Neidio i'r cynnwys

Mêt y Mona/Glanio

Oddi ar Wicidestun
Cyrraedd yr Ynys Mêt y Mona

gan Robert Lloyd Jones

Syndod Thomson


PENNOD XIII
GLANIO

GYDA'R wawr, dodwyd y cwch drosodd ar y môr, ac aeth y Capten ynghyd â Mr. Allen a Wil iddo. Sylwodd Dic fod y Capten a Mr. Allen wedi eu harfogi eu hunain, ond yr oedd Wil, druan, yn ddiamddiffyn. Ofnai Dic na welai mo'i gyfaill byth ond hynny. A hawdd y gellid darllen ar wyneb Wil ei fod yntau wedi ei feddiannu gan ofn. Gwelw oedd ei wedd, er y ceisiodd orfodi gwên i'w wyneb wrth chwifio'i law ar Bob a Dic, pan adawai'r cwch ochr y llong.

Safai'r mêt wrth yr ymyl i dderbyn gorchymynion y Capten beth i'w wneud yn ei absen. A oedd i wneud rhywbeth heblaw disgwyl am y cwch yn ôl?

'Rwy'n disgwyl y byddwn yn ôl yn gynnar yn y prynhawn gyda'r trysor, Mr. Brown," ebe'r Capten, a'r wên ar ei wyneb am unwaith yn siriol.

"A pha beth a wnaf, oni fyddwch, syr?" oedd cwestiwn y mêt.

"O! mi fyddwn, raid i chi ddim pryderu," ebr yntau'n ysgafn. "Ond, pe digwyddai i ni beidio a dod, i rywbeth annisgwyliadwy ddigwydd, er nad oes achos yn y byd i ofni hynny, ond tybiwch bod rhywbeth yn digwydd,—feallai y gleniwch chwi gyda Dic i edrych ein helynt."

"Reit, syr," ebr Mr. Brown yn ostyngedig, ac ymaith â'r bâd.

Gwyliwyd ef gan y rhai a adewsid ar y bwrdd yn mynd drwy'r bwlch yn y reef, ac i'r lagŵn. Yna aeth i fyny'r lagŵn, ac o'u golwg.

"Mae'n debyg y bwriadant lanio gyferbyn à chuddfan y trysor," ebr Bob wrth Mr. Brown, yr hwn a safai wrth ei ymyl, a gwên ddieithr ar ei wyneb.

"Feallai, wir," oedd ateb y mêt, ond mewn tôn a barodd i Bob edrych i'w wyneb,—yr oedd mor wahanol i'w ddull arferol o siarad.

"Wn i ddim beth yw'ch teimlad chwi, syr," ebr Bob drachefn, ar ôl ennyd o ddistawrwydd, "ond, o'm rhan fy hun, onibai eu bod wedi cymryd Wil gyda hwynt, buaswn yn gofyn i chwi godi'r angor, a mynd ymaith, a'u gadael yma i gymryd eu siawns."

"Ac, yn sicr i chwi, byddai'n hollol ofer i chwi ofyn i mi wneud dim o'r fath, Bob," oedd ateb y mêt.

"Beth?" gofynnodd Bob mewn syndod wrth ei eiriau. "Rydych yn parhau i gredu mai dyna eich dyletswydd, a'r Capten wedi ymddwyn yn y fath fodd ar hyd y siwrnai? Ni feiïd chwi gan unrhyw lys am anufuddhau i'w orchymyn."

"Nid dyna fy rheswm dros ddymuno aros yma, Bob," ebe'r mêt. "Ond, fe synnwch glywed hyn,—rwyf am groesawu'r Capten a Mr. Allen yn ôl i'r llong gyda'r trysor." Yr oedd syndod Bob yn cynhyddu fwyfwy gyda phob ateb o eiddo'r mêt.

Wedi ennyd arall o ddistawrwydd, ebe'r mêt, "Bob, gwn y gallaf eich trystio chwi a Dic. Ond beth am Cooke? A ydych yn meddwl y gallaf ei drystio ef?"

Ni wyddai Bob pam y gofynnai'r mêt gwestiwn mor ryfedd, a bu ennyd heb ateb. Yna meddai, "O! rydw i wedi ffeindio Cooke yn eitha dyn, a gair da ganddo i chwi. Credaf y gellwch ei drystio, er nad wyf yn deall pa fath dryst a olygwch."

"Nid wyf am drystio Thomson," ebe'r mêt yn bendant. "Rwy'n mynd i lawr i'r caban yn awr. Dowch yno ar f'ôl mewn tua phum munud,—na, rhoddwch ddeng munud i mi,—a dowch a Dic a Cooke gyda chwi."

Ol reit," ebr Bob, gan agor ei lygaid mewn syndod ar syndod wrth dderbyn gorchymyn mor ddieithr. Ac am y munudau nesaf, bu'n dyfalu beth, tybed, oedd y dirgelwch mawr oedd gan y mêt i'w ddatguddio iddo, oblegid daethai erbyn hyn i'r casgliad mai dyna oedd diben y mynd i'r caban.

Yna, wedi i'r deng munud, fel y barnai, fynd heibio, galwodd ar Cooke a Dic ato, ac i lawr â'r tri i'r caban. Os synnwyd Bob gan eiriau'r mêt wrtho ar y dec, beth am y syndod a gafodd pan arweiniodd y ddau arall i lawr i'r caban? Pan gyrhaeddodd droed y grisiau, ac edrych i mewn i'r brif ystafell, ni allai gredu ei lygaid. Oblegid ar y fainc wrth y bwrdd ac yn ei wynebu, eisteddai,—nid Mr. Brown y mêt, ond merch! Ar y funud, ni allai ef na'i gymdeithion ddeall ystyr y drychiolaeth. Rhwbiodd Bob ei lygaid, gan dybied bod rhyw anhwyl ar ei olygon. Ond, wedi gwneud hynny, yno'r oedd y weledigaeth o'i flaen o hyd. I ble'r aethai'r mêt, tybed? Trodd ei ben i edrych i'r ystafell arall. Ond, na! nid oedd neb yno. Trodd yn ôl i edrych unwaith yn rhagor ar y ferch, a gwelodd ar yr wyneb wên hawddgar Mr. Brown, yn ymledu fwyfwy, wrth weld syndod y dynion. Trodd Bob yn swil at ei ddau gyfaill, a chrafodd ei ben, wrth weld yr un olwg o ryfeddod yn eu hwynebau hwythau.

"Dowch i mewn yma, a chauwch y drws," ebe'r ferch, ac ufuddhasant yn swil ac yn syn. Yna ychwanegodd, "Rhaid i mi erfyn eich maddeuant am eich twyllo gyhyd." A thorrodd allan i chwerthin yn iach.

"Ond," ebr Bob, "rydw i'n methu'n glir a deall, syr,"

"Miss Alice Sharpe, os gwelwch yn dda." ebr hithau, gan wenu wrth ei gywiro, "mêt y 'Mona", ac arhosodd eiliad neu ddau cyn ychwanegu yn bwysleisiol, a syllu ym myw eu llygaid, "gwir berchennog y trysor y mae Capten Larkin a Mr. Allen wedi mynd i'w gyrchu o'r ynys."

Syndod ar ôl syndod! Sut y gellid credu pethau mor anhygoel? Ceisiodd Bob gymryd i mewn sylweddoli'r hyn a welai ac a glywai; ond yn araf iawn, yn arafach nag arfer, y gweithiai ei ymenydd heddiw, ac yn ei fyw ni allai ddeall pethau. "Mae'n debyg eu bod hwy'n gwybod mai—merch ydych?" gofynnodd yn ofnus ymhen ennyd, wedi ceisio cael ei feddwl yn glir.

"Gwybod? Nac ydynt, siwr. Ond fe gânt wybod pan ddônt yn ôl," ebr hithau gan ysgwyd ei phen yn awgrymiadol, "hynny yw, os ydych chwi, fel yr ydwyf yn disgwyl, yn barod i'm helpu."

"Parod? Ydym, siwr, on'd ydym, fechgyn?" ebr Bob yn aiddgar, gan droi at y ddau arall, a'r ddau'n gwneud arwydd cadarnhaol a'u pennau, "ond ein bod yn methu'n lân a deall pethau."

"Mae'n amhosibl i chwi ddeall," ebr hithau. "Mae'r peth mor ryfedd yn eich golwg, a'r datguddiad wedi dod mor sydyn. Ac y mae fy stori'n rhy faith i'w hadrodd wrthych yn awr. Ond rwy'n disgwyl y caf gyfle cyn bo hir i'w dweud wrthych yn llawn, ac yna fe ddeallwch y cyfan. A gymerwch chwi fi ar fy ngair heddiw?"

"Gwnawn, siwr," ebe'r tri am y cyntaf. "Da iawn," ebr hithau. "Roeddwn yn teimlo'n bur sicr y gwnaech. Ac, yn awr, rhaid i ni ddeall ein gilydd. Pan ddaw'r cwch yn ôl, rwyf am iddynt hwythau gael syndod mwyaf eu bywyd. Arhosaf yn y caban hyd nes deuant yn ôl, os cymerwch chwi ofal y dec. Nid wyf am i Thomson fy ngweld, rhag ofn iddo ddyrysu fy holl gynllun. Yna, wedi iddynt gyrraedd i'r dec, deuaf innau i fyny, ac fe gewch weld yr adwaenant fi yn y fan."

"O!" ebr Bob, gan droi at y lleill fel pe i ddweud, "Ydych chwi'n clywed, fechgyn?"

Mae'n bosibl y byddant, yn eu siom, am ddefnyddio'u drylliau, os na fyddant wedi synnu gormod i hynny," ebe'r ferch. "Ond, fe fyddaf fi'n barod i'w derbyn, gyda'ch help chwi. A wnewch chwi, Bob a Cooke, sefyll un o bobtu iddynt, a neidio amdanynt os dangosant duedd i ymladd?"

"Gwnawn, siwr, syr—Miss," ebr Bob, gan wrido at fôn ei wallt wrth ei gamgymeriad chwithig, a chwarddodd y ferch mor ysgafn galon a phe na bai dim yn ei phoeni. Ond, yr un funud, adfeddiannodd ei difrifwch.

"Reit. Dyna ni felly'n deall ein gilydd," ebr hi. "Nid oes gennym ond disgwyl am iddynt ddychwelyd. Fe fyddwch yn sicr o'ch tâl gennyf fi, sut bynnag y buasai arnoch gyda'r ddau ddihiryn."

Ceisiodd Bob ddweud nad oeddynt yn meddwl am dâl ganddi, ond amneidiodd arno i dewi. "Cawn setlo hynny wedi diweddo'r helynt," meddai. "Gwell i chwi yn awr fynd i fyny i'r dec."

Ac aeth y tri i fyny, wedi cael rhywbeth i gnoi eu cil arno am gryn amser i ddod.

Nodiadau

[golygu]