Mêt y Mona/Ar Fwrdd y Mona
| ← Pryder | Mêt y Mona gan Robert Lloyd Jones |
I Ble Mae'r Mona'n Mynd? → |
PENNOD IV
AR FWRDD Y 'MONA'
CYN diwedd y prynhawn cyntaf ar fwrdd y llong, cafodd Dic un achos i lawenhau yn fawr. Darganfu fod un o'r criw,—dyn ieuanc, glandeg, a hoffus ei wedd, yn Gymro. Newidiodd teimladau Dic at ei amgylchiadau newydd, anhyfryd, pan ddeallodd hyn, a brysiodd i hysbysu ei ddarganfyddiad i Wil y cyfle cyntaf a gafodd. Prin y gallai Wil gredu'r fath newydd da ar y cyntaf,—yr oedd, iddo ef, yn rhy dda i fod yn wir. Ond wedi i Ddic ei sicrhau mai gwir a ddywedai, aeth yntau ynghylch ei orchwylion gyda chalon ysgafnach.
A'r un prynhawn,—yn y dog-watch, rhwng chwech ac wyth o'r gloch, pan oedd pawb o'r dwylo, ar ddihun,—cafodd y ddau fachgen gyfle i siarad â'r Cymro.
"Ie," meddai wrthynt, gyda gwên siriol, "un o Amlwch ydw i. Bob Tomos ydi f'enw i."
"Mae'n dda iawn gen i fod yma Gymro," ebr Wil, a hawdd oedd gweld ar ei wyneb y dywedai'r gwir. "I ble mae'r llong yn mynd?"
"Ddywedodd y Capten ddim wrthych chi?" gofynnodd Bob Tomos.
"Naddo," oedd yr ateb.
"Wel," ebr Bob yn araf. "Mae o'n dweud mai i Lundain yr ydym yn mynd."
Agorodd y bechgyn eu llygaid mewn syndod. I Lundain! Iddynt hwy yr oedd Llundain yn bell iawn.
"I Lundain!" ebr Dic. "Mor bell â hynny," a'i lygaid yn llenwi â'r dagrau oedd mor barod i ffeindio'u ffordd yno.
"Fasa fo fawr o wahaniaeth gen i," ebr Wil, "i ble basa hi'n mynd, wedi cael Cymro yma, tasa posib i mi anfon gair adre at mam a f'ewyrth."
"O! ni fyddwn ni ddim yn hir yn mynd i Lundain, os cawn ni dywydd," ebr Bob. "Ond mi ddweda i wrthych chi beth wnewch chi. Sgrifennwch lythyr, a rhowch o mewn potel, a'i thaflu hi i'r môr. Feallai yr aiff hi i'r lan yn rhywle, neu y codir hi gan ryw long, ac y can' nhw'r llythyr reit fuan yn Nhrelan." Ymddangosai'r cynllun yn un rhagorol i'r bechgyn, a phenderfynasant ysgrifennu nodyn y noson honno. Addawodd Bob chwilio am botel iddynt. Ond rhybuddiodd hwy rhag bod yn rhy obeithiol y llwyddai'r cynllun.
"Cofiwch," meddai, "hwyrach nad aiff hi ddim i'r lan yn hir, ac na chodir mohoni gan neb, ac y byddwn ni yn Llundain cyn y clywan 'nhw ddim amdanoch chi.”
Er i Bob daflu dŵr oer fel hyn ar eu cynllun, credent ei fod er hynny yn werth ei gario allan mewn gobaith y llwyddai.
"Rhaid i chi drio plesio'r Capten, cofiwch," meddai Bob. "Mae ganddo goblyn o dempar, a waeth ganddo beth wnaiff o i chi wedi gwylltio."
"Mi fedra i'ch coelio chi'n hawdd," ebr Wil y y Mona chwerw ei ysbryd, wrth gofio am yr hyn a fuasai yn y caban gynau.
"Mae'r mêt yn edrych yn ddyn neis iawn," ebr Dic.
"O! mae Mr. Brown yn well sort o lawer na Chapten Larkin," ebr Bob. "Ond y Capten ydi'r meistr. Gofalwch chi am fod yn ufudd iddo fo. Raid i chi ddim ofni wedyn."
"Pwy ydi'r dyn arall hwnnw sydd yn y caban?" gofynnodd Wil.
"Mr Allen ydi'i enw fo," oedd yr ateb. "Mae nhw'n dweud mai fo biau'r llong, ond wn i ddim ydi hynny'n wir."
"Beth ydi enw'r llong?" gofynnodd Wil. "Mi fydd yn rhaid i ni roi hwnnw yn y llythyr, neu ni fydd mam ddim haws."
"Ymhle mae dy lygaid di, fachgen?" gofynnodd Bob. "Wyt ti ddim wedi ei weld o, 'Mona,' ar y cychod."
Gwridodd Wil dan y cerydd, a bu'n ddistaw am ennyd.
Beth sydd yn gyrru'r llong heblaw gwynt?" gofynnodd Dic.
"Petrol. Mi fydd yn handi iawn pan na fydd awel, neu pan fydd yr awel yn groes." ebr Bob. "A rwan, rhaid i mi fynd. Rydw i'n disgwyl y byddwn ni'n ffrindia. Cofiwch, does dim eisio i chi fynd i drwbl, ond, os ewch chi, dowch chi i ddweud wrtha i."
Diolchodd y bechgyn iddo, ac yna aethant i ysgrifennu llythyr a'i ddodi yn y botel. Daeth Bob a photel iddynt, ac wedi cau'r llythyr yn dynn ynddi, taflasant hi dros y bwrdd, gan obeithio y cerid hi gan y tonnau caredig i afael rhywun a anfonai'r llythyr i Drelan, i leihau pryder eu hanwyliaid yno yn eu cylch.
Cyn y nos, cawsant weled pa fodd a phaham yr ofnai pawb y Capten. Wedi iddynt daflu'r llythyr i'r môr, safai'r bechgyn ar y dec, a nifer o'r dwylo yn sefyll yn agos atynt yn ymddiddan. Daeth y Capten i fyny o'r caban Y munud y gwelsant ef, gwasgarodd y dynion, gan geisio ffeindio rhywbeth i'w wneud, rhag iddo sylwi arnynt yn segur. Cerddodd yn awdurdodol ei drem a'i osodiad ar hyd y dec, gan droi ei lygaid i bob congl, fel pe bai'n chwilio am feiau. Yna cododd ei ben i fyny i edrych ar yr hwyliau. Tynnodd rhywbeth ei sylw ynglŷn ag un o'r hwyliau. Safodd a galwodd ar Bob ato,—ef oedd yr agosaf ato. Fflachiai ei lygaid, a chyda rheg arswydus, gorchmynodd Bob i fynd i fyny i gywiro'r diffyg, gan ychwanegu geiriau angharedig am y mêt, yr hwn a dybiai oedd i'w feio am y diffyg. Brysiodd Bob i ufuddhau iddo heb golli amser.
Daeth y mêt ymlaen at y Capten, ac yntau'n gwylio Bob ar yr hwylbren.
Trodd y Capten ato'n ffyrnig, ond heb regi.
"Nawr, Mr. Brown," meddai'n llym, "rhaid i chwi fod yn feistr ar y dynion. Ni thâl bod yn rhy garedig wrthynt, neu ni wnânt ddim byd yn iawn. Nid fel yna y mae ffyrlio top-sail."
Edrychodd y mêt i fyny. "Beth oedd y mater arni, syr?" gofynnodd.
"I lygad morwr yr oedd y gwaith wedi ei wneud yn fler, a rhaid i mi gael popeth yn iawn ar fwrdd fy llong i. Gofelwch o hyn allan." Ac ymaith ag ef.
Sylwodd y bechgyn fod y mêt yn sefyll yn ddigryn o'i flaen, ac na regai'r Capten mohono. Felly barnai'r bechgyn nad oedd y mêt yn ei ofni, beth bynnag am y dynion.
Daeth yn fuan yn amser noswylio, ac am y noson honno, cafodd y bechgyn fynd i'w gwelyau yn y fforcasl, ac ni bu raid i Ddic fynd allan gyda'i wyliadwriaeth. Ond buont yn gorwedd ill dau am oriau heb allu cysgu. Nid gwiw oedd iddynt siarad yn uchel, gan y cysgai rhai dynion yn eu hymyl. Ond yn troi gyda digwyddiadau cynhyrfus y dydd y bu eu meddwl hyd nes i gwsg o'r diwedd eu gorchfygu.