Neidio i'r cynnwys

Mêt y Mona/Stori Miss Sharpe

Oddi ar Wicidestun
Yr Ynys Arall Mêt y Mona

gan Robert Lloyd Jones

Awstralia a Chartref


PENNOD XXII
STORI MISS SHARPE

HAWDD deall yr awydd mawr oedd ym mhawb i gael clywed stori Miss Sharpe, a llawer o ddyfalu a fu'r noson honno a thrwy'r dydd dilynol ynghylch beth a ddywedai wrthynt. Teimlai pawb y byddai'r stori'n werth ei chlywed, oddiwrth yr hyn a wyddent eisoes am Miss Sharpe. Dywedasai ambell beth o'i gorffennol wrth Bob, ond nid oedd hynny namyn moddion i hogi ei archwaeth i gael yr holl stori. Felly, cafodd Miss Sharpe gynulleidfa astud pan ddaeth atynt yn y dog-watch, a'r llong yn mynd yn ddifyr dan lawn hwyliau am Awstralia.

Wedi iddi eistedd, ac i bawb gael ei sefydlu ei hun mewn ystum gysurus i wrando, dechreuodd Miss Sharpe :

"Enw fy nhad," meddai," oedd John Sharpe. Am flynyddoedd, bu'n byw ar yr ynys y buom ni yn y fath helyntion arni,—Mantu ydyw ei henw,—yn masnachu gyda'r ynyswyr yn y cylch. Roedd ganddo long fechan i fynd o ynys i ynys yn y parthau hynny. Yn Port Moresby, yn New Guinea, yr oeddwn i'n byw gyda fy mam, a deuai yntau yno ar ei dro i brynu nwyddau i fynd i'w gwerthu, neu'n hytrach eu cyfnewid, i'r ynysoedd o gwmpas. Ond ym Mantu y cadwai ei drysor.

"Wedi marw fy mam, pan oeddwn i yn ddeuddeg oed, cymerodd fy nhad fi ato i fyw i'r ynys, ac yn fuan, gan fy mod yn eneth iach, gref, dechreuodd fynd a mi gydag ef ar ei deithiau, ac un neu ddau o'r brodorion yn griw gyda ni. Dysgais bopeth am long ar y teithiau hynny. Perchid fy nhad a minnau'n fawr gan drigolion Mantu. Credent fod lwc iddynt o'n cael i fyw ar yr ynys. Roedd fy nhad yn gallu gwneud ffisig oedd yn gwella ryw anhwyl a gaent yn achlysurol, a dyna'r prif reswm eu bod mor barchus o honom. Deuent â pherlau i ni yn barhaus,—caent hwy o gregyn yn y môr, fel y gwyddoch. Ni wyddent hwy eu gwerth, ond gwyddem ni eu bod yn dra gwerthfawr.

"Wel, un tro, roeddym ar fordaith i Port Moresby, a chennym nifer da o berlau gyda ni i'w cyfnewid yno am nwyddau. Torrodd yn storm fawr arnom. Daliodd yr hen long yn dda drwy'r storm, ond golchwyd y ddau frodor oddi ar y bwrdd. Wedi i'r storm fynd heibio, gwelsom fod y llong yn gollwng dwfr, ac yn debyg o suddo'n fuan. Ni allem ni ei chadw ar yr wyneb. Felly, gan fod y môr yn weddol dawel, nid oedd dim i ni ei wneud ond mynd i'r cwch, a disgwyl cael ein codi gan rywun. Ychydig o ymborth a dŵr oedd gennym, ond yn ffodus cofiasom am y perlau. Yr ail ddiwrnod ar ôl i ni adael y llong, codwyd ni gan long oedd yn hwylio i Brydain. Ein bwriad oedd gofyn iddynt ein glanio, fel y gallem ddychwelyd i'n hynys. Ond fe gymerwyd fy nhad yn wael iawn ar fwrdd y llong, ac am rai dyddiau, ofnwyd y byddai farw yn y dwymyn. Am y rheswm hwnnw, ni ofynnais iddynt ein glanio. Os oeddwn i golli fy nhad, gwell oedd gennyf fynd i Brydain, gan fod gennyf berthnasau yno. Yn ffodus, adferwyd fy nhad yn raddol, a glaniwyd ni ym Mhrydain. Aethom i aros at ein teulu yn Lerpwl. Yno, hoff gyrchfan fy nhad oedd cymdogaeth y dociau. Ac yno, daeth i gydnabyddiaeth â Larkin ac Allen, a phob yn dipyn, adroddodd hanes ei drysor wrthynt, a dangosodd iddynt rai o'r perlau. Ceisiais ei rybuddio yn eu herbyn, ond yn ofer. Mynnai eu bod yn ddau gyfaill pur iddo, ac, yn anffodus, dywedodd ormod wrthynt,—yn wir, dywedodd y cyfan wrthynt am yr ynys, gan wneud map iddynt o'r ynys, a dangos ymhle'r oedd y bwthyn arni. Fel y dywedais, roeddwn i'n drwgdybio'r ddau o'r cychwyn, ond mynnai fy nhad ymddiried ynddynt. A chyn hir, cododd awydd cryf ynddo i fynd yn ôl i'r ynys gyda'r ddau ddyn. Ceisiais ei berswadio i beidio a mynd, trwy ddweud na ddaliai ei iechyd mo'r daith. Ond ni fynnai wrando arnaf. Cyn hir, deallais fod y tri wedi pwrcasu llong i hwylio i'r ynys i geisio'r trysor. Gydag arian fy nhad y pwrcaswyd y llong. Gall rhai o honoch ofyn, O ble y cafodd fy nhad arian i'w phrynu? Wel, cawsom arian da am y perlau, a chyda rhan o'r rhai hynny, y prynwyd y 'Mona'. Ac yna, newydd iddo brynu'r llong, a phan oeddynt ynghanol eu paratoadau i hwylio, bu fy nhad farw. Roeddwn yn benderfynol o wneud fy ngorau i rwystro'r ddau rhag cael ein trysor,—neu'n hytrach, fy nhrysor i bellach, wedi i'm tad farw.

"Yn ffodus i mi, roedd gennyf gyfaill yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar Larkin ac Allen, ac yn gwylio'u holl symudiadau. Trwyddo ef y deuthum i wybod pan oeddynt yn paratoi i hwylio. Ni wyddwn beth i'w wneud. Yn sydyn, daeth y syniad beiddgar i fy meddwl i hwylio gyda hwynt, o bai modd. Ymwisgais fel dyn, ac fel y gwelwch, nid oedd yn anodd i mi guddio fy rhyw, gan fod gennyf gyfansoddiad cadarn. Euthum i lawr at y dociau, a deuthum ar eu traws. Cynhigiais fy ngwasanaeth iddynt, ac, fel y gwyddoch, cymerwyd fi'n fêt ar y llong. A dyna'r hanes i chwi. Wrth gwrs, bu'n rhaid i mi fod yn ofalus iawn rhag fy mradychu fy hun iddynt, yn enwedig pan sonient am y trysor yn fy nghlyw. Ond anaml iawn y gwnaent hynny, a gwyddoch gystal â minnau fel y llwyddais i'w twyllo i'r diwedd.'

Tra bu Miss Sharpe yn adrodd yr hanes, yr oedd pob llygad wedi ei hoelio arni, a pha ryfedd? Nid yn unig yr oedd ei stori'n neilltuol o ddiddorol, ond yr oedd ei dull naturiol, byw, hithau o'i hadrodd yn sicrhau sylw pawb. Ac yr oedd tinc gwirionedd a gonestrwydd ymhob gair o'i stori.

"Three cheers i Miss Sharpe," gwaeddodd Cooke, gan chwifio'i freichiau. Safodd pawb ar eu traed, ac unodd pawb o galon i roi banllef o gymeradwyaeth i'r arwres.

"Diolch yn fawr i chwi," ebr hithau. "Rwyf wedi llwyddo yn fy neges, ond ni allaswn fod wedi gwneud hynny heb eich help chwi. Ac yn awr rwy'n disgwyl fy mod wedi bodloni pawb o honoch fod gennyf hawl i'r trysor. Neu a oes gan un o honoch rywbeth i'w ofyn i mi?"

Ond nid oedd gan neb ddim i'w ofyn iddi. Neidiodd Smith ati i ysgwyd llaw â hi, fel arwydd o'i fodlonrwydd, a dilynwyd ei esiampl gan y gweddill o'r dynion. A bu llawer o siarad am stori ramantus Miss Sharpe ar fwrdd y llong y noson honno a'r dyddiau dilynol, ac nid oedd neb ar y bwrdd yn synied yn uwch amdani na'r tri Chymro

Nodiadau

[golygu]