Neidio i'r cynnwys

Mêt y Mona/Y Llong Ddieithr

Oddi ar Wicidestun
Pryder Mêt y Mona

gan Robert Lloyd Jones

Ar Fwrdd y Mona


PENNOD III
Y LLONG DDIEITHR

ROEDD yr haul wedi codi'n bur uchel yn y ffurfafen cyn i'r bechgyn yn y cwch ddeffro o'u cwsg trwm. Wil oedd y cyntaf i ymysgwyd, ac nid ar unwaith y cofiodd ymhle'r oedd. Wedi iddo ddod ato'i hun, a sylwi ar Ddic yn cysgu mor dawel, aeth ato i'w ysgwyd.

"Gadwch lonydd i mi," ebr Dic yn gysglyd; a chwarddodd Wil yn uchel wrth feddwl bod Dic yn ei weld ei hun gartref, ac yn tybied mai ei fam a geisiai ei ddeffro i'w gychwyn i'r ysgol.

"Wyt ti ddim am ddeffro heddiw, Dic?" meddai Wil, ac agorodd Dic ddau lygad cysglyd. Yna ymestynodd, ac edrychodd o'i ddeutu, a chofiodd ymhle'r oeddynt. Daeth y cyfan yn ôl iddo.

"Dydi brecwast ddim yn barod," ebr Wil yn gellweirus. Ac ochneidiodd Dic.

Erbyn iddynt edrych o amgylch, ac astudio eu safle, gwelsant, er eu braw, fod y cwch wedi ei gario allan i'r môr yn ystod y nos. Gwelent yr oleulong gryn lawer ymhellach oddiwrthynt, rhyngddynt a'u cartrefi,—rhy bell o lawer i neb o'r dynion ar ei bwrdd allu eu gweld hwy yn y cwch bychan. Ond ni allent weled unrhyw fath ar lestr arall ar wyneb y môr llydan. Yr oedd anobaith bron a'u llethu.

"Wel, Dic annwyl, rhaid i ni wneud rhywbeth," ebr Wil. "Wnaiff hi mo'r tro fel hyn."

"Ond beth wnawn ni, Wil annwyl?" gofynnodd Dic, a'i lygaid yn llenwi.

Trodd Wil ei ben draw, rhag edrych ar ei gyfaill yn wylo, oblegid yr oedd ar fin wylo ei hun. Digwyddodd ei lygaid syrthio ar gwpwrdd bychan yn y pen blaen. Cofiodd yr arferai ei ewythr gadw rhai pethau yn y fan honno. Brysiodd ato, agorodd ef, ac, yn sydyn, clywodd Dic ef yn gweiddi, "Hwre". "Edrych, Dic," meddai'n llawen, gan ddal darn o bren i fyny. Darn o bren gwastad ydoedd, tua dwy droedfedd o hyd, a thair modfedd o led ar ei hyd. Ni welai Dic unrhyw achos i ymorfoleddu yn yr hyn a ddangosid iddo.

"I beth mae hwn'na'n dda?" gofynnodd.

"Wyt ti ddim yn gweld?" gofynnodd Wil yn ôl, a'i wyneb yn serennu gan obaith newydd. "Mi ellwn rwyfo gyda hwn at y lightship. Fel hyn, weli," gan fynd i flaen y cwch, a gwthio blaen y pren drwy'r dwfr,—ar un ochr yn gyntaf ddwy neu dair o weithiau, ac yna yr un modd yr ochr arall.

"Mi fyddwn yn hir iawn yn symud fel'na," ebr Dic yn ddigalon.

Ond mae hynny'n well na pheidio a symud o gwbl. Tyrd, Dic, 'r hen ddyn; paid a thorri dy galon: mi rwyfwn ni bob yn ail ochr," ebr Wil, a dechrau gyda'r gair. Dechreuwyd ar y gwaith caled,—Dic yn bur amheus ar y cychwyn am lwyddiant y cynllun, ond a'i hyder yn cryfhau wrth weld bod y cwch yn ateb ryw gymaint i'w hymdrechion. Gwelent bod yn symud ryw gymaint, a daliasant ati am gryn amser yn y gobaith o gyrraedd diogelwch a chael. ymborth. A bron na ellid dywedyd bod yr ymborth yn bwysicach yn eu golwg na'r diogelwch,—bechgyn iach oeddynt ar eu cythlwng.

"Mi gymrwn ni bum munud," ebr Wil toc, a'r chwys yn rhedeg i lawr ei ruddiau. A chodasant eu pennau, gan godi'r pren o'r dwfr, a pharatoi i eistedd i orffwys, wedi bod wrthi ar eu deulin gyhyd. Ond, wrth droi o honynt i eistedd, gwelsant rywbeth i dynnu eu sylw, ac i beri iddynt anghofio'r rhwyfo a'r lightship, ac hyd yn oed eu newyn. Beth ydoedd? Wel, llong,—yn eu hymyl, o fewn llai na milltir iddynt, mor agos ag y gallent farnu, ac yn dod tuagatynt. Gallasent, yn ddiau, fod wedi ei gweld er ys meityn, onibai eu bod a'u holl sylw ar y rhwyfo. Anodd gwybod, pe bai bwys am hynny, pa un o'r bechgyn a'i gwelodd gyntaf. Mae'n debyg i'r ddau ei gweld ar yr un amrantiad, ond Wil a roes fynegiad gyntaf i'w deimladau.

"Hwre, dyma ni wedi'n hachub, Dic annwyl," gwaeddodd, gan sefyll ar ei draed, a chwifio'i freichiau, wedi anghofio'n llwyr ei chwys a'i ludded.

"O, diolch," llefodd Dic, a thorri i wylo'n hidl.

Safodd y ddau ar eu traed yn y cwch, a'u llygaid yn hoeliedig ar y llestr. Ac, erbyn iddynt graffu ac ystyried, gwelent fod rhywbeth yn anghyffredin yn ymddangosiad y llong,—rhywbeth hollol ddieithr iddynt hwy. Yr oedd yn berffaith dawel ar y pryd,—dim chwythiad o awel, a'r môr yn dawel a llonydd o'u hamgylch. Gwelent fod gan y llong dri mast, ac nad oedd hwyl o gwbl wedi ei lledu. Ac eto fe symudai yn weddol gyflym tuagatynt. Yr oedd erbyn hyn gryn lawer yn nes atynt nag a fuasai pan welsent hi gyntaf.

"Dyna i ti beth rhyfedd, Dic," ebr Wil. "Llong yn symud a dim un hwyl arni hi."

"Hwyrach mai stemar ydi hi," ebr Dic.

Ond 'does ganddi hi ddim corn," ebr Wil, "a 'does 'cw ddim mwg. A 'does 'na ddim gwynt o gwbl. Beth sydd yn ei gyrru, dywed?"

Ni allai'r ddau fachgen ddeall beth oedd yn peri i'r llong symud.

Yn fuan, yr oedd y llong bron gyferbyn a hwynt, ac fel pe bai am fynd heibio iddynt, o fewn llai na chwarter milltir iddynt, heb i neb ar ei bwrdd eu gweled.

"O'r annwyl," ebr Wil, "mae nhw am ein pasio ni. Dydyn nhw ddim wedi'n gweld ni. Gwaedda, Dic annwyl, am dy fywyd." "Hei! Hei!" A dechreuodd y ddau floeddio a'u holl nerth, a chwifio'u capiau, i geisio tynnu sylw rhywun ar fwrdd y llong. Am rai munudau, bloeddiasant, heb weld arwydd bod neb ar fwrdd y llong wedi eu gweld na'u clywed. Ac roedd eu calonnau'n dechrau curo'n gyflym gan ofn nad achubid mohonynt, a'r llong mor agos atynt, pan welsant y llong yn arafu, a chwch yn cael ei ollwng drosodd o honi.

"O! diolch," ebr Wil. "Wyddost ti beth, mi feddyliais i eu bod nhw am ein pasio ni. Do, wir, fachgen. Ond mae hi'n ol reit rwan."

"I ble mae hi'n mynd, tybed?" gofynnodd Dic. "Nid i Drelan, mae'n debyg."

"Nage, siwr," ebr Wil, "neu mi fasa wedi troi i mewn cyn hyn."

"Dydi hi ddim yn edrych yn debyg i long yn cario cerrig chwaith," ebr Dic. "I ble mae hi'n mynd, tybed?"

"Waeth i ti i ble," oedd ateb Wil. "Mi gawn drip reit ddifyr i ti. Hwyrach y rho'n nhw ni i lawr yn Aberdaron, neu ymhellach na hynny. Lle sydd yna wedyn ar lan y môr, dywed?"

Nid oedd Wil yn gryf mewn daearyddiaeth, a rhaid oedd iddo'n aml ddibynnu ar Dic yn yr ysgol, pan fyddai holi ar y pwnc hwnnw o athrawiaeth.

"Aberdyfi ac Aberystwyth," ebr Dic.

'Gora'n y byd po bellaf, on'te, Dic? Mi fydd 'na hwyl yn Nhrelan pan awn ni adre."

Roedd Dic wedi bod yn gwylio'r llong ddieithr yn ystyriol. Ac, yn awr, gofynnodd i Wil, "Wyddost ti beth sy'n gyrru'r llong 'na, Wil?"

"Na wn i, siwr," oedd yr ateb. "A wyddost titha ddim chwaith."

"Dydw i ddim yn siwr," oedd yr ateb. "Ond meddwl rydw i mai petrol sydd ganddyn' nhw,—a hwylia pan fydd gwynt teg, wyddost ti. Rydw i wedi clywed bod 'na longau felly."

"Rydw inna hefyd wedi clywed. Hwyrach y cawn ni betrol ganddyn' nhw i fynd adre felly,—er y basa'n well gen i gael trip."

Yr oedd y cwch o'r llong yn awr yn eu hymyl, a gwelent fod dau ddyn ynddo. Gofynnwyd i'r bechgyn (yn Saesneg) beth oedd y mater arnynt. Ceisiodd Wil egluro orau y gallai,—yr oedd yn well Sais na Dic, am ei fod wedi clywed ei ewythr Huw yn siarad Saesneg, ac wedi ymarfer mwy na Dic gyda morwyr a ddeuai gyda llongau i gei Trelan i lwytho. Yna taflwyd rhaff iddynt, a thynnwyd hwynt at ochr y llong. Codwyd hwynt i'r bwrdd; ac, wedi eu holi ymhellach am eu helynt, a deall eu bod heb fwyd ers oriau, arweiniwyd hwynt i'r fforcasl (ystafell y criw), a rhoddwyd bwyd iddynt. Wedi bod o honynt gyhyd heb ddim, ymborth oedd eu hangen pennaf, a gwnaethant gyfiawnder â'r arlwy a gawsant.

Wedi iddynt gael eu digoni, daeth gair bod ar y Capten eisiau eu gweld yn y caban. Gwelwodd y ddau pan glywsant hyn, ond nid oedd cyfle iddynt ddweud gair wrth ei gilydd. Felly, aethant dan arweiniad un o'r morwyr i gyfeiriad y caban. Wedi iddynt gyrraedd i'r ystafell honno, teimlent yn bur swil ac ofnus yng ngwyddfod pennaeth y llestr. Dyn tal ydoedd, gyda llygaid treiddgar a gên benderfynol. Sylwodd y bechgyn fod rhywbeth tebyg i wên yn chwarae'n barhaus o gwmpas conglau ei enau, ond nid gwên naturiol ydoedd, fel y barnent. Er mor ofnus y teimlent pan gawsant orchymyn i fynd i'w wyddfod, teimlent yn fwy annifyr o lawer wedi ei weld. Gwyddent ar ei wyneb nad oedd dim trugaredd i'w ddisgwyl ganddo. Eisteddai wrth y bwrdd yn y caban, ac wrth ei ochr, yr oedd dyn arall tua chanol oed,—dyn byr, ac heb fod yn edrych yn debyg i forwr, gyda gwallt wedi dechrau britho, a mwstas wedi ei dorri'n fyr.

Gorchymynodd y Capten iddynt eistedd, ac yna dechreuodd eu holi, ac ysgrifennu eu hatebion ar bapur. Holodd hwynt am eu henwau a'u cartrefleoedd, pwy oedd biau'r cwch, a sut y daethent i fod ynddo mor bell o dir. Wil a atebai gan mwyaf, a Dic yn cadarnhau pan deimlai y gelwid arno wneud hynny. Wedi cael yr hanes yn llawn ganddynt, gofynnodd y Capten iddynt, "Ac mae'n debyg eich bod yn disgwyl i mi eich glanio?"

"Os gwelwch chi'n dda, syr," ebr Wil yn grynedig. Ychydig iawn o awydd y trip yr edrychasai Wil ymlaen ato oedd arno wedi gweld sut ddyn oedd y Capten.

"Neu roi digon o betrol i ni fynd i'r lan," anturiodd Dic ychwanegu, ar sail ei ddyfaliad mai olew a ddefnyddid i yrru'r llestr.

"Mi anfonwn ni arian i chi am y petrol wedi mynd i'r lan, syr," ychwanegodd Wil, ac wrth weld y wên anghrediniol ar wyneb y Capten, meddai, "Gwnawn, wir, syr." Ond y wên annarllenadwy oedd unig ateb y Capten iddynt ar y pryd. Trodd at y gŵr wrth ei ochr, ac, am rai munudau, bu siarad rhyngddynt, rhy ddistaw i'r bechgyn allu ei ddeall. Yna trodd y Capten atynt, a dywedodd, "Rydych yn edrych yn ddau fachgen cryf ac iach. Oni fuasech yn hoffi bod yn forwyr a dod gyda ni?"

Edrychodd y ddau fachgen ar ei gilydd, mewn syndod a dryswch, ac yna atebodd Wil:

"Mi fasa'n well gennym ni gael mynd adre, os gwelwch chi'n dda, syr."

"Ond wn i ddim sut yr ewch chi adref," meddai'r Capten gyda'i wên sarhaus yn ymledu, "os na nofiwch chi i'r lan. Dydw i ddim yn mynd i wastraffu amser i droi i mewn i'ch glanio."

Mi awn ni yn y cwch, syr," ebr Wil, "os cawn ni dipyn o betrol gennych."

Ni fedra i ddim arbed dim," ebr yntau'n swta. "A dyna ddigon ar y mater. Rhaid i chi ddod gyda ni. Mi gewch gyflog fel y dynion eraill, ond i chwi fod yn fechgyn da, a gwneud eich gwaith."

Syfrdanwyd y bechgyn gan y newydd hwn. Pwniodd Dic ei gyfaill i geisio ganddo wneud un—cynnig arall, ond gwyddai Wil mai ofer a fyddai hynny.

"Dyna ddigon ar y mater ynteu," ebr y Capten, "ac yn awr, ewch i fyny i'r dec, ac fe ddof i fyny ar eich ôl yn y munud i drefnu gwaith i chi."

Trodd y ddau fachgen i adael y caban. Roedd geiriau y Capten wedi cael y fath effaith arnynt, fel na allent ddywedyd gair am rai munudau. Roeddynt wedi meddwl yn sicr y glennid hwy mewn rhyw borthladd heb fod ymhell iawn o'u cartrefi. Ond er cased oedd ganddynt erbyn hyn y syniad o fordaith yn y llong, nid dyna oedd prif achos eu tristwch, ond natur afrywiog y Capten. Roedd arnynt ofn y Capten,—roeddynt wedi gweld digon arno eisoes i wybod mai dyn ydoedd na thalai iddynt ei groesi. Felly nid rhyfedd iddynt fynd yn ôl i'r dec yn bendrist.

"Wel, Dic annwyl," ebr Wil, wedi bod o honynt am rai munudau ar y dec, a chael cyfle i ddweud gair lle na chlywid hwynt, "dyma i ti dro. Beth wnawn ni, dywed?"

"Hwyrach nad ydi'r llong ddim yn mynd ymhell," ebr Dic, yn fwy hyderus nag y teimlai, "Pam na basat ti'n gofyn iddo fo?"

"Pam na basat ti'n gofyn?" gofynnodd Wil yn ôl. "Roedd arnat ti ofn dweud dim bron wrtho fo. Hidia befo, 'r hen ddyn. Mae hyn yn well na llwgu yn y cwch."

"Wn i ddim, wir," ebr Dic. "Dydw i ddim yn leicio golwg y Capten 'na."

"Dydw inna ddim chwaith," ebr Wil, "ond hwyrach na fydd o ddim mor ddrwg wedi i ni ddwad i'w nabod o'n well."

Ysgydwodd Dic ei ben. "O, hen gena cas ydi o, yn siwr i ti," meddai. "Ond, os i Gaerdydd, neu rywle felly yn o agos, y mae'r llong yn mynd, dydi o ddim llawer o wahaniaeth gen i. Fydd hynny ddim yn hir."

"Edrych, Dic," ebr Wil, gan bwyntio a'i fys. Trodd Dic i edrych fel y gofynnid iddo, ac, er ei syndod, gwelai fod y llong wedi mynd ymhell o olwg eu cartrefi, a'i bod ynghanol y môr, ymhell iawn o'r glannau. Gwelent amlinelliad gwan o dir draw ymhell ar y gorwel. Roedd rhai o'r hwyliau wedi eu lledu, ac yn cael eu llenwi gan awel ysgafn. Gwelsant hefyd, er eu syndod, fod y 'Wennol' wedi ei godi i'r dec, ac yn gorwedd yn ymyl dau gwch y llong. Deuai'r dagrau i'w llygaid ar eu gwaethaf wrth syllu ar y cwch.

"Biti na fasa'n bosib i ni ei gael o i'r dŵr, a mynd adre," ebr Wil. Roedd ef erbyn hyn yn llawn mwy digalon na Dic.

A hwy'n sefyll ar y dec, ac yn syllu'n hiraethlon ar eu cwch, daeth y Capten atynt o'r caban.

"Dowch," meddai'n awdurdodol wrthynt, "i mi gael dangos eich gwaith i chi." Arweiniodd hwynt ymlaen at y galley,—gweithdy'r cŵc ar y llong. Galwodd ar y cŵc ato.

"Thomson," meddai, "dyma i chwi fachgen i'ch helpu, ac i dendio arnom ni yn y caban." A chyflwynodd Wil i ofal y cŵc.

Yna aeth â Dic ymlaen i ben blaen y llong. Yno yr oedd y mêt, a rhai o'r dynion. "Mr. Brown," meddai wrth y mêt, "dyma i chwi fachgen, i chwi wneud morwr o hono. Gwell i chwi ei roi yn eich watch chi. A chwiliwch am ddillad iddo ef a'r llall gael newid."

"Reit, syr," meddai'r mêt.

Trodd y Capten ar ei sawdl, ac aeth yn ôl i'r caban. Dyn ieuanc lluniaidd, a chanddo wynepryd hardd a dymunol oedd y mêt, a theimlodd Dic y gallai ei hoffi ef, ac mai dyn caredig ydoedd,—tra gwahanol i'r Capten.

Nodiadau

[golygu]