiaeth. Efe gychwynodd yr "Amserau,' i'r hwn yr ysgrifennodd ei erthyglau doniol,—— "Bywyd Hen Deiliwr," a Bywyd 'Rhen Ffarmwr."
GWILYM MARLES (WILLIAM THOMAS, 1834—1879).—Ganed ef yn Nglan Rhyd y Gwiail, plwyf Llanybydder, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn ysgol Ffrwd y Fål, Athrofa Caerfyrddin, a Phrifysgol Glasgow, lle y graddiodd yn 1860. Ymsefydlodd yn fugail ar hen eglwysi Undodol Llwyn Rhyd Owen a Bwlch y Fadfa; agorodd ysgol hefyd yn Llandysul. Bu farw yn 1879, wedi treulio oes weithgar ymhlith gwerin ei gymdogaeth. Y mae ei arddull, yn ei farddoniaeth a'i ryddiaith, yn swynol a naturiol.
IEUAN GLAN GEIRIONNYDD (EVAN EVANS, 1795—1855).— Ganed ef yn Nhan y Celyn, Trefriw; bu farw yn y Rhyl. Addysgwyd ef yn 'Ysgol Rad Llanrwst ac yng Ngholeg St. Bees. Cymerodd guradiaeth Christleton, ger Caer, yn 1828; oddiyno aeth i Ince, lle y cyfansoddodd ei brif weithiau, megis ei awdl ar "Wledd Belsassar,' ac y cychwynodd "Y Gwlad— garwr," cylchgrawn a ddaeth a gwybodaeth gyffredinol i ddwylaw'r Cymry. Dychwelodd i Drefriw, ac aeth yn gurad i Rhyl, lle yr hunodd. Bardd tawel a llednais ydoedd; cyfan— soddodd nifer o emynnau cywrain, megis "Ar lan Iorddonen ddofn."
IEUAN GWYNEDD (EVAN JONES, 1820—1852), a anwyd ym Mryn Tynoriad, ger Dolgellau. Dechreuodd bregethu gyda'r Anibynwyr yn 1838. Aeth i Ysgol Marton, ac oddiyno i Goleg Aberhonddu. Sefydlodd fel gweinidog yn Nhredegar yn 1845. Collodd ei iechyd, gadawodd ei eglwys, ac ymroddodd i lenydd— iaeth. Bu am rai blynyddau yn newyddiadurwr yn Llundain a Chaerdydd. Efe oedd cychwynydd " Y Gymraes." Bu farw yn ieuanc, wedi oes fer o lafur caled ar ran ei wlad; claddwyd ef ym mynwent y Groes Wen. Ysgrifennodd nifer o ganeuon melus, a chofir ef hefyd am ei erthyglau miniog, yn Saesneg a Chymraeg, yn amddiffyn ei wlad.
ISLWYN (WILLIAM THOMAS).—Wrth droed Mynydd Islwyn, yn Nyffryn Sirhowy, Sir Fynwy, y ganed ef yn 1832. Cafodd addysg dda yn ysgolion goreu Mynwy a Morgannwg. Dechreu— odd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1854, a threuliodd ei oes yn ei enedigol fro, lle y bu farw yn 1878. Ystyrrir Islwyn y bardd mwyaf meddylgar a dwfn a fedd Cymru, ond anurddir ei waith yn aml gan ddiffyg ffurf a threfn. Bu'n golygu'r Cylchgrawn, "yr Ymgeisydd, "y 'Glorian," a'r "Gwladgarwr."
JONES, ROBERT, RHOSLAN (1745—1829).—Yn Suntur, ger Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, y'i ganed. Ryw chwech wythnos o ysgol a gafodd, ond darllennai'n ddyfal bob cyfleustra a gaffai. Cerddodd ddwywaith i Lacharn, Sir Gaer— fyrddin, at Madame Bevan i ofyn am Ysgolion Rhad i Ogledd Cymru. Bu'n athro ysgol yn olynol yng Nghapel Curig, Rhuddlan, Bryn Siencyn, Môn, Llangybi, Bryn Engan, a phregethai ar y Sul. Wedi darfod yn yr ysgolion, ymsefydlodd yn Rhoslan, ond symudodd drachefn i Leyn, lle y bu farw. Gorwedd ei weddillion yn Llaniestyn. Oes flin, llawn erledigaeth, a gafodd, a gwelir effaith o hynny yn ei orchest— waith, Drych yr Amseroedd."
LLWYD, MORGAN, O WYNEDD (1619—1659), awdwr " Llyfr y Tri Aderyn." Yng Nghynfal, ger Ffestiniog, y gwelodd oleu dydd gyntaf. Addysgwyd ef yn Wrecsam, lle y clywodd Walter Cradoc, ac aeth oddiamgylch i bregethu yr efengyl. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol, yr oedd yn gaplan i'r fyddin, a theithiodd dros Gymru a Lloegr. Sefydlodd yn Wrecsam yn 1647, ond elai o gwmpas i bregethu o hyd. Ei brif waith yw Llyfr y Tri Aderyn," sef ymgom rhwng yr Eryr, y Golomen, a'r Gigfran, sydd yn cynrychioli Cromwel, yr Ymneilltuwyr, a'r Eglwys Sefydledig. Dengys ei weithiau ei fod yn feistr ar Ryddiaith Cymraeg, a'i fod wedi yfed yn ddwfn o syniadau y Cyfrinwyr. Cyhoeddwyd ei weithiau mewn dwy gyfrol gan Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, ac yn yr ail gyfrol y ceir yr hanes goreu o fywyd yr awdwr.
MORGAN, ESGOB WILLIAM (1540?—1604), brodor Benmachno, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yng Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, lle y graddiodd yn 1568. Derbyniodd ficeriaeth Trallwm yn 1575, ac un Llanrhaiadr ym Mochnant yn 1578, lle y cyfieithodd y Beibl i'r iaith Gymraeg. Derbyniodd yn olynol wedi hynny reithoriaeth Llanfyllin, Esgobaeth Llandaf, ac Esgobaeth Llanelwy, lle y bu farw, ac y gorwedd ei fedd.
Cyhoeddodd ei Feibl Cymraeg yn 1588. Ystyrrir ei arddull yn safonol o hyd, a theimlir wrth ddarllen y dyfyniad o'i waith fod ganddo iaith lefn a melodaidd.
MYNYDDOG (RICHARD DAVIES, 1833—1877), bardd, cerddor ac arweinydd Eisteddfod digymhar. Brodor O Lanbrynmair ydoedd; rhoddodd ei fryd ar gerddoriaeth a barddoniaeth. Caneuon tlws a naturiol yw ei weithiau, wedi eu cyfansoddi, gan mwyaf, i'w canu. Efe, gyda Cheiriog a Thalhaiarn, a gyfrifir y beirdd mwyaf poblogaidd yn y mesurau rhyddion.
OWEN, GORONWY.—Ganwyd ef yn 1722 ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Môn, mewn bwthyn o'r enw "Y Dafarn Goch." Drwy garedigrwydd teulu Lewis Morus, bu mewn ysgol ym Mangor a Bottwnog, ac aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, yn 1742, lle y graddiodd yn 1745. Ordeiniwyd ef yn yr un flwyddyn, a bu'n gurad yn ei blwyf genedigol am dair wythnos, ond dygwyd y lle oddiarno. Gadawodd Gymru, byth i ddychwelyd. Bu'n gwasanaethu fel curad yn olynol yng Nghroesoswallt, Donnington, Walton, ger Lerpwl, a Northolt, ger Llundain. Yn 1757, croesodd i'r Amerig, a bu'n athro mewn ysgol yn Williamsburg, ond penodwyd ef yn rheithor St. Andrew, Williamsburgh, yn 1760. Bu farw rywbryd yn 1769. Oes gythryblus a gafodd, yn alltud o'r wlad a garai mor angherddol, ac y canodd mor rymus am dani. Efe yw y bardd coethaf a'r mwyaf clasurol a fedd Cymru. Ysgrifennodd ryddiaith dihafal hefyd fel y prawf ei lythyr o Walton.
OWEN, DANIEL (1836—1895), prif nofelydd Cymru. Yn y Wyddgrug y ganwyd ef, y treuliodd ei oes, ac y bu farw. Ychydig o addysg foreol a gafodd; prentisiwyd ef gyda dilledydd, lle y daeth i gyffyrddiad â dynion diwylliedig a deallgar. Aeth i goleg y Bala, ond ymhen yspaid, dychwelodd gartref i ddilyn ei alwedigaeth, a phregethai ar y Sul. Dengys ei nofelau fod ganddo adnabyddiaeth dda o'r natur ddynol, a medr neilltuol i bortreadu cymeriadau yn fyw a grymus.
OWEN, ROBERT.—Bardd y môr, a anwyd yn yr Abermaw yn 1858, ac a gladdwyd ger Harrow, Awstralia, lle yr aethai ar les ei iechyd. Yr oedd yn fachgen athrylithgar; dysgodd bedair iaith heblaw Saesneg gyda thramorwr a arhosai yn yr Abermaw. Bu'n athro yn y Bermo, Aberystwyth, a Birmingham, ond collodd ei iechyd, ac aeth i Awstralia. Am y môr y canai, a dengys ei weithiau y gwnaethai fardd da pe cawsai fyw.
ROBERTS, DR. GRUFFUDD, awdwr y Gramadeg Cymraeg cyntaf. Hannai o Drefalun, Sir Ddinbych. Pabydd selog oedd, a gorfu arno ddianc i Rufain yn 1559. Penodwyd ef yn gyffeswr i Gardinal Borromeo, ym Milan, yn 1566. Ei waith enwocaf oedd ei Ramadeg Cymraeg a gyhoeddwyd ym Milan yn 1567. Ysgrifennodd lyfrau eraill hefyd "at wasanaeth Pabyddion Cymru." Meddai y Doctor Gymraeg ardderchog; anaml y ceir arddull loewach a phereiddiach.
ROBERTS, SAMUEL (1800—1885).—Adwaenir ef yn well dan yr enw S. R." Yn y Tŷ Capel, Llanbrynmair, y ganed ef, a mab ydoedd i'r Parch. John Roberts, a bregethai gyda'r Anibynwyr ac a driniai dyddyn o'r enw Diosg. Derbyniodd S. R. addysg dda, ac arhosodd gartref i drin y tyddyn; ond blinodd ar y Diosg, a chroesodd i'r Amerig, lle y treuliodd ddeng mlynedd yn amser cythryblus y Rhyfel Cartrefol. Dychwelodd i Gymru, a threuliodd weddill ei oes gyda'i frodyr G. R. a J. R. yng Nghonwy. Cymerodd ran flaenllaw yn nadleuon gwleid— yddol a chrefyddol yr amser hynny. Ymdrechodd yn galed i wella amgylchiadau amaethwyr Cymru drwy ddarlithio ac ysgrifennu ar eu rhan. Yr oedd yn fardd melus, yn bregethwr da a llenor gwych.
RHYS, DR. SION DAFYDD (1534—1609) ydoedd frodor o Lanfaethlu, Môn. Anfonwyd ef i Rydychen yn 1552, ac oddiyno aeth i Brifysgol Sienna, yn yr Eidal, yn 1555, lle y graddiodd yn Ddoctor mewn Meddygiaeth. Cyhoeddodd ddau lyfr ar y cyfandir, un yn yr Eidaleg a'r llall yn Lladin; ond ei waith pwysicaf i ni yw ei Ramadeg Cymraeg a ysgrifennwyd yn Lladin, ac a gyhoeddwyd yn 1592. Dychwelodd i'w famwlad pan oedd tua hanner cant oed, a sefydlodd yng Nghwm Llwch, Sir Frycheiniog, lle yr ymarferai fel meddyg.
SAMUEL, EDWARD (1674—1748), a anwyd mewn amgylchiadau cyffredin ym Mhenmorfa, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, ac ordeiniwyd ef yn 1695. Derbyniodd fywioliaeth Bettws Gwerfil Goch yn 1702, ond symudodd i Langar, plwyf cyfagos, yn Sir Feirionnydd, yn 1721, lle y bu farw. Cyfieithodd liaws o lyfrau i'r Gymraeg; y goreu ohonynt yw "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol,' a erys yn un o glasuron ein hiaith.
TALHAIARN (JOHN JONES, 1810—1869), brodor o Lanfair Talhaiarn, Sir Ddinbych. Arch—adeiladydd oedd wrth ei alwedigaeth. Bu'n dysgu ei grefft yn Llundain, a bu'n arolygu rhai o'r tai enwocaf yn y brifddinas ac ym Mharis. Oherwydd afiechyd, dychwelodd i'w gartref lle yr hunodd. Fel Mynyddog, enillodd le mawr fel arweinydd Eisteddfod. Y mae ei ganeuon yn brydferth a swynol, y mwyafrif ohonynt ar destynau gwladgarol.
WYNNE, ELLIS (1671—1734).—Ganed ef yn y Las Ynys, ffermdy ger Harlech. Aeth i Rydychen pan yn 21 mlwydd oed, ond gadawodd cyn graddio. Derbyniodd fywioliaeth Llan— danwg, ger Harlech, yn 1705, a Llanfair, plwyf cyfagos, yn 1711. Bu farw yn y Las Ynys, a chladdwyd ef dan yr allor yn eglwys Llanfair. Y mae ei wely yn y Las Ynys, a choeden ffigys a blannodd efe yng nghlawdd yr ardd. Ei orchestwaith yw Gweledigaethau y Bardd Cwsg, a gyhoeddwyd yn 1703, ac ystyrrir ef fel yr enghraifft oreu o Gymraeg cywir, cyfoethog, a chryf.
Y MABINOGI.—Ysgrifennwyd yr hanesion diddorol a phryd— forth hyn gan rywrai tua'r ddeuddegfed ganrif, ond gellir profi y cynhwysant draddodiadau oedd yn llawer hŷn. Cyfansoddwyd hwy mewn iaith gyfoethog a disgrifiadol gan rywrai oedd yn ystoriwyr gwych.
DIWEDD.
HUGHES A'I FAB,
ARGRAFFWYR,
GWRECSAM.

Nodiadau
[golygu]- ↑ bilberries;
- ↑ torf;
- ↑ difetha, baeddu;
- ↑ pilgrimage;
- ↑ mintai o filwyr;
- ↑ yn fore;
- ↑ bwyd da.
- ↑ barns;
- ↑ côd, S., wallet;
- ↑ an awl.
- ↑ all hail;
- ↑ cariad, anwyldeb;
- ↑ reflect;
- ↑ bardd.
- ↑ gwaelod Sir Aberteifi;
- ↑ anymunol;
- ↑ terfysg;
- ↑ dwndwr
- ↑ S., haunted;
- ↑ twrf;
- ↑ toriad.
- ↑ inspiration;
- ↑ bore;
- ↑ ffyrdd gwahanol;
- ↑ darn main, teneu;
- ↑ prudd;
- ↑ gwyrdd;
- ↑ mefus, strawberries;
- ↑ llus;
- ↑ islaw;
- ↑ barddoniaeth;
- ↑ yn ysgrifenedig;
- ↑ buan.
- ↑ anifail;
- ↑ S., prairie;
- ↑ dringo;
- ↑ anterth:=man uchaf;
- ↑ gwylltineb.
- ↑ gwau;
- ↑ teimlad yn effeithio'n drwm arno;
- ↑ yn galonnog;
- ↑ triniaeth;
- ↑ swyn, daioni;
- ↑ lleihau;
- ↑ coward.
- ↑ S.,roll;
- ↑ S., tether, halter.
- ↑ uchel;
- ↑ prudd;
- ↑ codi;
- ↑ tlws
- ↑ paratoi
- ↑ S., charm, magic;
- ↑ llestr.
- ↑ censer
- ↑ cân bersain
- ↑ cae enclosure, gwrych;
- ↑ cangau;
- ↑ hir a disglair.
- ↑ i'w rhoi yn ol., S., restore.
- ↑ ofnadwy
- ↑ lli;
- ↑ gyda'r hwyr;
- ↑ tywyll;
- ↑ twrf ffyrnig y môr tymhestlog;
- ↑ flint
- ↑ S., bank
- ↑ gwylltineb.
- ↑ bywyd.
- ↑ milwyr;
- ↑ cychod
- ↑ S., breast-plate
- ↑ tarian fechan
- ↑ S., helmet
- ↑ erfyn
- ↑ gafodd.
- ↑ cwmni.
- ↑ boneddwyr.
- ↑ ffraeo, cweryla
- ↑ cywiro
- ↑ yn llai
- ↑ amlhau
- ↑ tristwch
- ↑ niwl
- ↑ haze
- ↑ hin
- ↑ canwr mwyn
- ↑ cantorion
- ↑ gwres
- ↑ hyawdl.
- ↑ elephant
- ↑ trunk
- ↑ cryf
- ↑ diwyd.
- ↑ S., satin
- ↑ S., Cordovan leather
- ↑ S., pine-trees
- ↑ S., moustache;
- ↑ gwas gwineu llanc a gwallt melyngoch ganddo
- ↑ S., jet.
- ↑ marwor
- ↑ ddiddori
- ↑ S., manure
- ↑ cluster
- ↑ nectar.
- ↑ rhyfela.
- ↑ cidwm=blaidd
- ↑ cybyddlyd
- ↑ anfoddog, anhydrin
- ↑ bydded
- ↑ o'r bron
- ↑ talgryf
- ↑ clumsy
- ↑ garan anfaintunaidd coesau anferth
- ↑ trem=golwg
- ↑ anhyfryd, cas
- ↑ cyfrwys
- ↑ nid yw o ddiddordeb
- ↑ tywyllwch
- ↑ disglair
- ↑ nwy'=nwyf, S., vigour
- ↑ tristwch
- ↑ byddin
- ↑ lladdfa
- ↑ yn troi allan.
- ↑ S., beryl, maen gwerthfawr
- ↑ gwisgi=S., active, nimble;
- ↑ coes; haen o wair wedi ei dorri mewn arfod
- ↑ S., christening font;
- ↑ atolwg.
- ↑ llian;
- ↑ gwaith afreidiol
- ↑ cerrig;
- ↑ drain;
- ↑ gwlan;
- ↑ S., moth
- ↑ cen cerrig, rock moss
- ↑ blinder;
- ↑ muriau;
- ↑ ochr mynydd
- ↑ meluster.
- ↑ parchu
- ↑ S., art, celf;
- ↑ gorffen
- ↑ balch
- ↑ penwan
- ↑ gwehilion, S., dregs.
- ↑ cotton
- ↑ caled, brwnt;
- ↑ llofruddiaeth, cyflafan;
- ↑ S., coils;
- ↑ tanboeth.
- ↑ mor rwydd;
- ↑ cryf;
- ↑ sicr;
- ↑ amcan
- ↑ pur, prydferth.
- ↑ Un o feirdd Groeg (496—405 c.c.)
- ↑ disglair, tawel, dedwydd;
- ↑ hapus, llawn o fywyd;
- ↑ prydferth;
- ↑ llyn tro.
|
|
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1931, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | |