Mêt y Mona/Y Carcharorion
| ← Cael y Trysor | Mêt y Mona gan Robert Lloyd Jones |
Trwy'r Bwlch → |
PENNOD XVI
Y CARCHARORION
Ar ôl gadael y llong yn hwyr yn y prynhawn, aeth Bob a Miss Sharpe yn eu cwch trwy'r bwlch yn y reef i'r lagŵn. Deallai Bob y gwyddai'r ferch fwy nag ef am yr ynys, ac yr oedd yn fodlon gadael y trefniadau yn ei llaw hi, ac ufuddhau i'w chyfarwyddiadau. Tybiai Bob y glaniai ar yr ynys gyferbyn a'r bwlch, ond barnai Miss Sharpe mai rhwyfo ar hyd y lagŵn a fyddai orau iddynt, a chadw eu llygaid ar y lan er ceisio gweld y cwch modur. Aethant ymlaen fel hyn am ysbaid heb weled na chlywed dim. Disgwyliai Bob i Miss Sharpe ddweud rhywbeth wrtho am ei chysylltiad blaenorol â'r ynys. Ond ni chyfeiriodd at hynny. Mae'n bosibl bod ei meddwl wedi ei sefydlu gymaint ar y presennol fel nad oedd ynddo ar y pryd le i'r gorffennol. Pan ddaethant at y lanfa, ebr Miss Sharpe, "Dyma'r lle". Trowyd i mewn, a glaniwyd, ond ni welent y cwch modur, oedd, fel y cofir, wedi ei guddio yng nghysgod y llwyn ychydig lathenni ymhellach, ac yn anweledig o'r lanfa. Am funud neu ddau, yr oedd Miss Sharpe yn amlwg wedi ei thaflu i ddryswch, ac ni allai Bob awgrymu dim i'w helpu o'r dryswch.
"Rhaid i ni adael y cwch yma," ebr hi, ar ôl ystyried yn ddwys am beth amser, "a mynd i fyny at y tŷ. Cofiwch am gadw'r dryll yn barod." "A ydych chwi'n meddwl bod perygl?" gofynnodd Bob yn bryderus.
"Wn i ddim," oedd ei hateb. "Nid oes arnaf lawer o ofn y brodorion, ond nid ydwyf yn teimlo mor sicr o'n dau gyfaill os cânt gyfle arnom."
"Rydych yn meddwl mai'r ffordd hyn yr aethant?" gofynnodd Bob.
"Dyna fy marn i," ebr hithau, "ond mi gawn weld. Rhaid i ni fynd yn ddistaw, a bod yn ochelgar. Nawr, dim un gair, a chedwch eich llygaid yn agored."
Ac i fyny â hwynt mewn distawrwydd o gam i gam, gan droedio'n araf a gofalus. Yn fuan iawn, sylwodd Miss Sharpe ar arwyddion bod rhywun wedi troedio'r ffordd honno ychydig oriau o'u blaen, a dangosodd hwynt i Bob heb ddweud dim. Cymerent fwy o ofal na chynt wedi gweld hyn. Gwylient ar bob llaw, a daliai'r ddau eu drylliau'n barod i'w defnyddio ar y rhybudd lleiaf. Ond ni welsant ac ni chlywsant ddim, a daethant at y bwthyn. Yno, fel y gwyddom, cawsant brofion diamheuol o ymweliad y ddau ddyn gwyn. Aethant i mewn i'r bwthyn, ac arweiniodd Miss Sharpe ei chydymaith at y gist.
"Maent wedi mynd â'r trysor," llefodd y ferch, gan ddangos y gist, oedd bron yn wag, i Bob.
"Oedd yna lawer?" gofynnodd Bob.
"Gwerth miloedd lawer," ebr hithau. "Ond y cwestiwn ydyw, I ble'r aethant?"
A dyna gwestiwn na allai Bob mo'i ateb. Gwelai fod ei gydymaith bron a thorri i lawr gan ei siomedigaeth. Ond am funud y dangosodd y gwendid. Yr oedd yn feistres arni ei hunan drachefn, gyda'i meddwl cyflym a'i phenderfyniad di-ildio.
"Rhaid i ni fynd i lawr yn ôl at y cwch," meddai, "a chwilio am eu cwch hwy."
A dyma lle y gwnaeth y ferch ei chamgymeriad. Pe bai wedi mynd o amgylch y bwthyn, gwelsai brofion, yn yr ochr arall, o ymweliad yr ynyswyr, ac o'r hyn a ddigwyddasai,—digon i'w harwain i ddeall i ble yr aethent. Ond dyna,—nid aeth yno, a chollodd y cyfle.
Wedi cyrraedd yn ôl i'r lanfa, safodd y ddau am ennyd yn fud. Ni wyddent pa beth i'w wneud, nac ar ba law i droi.
"Mae nhw wedi mynd â'r trysor, ond i ble?" ebr Miss Sharpe cyn hir, i dorri ar y distawrwydd.
"Ai tybed y gallent ddychwelyd i'r llong heb i ni eu gweld?" gofynnodd Bob.
"Gallent, mae'n sicr," ebr hithau, "trwy fynd allan o'r lagŵn trwy fwlch arall yn y reef, draw acw, gwelwch," a phwyntiodd i'r cyfeiriad, "ond nid yw'n debyg y gwnaent hynny, gan y golygai daith o rai milltiroedd ar y môr agored yn hytrach nag ar ddyfroedd tawel y lagŵn. Methaf a gweled beth a enillent trwy hynny." Cyd-olygai Bob â hi.
"Ni allent ein pasio yn y lagŵn heb i ni eu gweld a allent?" awgrymodd Bob.
"Na allent, yn sicr," ebr hithau.
Yna daeth syniad newydd i feddwl Bob. Fflachiodd ei lygaid, ac meddai:
"Mi wn i. Oni allent, yn lle mynd yn ôl i'n cyfarfod, fynd ymlaen yn y lagŵn, ac amgylchu'r ynys, ac yn ôl i'r llong trwy'r un bwlch ag y daethom allan?"
Gwenodd Miss Sharpe. "Na," meddai, "prin y credaf y gwnaent hynny. Y mae dros ugain milltir o daith i amgylchu'r ynys, a byddai rhai o'r brodorion yn sicr o'u gweld, ac nid wyf yn credu y dymunent hynny."
Gwelodd Bob nad oedd sail i'w ddyfaliad. "Felly," meddai, "mae'n rhaid mai trwy fwlch arall yr aethant allan, am ryw reswm neu'i gilydd,—neu—
"Neu beth?" gofynnodd y ferch yn wyllt, gan syllu yn ei wyneb.
Ond ofnai Bob roi ffurf mewn geiriau i'r syniad newydd a ddaethai i'w feddwl. Beth, tybed, a fyddai ei effaith ar Miss Sharpe?
Ond yr oedd hi'n disgwyl wrtho. "Dowch," meddai, "neu beth?"
"Ai tybed eu bod wedi cynllunio i ddianc ryw ffordd arall gyda'r trysor yn lle dychwelyd atom?" gofynnodd yn ofnus, gan wylio am effaith ei eiriau.
"Nid wyf yn amau na hoffent wneud hynny," ebr hithau yn chwerw ei thôn, "ond i ble y gallent fynd?"
"Fe wyddoch chwi hynny'n well na mi," oedd ateb Bob. Nid oedd hi wedi cyffroi gymaint wrth ei ateb ag yr ofnai.
"Gallent, mae'n sicr," ebr hithau, "fynd i ynys arall, ond faint gwell fyddent o hynny? Ac y mae Awstralia'n rhy bell iddynt fentro hwylio yno mewn cwch mor fychan."
Ni wyddai Bob beth i'w ateb ymhellach. Roedd yn ormod o broblem iddo. Roedd hithau'r ferch yn yr un dryswch yn hollol. Bu distawrwydd am ennyd. Yna meddai Miss Sharpe, "Mae arnaf ofn mai wedi chwarae tric â ni y maent, ac wedi mynd i rywle arall gyda'r trysor, er mwyn iddynt gael y cyfan iddynt eu hunain."
"Beth am Wil tybed?" gofynnodd Bob, mewn mwy o bryder am ei gyfaill ieuanc o Gymro nag am y trysor.
"Fe edrychant ar ôl Wil tra y bydd arnynt angen ei wasanaeth, ond, wedyn, druan o hono," oedd ei hateb chwerw. A thristhaodd Bob wrth ei geiriau.
Ond ymhen ennyd cofiodd am un peth arall, "Beth am y waedd a glywsom o fwrdd y llong?" gofynnodd.
"Nid wyf yn sicr beth a glywsoch," ebr hithau, "ac mae'n bosibl nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y waedd a'r bobl yr ydym ni'n eu ceisio. Mae'n fwy na thebyg gennyf nad oedd."
Ond cyn gynted ag y dywedodd hyn, clywyd bloeddio mawr a churo tympanau oddidraw ar yr ynys.
Neidiodd Miss Sharpe i fyny." "Clywch," meddai'n wyllt.
Prin yr oedd angen gofyn i Bob wrando: ni allai lai, gan mor ddieithr i'w glustiau oedd y sŵn.
"Nid ydynt ymhell oddiyma," ebr Bob yn gyffrous. "Beth all fod y mater?"
"Rhaid i ni fynd i fyny atynt," ebe'r eneth yn wyllt. "Dowch," gan gydio ynddo.
"Ond a ydyw'n ddiogel i ni?" gofynnodd Bob, gan geisio'i hatal. "Beth yw ystyr y bloeddio? Ni ddymunwn i ddim niwed ddigwydd i chwi."
"Dowch," ebr hithau a'i llygaid yn fflachio gan gyffro. "Mi wn i beth yw ystyr y bloeddio. Mae ganddynt garcharorion. Wedi eu dal gan y brodorion y mae'r lladron. Dowch. Rhaid i ni frysio, neu fe fyddwn yn rhy hwyr."
Roedd hi'n cychwyn i fyny wrth ddweud hyn, a phrysurodd Bob i'w dilyn, gan y gwelai ei bod yn benderfynol. I fyny â hwy i gyfeiriad y sŵn, gan dorri llwybr iddynt eu hunain drwy'r drysni. A chyn hir, daethant i'r gwastatir, lle'r oedd y pentref brodorol. Safasant am ennyd yng nghysgod coed ar ymyl y lle clir i edrych beth oedd yn mynd ymlaen, heb fod eu hunain yn weledig i neb o'r brodorion. Golygfa ryfedd a dieithr iawn, i Bob yn enwedig, a welent,—tyrfa fawr o'r ynyswyr yn ymweu trwy ei gilydd, a'r cyffro mwyaf ymhobman.
"Gwell i ni beidio a mynd ymhellach," ebr Bob pan welodd Miss Sharpe yn paratoi i fynd ymlaen.
"Ond mae'n rhaid i ni fynd," atebodd hithau yn gyffrous. "Mae nhw'n mynd i ladd rhywun. Dowch."
Cydiodd Bob ynddi i geisio ei hatal.
"Ond, ymbwyllwch am funud," meddai'n ddifrif ei dôn. "Nid oes obaith i ni allu eu hachub, ac fe'n lleddir ninnau, a pha faint gwell fydd neb o hynny? Gwell i ni fynd yn ôl."
"Na wnânt mo'n lladd. Dowch ymlaen," meddai hithau'n wylltach nag erioed, gan ysgwyd ei afael oddiarni, a rhedeg ymlaen. Dilynodd Bob ar ei hôl, gan ei bod yn benderfynol o fynd.
Aethant ymlaen am rai llathenni heb i neb eu gweld, yr oedd pawb wedi ymgolli yn yr hyn oedd yn mynd ymlaen yn y gwersyll,—ac yna, pan oeddynt yn ymyl cwr y dorf, gwelwyd hwy gan rai o'r ynyswyr, a rhuthrwyd i'w dal. Ni wnaeth Bob na'r ferch unrhyw ymgais i ddianc. Ond synnodd Bob weld ei gydymaith yn troi at y brodorion oedd yn amgau amdani, ac yn dechrau siarad a hwynt. Ni wyddai ef wrth gwrs, beth a ddywedai, ond gwelodd yn fuan iawn eu bod hwy yn ei deall, oblegid gwrandawent yn astud arni, gan syllu i'w hwyneb. Ac, yna, ymdaenodd gwên dros eu hwynebau, a chan floeddio 'Alsha' neu rywbeth tebyg i glust Bob, arweiniasant hi ymlaen i ganol y dyrfa, a Bob yn ei dilyn fel pe bai mewn breuddwyd, a gosgordd o'r tu ôl iddo. Yr oedd yno floeddio byddarol,—dwy floedd wahanol,—un adran yn bloeddio fel y clywsai Bob hwynt ar y cyntaf, a'r adran arall, wannach ar y cyntaf, ond yn cryfhau fwyfwy, fel y symudent ymlaen, nes o'r diwedd iddi fynd yn drech na'r gyntaf, ac i'r floedd newydd 'Alsha' gael ei chymryd i fyny gan bawb. Ac nid bloeddio yn unig a wnaent, ond canu a dawnsio mewn hwyl. Arweiniwyd, neu feallai y byddai'n fwy cywir dywedyd, gwthiwyd, y ddau trwy ganol y dyrfa fawr, a gwelodd Bob fod yna yn y pen draw fath o lwyfan, a hen ŵr yn eistedd ar fath o deyrn—gadair, ac eraill yn sefyll o'r tu ôl iddo. Roedd y sŵn a'r cynwrf wedi peri i Bob anghofio'r neges a'u dygodd i'r lle; ac, o ganlyniad, mawr oedd ei syndod pan welodd eu Capten a Mr. Allen yn sefyll wrth ochr y llwyfan, yn edrych yn ddigon wyneb-drist. Ond gwelsant hwythau y ddau newydd-ddyfodiad, a daeth syndod i'w hwynebau.
Ac nid syndod yn unig, ond rhywbeth arall, fel pe na baent yn falch o'u gweld. Ond sylwodd Bob mai ar Miss Sharpe, yn hytrach nag arno ef, yr oedd llygaid y ddau wedi eu hoelio. Roedd braw, syndod, ac atgasedd yn gymysg ar eu hwynebau, a hawdd y gellid gweld yr adwaenent hi. Ymwthiodd Bob at ei hymyl, a galwodd ei sylw at y ddau garcharor. Heb sylwi arnynt yr oedd hi hyd hynny, ond pan y'u gwelodd, daeth gwên fuddugoliaethus i'w hwyneb, a gostyngodd y ddau garcharor eu pennau. Ond, er edrych i bob man, ni allai Bob weld golwg ar Wil yn y lle. I ble yr aethai? Sut na buasai yntau gyda'r ddau garcharor? Ai tybed? Na, yr oedd y syniad yn rhy ofnadwy i roi lle iddo am eiliad.
Galwyd am osteg, ac ar ôl peth amser, llwyddwyd i'w gael. Yna gwelodd Bob fod y pennaeth wedi plygu dros ymyl y llwyfan i siarad gyda Miss Sharpe, ac yna codwyd hi i'r llwyfan. Achosodd hyn i'r bloeddio, a'r dawnsio, a'r curo tympanau ail-ddechrau. Beth bynnag oedd yr eglurhad, ac hyd yn hyn, tywyll oedd popeth i Bob, yr oedd yn hawdd iddo weld bod y brodorion yn falch iawn o weld Miss Sharpe, ac yr edrychent arni fel pe bai wedi codi oddiwrth y meirw. Roedd y dyrfa fel pe bai wedi gwallgofi. Ac yna, er mawr syndod iddo, codwyd Bob yntau i'r llwyfan, a gosodwyd ef i eistedd wrth ochr Miss Sharpe. Oddiyno, edrychodd i bob cyfeiriad i chwilio am Wil. Methai a deall sut na buasai gyda'r ddau garcharor. Bu am gryn amser heb allu ei weld, ond o'r diwedd fe'i canfu yn sefyll wrth ddrws un o'r bythynnod, a dau frodor gydag ef yno. Yr oedd golwg syn ar ei wyneb yntau wrth weld Bob a merch ddieithr iddo yn cael eu codi i'r llwyfan. Gwnaeth Bob ei ddarganfyddiad yn hysbys i Miss Sharpe, ac, wedi iddi sibrwd ychydig eiriau wrth y pennaeth, rhoddwyd gorchymyn i godi Wil hefyd i'r llwyfan. Dawnsiai'r dyrfa o flaen y llwyfan, gan wneud pob math o ystumiau a chreu twrf dirfawr. Ni allai Wil, mwy na Bob, ddeall yr amgylchiadau rhyfedd. Wedi ei gael at ei ochr, ceisiodd Bob egluro iddo y rhyfeddodau ynglŷn a'r mêt. Ryw hanner eu deall a wnaeth Wil ar y pryd, ond ni allai ddeall o gwbl sut y tynnwyd ef o garchar mewn amrantiad a'i osod i eistedd mewn lle o anrhydedd.
Ac, yna, ynghanol y rhialtwch, codwyd gwaedd newydd. A'r peth nesaf a welodd Bob a Wil oedd nifer mawr o'r brodorion yn rhuthro o'r lle i bob cyfeiriad.
"Beth all fod y mater?" gofynnodd Bob yn syn i Miss Sharpe.
"Y ddau garcharor sydd wedi dianc," ebr hithau. "Ond fe'u delir."
"A ydych yn meddwl y lleddir hwynt?" gofynnodd Bob yn bryderus.
"Rwyf wedi bod yn eiriol fy ngorau gyda Shimu,—dyna enw'r pennaeth, wyddoch chi,—ar eu rhan, ond, hyd yn hyn, y mae'n bendant am eu lladd," ebr hithau. "Ni fynnent er dim i neb gyffwrdd yn nhrysor fy nhad yn y bwthyn. Ond, heblaw hynny, bu un o'r ddau, Capten Larkin, mae'n debyg, yn ddigon ynfyd i saethu at un o'r brodorion, a'i anafu. Felly ofnaf mai gobaith gwan sydd i'w hachub."
"Gobeithio y llwyddant i ddianc ynteu," ebr Bob.
"Ni fynnwn iddynt gael eu lladd er cased gennyf ydynt."
Erbyn hyn, clywid sŵn y brodorion ymbob cyfeiriad yn chwilio am y ffoaduriaid, ac, yn sydyn, torrodd yn storm enbyd ar yr ynys. Roedd yr awyr wedi duo eisoes ers meityn, ond bod pawb yn rhy brysur gyda'r rhialtwch i sylwi ar hynny. Fflachiodd y mellt, a rhuodd y taranau, a daeth gwynt nerthol, nes siglo'r ynys i'w sylfeini. Ac yna, disgynnodd y glaw yn genlli, a chyda hynny, dychwelodd yr ymlidwyr i'r gwersyll, a phawb i gysgod y bythynnod. I ble, tybed, yr aethai'r Capten a Mr. Allen?