Mêt y Mona/Glan y Môr
| ← Cynnwys | Mêt y Mona gan Robert Lloyd Jones |
Pryder → |
MÊT Y MONA
PENNOD I
GLAN Y MÔR
NAWN dydd Iau, yr ugeinfed o Orffennaf ydoedd yn y flwyddyn 192-,—nawn tesog, hafaidd, a'r plant yn Ysgol Trelan yn syllu'n hiraethlon trwy'r ffenestri bob tro y caent gyfle, ac yn cenfigennu wrth bawb oedd yn cael mwynhau awyr agored a rhyddid. Cai'r cloc oedd ar fur yr ystafell hefyd gryn lawer o sylw'r plant hynaf. Credent fod ei fysedd yn symud dros ei wyneb yn arafach nag arfer y prynhawn hwnnw, yn union fel pe bai'r tywydd poeth yn eu gwneud yn ddiog. O'r diwedd, gwelwyd hwynt yn pwyntio at bedwar o'r gloch,—yr awr ddisgwyliedig,—a rhyddhawyd y carcharorion. Trannoeth, byddai'r ysgol yn cau am wyliau'r haf,—am fis cyfan,—ac, fel plant pob ardal, edrychai plant Trelan ymlaen yn awchus at bedair wythnos gyfan o lawenydd a mwyniant didor, yn rhydd o gaethiwed gwers a gormes cloch yr ysgol. Na feddylied y darllennydd bod plant Trelan yn casáu'r ysgol. O! na, yr oeddynt yn hoffi'r ysgol yn fawr, ac yn ei mynychu'n gyson; ond, ar dywydd mor hyfryd, a'r gwyliau mor agos, nid rhyfedd bod ysbryd gwaith yn brin, a'u bod yn dyheu am eu rhyddhau y prynhawn Iau hwnnw.
Ac o holl blant ysgol Trelan, mae'n debyg nad oedd neb yn llawenhau mwy am eu gollwng y prynhawn hwnnw, ac hefyd am fod y gwyliau mor agos, na'r ddau gyfaill mynwesol, Wil y Morfa, a Dic, mab Ifan Huws, y crydd. Hwynthwy oedd y ddau fachgen hynaf yn yr ysgol. Yn wir, yr oeddynt eisoes yn gwisgo trowsysau llaes, ac mewn oed i'w rhyddhau o'r ysgol, ond bod eu rhieni yn eu cadw yno nes y caent waith,—nid yn gymaint er mwyn iddynt ddysgu, ag am y rheswm eu bod yn ddiogelach, yn nhyb eu rhieni, yn yr ysgol na phe baent gartref heb ddim i'w wneud. Dau fachgen cryf ac iach oeddynt,—digon abl i weithio pe ceid gwaith iddynt; a dau gyfaill calon, bron yn wastad gyda'i gilydd, ac heb gadw dim cyfrinach, y naill oddiwrth y llall.
"Dim ond fory eto, Dic annwyl," ebr Wil wrth ei gyfaill, a tharo'i law ar ei ysgwydd, wrth gychwyn o'r ysgol, y prynhawn Iau hwnnw. "Brysia i lawr,—mi fydda i'n dy ddisgwyl di, cofia."
"Ni fydda i ddim dau funud," oedd yr ateb, "os na fydd ar mam eisiau neges."
"P'un bynnag am hynny, paid a bod yn hir, was; nid â i ddim i lawr o dy flaen di, cofia," ebr Wil, ac i ffwrdd ag ef, dros y gamfa i'r llwybr a arweiniai o ymyl yr ysgol, heibio i'w gartref, i lan y môr.
Deallai Dic o'r gorau mai ystyr i lawr' Wil oedd glan y môr. Dyna hoff gyrchfan y ddau bob cyfle a gaent trwy'r haf. A'u hoffter o lan y môr a barai iddynt deimlo caethiwed yr ysgol mor feichus yn y tywydd braf. Tŷ bychan oedd y Morfa, cartref Wil, tua hanner y ffordd rhwng pentref Trelan a glan y môr. Yr oedd siop Ifan Huws, y crydd, tad Dic, yng nghanol y pentref, a rhyw waith deng munud o gerdded oddiyno at y môr, hynny ydyw, deng munud i ddyn cyffredin, ond llawer llai a gymerai Dic yn aml i wneud y daith i lawr, faint bynnag a gymerai i fynd i fyny. Amrywiai hynny yn ôl yr amgylchiadau.
Pentref bychan yn agos i lan y môr, ac yn llechu wrth odre mynydd tra uchel yn Sir Gaernarfon, ydoedd Trelan; a'i gylchfyd,—y mynydd a'r môr,—yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y pentrefwyr. Gwir fod yno dir amaethyddol a rhai ffermydd yn yr ardal; ond ar y môr, neu ynglŷn â'r chwarel oedd ar lechwedd y mynydd y tu ôl i'r pentref, yr enillai mwyafrif y boblogaeth eu cynhaliaeth. Hen forwyr oedd rhai o weithwyr y chwarel,—rhai wedi treulio eu hieuenctid ar y môr, ond, ar ôl cyrraedd canol oed, wedi ei adael i gymryd gwaith ar y tir. Ond, er gadael o honynt y môr fel galwedigaeth, parhâi eu diddordeb yr un mor fyw yn y môr a'i bethau. Roedd gan lawer o honynt gychod yng nglan y môr, a bron bob min nos yn yr haf, ar ôl gwaith y dydd yn y chwarel, glan y môr fyddai'r hoff gyrchfan, ac âi amryw allan gyda'r cychod i bysgota yn y bae.
Nid rhyfedd felly bod anian y môr yn gryf yn Wil a Dic. I'r môr y carent fynd, pe caniatâi eu rhieni. Ond yr oedd Ifan Huws yn bendant na chai Dic fod yn forwr, a'i fam yn dweud, "Gwell i ti rywbeth ar y tir, machgen i, na'r hen fôr 'na." Ar y môr y collasai tad Wil ei fywyd ac nid gwiw oedd i Wil sôn wrth ei fam am fynd i'r môr.
Roedd te Dic yn barod pan aeth i'r tŷ, ac nid oedd angen i'w fam i'w annog i fwyta. Llyncodd yn frysiog yr ymborth a baratoisid iddo, mewn ofn, bob munud, i'w fam ddweud wrtho fod arni eisiau iddo fynd i neges iddi, neu i'w dad ddod o'r gweithdy ag esgid neu bâr o esgidiau i'r bachgen i'w dwyn i dŷ un o'r trigolion. Ond ni ofynnwyd iddo wneud dim, ac, wedi llyncu ei fwyd, cydiodd yn ei gap, ac i ffwrdd ag ef am y Morfa i alw am Wil. Gwaeddodd ei fam ar ei ôl, "Paid di a mynd i le peryg i ymdrochi," a gwaeddodd Dic yn ôl, "Ol reit mam.
Yr oedd Wil wrth dalcen y tŷ yn disgwyl amdano, ac wedyn i lawr a'r ddau at lan y môr. Yr oedd eu rhaglen wedi ei threfnu eisoes,—yn wir, yr un a fyddai bob prynhawn, oni byddai'r amgylchiadau'n eithriadol. A'r peth cyntaf arni ydoedd ymdrochi. Hoffai'r ddau gael ymdrochi gyda'i gilydd, o bai modd, cyn i blant eraill y pentref ddod i lawr, oblegid i lan y môr y cyrchai llu o honynt hwythau bob prynhawn ar ôl yr ysgol, i aros yno yn fynych nes y disgynnai llenni'r nos, neu i'w rhieni ddod yno i'w cyrchu. Ond fe'u hystyriai Wil a Dic eu hunain yn gryn gewri ymysg y plant, ac yn wir, ystyrrid hwynt yn arwyr gan lawer o'r plant lleiaf. Ac un rheswm am hynny, heblaw mai hwynthwy oedd plant hynaf yr ysgol, ydoedd y ffaith eu bod yn nofwyr dan gamp. Rhyw chwarae yn y dwfr bas yn ymyl y lan, oedd ymdrochi i'r plant eraill, ond, i Wil a Dic, golygai rywbeth tra gwahanol. Aent hwy i ymdrochi i'r dwfr dwfn yn ymyl y cei, lle y llwythid y llongau a ddeuai i gludo cerrig o'r chwarel. Yno, yng nghysgod y cei, caent ddwfr dwfn, tawel, ac yno yr oedd y cychod. Tynnid y cychod bychain i'r lan ar y tywod pan na ddefnyddid hwynt, ond nofiai y rhai mwyaf,—cychod hwyliau, wrth eu hangorion, ychydig lathenni o'r lan. A dyna'r hwyl a gai Wil a Dic wrth ymdrochi,—nofio at un o'r cychod, dringo iddo, a phlymio o hono i'r dwfr. Weithiau, pan na fyddai llongau yn cael eu llwytho, dringent i'r cei i blymio i'r dwfr oddiyno, ond ni feiddient wneud hynny, o byddai gweithwyr ar y cei.
Y prynhawn hwn, nid oedd llong wrth y cei, na neb yn y golwg ar na chei na thraeth; ac felly, yr oeddynt yn rhydd i wneud y defnydd a fynnent o'r cychod a'r cei. Ac fe wnaethant hynny. O! yr oedd yn ardderchog yn y dwfr y prynhawn hwnnw, a'r ddau fachgen yn eu mwynhau eu hunain fel dau bysgodyn yn eu helfen. Ond, wedi bod o honynt wrthi'n brysur am rai munudau'n plymio a nofio a gwneud pob math ar gampau yn y dwfr, aethant i eistedd am ychydig ar y lan i orffwyso, heb ymwisgo.
Yn sydyn, fel pe bai rhyw syniad newydd wedi taro i'w feddwl, gofynnodd Wil: "Ddoi di allan am dro yn y 'Wennol,' Dic?"
Ni allsai Wil awgrymu dim yn fwy wrth fodd calon Dic na thaith ar y môr yn y 'Wennol,' cwch modur Huw Elis, ewythr Wil; ac mae'n debyg y gwyddai Wil hynny wrth ofyn y cwestiwn. Newydd gael y cwch yn nechrau'r haf yr oedd Huw Elis, ac nid oedd gan neb arall yn Nhrelan gwch o'r fath. Llawer gwaith y gwyliasai Dic y cwch newydd a dieithr hwn yn torri trwy'r dwfr mor gyflym a rhwydd, ond ni chawsai erioed y fraint o fod ynddo. Nid felly Wil,—buasai ef allan lawer gwaith ynddo gyda'i ewythr, a mynych y dywedasai wrth ei gyfaill pa mor ardderchog ydoedd, ragor y cychod eraill. Ond unig effaith geiriau Wil ar Ddic a fuasai cryfhau ei awydd yntau am gael cyffelyb brofiad. Felly, nid rhyfedd iddo dderbyn awgrym Wil y prynhawn hwn gyda'r parodrwydd mwyaf, yn enwedig gan nad oedd Huw Elis na neb arall ond hwy eu dau i'w gweld ar y traeth. Hen lanc ydoedd Huw Elis yn gwneud ei gartref gyda'i chwaer weddw, mam Wil, yn y Morfa. Morwr a fuasai yn ei ieuenctid, ond, bellach, ers llawer blwyddyn, gweithiai yn y chwarel, gan dreulio llawer o'i amser yng nglan y môr, ac allan gyda'i gwch, a Wil, fel rheol, gydag ef. A dyna'r unig fan bron na byddai Dic gyda Wil,—yng nghwch Huw Elis. Meddyliai'r hen lanc y byd o'i gwch, ac ni chai neb ond Wil fynd ynddo gydag ef. Edrychodd Dic gyda dau lygad yn llawn awydd ar y cwch hardd a nofiai'n urddasol ar y dwfr dwfn rhyngddynt a blaen y cei. Dyma'r cyfle, o'r diwedd, wedi dod iddo yntau gael mynd i'r cwch.
"Wyt ti'n deall sut i'w yrru?" gofynnodd i'w gyfaill. A'r munud nesaf, pan welodd yr olwg ddiystyrllyd ar wyneb Wil, edifarhaodd am ofyn o hono y cwestiwn. "Ydw i, tybed?" gofynnodd Wil yn ôl, braidd yn gas. "Ydw, decini, a finna wedi bod allan gymaint o weithia gyda f'ewyrth Huw." Yna, ychwanegodd yn fwy siriol ei dôn, "Tyrd, 'r hen ddyn, mi wisgwn ni amdanom, a mynd allan ato fo gyda chwch bach cyn i neb ddwad yma."
Wrth wisgo amdano, daeth yr amheuaeth gyntaf i feddwl Dic. "Beth pe bai d'ewyrth yn dwad i lawr, ac yn ein dal ni?" gofynnodd.
"Ddaw o ddim i lawr am hir," ebr Wil.
"Ddaeth o ddim i lawr o'r gwaith eto. Ac hwyrach na ddaw o ddim i lawr yma heno. Tyrd yn dy flaen."
Nid oedd angen dweud ychwaneg. Ni bu'r ddau ond byr o dro yn gwisgo amdanynt, a chyn pen ychydig funudau, yr oeddynt ar fwrdd y cwch modur, ac wedi diogelu'r cwch bychan rhag iddo gael ei gario allan gan y môr, trwy ei sicrhau gyda rhaff wrth garreg fawr, a'i gollwng i lawr i'r dwfr. Er cymaint ei awydd i fynd i'r cwch modur, ac er cael ei sicrhau gan Wil nad oedd berygl oddiwrth yr ewythr, pell ydoedd Dic o deimlo'n gysurus, gan yr ofnai weled Huw Elis yn ymddangos ar y traeth bob munud. Heb wastraffu amser (feallai mai yr unrhyw ofn a'i cymhellai yntau hefyd, pe gwyddid y cyfan), aeth Wil ati i gael y peiriant i weithio. Nid gorchwyl hawdd ydoedd hynny i fachgen, ond gwelsai ei ewythr. yn gwneud gynifer o weithiau, ac yr oedd yn fachgen cryf, fel y llwyddodd. Dechreuodd y peiriant droi, ac wele'r bad yn dechrau symud.
Llywia di, Dic," ebr Wil—"Mi wylia inna'r peiriant." "Reit," ebr Dic. "Pa ffordd awn ni?"
'Dim ond allan at y Clogwyn, ac yn ôl," ebr Wil. "Rhaid i ni frysio'n ôl, a'i gadw fo'n sâff, wyddost ti, rhag ofn i f'ewyrth ddwad i lawr."
Rhyw daflu ambell gipolwg ofnus yn ôl a wnâi'r ddau pan basient drwyn y cei. Ond wedi mynd heibio i'r cei, nid oedd gymaint o berygl iddynt gael eu gweld, a theimlent yn fwy rhydd. Y tu draw i'r cei, rhedai clogwyn uchel ar hyd glan y môr am bellter, rhyngddynt a'r pentref. Ychydig iawn a fuont cyn gosod y clogwyn rhyngddynt a'u cartrefi, a bellach nid oedd raid iddynt ofni,—gallent anadlu'n rhydd. Ni allai neb o'r pentref nac oddiar lan y môr wrth y cei eu gweld. Gallesid eu gweld, mae'n wir, o ben y clogwyn, ond anaml iawn y cyrchai neb i'r fan honno, ond pan fyddid yn edrych am froc y môr ar ôl storm.
Roedd Dic bellach wedi anghofio ei holl ofnau, ac wrth ei fodd wrth weld a theimlo'r cwch yn torri mor gyflym a difyr drwy'r dwfr, a gwrando ar guriadau cyson, didor, y peiriant, a Wil gymaint wrth ei fodd ag yntau wrth weld y pleser a gai Dic yn y 'Wennol.' Bron nad oedd y dedwyddwch yn rhy ardderchog i'w dorri â geiriau. "Dyma i ti fynd, ngwas i," ebr Wil, ar ôl ennyd o ddistawrwydd.
"Ardderchog," ebr Dic, a gwenu'n foddhaus. "On'd ydi o'n mynd yn ddistaw, fachgen."
"Cofia di," ebr Wil, yn ymchwyddo wrth ganmoliaeth Dic i'r cwch," mae'r 'Wennol' yn un o'r cychod modur gora.
Mae gan rai o honyn nhw dwrw ofnadwy wrth fynd, ond sylwa mor ddistaw y mae hwn. Prin y clywi di'r peiriant yn chwyrnu."
Prin yr oedd ar Ddic angen yr anogaeth i sylwi ar y rhinwedd hwn yn y 'Wennol,' ag yntau eisoes wedi canmol effeithiolrwydd y peiriant.
"Mae hi'n brafiach o lawer ynddo fo nag mewn cwch hwylia, beth bynnag," ebr Dic. "Hen biti fod yn rhaid i ni fynd yn ôl mor fuan."
Bu Wil yn fud am ennyd,—wedi ymgolli mewn myfyrdod dwfn. Yna meddai, "Mi wn i beth wnawn ni, 'r hen ddyn."
"Beth?" gofynnodd Dic, a syllu yn wyneb ei gyfaill, i glywed ffrwyth ei fyfyrdod. "Mi awn ni allan am dro iawn," meddai Wil. "Beth feddyliet ti?"
Tarawyd Dic â syndod, ac am ennyd bu ymladdfa fewnol rhwng ei ddymuniad a'i ofnau. Yna meddai mewn protest wannaidd, "Ond mi gawn ddrwg."
"Wn i ddim," ebr Wil yn araf. "Hwyrach na chawn ni ddim, wyddost ti. Hen fachgen go ffeind ydi f'ewyrth, ac mae o'n dipyn o ffrindia hefo mi."
Gwyddai Dic fod hynny'n ddigon gwir, ond ni theimlai'n ddigon sicr y gellid dibynnu ar natur dda Huw Elis yn wyneb trosedd mor fawr a chymryd ei gwch modur allan heb ei ganiatâd.
"Chlywais i mono fo'n dweud ei fod o am ddwad i lan y môr heno, erbyn meddwl," ychwanegodd Wil. "P'un bynnag, waeth i ni aros am awr neu ddwy wedi cychwyn. Chawn ni ddim mwy o ddrwg am hynny na tasan ni'n mynd yn ôl rwan.
Pa un bynnag ai cywir ynteu anghywir oedd athroniaeth Wil, yr oedd yn eithaf boddhaol dan yr amgylchiadau i'w gyd—droseddwr. Gwell oedd ganddo yntau fanteisio ar y cyfle i'w fwynhau ei hun, a gohirio'r gosb, am rai oriau o leiaf, ac o bosibl ei hosgoi'n gyfangwbl yng nghysgod Wil, os gallent ddibynnu ar natur dda Huw Elis. Rywfodd, teimlai'r ddau yn dra gwahanol, â'r Clogwyn rhyngddynt a'r pentref, ragor a wnaent wrth y cei.
"Pa ffordd awn ni?" gofynnodd Wil, a nodyn yn ei lais fel pe bai'r cwestiwn ynglŷn â dychwelyd neu beidio wedi ei setlo'n derfynnol ar yr ochr nacaol.
"Wyt ti ddim am droi'n ôl felly?" gofynnodd Dic, a'i lawenydd yntau erbyn hyn wedi gorchfygu ei ofn.
"I beth? Waeth i ni heb," ebr Wil.
"O! wnaiff o ddweud dim llawer wrtha i, ond i ni fynd a'r 'Wennol' yn ôl yn sâff iddo fo. Mi groeswn ni'r bae at y trwyn 'cw," gan bwyntio at bentir a redai i'r môr tua phum. milltir oddiwrthynt. "Beth wyt ti'n ddweud? Wyt ti'n fodlon?"
"Ol reit," oedd yr ateb. A chadwodd Dic ben y bad i'r cyfeiriad.
"Un da ydi hwn," ebr Dic cyn hir, yn methu a chuddio'i edmygedd o'r bad, "Un fel hyn brynna inna wedi i mi ddechrau gweithio, peth siwr ydi o.
"Cofia di eu bod nhw'n ddrud iawn, ngwas i," ebr Wil.
"O! fydda i ddim yn hir yn hel digon i brynu un," ebr Dic yn hyderus.
Rhy brysur oedd y ddau'n gwylio'r cwch yn symud, i fwynhau dim ar yr olygfa ar y glannau, er hardded ydoedd. Ychydig iawn a fuont cyn eu bod gyferbyn â'r trwyn tir y cyfeirient ato.
"Fasa'n well i ni droi'n ôl?" gofynnodd Dic, pan welodd ymhle yr oeddynt.
"Mi gadwn ni fwy allan i'r môr wrth fynd yn ôl," ebr Wil. "Cadw'i ben o allan fwy i gymryd tipyn o rownd, yn lle mynd yn ôl ar ein hunion On'd ydi o'n mynd yn dda mewn difri?"
"Ardderchog," ebr Dic, a thinc gonestrwydd yn ei lais. "Mi fasa'n dda gen i tasa fi fasa bia hwn."
"Hwyrach y cawn ni gyfle i fynd allan hefo fo yn o amal ein dau wedi i'r ysgol dorri," ebr Wil. "Mi fydd yn haws gan f'ewyrth fy nhrystio fi, wyddost ti, ar ôl gweld heddiw y medra i ei drin o, hynny ydyw, os ffeindith o ein bod ni wedi bod allan."
Ymlaen a hwy mewn distawrwydd am rai munudau, a Dic yn gwylio'r modd yr oedd y bad yn torri trwy'r dwfr. Yn sydyn, ebr Wil, gan droi at Dic, "Mae hi'n ddigon buan i fynd yn ôl. Mi wn i beth wnawn ni, Dic."
"Beth?" gofynnodd Dic, yn llawn awydd i wybod beth oedd y syniad newydd a drawsai i feddwl parod ei gyfaill.
"Mi awn ni rownd y lightship, ac adre wedyn. Beth wyt ti'n ddweud?" ebr Wil, a'i lygaid yn perlio.
Ond nid oedd Dic yn hoffi'r syniad, er mor atgas ganddo oedd dychwelyd i'r lan. "Mae hi'n bell iawn o'r fan hyn," meddai. "Mi glywais i nhad yn dweud bod y lightship dros ugain milltir o Drelan, a dydym ni fawr nes iddi hi yn y fan hyn."
"Oes arnat ti ofn? O'r babi! Ofn beth sydd arnat ti?" gofynnodd Wil, braidd yn wawdlyd ei dôn.
"Does arna i ddim ofn. Rydw i'n ddigon bodlon," ebr Dic, gan ymwroli, rhag i Wil ei wawdio. Gallai oddef popeth yn well na gwawd.
"Reit," ebr Wil, wedi cael ei ffordd. "Mae arna i eisio gweld y lightship ers talwm. Ac ni fyddwn ni fawr o dro'n mynd ati. Y ffordd acw y mae hi," gan bwyntio i'r cyfeiriad.
Ac ymlaen a hwy'n ddifyr, a Wil yn mwmian canu. Ond ni theimlai Dic yn gysurus. Yn erbyn ei ewyllys yr ildiasai i ddymuniad Wil. Yr oedd wyneb y môr, lle yr oeddynt yn awr, lawer yn fwy aflonydd nag a fuasai yn agos i'r glannau: ond diwrnod hyfryd o haf ydoedd, a dim arwydd o ddim tebyg i storm yn codi,—dim ond awel dyner, falmaidd, yn cymedroli'r gwres oedd bron yn annioddefol ar y lan. Wedi mynd ymlaen am beth amser mewn distawrwydd, taflodd Dic drem frysiog dros ei ysgwydd yn ôl tua chyfeiriad eu cartrefi, a synnodd weld y pellter oedd rhyngddynt a'r tir. Draw, draw, ymhell yn ôl, gwelai ben y clogwyn, a'r mynydd yn codi y tu ôl iddo. Nid ymddangosai pen y clogwyn, o'r lle yr oeddynt, nemawr yn uwch na glan gwastad y môr.
"Rydym ni wedi dwad yn bur bell," meddai wrth Wil, wedi ystyried o hono eu safle, ac yn ryw hanner ddisgwyl y bodlonai Wil i droi'n ôl. Ond fe'i siomwyd.
"Do," oedd ateb Wil. "Mae'n siwr ein bod ni'n bur agos i'r lightship erbyn hyn." Ond ni welent yr oleulong yn unman. Ni welsent erioed mo'r llong yn ei hymyl, ond lawer noson, o'r llechwedd y tu ôl i'r pentref, neu o ben y clogwyn, gwelsent ei goleuni'n fflachio ar y dyfroedd i gyfeirio'r llongau ar eu teithiau. "Mae hi'n siwr o ddwad i'r golwg cyn bo hir," ebr Wil yn obeithiol.
Ymlaen yr aed wedyn mewn distawrwydd am rai munudau, a gostegodd yr awel yn hollol.
Yna, yn sydyn, cododd Dic ar ei draed mewn braw. "Dyma hi ar ben arnom, Wil annwyl," meddai yn ddychrynedig, "Wyt ti'n gweld y niwl yn amdanom?"
Trodd Wil i edrych ymlaen, a sylweddolodd mai gwir a ddywedai Dic. Roeddynt yn rhedeg i ganol niwl gwyn, trwchus, a chyn iddynt allu arafu'r bad, yr oeddynt wedi eu hamgau ynddo,—niwl, niwl, na ellid gweled drwyddo i unrhyw gyfeiriad.
Troi'n ôl fydd orau i ni," ebr Dic, a chydsyniodd Wil.
"Tro, ynteu," meddai.
Ond haws lawer oedd dweud na gwneud. Roedd yn ddigon hawdd, mae'n wir, droi pen y cwch, ond nid mor hawdd oedd gwybod i ba gyfeiriad yr oeddynt yn mynd wedi ei droi. Trodd Dic y llyw, ac ufuddhaodd y cwch. Yna, amheuodd Dic nad oedd yn wynebu tua chartref, a throdd ychwaneg arno. Yna eistedd, a cheisio gweld rhyw arwydd eu bod yn dod o'r niwl. Ond yn ofer,—dim ond niwl, niwl, niwl, i bob cyfeiriad Yn sydyn, o'r niwl, ond yn bur bell oddiwrthynt, clywsant sŵn niwl—gorn Edrychodd y ddau ar ei gilydd, syndod a braw yn eu hwynebau.
"Y lightship," ebr Wil, a chodi ar ei draed. "Ie, neu stemar," ebr Dic, yn gyffrous.
"Tro ben y cwch i'r ffordd y daeth y sŵn," ebr Wil "Rydw i'n siwr mai'r lightship oedd yn canu'r niwl—gorn."
"Na, gwell i ni beidio," ebr Dic, yn bendant, "rhag ofn mai stemar oedd 'na, ac i ni gael ein rhedeg i lawr. Fydd dim posib iddyn nhw'n gweld ni'n ddigon buan i'n hosgoi ni, os byddwn ni ar eu llwybr nhw."
Gwelai Wil fod rheswm yn yr hyn a ddywedai Dic, ac arafodd gyflymder y bad. Yna, disgwyliasant yn ddistaw am y sŵn drachefn, mewn ofn bob eiliad gael eu rhedeg i lawr. Toc, clywsant y sŵn,—ymhellach oddiwrthynt.
"Ni ddaw honna ddim ar ein traws ni, beth bynnag," ebr Wil, wedi cael gollyngdod, ond distaw oedd Dic. Roedd erbyn hyn yn edifarhau'n ddwys am ei ddyfod yn y cwch,—yr oedd peryglon distaw y niwl wedi ei lethu.
"O! hwyrach y gwnaiff hi glirio cyn hir," ebr Wil, ymhen ennyd, i geisio'i gysuro'i hun a'i gyfaill.
"Gobeithio y gwnaiff hi, neu wn i ddim beth wnawn ni," oedd ateb digalon Dic.
Ond buont yn y niwl am gryn amser: ac, yna, pan oeddynt wedi dechrau ofni na chliriai, yn sydyn,—yn yr un modd sydyn ag y daethai,—cliriodd y niwl. Ac, wele, erbyn iddynt edrych o'u hamgylch, gwelent eu bod wedi mynd lawer ymhellach i'r môr nag y bwriadent. Wrth edrych i gyfeiriad eu cartrefi, gwelent long anghyffredin ei ffurf, tua dwy filltir oddiwrthynt, fel y barnent; a gwyddent i sicrwydd bron, ar ei ffurf, oddiwrth y darluniau a welsent yn yr ysgol, mai y lightship ydoedd. Gwelent greigiau Môn yn gwarchod y tonnau ar y naill ochr iddynt ond ymhell draw, a phentiroedd Llŷn yn ymestyn draw ar y gorwel yr ochr arall. A draw, ymhell yn ôl, gwelent y mynydd yr oedd Trelan wrth ei odre.
"Wil annwyl," llefodd Dic yn ddychrynedig, wedi ystyried eu safle, "rydym wedi ei gwneud hi'n ofnadwy. Rydym wedi pasio'r lightship."
"Arnat ti 'roedd y bai," ebr Wil yn ôl, "na basat ti wedi llywio'n iawn, pan oeddym ni yn y niwl."
"Sut y gwyddwn i pa ffordd yr oeddym yn mynd?" ebr Dic yn wylofus. "Nid awn ni byth yn ôl adref cyn y nos.
"O, awn," ebr Wil, yn hyderus ei dôn, "Paid di ag ofni am hynny. Welaist ti erioed mor fuan yr aiff y cwch 'ma a ni yn ôl. Tro'r llyw, Dic."
Ufuddhaodd Dic gyda chalon drom. Ond nid oedd ond yn brin wedi gwneud hynny, pan beidiodd y peiriant a chwyrnu, a safodd y bad.
"Beth ydi'r mater?" llefodd Dic yn ofnus.
"Wn i ddim," ebr Wil, a'i wyneb yn welw. "Ond mae rhywbeth y mater arno fo."
"Beth?"
"Wn i ddim," oedd ateb Wil, a sŵn digalondid yn ei lais. Yna ennyd o ddistawrwydd poenus i'r ddau. "Edrych beth ydi'r mater, Wil," erfyniodd Dic.
"Ond dydw i ddim yn deall y peiriant," cyfaddefodd Wil, a'i lais yn crynu gan y pryder newydd.
"Hwyrach mai'r petrol sydd wedi darfod," awgrymodd Dic yn y fan.
"Dyna chti wedi ei tharo hi ar ei phen," ebr Wil, a gwen lawen ar ei wyneb. "Dyna beth sydd, mae'n siwr. A minnau'n dechrau ofni fy mod wedi torri rhywbeth. O, mae'n dda gen i. Wn i ddim sut y baswn i'n gallu wynebu f'ewyrth tasa fo wedi torri.'
Wil druan! Yr oedd y dyfodol yn pwyso gymaint ar ei feddwl fel na sylweddolai'n llawn eu cyflwr ar y pryd. Ond nid felly Dic.
"Ond sut yr awn ni adref?" gofynnodd yn bryderus. Oes 'na chwaneg o betrol?
"Nag oes."
"A does 'ma ddim mast na rhwyf na dim?"
"Dim ateb am ennyd. "Adre y bydd f'ewyrth yn eu cadw," ebr Wil yn drist.
"Beth wnawn ni, dywed, mewn difri?" gofynnodd Dic, ac anobaith yn ei lais.
"O! hwyrach y daw llong neu rywbeth heibio cyn hir. Hei lwc," awgrymodd Wil.
"A hwyrach na ddaw'r un," meddai Dic ddigalon yn ôl.
"Does dim ond dal i obeithio'r gorau. Rydym ni'n bur agos i lwybr y llongau fydd yn mynd am Lerpwl, wyddost ti." Ac ychwanegodd gyda gwên, "Hwyrach mai trip i Lerpwl gawn ni. Un dda fasa hynny, 'nte, yn lle mynd i'r ysgol fory? Ond mae nhw'n siwr o fod wedi ffeindio'n colli ni a'r cwch erbyn hyn."
Ond ni fedr neb mo'n gweld ni mor bell â hyn o'r lan. A 'dwyr neb i ble i fynd i chwilio amdanom. Rydym wedi bod yn ddau ffwl, Wil," ebr Dic, ymron a wylo.
"Rwyt ti am edrych ar yr ochr dywyll i bopeth," grwgnachodd Wil. "Ond rydw i'n dal i gredu y cawn ni'n hachub cyn y nos."
Ond, er dywedyd hyn, gwyddai Wil nad oedd ganddo fawr o sail i obeithio am yr hyn a ddywedai.