Neidio i'r cynnwys

Mêt y Mona (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Mêt y Mona (testun cyfansawdd)

gan Robert Lloyd Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Mêt y Mona
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Robert Lloyd Jones
ar Wicipedia

MET Y MONA


STORI ANTUR
I BLANT


GAN
R. LLOYD JONES
AWDUR "YNYS Y TRYSOR," "CAPTEN," ETC.



LLUNDAIN:
GWASG GYMRAEG FOYLE
121 CHARING CROSS ROAD
W.C.2
1929



GWNAETHPWYD AC ARGRAFFWYD YM MHRYDAIN FAWR GAN PURNELL A'I FEIBION
PAULTON (GWLAD-YR-HAF) A LLUNDAIN



CYNNWYS


MÊT Y MONA

PENNOD I
GLAN Y MÔR

NAWN dydd Iau, yr ugeinfed o Orffennaf ydoedd yn y flwyddyn 192-,—nawn tesog, hafaidd, a'r plant yn Ysgol Trelan yn syllu'n hiraethlon trwy'r ffenestri bob tro y caent gyfle, ac yn cenfigennu wrth bawb oedd yn cael mwynhau awyr agored a rhyddid. Cai'r cloc oedd ar fur yr ystafell hefyd gryn lawer o sylw'r plant hynaf. Credent fod ei fysedd yn symud dros ei wyneb yn arafach nag arfer y prynhawn hwnnw, yn union fel pe bai'r tywydd poeth yn eu gwneud yn ddiog. O'r diwedd, gwelwyd hwynt yn pwyntio at bedwar o'r gloch,—yr awr ddisgwyliedig,—a rhyddhawyd y carcharorion. Trannoeth, byddai'r ysgol yn cau am wyliau'r haf,—am fis cyfan,—ac, fel plant pob ardal, edrychai plant Trelan ymlaen yn awchus at bedair wythnos gyfan o lawenydd a mwyniant didor, yn rhydd o gaethiwed gwers a gormes cloch yr ysgol. Na feddylied y darllennydd bod plant Trelan yn casáu'r ysgol. O! na, yr oeddynt yn hoffi'r ysgol yn fawr, ac yn ei mynychu'n gyson; ond, ar dywydd mor hyfryd, a'r gwyliau mor agos, nid rhyfedd bod ysbryd gwaith yn brin, a'u bod yn dyheu am eu rhyddhau y prynhawn Iau hwnnw.

Ac o holl blant ysgol Trelan, mae'n debyg nad oedd neb yn llawenhau mwy am eu gollwng y prynhawn hwnnw, ac hefyd am fod y gwyliau mor agos, na'r ddau gyfaill mynwesol, Wil y Morfa, a Dic, mab Ifan Huws, y crydd. Hwynthwy oedd y ddau fachgen hynaf yn yr ysgol. Yn wir, yr oeddynt eisoes yn gwisgo trowsysau llaes, ac mewn oed i'w rhyddhau o'r ysgol, ond bod eu rhieni yn eu cadw yno nes y caent waith,—nid yn gymaint er mwyn iddynt ddysgu, ag am y rheswm eu bod yn ddiogelach, yn nhyb eu rhieni, yn yr ysgol na phe baent gartref heb ddim i'w wneud. Dau fachgen cryf ac iach oeddynt,—digon abl i weithio pe ceid gwaith iddynt; a dau gyfaill calon, bron yn wastad gyda'i gilydd, ac heb gadw dim cyfrinach, y naill oddiwrth y llall.

"Dim ond fory eto, Dic annwyl," ebr Wil wrth ei gyfaill, a tharo'i law ar ei ysgwydd, wrth gychwyn o'r ysgol, y prynhawn Iau hwnnw. "Brysia i lawr,—mi fydda i'n dy ddisgwyl di, cofia."

"Ni fydda i ddim dau funud," oedd yr ateb, "os na fydd ar mam eisiau neges."

"P'un bynnag am hynny, paid a bod yn hir, was; nid â i ddim i lawr o dy flaen di, cofia," ebr Wil, ac i ffwrdd ag ef, dros y gamfa i'r llwybr a arweiniai o ymyl yr ysgol, heibio i'w gartref, i lan y môr.

Deallai Dic o'r gorau mai ystyr i lawr' Wil oedd glan y môr. Dyna hoff gyrchfan y ddau bob cyfle a gaent trwy'r haf. A'u hoffter o lan y môr a barai iddynt deimlo caethiwed yr ysgol mor feichus yn y tywydd braf. Tŷ bychan oedd y Morfa, cartref Wil, tua hanner y ffordd rhwng pentref Trelan a glan y môr. Yr oedd siop Ifan Huws, y crydd, tad Dic, yng nghanol y pentref, a rhyw waith deng munud o gerdded oddiyno at y môr, hynny ydyw, deng munud i ddyn cyffredin, ond llawer llai a gymerai Dic yn aml i wneud y daith i lawr, faint bynnag a gymerai i fynd i fyny. Amrywiai hynny yn ôl yr amgylchiadau.

Pentref bychan yn agos i lan y môr, ac yn llechu wrth odre mynydd tra uchel yn Sir Gaernarfon, ydoedd Trelan; a'i gylchfyd,—y mynydd a'r môr,—yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y pentrefwyr. Gwir fod yno dir amaethyddol a rhai ffermydd yn yr ardal; ond ar y môr, neu ynglŷn â'r chwarel oedd ar lechwedd y mynydd y tu ôl i'r pentref, yr enillai mwyafrif y boblogaeth eu cynhaliaeth. Hen forwyr oedd rhai o weithwyr y chwarel,—rhai wedi treulio eu hieuenctid ar y môr, ond, ar ôl cyrraedd canol oed, wedi ei adael i gymryd gwaith ar y tir. Ond, er gadael o honynt y môr fel galwedigaeth, parhâi eu diddordeb yr un mor fyw yn y môr a'i bethau. Roedd gan lawer o honynt gychod yng nglan y môr, a bron bob min nos yn yr haf, ar ôl gwaith y dydd yn y chwarel, glan y môr fyddai'r hoff gyrchfan, ac âi amryw allan gyda'r cychod i bysgota yn y bae.

Nid rhyfedd felly bod anian y môr yn gryf yn Wil a Dic. I'r môr y carent fynd, pe caniatâi eu rhieni. Ond yr oedd Ifan Huws yn bendant na chai Dic fod yn forwr, a'i fam yn dweud, "Gwell i ti rywbeth ar y tir, machgen i, na'r hen fôr 'na." Ar y môr y collasai tad Wil ei fywyd ac nid gwiw oedd i Wil sôn wrth ei fam am fynd i'r môr.

Roedd te Dic yn barod pan aeth i'r tŷ, ac nid oedd angen i'w fam i'w annog i fwyta. Llyncodd yn frysiog yr ymborth a baratoisid iddo, mewn ofn, bob munud, i'w fam ddweud wrtho fod arni eisiau iddo fynd i neges iddi, neu i'w dad ddod o'r gweithdy ag esgid neu bâr o esgidiau i'r bachgen i'w dwyn i dŷ un o'r trigolion. Ond ni ofynnwyd iddo wneud dim, ac, wedi llyncu ei fwyd, cydiodd yn ei gap, ac i ffwrdd ag ef am y Morfa i alw am Wil. Gwaeddodd ei fam ar ei ôl, "Paid di a mynd i le peryg i ymdrochi," a gwaeddodd Dic yn ôl, "Ol reit mam.

Yr oedd Wil wrth dalcen y tŷ yn disgwyl amdano, ac wedyn i lawr a'r ddau at lan y môr. Yr oedd eu rhaglen wedi ei threfnu eisoes,—yn wir, yr un a fyddai bob prynhawn, oni byddai'r amgylchiadau'n eithriadol. A'r peth cyntaf arni ydoedd ymdrochi. Hoffai'r ddau gael ymdrochi gyda'i gilydd, o bai modd, cyn i blant eraill y pentref ddod i lawr, oblegid i lan y môr y cyrchai llu o honynt hwythau bob prynhawn ar ôl yr ysgol, i aros yno yn fynych nes y disgynnai llenni'r nos, neu i'w rhieni ddod yno i'w cyrchu. Ond fe'u hystyriai Wil a Dic eu hunain yn gryn gewri ymysg y plant, ac yn wir, ystyrrid hwynt yn arwyr gan lawer o'r plant lleiaf. Ac un rheswm am hynny, heblaw mai hwynthwy oedd plant hynaf yr ysgol, ydoedd y ffaith eu bod yn nofwyr dan gamp. Rhyw chwarae yn y dwfr bas yn ymyl y lan, oedd ymdrochi i'r plant eraill, ond, i Wil a Dic, golygai rywbeth tra gwahanol. Aent hwy i ymdrochi i'r dwfr dwfn yn ymyl y cei, lle y llwythid y llongau a ddeuai i gludo cerrig o'r chwarel. Yno, yng nghysgod y cei, caent ddwfr dwfn, tawel, ac yno yr oedd y cychod. Tynnid y cychod bychain i'r lan ar y tywod pan na ddefnyddid hwynt, ond nofiai y rhai mwyaf,—cychod hwyliau, wrth eu hangorion, ychydig lathenni o'r lan. A dyna'r hwyl a gai Wil a Dic wrth ymdrochi,—nofio at un o'r cychod, dringo iddo, a phlymio o hono i'r dwfr. Weithiau, pan na fyddai llongau yn cael eu llwytho, dringent i'r cei i blymio i'r dwfr oddiyno, ond ni feiddient wneud hynny, o byddai gweithwyr ar y cei.

Y prynhawn hwn, nid oedd llong wrth y cei, na neb yn y golwg ar na chei na thraeth; ac felly, yr oeddynt yn rhydd i wneud y defnydd a fynnent o'r cychod a'r cei. Ac fe wnaethant hynny. O! yr oedd yn ardderchog yn y dwfr y prynhawn hwnnw, a'r ddau fachgen yn eu mwynhau eu hunain fel dau bysgodyn yn eu helfen. Ond, wedi bod o honynt wrthi'n brysur am rai munudau'n plymio a nofio a gwneud pob math ar gampau yn y dwfr, aethant i eistedd am ychydig ar y lan i orffwyso, heb ymwisgo.

Yn sydyn, fel pe bai rhyw syniad newydd wedi taro i'w feddwl, gofynnodd Wil: "Ddoi di allan am dro yn y 'Wennol,' Dic?"

Ni allsai Wil awgrymu dim yn fwy wrth fodd calon Dic na thaith ar y môr yn y 'Wennol,' cwch modur Huw Elis, ewythr Wil; ac mae'n debyg y gwyddai Wil hynny wrth ofyn y cwestiwn. Newydd gael y cwch yn nechrau'r haf yr oedd Huw Elis, ac nid oedd gan neb arall yn Nhrelan gwch o'r fath. Llawer gwaith y gwyliasai Dic y cwch newydd a dieithr hwn yn torri trwy'r dwfr mor gyflym a rhwydd, ond ni chawsai erioed y fraint o fod ynddo. Nid felly Wil,—buasai ef allan lawer gwaith ynddo gyda'i ewythr, a mynych y dywedasai wrth ei gyfaill pa mor ardderchog ydoedd, ragor y cychod eraill. Ond unig effaith geiriau Wil ar Ddic a fuasai cryfhau ei awydd yntau am gael cyffelyb brofiad. Felly, nid rhyfedd iddo dderbyn awgrym Wil y prynhawn hwn gyda'r parodrwydd mwyaf, yn enwedig gan nad oedd Huw Elis na neb arall ond hwy eu dau i'w gweld ar y traeth. Hen lanc ydoedd Huw Elis yn gwneud ei gartref gyda'i chwaer weddw, mam Wil, yn y Morfa. Morwr a fuasai yn ei ieuenctid, ond, bellach, ers llawer blwyddyn, gweithiai yn y chwarel, gan dreulio llawer o'i amser yng nglan y môr, ac allan gyda'i gwch, a Wil, fel rheol, gydag ef. A dyna'r unig fan bron na byddai Dic gyda Wil,—yng nghwch Huw Elis. Meddyliai'r hen lanc y byd o'i gwch, ac ni chai neb ond Wil fynd ynddo gydag ef. Edrychodd Dic gyda dau lygad yn llawn awydd ar y cwch hardd a nofiai'n urddasol ar y dwfr dwfn rhyngddynt a blaen y cei. Dyma'r cyfle, o'r diwedd, wedi dod iddo yntau gael mynd i'r cwch.

"Wyt ti'n deall sut i'w yrru?" gofynnodd i'w gyfaill. A'r munud nesaf, pan welodd yr olwg ddiystyrllyd ar wyneb Wil, edifarhaodd am ofyn o hono y cwestiwn. "Ydw i, tybed?" gofynnodd Wil yn ôl, braidd yn gas. "Ydw, decini, a finna wedi bod allan gymaint o weithia gyda f'ewyrth Huw." Yna, ychwanegodd yn fwy siriol ei dôn, "Tyrd, 'r hen ddyn, mi wisgwn ni amdanom, a mynd allan ato fo gyda chwch bach cyn i neb ddwad yma."

Wrth wisgo amdano, daeth yr amheuaeth gyntaf i feddwl Dic. "Beth pe bai d'ewyrth yn dwad i lawr, ac yn ein dal ni?" gofynnodd.

"Ddaw o ddim i lawr am hir," ebr Wil.

"Ddaeth o ddim i lawr o'r gwaith eto. Ac hwyrach na ddaw o ddim i lawr yma heno. Tyrd yn dy flaen."

Nid oedd angen dweud ychwaneg. Ni bu'r ddau ond byr o dro yn gwisgo amdanynt, a chyn pen ychydig funudau, yr oeddynt ar fwrdd y cwch modur, ac wedi diogelu'r cwch bychan rhag iddo gael ei gario allan gan y môr, trwy ei sicrhau gyda rhaff wrth garreg fawr, a'i gollwng i lawr i'r dwfr. Er cymaint ei awydd i fynd i'r cwch modur, ac er cael ei sicrhau gan Wil nad oedd berygl oddiwrth yr ewythr, pell ydoedd Dic o deimlo'n gysurus, gan yr ofnai weled Huw Elis yn ymddangos ar y traeth bob munud. Heb wastraffu amser (feallai mai yr unrhyw ofn a'i cymhellai yntau hefyd, pe gwyddid y cyfan), aeth Wil ati i gael y peiriant i weithio. Nid gorchwyl hawdd ydoedd hynny i fachgen, ond gwelsai ei ewythr. yn gwneud gynifer o weithiau, ac yr oedd yn fachgen cryf, fel y llwyddodd. Dechreuodd y peiriant droi, ac wele'r bad yn dechrau symud.

Llywia di, Dic," ebr Wil—"Mi wylia inna'r peiriant." "Reit," ebr Dic. "Pa ffordd awn ni?"

'Dim ond allan at y Clogwyn, ac yn ôl," ebr Wil. "Rhaid i ni frysio'n ôl, a'i gadw fo'n sâff, wyddost ti, rhag ofn i f'ewyrth ddwad i lawr."

Rhyw daflu ambell gipolwg ofnus yn ôl a wnâi'r ddau pan basient drwyn y cei. Ond wedi mynd heibio i'r cei, nid oedd gymaint o berygl iddynt gael eu gweld, a theimlent yn fwy rhydd. Y tu draw i'r cei, rhedai clogwyn uchel ar hyd glan y môr am bellter, rhyngddynt a'r pentref. Ychydig iawn a fuont cyn gosod y clogwyn rhyngddynt a'u cartrefi, a bellach nid oedd raid iddynt ofni,—gallent anadlu'n rhydd. Ni allai neb o'r pentref nac oddiar lan y môr wrth y cei eu gweld. Gallesid eu gweld, mae'n wir, o ben y clogwyn, ond anaml iawn y cyrchai neb i'r fan honno, ond pan fyddid yn edrych am froc y môr ar ôl storm.

Roedd Dic bellach wedi anghofio ei holl ofnau, ac wrth ei fodd wrth weld a theimlo'r cwch yn torri mor gyflym a difyr drwy'r dwfr, a gwrando ar guriadau cyson, didor, y peiriant, a Wil gymaint wrth ei fodd ag yntau wrth weld y pleser a gai Dic yn y 'Wennol.' Bron nad oedd y dedwyddwch yn rhy ardderchog i'w dorri â geiriau. "Dyma i ti fynd, ngwas i," ebr Wil, ar ôl ennyd o ddistawrwydd.

"Ardderchog," ebr Dic, a gwenu'n foddhaus. "On'd ydi o'n mynd yn ddistaw, fachgen."

"Cofia di," ebr Wil, yn ymchwyddo wrth ganmoliaeth Dic i'r cwch," mae'r 'Wennol' yn un o'r cychod modur gora.

Mae gan rai o honyn nhw dwrw ofnadwy wrth fynd, ond sylwa mor ddistaw y mae hwn. Prin y clywi di'r peiriant yn chwyrnu."

Prin yr oedd ar Ddic angen yr anogaeth i sylwi ar y rhinwedd hwn yn y 'Wennol,' ag yntau eisoes wedi canmol effeithiolrwydd y peiriant.

"Mae hi'n brafiach o lawer ynddo fo nag mewn cwch hwylia, beth bynnag," ebr Dic. "Hen biti fod yn rhaid i ni fynd yn ôl mor fuan."

Bu Wil yn fud am ennyd,—wedi ymgolli mewn myfyrdod dwfn. Yna meddai, "Mi wn i beth wnawn ni, 'r hen ddyn."

"Beth?" gofynnodd Dic, a syllu yn wyneb ei gyfaill, i glywed ffrwyth ei fyfyrdod. "Mi awn ni allan am dro iawn," meddai Wil. "Beth feddyliet ti?"

Tarawyd Dic â syndod, ac am ennyd bu ymladdfa fewnol rhwng ei ddymuniad a'i ofnau. Yna meddai mewn protest wannaidd, "Ond mi gawn ddrwg."

"Wn i ddim," ebr Wil yn araf. "Hwyrach na chawn ni ddim, wyddost ti. Hen fachgen go ffeind ydi f'ewyrth, ac mae o'n dipyn o ffrindia hefo mi."

Gwyddai Dic fod hynny'n ddigon gwir, ond ni theimlai'n ddigon sicr y gellid dibynnu ar natur dda Huw Elis yn wyneb trosedd mor fawr a chymryd ei gwch modur allan heb ei ganiatâd.

"Chlywais i mono fo'n dweud ei fod o am ddwad i lan y môr heno, erbyn meddwl," ychwanegodd Wil. "P'un bynnag, waeth i ni aros am awr neu ddwy wedi cychwyn. Chawn ni ddim mwy o ddrwg am hynny na tasan ni'n mynd yn ôl rwan.

Pa un bynnag ai cywir ynteu anghywir oedd athroniaeth Wil, yr oedd yn eithaf boddhaol dan yr amgylchiadau i'w gyd—droseddwr. Gwell oedd ganddo yntau fanteisio ar y cyfle i'w fwynhau ei hun, a gohirio'r gosb, am rai oriau o leiaf, ac o bosibl ei hosgoi'n gyfangwbl yng nghysgod Wil, os gallent ddibynnu ar natur dda Huw Elis. Rywfodd, teimlai'r ddau yn dra gwahanol, â'r Clogwyn rhyngddynt a'r pentref, ragor a wnaent wrth y cei.

"Pa ffordd awn ni?" gofynnodd Wil, a nodyn yn ei lais fel pe bai'r cwestiwn ynglŷn â dychwelyd neu beidio wedi ei setlo'n derfynnol ar yr ochr nacaol.

"Wyt ti ddim am droi'n ôl felly?" gofynnodd Dic, a'i lawenydd yntau erbyn hyn wedi gorchfygu ei ofn.

"I beth? Waeth i ni heb," ebr Wil.

"O! wnaiff o ddweud dim llawer wrtha i, ond i ni fynd a'r 'Wennol' yn ôl yn sâff iddo fo. Mi groeswn ni'r bae at y trwyn 'cw," gan bwyntio at bentir a redai i'r môr tua phum. milltir oddiwrthynt. "Beth wyt ti'n ddweud? Wyt ti'n fodlon?"

"Ol reit," oedd yr ateb. A chadwodd Dic ben y bad i'r cyfeiriad.

"Un da ydi hwn," ebr Dic cyn hir, yn methu a chuddio'i edmygedd o'r bad, "Un fel hyn brynna inna wedi i mi ddechrau gweithio, peth siwr ydi o.

"Cofia di eu bod nhw'n ddrud iawn, ngwas i," ebr Wil.

"O! fydda i ddim yn hir yn hel digon i brynu un," ebr Dic yn hyderus.

Rhy brysur oedd y ddau'n gwylio'r cwch yn symud, i fwynhau dim ar yr olygfa ar y glannau, er hardded ydoedd. Ychydig iawn a fuont cyn eu bod gyferbyn â'r trwyn tir y cyfeirient ato.

"Fasa'n well i ni droi'n ôl?" gofynnodd Dic, pan welodd ymhle yr oeddynt.

"Mi gadwn ni fwy allan i'r môr wrth fynd yn ôl," ebr Wil. "Cadw'i ben o allan fwy i gymryd tipyn o rownd, yn lle mynd yn ôl ar ein hunion On'd ydi o'n mynd yn dda mewn difri?"

"Ardderchog," ebr Dic, a thinc gonestrwydd yn ei lais. "Mi fasa'n dda gen i tasa fi fasa bia hwn."

"Hwyrach y cawn ni gyfle i fynd allan hefo fo yn o amal ein dau wedi i'r ysgol dorri," ebr Wil. "Mi fydd yn haws gan f'ewyrth fy nhrystio fi, wyddost ti, ar ôl gweld heddiw y medra i ei drin o, hynny ydyw, os ffeindith o ein bod ni wedi bod allan."

Ymlaen a hwy mewn distawrwydd am rai munudau, a Dic yn gwylio'r modd yr oedd y bad yn torri trwy'r dwfr. Yn sydyn, ebr Wil, gan droi at Dic, "Mae hi'n ddigon buan i fynd yn ôl. Mi wn i beth wnawn ni, Dic."

"Beth?" gofynnodd Dic, yn llawn awydd i wybod beth oedd y syniad newydd a drawsai i feddwl parod ei gyfaill.

"Mi awn ni rownd y lightship, ac adre wedyn. Beth wyt ti'n ddweud?" ebr Wil, a'i lygaid yn perlio.

Ond nid oedd Dic yn hoffi'r syniad, er mor atgas ganddo oedd dychwelyd i'r lan. "Mae hi'n bell iawn o'r fan hyn," meddai. "Mi glywais i nhad yn dweud bod y lightship dros ugain milltir o Drelan, a dydym ni fawr nes iddi hi yn y fan hyn."

"Oes arnat ti ofn? O'r babi! Ofn beth sydd arnat ti?" gofynnodd Wil, braidd yn wawdlyd ei dôn.

"Does arna i ddim ofn. Rydw i'n ddigon bodlon," ebr Dic, gan ymwroli, rhag i Wil ei wawdio. Gallai oddef popeth yn well na gwawd.

"Reit," ebr Wil, wedi cael ei ffordd. "Mae arna i eisio gweld y lightship ers talwm. Ac ni fyddwn ni fawr o dro'n mynd ati. Y ffordd acw y mae hi," gan bwyntio i'r cyfeiriad.

Ac ymlaen a hwy'n ddifyr, a Wil yn mwmian canu. Ond ni theimlai Dic yn gysurus. Yn erbyn ei ewyllys yr ildiasai i ddymuniad Wil. Yr oedd wyneb y môr, lle yr oeddynt yn awr, lawer yn fwy aflonydd nag a fuasai yn agos i'r glannau: ond diwrnod hyfryd o haf ydoedd, a dim arwydd o ddim tebyg i storm yn codi,—dim ond awel dyner, falmaidd, yn cymedroli'r gwres oedd bron yn annioddefol ar y lan. Wedi mynd ymlaen am beth amser mewn distawrwydd, taflodd Dic drem frysiog dros ei ysgwydd yn ôl tua chyfeiriad eu cartrefi, a synnodd weld y pellter oedd rhyngddynt a'r tir. Draw, draw, ymhell yn ôl, gwelai ben y clogwyn, a'r mynydd yn codi y tu ôl iddo. Nid ymddangosai pen y clogwyn, o'r lle yr oeddynt, nemawr yn uwch na glan gwastad y môr.

"Rydym ni wedi dwad yn bur bell," meddai wrth Wil, wedi ystyried o hono eu safle, ac yn ryw hanner ddisgwyl y bodlonai Wil i droi'n ôl. Ond fe'i siomwyd.

"Do," oedd ateb Wil. "Mae'n siwr ein bod ni'n bur agos i'r lightship erbyn hyn." Ond ni welent yr oleulong yn unman. Ni welsent erioed mo'r llong yn ei hymyl, ond lawer noson, o'r llechwedd y tu ôl i'r pentref, neu o ben y clogwyn, gwelsent ei goleuni'n fflachio ar y dyfroedd i gyfeirio'r llongau ar eu teithiau. "Mae hi'n siwr o ddwad i'r golwg cyn bo hir," ebr Wil yn obeithiol.

Ymlaen yr aed wedyn mewn distawrwydd am rai munudau, a gostegodd yr awel yn hollol.

Yna, yn sydyn, cododd Dic ar ei draed mewn braw. "Dyma hi ar ben arnom, Wil annwyl," meddai yn ddychrynedig, "Wyt ti'n gweld y niwl yn amdanom?"

Trodd Wil i edrych ymlaen, a sylweddolodd mai gwir a ddywedai Dic. Roeddynt yn rhedeg i ganol niwl gwyn, trwchus, a chyn iddynt allu arafu'r bad, yr oeddynt wedi eu hamgau ynddo,—niwl, niwl, na ellid gweled drwyddo i unrhyw gyfeiriad.

Troi'n ôl fydd orau i ni," ebr Dic, a chydsyniodd Wil.

"Tro, ynteu," meddai.

Ond haws lawer oedd dweud na gwneud. Roedd yn ddigon hawdd, mae'n wir, droi pen y cwch, ond nid mor hawdd oedd gwybod i ba gyfeiriad yr oeddynt yn mynd wedi ei droi. Trodd Dic y llyw, ac ufuddhaodd y cwch. Yna, amheuodd Dic nad oedd yn wynebu tua chartref, a throdd ychwaneg arno. Yna eistedd, a cheisio gweld rhyw arwydd eu bod yn dod o'r niwl. Ond yn ofer,—dim ond niwl, niwl, niwl, i bob cyfeiriad Yn sydyn, o'r niwl, ond yn bur bell oddiwrthynt, clywsant sŵn niwl—gorn Edrychodd y ddau ar ei gilydd, syndod a braw yn eu hwynebau.

"Y lightship," ebr Wil, a chodi ar ei draed. "Ie, neu stemar," ebr Dic, yn gyffrous.

"Tro ben y cwch i'r ffordd y daeth y sŵn," ebr Wil "Rydw i'n siwr mai'r lightship oedd yn canu'r niwl—gorn."

"Na, gwell i ni beidio," ebr Dic, yn bendant, "rhag ofn mai stemar oedd 'na, ac i ni gael ein rhedeg i lawr. Fydd dim posib iddyn nhw'n gweld ni'n ddigon buan i'n hosgoi ni, os byddwn ni ar eu llwybr nhw."

Gwelai Wil fod rheswm yn yr hyn a ddywedai Dic, ac arafodd gyflymder y bad. Yna, disgwyliasant yn ddistaw am y sŵn drachefn, mewn ofn bob eiliad gael eu rhedeg i lawr. Toc, clywsant y sŵn,—ymhellach oddiwrthynt.

"Ni ddaw honna ddim ar ein traws ni, beth bynnag," ebr Wil, wedi cael gollyngdod, ond distaw oedd Dic. Roedd erbyn hyn yn edifarhau'n ddwys am ei ddyfod yn y cwch,—yr oedd peryglon distaw y niwl wedi ei lethu.

"O! hwyrach y gwnaiff hi glirio cyn hir," ebr Wil, ymhen ennyd, i geisio'i gysuro'i hun a'i gyfaill.

"Gobeithio y gwnaiff hi, neu wn i ddim beth wnawn ni," oedd ateb digalon Dic.

Ond buont yn y niwl am gryn amser: ac, yna, pan oeddynt wedi dechrau ofni na chliriai, yn sydyn,—yn yr un modd sydyn ag y daethai,—cliriodd y niwl. Ac, wele, erbyn iddynt edrych o'u hamgylch, gwelent eu bod wedi mynd lawer ymhellach i'r môr nag y bwriadent. Wrth edrych i gyfeiriad eu cartrefi, gwelent long anghyffredin ei ffurf, tua dwy filltir oddiwrthynt, fel y barnent; a gwyddent i sicrwydd bron, ar ei ffurf, oddiwrth y darluniau a welsent yn yr ysgol, mai y lightship ydoedd. Gwelent greigiau Môn yn gwarchod y tonnau ar y naill ochr iddynt ond ymhell draw, a phentiroedd Llŷn yn ymestyn draw ar y gorwel yr ochr arall. A draw, ymhell yn ôl, gwelent y mynydd yr oedd Trelan wrth ei odre.

"Wil annwyl," llefodd Dic yn ddychrynedig, wedi ystyried eu safle, "rydym wedi ei gwneud hi'n ofnadwy. Rydym wedi pasio'r lightship."

"Arnat ti 'roedd y bai," ebr Wil yn ôl, "na basat ti wedi llywio'n iawn, pan oeddym ni yn y niwl."

"Sut y gwyddwn i pa ffordd yr oeddym yn mynd?" ebr Dic yn wylofus. "Nid awn ni byth yn ôl adref cyn y nos.

"O, awn," ebr Wil, yn hyderus ei dôn, "Paid di ag ofni am hynny. Welaist ti erioed mor fuan yr aiff y cwch 'ma a ni yn ôl. Tro'r llyw, Dic."

Ufuddhaodd Dic gyda chalon drom. Ond nid oedd ond yn brin wedi gwneud hynny, pan beidiodd y peiriant a chwyrnu, a safodd y bad.

"Beth ydi'r mater?" llefodd Dic yn ofnus.

"Wn i ddim," ebr Wil, a'i wyneb yn welw. "Ond mae rhywbeth y mater arno fo."

"Beth?"

"Wn i ddim," oedd ateb Wil, a sŵn digalondid yn ei lais. Yna ennyd o ddistawrwydd poenus i'r ddau. "Edrych beth ydi'r mater, Wil," erfyniodd Dic.

"Ond dydw i ddim yn deall y peiriant," cyfaddefodd Wil, a'i lais yn crynu gan y pryder newydd.

"Hwyrach mai'r petrol sydd wedi darfod," awgrymodd Dic yn y fan.

"Dyna chti wedi ei tharo hi ar ei phen," ebr Wil, a gwen lawen ar ei wyneb. "Dyna beth sydd, mae'n siwr. A minnau'n dechrau ofni fy mod wedi torri rhywbeth. O, mae'n dda gen i. Wn i ddim sut y baswn i'n gallu wynebu f'ewyrth tasa fo wedi torri.'

Wil druan! Yr oedd y dyfodol yn pwyso gymaint ar ei feddwl fel na sylweddolai'n llawn eu cyflwr ar y pryd. Ond nid felly Dic.

"Ond sut yr awn ni adref?" gofynnodd yn bryderus. Oes 'na chwaneg o betrol?

"Nag oes."

"A does 'ma ddim mast na rhwyf na dim?"

"Dim ateb am ennyd. "Adre y bydd f'ewyrth yn eu cadw," ebr Wil yn drist.

"Beth wnawn ni, dywed, mewn difri?" gofynnodd Dic, ac anobaith yn ei lais.

"O! hwyrach y daw llong neu rywbeth heibio cyn hir. Hei lwc," awgrymodd Wil.

"A hwyrach na ddaw'r un," meddai Dic ddigalon yn ôl.

"Does dim ond dal i obeithio'r gorau. Rydym ni'n bur agos i lwybr y llongau fydd yn mynd am Lerpwl, wyddost ti." Ac ychwanegodd gyda gwên, "Hwyrach mai trip i Lerpwl gawn ni. Un dda fasa hynny, 'nte, yn lle mynd i'r ysgol fory? Ond mae nhw'n siwr o fod wedi ffeindio'n colli ni a'r cwch erbyn hyn."

Ond ni fedr neb mo'n gweld ni mor bell â hyn o'r lan. A 'dwyr neb i ble i fynd i chwilio amdanom. Rydym wedi bod yn ddau ffwl, Wil," ebr Dic, ymron a wylo.

"Rwyt ti am edrych ar yr ochr dywyll i bopeth," grwgnachodd Wil. "Ond rydw i'n dal i gredu y cawn ni'n hachub cyn y nos."

Ond, er dywedyd hyn, gwyddai Wil nad oedd ganddo fawr o sail i obeithio am yr hyn a ddywedai.

PENNOD II
PRYDER

DAWNSIAI'R 'Wennol' yn ysgafn ar y tonnau, a'r ddau fachgen yn eistedd ynddo, heb ganddynt ddim i'w ddweud y naill wrth y llall. Draw, tua dwy filltir oddiwrthynt, fel y barnent, gwelent yr oleulong: a thudraw iddi, ymhell y tudraw, gwelent amlinelliad aneglur mynydd y gwaith. Ond, er edrych i bob cyfeiriad, dros wyneb y môr, ni welent arwydd llong na chwch yn unman, oddigerth yr oleulong. Gwelent fwg draw ymhell yn y môr, a ddywedai wrthynt fod agerlongau'n hwylio'r ffordd honno.

"Fasa'n well i ni drio tynnu sylw pobl y lightship?" gofynnodd Wil.

"Ni fyddwn ni ddim gwaeth a threio," ebr Dic, "er nad ydw i ddim yn meddwl bod yn bosib iddyn nhw'n gweld ni."

Cododd y ddau ar eu traed, a chwifio eu cadachau, ond yn ofer. Gwyddai'r ddau eu bod yn rhy bell i gael eu gweld: ac felly rhyw ymdrech hanerog a wnaethant, a rhoisant y gorau iddi'n fuan, i eistedd i lawr yn fwy trist nag erioed. Gwelent yr haul yn tynnu'n brysur tua gorwel y gorllewin,—yn disgyn yn nes, yn nes o hyd i wyneb y môr,—i suddo'n fuan, fel y gwyddent, o'u golwg. Gwyddent fod y nos yn agoshau,—nos ddieithr iawn, nos lawn o beryglon iddynt hwy; ond ni ddymunent fynegi eu teimladau i'w gilydd,—ni fynnai'r un o honynt i'r llall feddwl ei fod yn ofni.

Ac yna, sefydlodd y ddau eu llygaid ar yr haul yn mynd i lawr mewn cwmwl tân i'r môr. Ond nid am ogoniant yr olygfa y meddylient,—nid brenin gwyn-ddydd yn ei waed yn cwympo i lawr a welent, yn gymaint a machlud eu gobeithion am gael dychwelyd adref, nac yn wir, am gael eu hachub o gwbl. Yr oedd eu cyflwr yn rhy ddifrifol iddynt allu gweld barddoniaeth yr olygfa. Ac yna, wedi machlud haul, cryfhaodd yr awel, a chododd y tonnau ryw gymaint. Ond nid yn ddigon i beri iddynt ofni am ddiogelwch y cwch,—roeddynt wedi arfer a bod allan mewn cwch ar fôr tonnog, fel nad ofnent y tonnau.

"Mae arna i eisiau bwyd, fachgen," ebr Wil cyn hir, i dorri ar y distawrwydd llethol.

"Mae arna innau hefyd," ebr Dic. "Ac eisiau cysgu. Beth wnawn ni, dywed?"

"Wnawn ni ddim heno bellach," ebr Wil, "ond disgwyl am rywbeth at yfory."

"Biti i ni gychwyn allan,ebr Dic." "Arnat ti roedd y bai, Wil."

"Ol reit," ebr Wil. "Mi gymra i'r bai. Ond faint gwell ydym ni o sôn am hynny rwan yn y fan hyn? Rhaid i ni feddwl am ryw gynllun i gael i'r lan yfory." Ond pa gynllun? Druan o Wil, ni wyddai.

"Mi gei di gysgu am dipyn rwan, Dic," meddai'n garedig, "ac mi wylia innau. Yna mi newidiwn ni. Felly y byddan nhw ar y môr, wyddost ti."

Ond faint gwell fyddi di o wylio?" oedd cwestiwn Dic.

"Wel, os daw rhywbeth yn agos atom ni, mi waeddaf a nerth esgyrn fy mhen," atebodd Wil yn siriol.

Ac, yn fuan, er trymed ei galon, yr oedd Dic druan yn gorffwys yn dawel ym mreichiau cwsg, a Wil yn ceisio gwylio. Yr oedd y sêr erbyn hyn yn y nen, a fflachiadau rhai o oleuadau glannau Môn i'w gweld yn goleuo'r ffurfafen. Gwelai Wil hefyd oleu yr oleulong, ond ni ddaeth yr un llong arall yn agos atynt.

Ond yr oedd y distawrwydd a'r unigedd, wedi i Dic gysgu, yn llethol.

A chyn hir, dechreuodd Wil flino ar sŵn y tonnau'n cusanu'r cwch, a'i lygaid drymhau gan gwsg. Ymladdodd yn erbyn y cysgadrwydd a fynnai ei orchfygu, ond yn ofer: ac, yn fuan, nid oedd neb i wylio'r cwch. Cysgai'r ddau fachgen blinedig yn dawel ac yn drwm, wedi anghofio eu holl beryglon.

Gadwn iddynt gysgu, a dychwelwn i gael gweld sut y bu yn Nhrelan y noson honno. Aeth rhai oriau heibio cyn i neb ddarganfod bod y bechgyn ar goll. Daeth rhai dynion i lan y môr, fel arfer, ac aethant allan gyda'r cychod i bysgota yn y bae. Ond ni ddaeth Huw Elis i lawr y noson honno,—nid oedd yn noson dda, yn ei farn ef, i bysgota, ac, felly, aeth i weithio i'w ardd. Ac ni ddaeth i'w feddwl yr ymyrrai neb a'r 'Wennol'. Tuag wyth o'r gloch, y pasiai Tom Huws, un o fynychwyr glan y môr, heibio'r Morfa ar ei ffordd adref, a gwelodd Huw Elis yn eistedd ar fainc yn ffrynt y tŷ, yn mwynhau mygyn ar ôl ei lafur yn yr ardd.

"Hylo, Huw Elis," ebr Tom, "aethoch chi ddim allan heno?"

"Naddo, Tom," oedd yr ateb, "roedd gen i dipyn o waith yn yr ardd, fachgen."

"Pwy sydd wedi mynd allan gyda'r 'Wennol', ynteu?" gofynnodd Tom yn syn.

"'D oes neb hyd y gwn i," ebr Huw Elis, yntau'n edrych yn syn ar Tom Huws.

"Ond 'doedd o ddim yna, choelia i byth," oedd gair nesaf Tom.

"Beth? Ddim yna, ddwedaist ti? Mae'n rhaid ei fod yna," ebr Huw Elis yn anghrediniol ei dôn.

"Wel, welais i mono fo, beth bynnag. Ond hwyrach fy mod yn methu. Ddarum i ddim edrych yn fanwl. Pnawn da, Huw Elis," ebr Tom.

"Pnawn da, Tom," ebr Huw Elis, ac aeth Tom Huws yn ei flaen tua'r pentref.

Parodd geiriau Tom Huws i Huw Elis deimlo'n anesmwyth ynghylch ei gwch, a phenderfynodd fynd i lawr at y cei i'w sicrhau ei hun fod y 'Wennol' yno'n ddiogel wrth ei angor. Ond, pan ddaeth i olwg yr hafan, cafodd, er ei fraw, fod yr hyn a ddywedasai Tom Huws yn wir. Nid oedd y 'Wennol' wrth ei angor yn ei le arferol. Trodd at nifer o ddynion a safai gerllaw:

"Welsoch chi rywun yn mynd allan gyda'r 'Wennol'?" gofynnodd iddynt.

Edrychodd y dynion yn syn ar Huw Elis, oblegid credent hwythau fel Tom Huws ei fod allan gyda'r cwch modur. Nacaol, wrth gwrs, oedd eu hateb; nid oedd neb wedi gweld y cwch y noson honno.

"Fi oedd i lawr gynta," ebr un. "Ond 'doedd y 'Wennol' ddim yma'r adeg honno, a mi feddyliais i, nes imi eich gweld chi, mai chi oedd wedi mynd allan hefo fo." Ac aeth pawb yn fud, gan wylio wyneb Huw Elis.

"Oes rhywun wedi gweld Wil o gwmpas yma heno?" gofynnodd Huw Elis ymhellach, ar ôl ennyd o ddistawrwydd.

"Na, dydi o na Dic, y crydd, ddim wedi bod yma heno," ebe'r un a atebasai o'r blaen. "Peth go ryfedd ydi hynny."

"Os nad ydyn nhw yn fan 'cw hefo'r plant," ebr un arall, gan bwyntio at y tywod lle y gwelent nifer o blant yn chwarae.

Ond, na, plant mân oedd i'w gweled yno. Nid oedd yno'r un at faint Wil a Dic.

"Mae'n siwr i chi mai nhw aeth a fo, Huw Elis. Y cnafon bach iddyn nhw," ebr un arall o'r cwmni,—un yr oedd gelyniaeth rhyngddo a'r ddau fachgen, mae eisio'u chwipio nhw'n iawn."

Ac yr oedd yn hawdd gweld ar wynebau'r lleill y cydolygent ag ef.

"Mae'n debyg, felly, mai nhw aeth a fo allan," ebr Huw Elis. "Waeth gen i mo'r llawer am y cwch, am y don' nhw a fo yn ôl yn saff."

Edrychwyd allan i'r bae,—i'r rhan honno o hono y gellid ei weld o'r fan y safent. Ond, na, nid oedd dim tebyg i gwch modur yn y golwg, er y gwelent rai o'r cychod eraill yn pysgota.

"Mae nhw wedi mynd y tuallan i'r Clogwyn, yn siwr i chi," ebr yr un gelyniaethus, fel pe bai'n llawenhau yn eu trosedd yn y rhagolwg y cosbid hwynt.

Rhaid i ni fynd i ben y Clogwyn i edrych." Ac ymaith â nifer o honynt i gyfeiriad y Clogwyn, a Huw Elis yn eu dilyn, gan groesi'r rheilffordd y cludid cerrig ar hyd-ddi i lawr oddiwrth y chwarel i'r cei. O ben y Clogwyn, yr oedd y môr llydan i'w weld yn ymestyn tua'r gorllewin. Ond, er edrych yn ofalus, i bob man, nid oedd arwydd o'r 'Wennol' i'w weld.

"Rhed i lawr i'r Morfa, Ifan bach, i nol fy ngwydrau," ebr Huw Elis wrth un o'r rhai oedd gydag ef, yr iengaf o honynt. "Ond paid a chymryd arnat wrth Marged, fy chwaer, i beth y mae arnaf eu heisiau."

A rhedodd Ifan i gyrchu'r yspien-ddrych, a dychwelodd yn bur fuan.

Ond siom a gafwyd wedyn. Er troi'r gwydrau cryf ar y môr ymhell ac yn agos, ni ellid gweld dim byd tebyg i'r cwch colledig. Gwyliai pawb wyneb Huw Elis mewn distawrwydd, oblegid gwyddent arno y pryderai yn fawr.

Mae arna i ofn yn fy nghalon fod rhywbeth wedi digwydd iddyn nhw," meddai Huw Elis, a dododd yr yspien-ddrych dan ei fraich, gydag ochenaid drom, gan feddwl cychwyn adref.

"Beth ydych chi am wneud, Huw Elis?" gofynnodd un.

"Beth fedra i wneud?" gofynnodd Huw Elis, "Hwyrach eu bod nhw wedi glanio yn rhywle, ac y dôn' nhw'n ôl cyn hir. Ond i ble i fynd i chwilio am danyn nhw, os na ddôn' nhw'n ôl, wn i ddim."

A gwelodd pawb mai Huw Elis oedd yn iawn. Nid oedd dim i'w wneud ond dal i ddisgwyl, a gobeithio'r gorau.

Aeth pawb i lawr o'r Clogwyn,—rhai yn ôl i lan y môr, ac eraill i'r pentref, i gludo'r newydd cyffrous yno. Adref, yn benisel yr aeth Huw Elis, ond cymerodd ofal i guddio'r bryder oddiwrth ei chwaer. Ond ni allai eistedd yn llonydd yn y tŷ. Cerdded y bu i lan y môr ac i ben y Clogwyn, hyd onid aeth yn rhy dywyll iddo allu gweld dim. Ond, fel y gwyddom, daeth yn ôl o bob crwydriad yn siomedig. Cyn y nos, yr oedd diflaniad y bechgyn a'r cwch yn destun siarad yr holl bentref, a chlybu'r ddwy fam am yr helynt. Ni fynnai gwraig y Morfa ei chysuro.

"O, Wil bach, ngwas bach annwyl i," llefodd drachefn a thrachefn, nes ennyn tosturi y rhai a'i clywai ac a geisiai ei chysuro. "Beth wna i mewn difri?" ac ymollwng i wylo'n dorcalonnus.

Roedd mam Dic yn dawelach, ond ofnai hithau'r gwaethaf ac ychydig o gwsg a fu y noson honno, nac yn nhy Ifan Huws, y crydd, nac yn y Morfa.

Drwy'r cwbl, daliai Huw Elis i gredu y deuent yn ôl, ond penderfynodd, oni ddeuent cyn y bore, yr anfonai drannoeth i borthladdoedd y cylch ym Môn, Arfon, a Llŷn, i holi yn eu cylch.

PENNOD III
Y LLONG DDIEITHR

ROEDD yr haul wedi codi'n bur uchel yn y ffurfafen cyn i'r bechgyn yn y cwch ddeffro o'u cwsg trwm. Wil oedd y cyntaf i ymysgwyd, ac nid ar unwaith y cofiodd ymhle'r oedd. Wedi iddo ddod ato'i hun, a sylwi ar Ddic yn cysgu mor dawel, aeth ato i'w ysgwyd.

"Gadwch lonydd i mi," ebr Dic yn gysglyd; a chwarddodd Wil yn uchel wrth feddwl bod Dic yn ei weld ei hun gartref, ac yn tybied mai ei fam a geisiai ei ddeffro i'w gychwyn i'r ysgol.

"Wyt ti ddim am ddeffro heddiw, Dic?" meddai Wil, ac agorodd Dic ddau lygad cysglyd. Yna ymestynodd, ac edrychodd o'i ddeutu, a chofiodd ymhle'r oeddynt. Daeth y cyfan yn ôl iddo.

"Dydi brecwast ddim yn barod," ebr Wil yn gellweirus. Ac ochneidiodd Dic.

Erbyn iddynt edrych o amgylch, ac astudio eu safle, gwelsant, er eu braw, fod y cwch wedi ei gario allan i'r môr yn ystod y nos. Gwelent yr oleulong gryn lawer ymhellach oddiwrthynt, rhyngddynt a'u cartrefi,—rhy bell o lawer i neb o'r dynion ar ei bwrdd allu eu gweld hwy yn y cwch bychan. Ond ni allent weled unrhyw fath ar lestr arall ar wyneb y môr llydan. Yr oedd anobaith bron a'u llethu.

"Wel, Dic annwyl, rhaid i ni wneud rhywbeth," ebr Wil. "Wnaiff hi mo'r tro fel hyn."

"Ond beth wnawn ni, Wil annwyl?" gofynnodd Dic, a'i lygaid yn llenwi.

Trodd Wil ei ben draw, rhag edrych ar ei gyfaill yn wylo, oblegid yr oedd ar fin wylo ei hun. Digwyddodd ei lygaid syrthio ar gwpwrdd bychan yn y pen blaen. Cofiodd yr arferai ei ewythr gadw rhai pethau yn y fan honno. Brysiodd ato, agorodd ef, ac, yn sydyn, clywodd Dic ef yn gweiddi, "Hwre". "Edrych, Dic," meddai'n llawen, gan ddal darn o bren i fyny. Darn o bren gwastad ydoedd, tua dwy droedfedd o hyd, a thair modfedd o led ar ei hyd. Ni welai Dic unrhyw achos i ymorfoleddu yn yr hyn a ddangosid iddo.

"I beth mae hwn'na'n dda?" gofynnodd.

"Wyt ti ddim yn gweld?" gofynnodd Wil yn ôl, a'i wyneb yn serennu gan obaith newydd. "Mi ellwn rwyfo gyda hwn at y lightship. Fel hyn, weli," gan fynd i flaen y cwch, a gwthio blaen y pren drwy'r dwfr,—ar un ochr yn gyntaf ddwy neu dair o weithiau, ac yna yr un modd yr ochr arall.

"Mi fyddwn yn hir iawn yn symud fel'na," ebr Dic yn ddigalon.

Ond mae hynny'n well na pheidio a symud o gwbl. Tyrd, Dic, 'r hen ddyn; paid a thorri dy galon: mi rwyfwn ni bob yn ail ochr," ebr Wil, a dechrau gyda'r gair. Dechreuwyd ar y gwaith caled,—Dic yn bur amheus ar y cychwyn am lwyddiant y cynllun, ond a'i hyder yn cryfhau wrth weld bod y cwch yn ateb ryw gymaint i'w hymdrechion. Gwelent bod yn symud ryw gymaint, a daliasant ati am gryn amser yn y gobaith o gyrraedd diogelwch a chael. ymborth. A bron na ellid dywedyd bod yr ymborth yn bwysicach yn eu golwg na'r diogelwch,—bechgyn iach oeddynt ar eu cythlwng.

"Mi gymrwn ni bum munud," ebr Wil toc, a'r chwys yn rhedeg i lawr ei ruddiau. A chodasant eu pennau, gan godi'r pren o'r dwfr, a pharatoi i eistedd i orffwys, wedi bod wrthi ar eu deulin gyhyd. Ond, wrth droi o honynt i eistedd, gwelsant rywbeth i dynnu eu sylw, ac i beri iddynt anghofio'r rhwyfo a'r lightship, ac hyd yn oed eu newyn. Beth ydoedd? Wel, llong,—yn eu hymyl, o fewn llai na milltir iddynt, mor agos ag y gallent farnu, ac yn dod tuagatynt. Gallasent, yn ddiau, fod wedi ei gweld er ys meityn, onibai eu bod a'u holl sylw ar y rhwyfo. Anodd gwybod, pe bai bwys am hynny, pa un o'r bechgyn a'i gwelodd gyntaf. Mae'n debyg i'r ddau ei gweld ar yr un amrantiad, ond Wil a roes fynegiad gyntaf i'w deimladau.

"Hwre, dyma ni wedi'n hachub, Dic annwyl," gwaeddodd, gan sefyll ar ei draed, a chwifio'i freichiau, wedi anghofio'n llwyr ei chwys a'i ludded.

"O, diolch," llefodd Dic, a thorri i wylo'n hidl.

Safodd y ddau ar eu traed yn y cwch, a'u llygaid yn hoeliedig ar y llestr. Ac, erbyn iddynt graffu ac ystyried, gwelent fod rhywbeth yn anghyffredin yn ymddangosiad y llong,—rhywbeth hollol ddieithr iddynt hwy. Yr oedd yn berffaith dawel ar y pryd,—dim chwythiad o awel, a'r môr yn dawel a llonydd o'u hamgylch. Gwelent fod gan y llong dri mast, ac nad oedd hwyl o gwbl wedi ei lledu. Ac eto fe symudai yn weddol gyflym tuagatynt. Yr oedd erbyn hyn gryn lawer yn nes atynt nag a fuasai pan welsent hi gyntaf.

"Dyna i ti beth rhyfedd, Dic," ebr Wil. "Llong yn symud a dim un hwyl arni hi."

"Hwyrach mai stemar ydi hi," ebr Dic.

Ond 'does ganddi hi ddim corn," ebr Wil, "a 'does 'cw ddim mwg. A 'does 'na ddim gwynt o gwbl. Beth sydd yn ei gyrru, dywed?"

Ni allai'r ddau fachgen ddeall beth oedd yn peri i'r llong symud.

Yn fuan, yr oedd y llong bron gyferbyn a hwynt, ac fel pe bai am fynd heibio iddynt, o fewn llai na chwarter milltir iddynt, heb i neb ar ei bwrdd eu gweled.

"O'r annwyl," ebr Wil, "mae nhw am ein pasio ni. Dydyn nhw ddim wedi'n gweld ni. Gwaedda, Dic annwyl, am dy fywyd." "Hei! Hei!" A dechreuodd y ddau floeddio a'u holl nerth, a chwifio'u capiau, i geisio tynnu sylw rhywun ar fwrdd y llong. Am rai munudau, bloeddiasant, heb weld arwydd bod neb ar fwrdd y llong wedi eu gweld na'u clywed. Ac roedd eu calonnau'n dechrau curo'n gyflym gan ofn nad achubid mohonynt, a'r llong mor agos atynt, pan welsant y llong yn arafu, a chwch yn cael ei ollwng drosodd o honi.

"O! diolch," ebr Wil. "Wyddost ti beth, mi feddyliais i eu bod nhw am ein pasio ni. Do, wir, fachgen. Ond mae hi'n ol reit rwan."

"I ble mae hi'n mynd, tybed?" gofynnodd Dic. "Nid i Drelan, mae'n debyg."

"Nage, siwr," ebr Wil, "neu mi fasa wedi troi i mewn cyn hyn."

"Dydi hi ddim yn edrych yn debyg i long yn cario cerrig chwaith," ebr Dic. "I ble mae hi'n mynd, tybed?"

"Waeth i ti i ble," oedd ateb Wil. "Mi gawn drip reit ddifyr i ti. Hwyrach y rho'n nhw ni i lawr yn Aberdaron, neu ymhellach na hynny. Lle sydd yna wedyn ar lan y môr, dywed?"

Nid oedd Wil yn gryf mewn daearyddiaeth, a rhaid oedd iddo'n aml ddibynnu ar Dic yn yr ysgol, pan fyddai holi ar y pwnc hwnnw o athrawiaeth.

"Aberdyfi ac Aberystwyth," ebr Dic.

'Gora'n y byd po bellaf, on'te, Dic? Mi fydd 'na hwyl yn Nhrelan pan awn ni adre."

Roedd Dic wedi bod yn gwylio'r llong ddieithr yn ystyriol. Ac, yn awr, gofynnodd i Wil, "Wyddost ti beth sy'n gyrru'r llong 'na, Wil?"

"Na wn i, siwr," oedd yr ateb. "A wyddost titha ddim chwaith."

"Dydw i ddim yn siwr," oedd yr ateb. "Ond meddwl rydw i mai petrol sydd ganddyn' nhw,—a hwylia pan fydd gwynt teg, wyddost ti. Rydw i wedi clywed bod 'na longau felly."

"Rydw inna hefyd wedi clywed. Hwyrach y cawn ni betrol ganddyn' nhw i fynd adre felly,—er y basa'n well gen i gael trip."

Yr oedd y cwch o'r llong yn awr yn eu hymyl, a gwelent fod dau ddyn ynddo. Gofynnwyd i'r bechgyn (yn Saesneg) beth oedd y mater arnynt. Ceisiodd Wil egluro orau y gallai,—yr oedd yn well Sais na Dic, am ei fod wedi clywed ei ewythr Huw yn siarad Saesneg, ac wedi ymarfer mwy na Dic gyda morwyr a ddeuai gyda llongau i gei Trelan i lwytho. Yna taflwyd rhaff iddynt, a thynnwyd hwynt at ochr y llong. Codwyd hwynt i'r bwrdd; ac, wedi eu holi ymhellach am eu helynt, a deall eu bod heb fwyd ers oriau, arweiniwyd hwynt i'r fforcasl (ystafell y criw), a rhoddwyd bwyd iddynt. Wedi bod o honynt gyhyd heb ddim, ymborth oedd eu hangen pennaf, a gwnaethant gyfiawnder â'r arlwy a gawsant.

Wedi iddynt gael eu digoni, daeth gair bod ar y Capten eisiau eu gweld yn y caban. Gwelwodd y ddau pan glywsant hyn, ond nid oedd cyfle iddynt ddweud gair wrth ei gilydd. Felly, aethant dan arweiniad un o'r morwyr i gyfeiriad y caban. Wedi iddynt gyrraedd i'r ystafell honno, teimlent yn bur swil ac ofnus yng ngwyddfod pennaeth y llestr. Dyn tal ydoedd, gyda llygaid treiddgar a gên benderfynol. Sylwodd y bechgyn fod rhywbeth tebyg i wên yn chwarae'n barhaus o gwmpas conglau ei enau, ond nid gwên naturiol ydoedd, fel y barnent. Er mor ofnus y teimlent pan gawsant orchymyn i fynd i'w wyddfod, teimlent yn fwy annifyr o lawer wedi ei weld. Gwyddent ar ei wyneb nad oedd dim trugaredd i'w ddisgwyl ganddo. Eisteddai wrth y bwrdd yn y caban, ac wrth ei ochr, yr oedd dyn arall tua chanol oed,—dyn byr, ac heb fod yn edrych yn debyg i forwr, gyda gwallt wedi dechrau britho, a mwstas wedi ei dorri'n fyr.

Gorchymynodd y Capten iddynt eistedd, ac yna dechreuodd eu holi, ac ysgrifennu eu hatebion ar bapur. Holodd hwynt am eu henwau a'u cartrefleoedd, pwy oedd biau'r cwch, a sut y daethent i fod ynddo mor bell o dir. Wil a atebai gan mwyaf, a Dic yn cadarnhau pan deimlai y gelwid arno wneud hynny. Wedi cael yr hanes yn llawn ganddynt, gofynnodd y Capten iddynt, "Ac mae'n debyg eich bod yn disgwyl i mi eich glanio?"

"Os gwelwch chi'n dda, syr," ebr Wil yn grynedig. Ychydig iawn o awydd y trip yr edrychasai Wil ymlaen ato oedd arno wedi gweld sut ddyn oedd y Capten.

"Neu roi digon o betrol i ni fynd i'r lan," anturiodd Dic ychwanegu, ar sail ei ddyfaliad mai olew a ddefnyddid i yrru'r llestr.

"Mi anfonwn ni arian i chi am y petrol wedi mynd i'r lan, syr," ychwanegodd Wil, ac wrth weld y wên anghrediniol ar wyneb y Capten, meddai, "Gwnawn, wir, syr." Ond y wên annarllenadwy oedd unig ateb y Capten iddynt ar y pryd. Trodd at y gŵr wrth ei ochr, ac, am rai munudau, bu siarad rhyngddynt, rhy ddistaw i'r bechgyn allu ei ddeall. Yna trodd y Capten atynt, a dywedodd, "Rydych yn edrych yn ddau fachgen cryf ac iach. Oni fuasech yn hoffi bod yn forwyr a dod gyda ni?"

Edrychodd y ddau fachgen ar ei gilydd, mewn syndod a dryswch, ac yna atebodd Wil:

"Mi fasa'n well gennym ni gael mynd adre, os gwelwch chi'n dda, syr."

"Ond wn i ddim sut yr ewch chi adref," meddai'r Capten gyda'i wên sarhaus yn ymledu, "os na nofiwch chi i'r lan. Dydw i ddim yn mynd i wastraffu amser i droi i mewn i'ch glanio."

Mi awn ni yn y cwch, syr," ebr Wil, "os cawn ni dipyn o betrol gennych."

Ni fedra i ddim arbed dim," ebr yntau'n swta. "A dyna ddigon ar y mater. Rhaid i chi ddod gyda ni. Mi gewch gyflog fel y dynion eraill, ond i chwi fod yn fechgyn da, a gwneud eich gwaith."

Syfrdanwyd y bechgyn gan y newydd hwn. Pwniodd Dic ei gyfaill i geisio ganddo wneud un—cynnig arall, ond gwyddai Wil mai ofer a fyddai hynny.

"Dyna ddigon ar y mater ynteu," ebr y Capten, "ac yn awr, ewch i fyny i'r dec, ac fe ddof i fyny ar eich ôl yn y munud i drefnu gwaith i chi."

Trodd y ddau fachgen i adael y caban. Roedd geiriau y Capten wedi cael y fath effaith arnynt, fel na allent ddywedyd gair am rai munudau. Roeddynt wedi meddwl yn sicr y glennid hwy mewn rhyw borthladd heb fod ymhell iawn o'u cartrefi. Ond er cased oedd ganddynt erbyn hyn y syniad o fordaith yn y llong, nid dyna oedd prif achos eu tristwch, ond natur afrywiog y Capten. Roedd arnynt ofn y Capten,—roeddynt wedi gweld digon arno eisoes i wybod mai dyn ydoedd na thalai iddynt ei groesi. Felly nid rhyfedd iddynt fynd yn ôl i'r dec yn bendrist.

"Wel, Dic annwyl," ebr Wil, wedi bod o honynt am rai munudau ar y dec, a chael cyfle i ddweud gair lle na chlywid hwynt, "dyma i ti dro. Beth wnawn ni, dywed?"

"Hwyrach nad ydi'r llong ddim yn mynd ymhell," ebr Dic, yn fwy hyderus nag y teimlai, "Pam na basat ti'n gofyn iddo fo?"

"Pam na basat ti'n gofyn?" gofynnodd Wil yn ôl. "Roedd arnat ti ofn dweud dim bron wrtho fo. Hidia befo, 'r hen ddyn. Mae hyn yn well na llwgu yn y cwch."

"Wn i ddim, wir," ebr Dic. "Dydw i ddim yn leicio golwg y Capten 'na."

"Dydw inna ddim chwaith," ebr Wil, "ond hwyrach na fydd o ddim mor ddrwg wedi i ni ddwad i'w nabod o'n well."

Ysgydwodd Dic ei ben. "O, hen gena cas ydi o, yn siwr i ti," meddai. "Ond, os i Gaerdydd, neu rywle felly yn o agos, y mae'r llong yn mynd, dydi o ddim llawer o wahaniaeth gen i. Fydd hynny ddim yn hir."

"Edrych, Dic," ebr Wil, gan bwyntio a'i fys. Trodd Dic i edrych fel y gofynnid iddo, ac, er ei syndod, gwelai fod y llong wedi mynd ymhell o olwg eu cartrefi, a'i bod ynghanol y môr, ymhell iawn o'r glannau. Gwelent amlinelliad gwan o dir draw ymhell ar y gorwel. Roedd rhai o'r hwyliau wedi eu lledu, ac yn cael eu llenwi gan awel ysgafn. Gwelsant hefyd, er eu syndod, fod y 'Wennol' wedi ei godi i'r dec, ac yn gorwedd yn ymyl dau gwch y llong. Deuai'r dagrau i'w llygaid ar eu gwaethaf wrth syllu ar y cwch.

"Biti na fasa'n bosib i ni ei gael o i'r dŵr, a mynd adre," ebr Wil. Roedd ef erbyn hyn yn llawn mwy digalon na Dic.

A hwy'n sefyll ar y dec, ac yn syllu'n hiraethlon ar eu cwch, daeth y Capten atynt o'r caban.

"Dowch," meddai'n awdurdodol wrthynt, "i mi gael dangos eich gwaith i chi." Arweiniodd hwynt ymlaen at y galley,—gweithdy'r cŵc ar y llong. Galwodd ar y cŵc ato.

"Thomson," meddai, "dyma i chwi fachgen i'ch helpu, ac i dendio arnom ni yn y caban." A chyflwynodd Wil i ofal y cŵc.

Yna aeth â Dic ymlaen i ben blaen y llong. Yno yr oedd y mêt, a rhai o'r dynion. "Mr. Brown," meddai wrth y mêt, "dyma i chwi fachgen, i chwi wneud morwr o hono. Gwell i chwi ei roi yn eich watch chi. A chwiliwch am ddillad iddo ef a'r llall gael newid."

"Reit, syr," meddai'r mêt.

Trodd y Capten ar ei sawdl, ac aeth yn ôl i'r caban. Dyn ieuanc lluniaidd, a chanddo wynepryd hardd a dymunol oedd y mêt, a theimlodd Dic y gallai ei hoffi ef, ac mai dyn caredig ydoedd,—tra gwahanol i'r Capten.

PENNOD IV
AR FWRDD Y 'MONA'

CYN diwedd y prynhawn cyntaf ar fwrdd y llong, cafodd Dic un achos i lawenhau yn fawr. Darganfu fod un o'r criw,—dyn ieuanc, glandeg, a hoffus ei wedd, yn Gymro. Newidiodd teimladau Dic at ei amgylchiadau newydd, anhyfryd, pan ddeallodd hyn, a brysiodd i hysbysu ei ddarganfyddiad i Wil y cyfle cyntaf a gafodd. Prin y gallai Wil gredu'r fath newydd da ar y cyntaf,—yr oedd, iddo ef, yn rhy dda i fod yn wir. Ond wedi i Ddic ei sicrhau mai gwir a ddywedai, aeth yntau ynghylch ei orchwylion gyda chalon ysgafnach.

A'r un prynhawn,—yn y dog-watch, rhwng chwech ac wyth o'r gloch, pan oedd pawb o'r dwylo, ar ddihun,—cafodd y ddau fachgen gyfle i siarad â'r Cymro.

"Ie," meddai wrthynt, gyda gwên siriol, "un o Amlwch ydw i. Bob Tomos ydi f'enw i."

"Mae'n dda iawn gen i fod yma Gymro," ebr Wil, a hawdd oedd gweld ar ei wyneb y dywedai'r gwir. "I ble mae'r llong yn mynd?"

"Ddywedodd y Capten ddim wrthych chi?" gofynnodd Bob Tomos.

"Naddo," oedd yr ateb.

"Wel," ebr Bob yn araf. "Mae o'n dweud mai i Lundain yr ydym yn mynd."

Agorodd y bechgyn eu llygaid mewn syndod. I Lundain! Iddynt hwy yr oedd Llundain yn bell iawn.

"I Lundain!" ebr Dic. "Mor bell â hynny," a'i lygaid yn llenwi â'r dagrau oedd mor barod i ffeindio'u ffordd yno.

"Fasa fo fawr o wahaniaeth gen i," ebr Wil, "i ble basa hi'n mynd, wedi cael Cymro yma, tasa posib i mi anfon gair adre at mam a f'ewyrth."

"O! ni fyddwn ni ddim yn hir yn mynd i Lundain, os cawn ni dywydd," ebr Bob. "Ond mi ddweda i wrthych chi beth wnewch chi. Sgrifennwch lythyr, a rhowch o mewn potel, a'i thaflu hi i'r môr. Feallai yr aiff hi i'r lan yn rhywle, neu y codir hi gan ryw long, ac y can' nhw'r llythyr reit fuan yn Nhrelan." Ymddangosai'r cynllun yn un rhagorol i'r bechgyn, a phenderfynasant ysgrifennu nodyn y noson honno. Addawodd Bob chwilio am botel iddynt. Ond rhybuddiodd hwy rhag bod yn rhy obeithiol y llwyddai'r cynllun.

"Cofiwch," meddai, "hwyrach nad aiff hi ddim i'r lan yn hir, ac na chodir mohoni gan neb, ac y byddwn ni yn Llundain cyn y clywan 'nhw ddim amdanoch chi.”

Er i Bob daflu dŵr oer fel hyn ar eu cynllun, credent ei fod er hynny yn werth ei gario allan mewn gobaith y llwyddai.

"Rhaid i chi drio plesio'r Capten, cofiwch," meddai Bob. "Mae ganddo goblyn o dempar, a waeth ganddo beth wnaiff o i chi wedi gwylltio."

"Mi fedra i'ch coelio chi'n hawdd," ebr Wil y y Mona chwerw ei ysbryd, wrth gofio am yr hyn a fuasai yn y caban gynau.

"Mae'r mêt yn edrych yn ddyn neis iawn," ebr Dic.

"O! mae Mr. Brown yn well sort o lawer na Chapten Larkin," ebr Bob. "Ond y Capten ydi'r meistr. Gofalwch chi am fod yn ufudd iddo fo. Raid i chi ddim ofni wedyn."

"Pwy ydi'r dyn arall hwnnw sydd yn y caban?" gofynnodd Wil.

"Mr Allen ydi'i enw fo," oedd yr ateb. "Mae nhw'n dweud mai fo biau'r llong, ond wn i ddim ydi hynny'n wir."

"Beth ydi enw'r llong?" gofynnodd Wil. "Mi fydd yn rhaid i ni roi hwnnw yn y llythyr, neu ni fydd mam ddim haws."

"Ymhle mae dy lygaid di, fachgen?" gofynnodd Bob. "Wyt ti ddim wedi ei weld o, 'Mona,' ar y cychod."

Gwridodd Wil dan y cerydd, a bu'n ddistaw am ennyd.

Beth sydd yn gyrru'r llong heblaw gwynt?" gofynnodd Dic.

"Petrol. Mi fydd yn handi iawn pan na fydd awel, neu pan fydd yr awel yn groes." ebr Bob. "A rwan, rhaid i mi fynd. Rydw i'n disgwyl y byddwn ni'n ffrindia. Cofiwch, does dim eisio i chi fynd i drwbl, ond, os ewch chi, dowch chi i ddweud wrtha i."

Diolchodd y bechgyn iddo, ac yna aethant i ysgrifennu llythyr a'i ddodi yn y botel. Daeth Bob a photel iddynt, ac wedi cau'r llythyr yn dynn ynddi, taflasant hi dros y bwrdd, gan obeithio y cerid hi gan y tonnau caredig i afael rhywun a anfonai'r llythyr i Drelan, i leihau pryder eu hanwyliaid yno yn eu cylch.

Cyn y nos, cawsant weled pa fodd a phaham yr ofnai pawb y Capten. Wedi iddynt daflu'r llythyr i'r môr, safai'r bechgyn ar y dec, a nifer o'r dwylo yn sefyll yn agos atynt yn ymddiddan. Daeth y Capten i fyny o'r caban Y munud y gwelsant ef, gwasgarodd y dynion, gan geisio ffeindio rhywbeth i'w wneud, rhag iddo sylwi arnynt yn segur. Cerddodd yn awdurdodol ei drem a'i osodiad ar hyd y dec, gan droi ei lygaid i bob congl, fel pe bai'n chwilio am feiau. Yna cododd ei ben i fyny i edrych ar yr hwyliau. Tynnodd rhywbeth ei sylw ynglŷn ag un o'r hwyliau. Safodd a galwodd ar Bob ato,—ef oedd yr agosaf ato. Fflachiai ei lygaid, a chyda rheg arswydus, gorchmynodd Bob i fynd i fyny i gywiro'r diffyg, gan ychwanegu geiriau angharedig am y mêt, yr hwn a dybiai oedd i'w feio am y diffyg. Brysiodd Bob i ufuddhau iddo heb golli amser.

Daeth y mêt ymlaen at y Capten, ac yntau'n gwylio Bob ar yr hwylbren.

Trodd y Capten ato'n ffyrnig, ond heb regi.

"Nawr, Mr. Brown," meddai'n llym, "rhaid i chwi fod yn feistr ar y dynion. Ni thâl bod yn rhy garedig wrthynt, neu ni wnânt ddim byd yn iawn. Nid fel yna y mae ffyrlio top-sail."

Edrychodd y mêt i fyny. "Beth oedd y mater arni, syr?" gofynnodd.

"I lygad morwr yr oedd y gwaith wedi ei wneud yn fler, a rhaid i mi gael popeth yn iawn ar fwrdd fy llong i. Gofelwch o hyn allan." Ac ymaith ag ef.

Sylwodd y bechgyn fod y mêt yn sefyll yn ddigryn o'i flaen, ac na regai'r Capten mohono. Felly barnai'r bechgyn nad oedd y mêt yn ei ofni, beth bynnag am y dynion.

Daeth yn fuan yn amser noswylio, ac am y noson honno, cafodd y bechgyn fynd i'w gwelyau yn y fforcasl, ac ni bu raid i Ddic fynd allan gyda'i wyliadwriaeth. Ond buont yn gorwedd ill dau am oriau heb allu cysgu. Nid gwiw oedd iddynt siarad yn uchel, gan y cysgai rhai dynion yn eu hymyl. Ond yn troi gyda digwyddiadau cynhyrfus y dydd y bu eu meddwl hyd nes i gwsg o'r diwedd eu gorchfygu.

PENNOD V
I BLE MAE'R 'MONA' 'N MYND?

PAN ddeffrodd y bechgyn bore trannoeth, cawsant fod awel gref wedi codi, a bod y llestr yn cael ei lluchio fel pluen ar y tonnau, fel mai anodd oedd iddynt allu sefyll ar eu traed. Ac yn fuan iawn, er eu bod wedi arfer cymaint gyda chychod yn Nhrelan, dechreuasant deimlo'n bur annifyr. Cawsant salwch y môr, fel y ca pawb bron yn ddieithriad ar eu mordaith gyntaf. A thra y buont yn y cyflwr hwnnw, nid oedd arnynt angen ymborth, ac ni chymerent ddiddordeb mewn dim o'u hamgylch. Nid gwaeth ganddynt pe clywent fod y llong yn suddo, am y caent lonydd gan y poenau dirdynol. Prin y gwnaethent ymgais i'w hachub eu hunain, pe digwyddai hynny. Ychydig iawn o gydymdeimlad a gawsant gan neb, a synnent fod y dwylo, ac hyd yn oed eu cyfaill, Bob, yn cymryd golwg mor ysgafn ar eu gwaeledd. Nid felly y buasai eu mamau pe buasent gartref.

Ond wedi deuddydd o ddioddef, aeth y cwrs drosodd, a daethant atynt eu hunain. Erbyn hyn yr oedd y storm drosodd, a phan aethant i'r bwrdd, cawsant ei bod yn fore hyfryd, a'r llong yn mynd ymlaen yn ddifyr ar ei hynt. Aeth y ddau yn ôl at eu gwaith,—Dic, i ufuddhau, hyd y gallai, i orchymynion y mêt, a Wil, i'r galley at y cŵc.

Yr oedd bywyd ar fwrdd llong hwyliau yn brofiad newydd a dieithr i'r bechgyn, ac nid ar unwaith y daethant i ddeall eu byd newydd. Yr oedd presenoldeb Bob Tomos, y Cymro o Fôn, ar y llong, yn gysur ac yn help mawr iddynt,—yn enwedig i Ddic. Am Wil, helpu Thomson yr oedd ef i baratoi ymborth, a'i waith arbennig ef oedd cludo bwyd i'r caban. Roedd Dic, yn ffodus iddo ef, wedi ei osod yng ngwyliadwriaeth Mr. Brown, y mêt. Dau arall a ffurfiai'r wyliadwriaeth honno, sef Bob, a Sais o'r enw Cooke—dyn eithaf dymunol fel y darganfu Dic yn fuan, ac yn cyd-dynnu'n dda â Bob. Yng ngwyliadwriaeth y Capten, yr oedd tri morwr arall,—Smith, White, a Walker. Ychydig a welai'r bechgyn ar y tri hyn oddigerth yn y dog-watches', rhwng pedwar ac wyth y prynhawn. Yn ystod yr amser hwnnw, byddai pawb o'r criw ar ddihun. Ar bob adeg arall, byddai'r naill adran yn gwylio, a'r llall yn cysgu. Un-ar-ddeg, felly, oedd nifer ar fwrdd y llong,—sef y Capten, y mêt, Mr. Allen, pum morwr, Thomson, a Wil a Dic. Gellir dychmygu mor falch oedd Dic o gael ei osod yn yr un wyliadwriaeth â Bob, yn enwedig gan mai Mr. Brown, y mêt, a ofalai am y wyliadwriaeth honno. Roedd wedi cymryd at y mêt o'r funud y gwelsai ef, yr un mor gryf ag y cymerasai yn erbyn y Capten. Ychydig a welodd y bechgyn ar ei gilydd y diwrnod cyntaf hwnnw wedi iddynt wella o'r salwch. Ond yn y dog-watch, daeth Dic at Wil â golwg bryderus ar ei wyneb. Gwelodd Wil fod ganddo rywbeth ar ei feddwl. Aethant i le unig ymhen blaen y llong, i gael ymddiddan allan o glyw pawb.

"Beth ydi'r mater, Dic?" gofynnodd Wil. "Mi wn i ar dy wyneb di fod rhywbeth yn dy boeni.

"Wil annwyl, beth wnawn ni?" ebr Dic, a'i dôn ddwys yn cadarnhau'r pryder a ddangosid yn ei wyneb.

"Dywed beth ydi'r mater," ebr Wil. "Oes rhywun wedi gwneud rhywbeth i ti?"

Nac oes," oedd ateb Dic. "Ond, wyddost ti, Wil, nid i Lundain y mae'r llong 'ma'n mynd."

"Nid i Lundain!" ebr Wil mewn syndod. "I ble ynteu?"

"Does neb yn gwybod," ebr Dic. "Gwrando, mi ddweda i wrthyt ti. Gan Bob y clywais i'r pnawn 'ma. Rydym wedi pasio Pentir,—Land's End, wyddost ti, y lle y dylem droi i'r dwyrain i fynd i Lundain, er bore ddoe, pan oeddym ni'n sâl."

Edrychodd Wil yn fud gan syndod i wyneb ei gyfaill. Ac aeth Dic ymlaen. "Mynd tua'r De y mae hi," meddai. "Ac mae arna i ofn ar y llong 'ma. Mae'r dynion yn dechrau cwyno'n enbyd. Mae arna i ofn mai helynt fydd yma cyn bo hir."

"Helynt beth wyt ti'n feddwl?" gofynnodd Wil.

"Ofn iddi fynd yn ddrwg rhwng y Capten a'r dynion, ac i rywun gael ei ladd," ebr Dic yn gynhyrfus ei dôn.

Gwelwodd wyneb Wil pan glywodd hyn. Nid oedd wedi meddwl am bosiblrwydd perygl newydd o'r math hwn.

"O! 'does dim peryg i ddim byd felly ddigwydd," meddai, ar ôl ennyd, i geisio'i gysuro'i hun.

"Dydw i ddim mor siwr," ebr Dic. "Mi geidw'r dynion yn dawel am dipyn, o ofn y Capten, ond torri allan wnaiff y storm ryw ddiwrnod, mi gei di weld."

"Hwyrach y try o'n ôl am Lundain," ebr Wil.

"Pam na basa fo'n troi yn y lle iawn?" ebr Dic. "Amau mae'r dynion mai rhyw amcan drwg sydd ganddo i'r daith hon."

A phan aeth Wil i'r fforcasl gyda Dic, ychydig cyn i'r gloch wyth ganu, cafodd gadarnhâd i'r hyn a ddywedasai Dic am y dynion. Yr oedd pedwar o'r dwylo yno, a Bob yn eu plith, ac yn siarad am y peth pan aeth y bechgyn i mewn.

"Mae'n edifar iawn gen i mod i wedi shipio," ebr Cooke. "Doeddwn i ddim yn leicio golwg y Capten o'r dechrau."

"Mi ddylai un o honom ofyn iddo," ebr White, "paham y mae'n mynd a'r llong am yr Equator yn lle i Lundain."

"Digon hawdd dweud hyn'na," grwgnachodd Walker, ond pwy sy'n mynd i ofyn iddo?" Bu distawrwydd, arwydd glir nad oedd neb yn teimlo'n barod i gynnig gofyn iddo.

"Gadwch i ni ofyn i'r mêt," ebr Cooke.

"Dŵyr o ddim," ebr Bob. "Mi ofynnais i iddo fo." "Mi ddylai wybod," ebr White yn sarrug. "Beth mae rhyw wlannen fel na'n dda yn fêt? Os nad ŵyr o, mi ddylai ofyn i'r Capten."

"Mae o'n gwybod yn iawn, mae'n debyg," grwgnachodd Walker drachefn, "ond fod arno ofn dweud. Rydw i'n cynnig ein bod yn gofyn iddo gyda'n gilydd."

Cytunwyd ar hynny, ac aethant i gyd i fyny i'r dec, yn benderfynol o gael gwybod y dirgelwch gan y mêt.

Yn ffodus iddynt, cawsant Mr. Brown ar y dec wrtho'i hun, a dim golwg yn unman ar eu gelyn mawr—y Capten.

White a ofynnodd y cwestiwn iddo. Yn ateb, ysgydwodd Mr. Brown ei ben, a dywedodd, "Nid oes angen i chwi ofni. Nid wyf yn credu fod gan Capten Larkin unrhyw amcan drwg wrth fynd a'r llong o'i chwrs."

"Ond pam y mae'n mynd â hi, ynte?" gofynnodd Walker, a threm hyll yn ei wyneb.

"Rhaid i chwi ofyn hynny iddo fe," ebe'r mêt, gyda gwên siriol. "Nid wyf yn gwybod."

"Ond ein barn ni, syr," ebr White, "ydyw y dylech chwi, fel ail swyddog y llong, fod yn gwybod."

"Pe bawn yn ofni rhyw ddrwg," oedd ateb y mêt, "gellwch benderfynu y mynnwn wybod. Ond fy marn i ydyw mai rhyw fympwy o eiddo Mr. Allen, y perchennog, ydyw hyn."

"A fuasech chi'n ein cynghori i ofyn i'r Capten?" gofynnodd Bob.

"Na faswn, ar gyfrif yn y byd," ebe'r mêt yn bendant. "Chwi wyddoch am ei dymer,—gwell i chwi beidio a'i gythruddo Gellwch gymryd fy ngair i, nad oes achos i chi bryderu, a'r funud y gwelaf achos i newid fy marn, cewch wybod gennyf. Trystiwch fi, wnewch chi?'

Nid oedd modd dal yn gyndyn wedi clywed geiriau a gweled gwên siriol Mr. Brown. Diolchodd y dynion yn siriol iddo, ac aeth yntau oddiwrthynt. Ac am rai dyddiau, bu pawb yn dawel ar ôl derbyn y sicrwydd gan y mêt, a'r llong yn parhau i fynd tua'r De, a'r hin yn cynhesu y naill ddydd ar ôl y llall.

PENNOD VI
THOMSON

AR wahân i'r ofnau ynglŷn â chwrs y llong, a'i hiraeth am gartref, nid oedd gan Dic lawer i'w boeni. Cai lawer o gwmni Bob Tomos, a hoffai'r mêt fel meistr. A than gyfarwyddyd y ddau, yr oedd Dic yn prysur ddysgu gwaith morwr, ac yn fuan deallai sut i wneud llawer o'r pethau y gelwid ar forwr i'w cyflawni.

Nid oedd Wil wedi bod yn agos mor ffodus ag ef. Ni bu'n hir yng nghymdeithas y cŵc yn y galley cyn deall bod Thomson yn gymeriad anodd ei blesio, neu ei fod wedi cymryd yn ei erbyn ef. Pwt o ddyn bychan eiddil ydoedd, gyda wyneb a dystiai ei fod yn bur gynefin â blas diod gadarn. Gwgu a wnaeth ar Wil o'r munud cyntaf yr aeth ato. Nid oedd dim a wnai Wil yn iawn ganddo, er i'r bachgen wneud ei orau. Gollyngodd ei dafod arno, gan ei regi â'i alw ar bob math o enwau, a Wil yn dioddef y cyfan, rhag ei ofn. Wrth weld Wil mor oddefgar, aeth y cŵc yn hyfach, a dechreuodd ei gamdrin, pan gai gyfle heb fod neb yn gweled, gan ei gicio a'i daro â'i ddwrn rai gweithiau. Ac un diwrnod, ymhen tuag wythnos wedi i'r bechgyn fynd i'r llong, pan oedd Wil, ym marn Thomson, yn hir yn golchi'r llestri, tynnodd ei gyllell allan, gan fygwth Wil â hi. Rhedodd Wil allan o'r galley mewn braw am ei fywyd, a chlywai Thomson yn chwerthin yn uchel y tu ôl iddo, wedi llwyddo i'w ddychryn. Aeth bywyd Wil yn faich iddo. Teimlai awydd cwyno wrth y Capten am y driniaeth a gai, ond ofnai mai drwg iddo'i hun a wnâi drwy hynny am fod y Capten y fath ddyn ag ydoedd. Penderfynodd ddweud yr hanes wrth Bob, a gofyn ei gyngor. A phan gafodd gyfle ar Bob wrtho'i hun, gwnaeth hynny.

"Mae'n dda i ti na ddwedaist wrth y Capten," ebr Bob, wedi gwrando stori Wil.

"Pam?" gofynnodd Wil yn ddiniwed.

"Wel, ar y môr, wyddost ti," ebr Bob, mae'n well gan forwyr weld bechgyn yn ymladd eu brwydrau drostynt eu hunain nag yn achwyn wrth swyddogion y llong."

"Beth ydi'ch cyngor chi i mi felly?" gofynnodd Wil. "Gwna di dy waith yn onest," ebr Bob, "ac os bydd Thomson yn gas wrthyt ti, tro ato fo. Paid a chymryd ganddo fo."

"Ond beth tasa Thomson yn achwyn arna i wrth y Capten?" gofynnodd Wil yn ofnus.

"Does dim peryg iddo wneud," ebr Bob, ac aeth ymaith, cyn i Wil gael cyfle i ofyn cwestiwn arall oedd ar ei feddwl, sef, Beth petai Thomson yn rhoi curfa waeth nag erioed i mi neu yn fy lladd?

Myfyriodd Wil lawer y diwrnod hwnnw ar gyngor Bob. Ai tybed ei fod yn un doeth? Ofnai nad ydoedd, ond, eto, credai y rhoddai Bob y cyngor gorau a fedrai iddo, ac felly, wedi ystyried y mater yn ddwys, penderfynodd weithredu ar gyngor Bob, oni chai lonydd gan Thomson. Roedd gormes y cŵc arno yn prysur wneud ei fywyd yn anioddefol iddo, ac os gwnai'r cynllun hwn les, roedd yn werth rhoi praw Hyd yn oed pe methai, ni chredai Wil y gallai fod yn waeth arno.

Bore trannoeth, roedd Wil yn y galley yn golchi tatws at ginio. Daeth Thomson i mewn, a gwelai Wil ar ei wyneb ei fod mewn tymer ddrwg,—gwaeth nag arfer.

"Golcha nhw'n lân," meddai'n sarrug wrth Wil. "Rydw i'n gwneud," ebr Wil, a thinc penderfyniad newydd yn ei lais, a'i synnai ei hun, fel mai prin yr adwaenai ei lais.

Edrychodd Thomson arno yn guchiog,—tybiodd Wil ei fod wedi sylwi ar y dinc newydd yn ei lais, ac aeth ias o'r hen ofn drwy ei gorff. Ond am funud yn unig, y meddiannwyd ef gan yr hen ofn. Gwyddai fod llygaid y cŵc arno, ac aeth ymlaen gyda'i waith. "Paid a cholli dŵr hyd y llawr," ebr Thomson ar ôl ennyd o wylio Wil.

Gŵyr pawb nad hawdd golchi tatws mewn bwced ar fwrdd llong fo'n ysgwyd ar y tonnau, heb golli ryw gymaint o ddŵr hyd y llawr.

"Dydw i ddim yn trio colli dŵr," ebr Wil, gan edrych i wyneb Thomson.

Peth newydd yn hanes y galley oedd i Wil ateb y cŵc fel hyn. Fe sylwodd y cŵc yntau ar hyn, ond ni ddeallodd y dylai'r ymddygiad newydd hwn yn Wil beri iddo ef fod yn ofalus sut i ddelio â'r bachgen. Yr oedd ysbryd gormesol y cŵc wedi ei ddallu fel na chredai y meddai Wil ar ysbryd i wrthryfela yn ei erbyn.

"Paid a f'ateb i, dy feistr, fel yna," meddai, a'i daro ar ei wyneb.

"Dydach chi ddim yn feistr arna i," ebr Wil, gan neidio i fyny, ac wynebu'r cŵc a'i lygaid yn fflachio. "O'n wir," ebr Thomson, gan dynnu ei gyllell allan a bygwth Wil â hi, "Beth sy'n bod heddiw, tybed?" "Rydw i'n mynd i fynnu cael llonydd gynoch chi, beth bynnag," ebr Wil. "Dydw i ddim yn mynd i gymryd chwaneg o fy nghamdrin."

"Felly, wir," ebe'r cŵc, a chasineb at y bachgen lond ei lygaid, "mi gawn ni weld ynghylch hynny." A rhuthrodd ymlaen at Wil, gan feddwl, mae'n debyg, ei ddychryn fel y tro blaenorol. Ond Wil newydd a'i hwynebai y diwrnod hwn. Roedd yr hen Wil ofnus wedi marw ar ôl cael cyngor Bob. Nid oedd y bachgen am ildio modfedd iddo. Yn ei ruthr, ceisiodd y cŵc gydio am wddf Wil, ond yr oedd y bachgen yn rhy gyflym iddo. Plygodd ei ben pan oedd y cŵc yn dod amdano, a chan roi hanner tro, osgodd freichiau'r cŵc. Yna, cyn i'r cŵc ei ad—feddiannu'i hun, neidiodd Wil i fyny, ac yr oedd ei ddwylo'n cau'n dynn am wddf Thomson. Yna, gan gasglu ei holl nerth, pwysodd y cŵc yn ôl, gan ei ddal uwch ben y stôf. Hawdd y gellid gweled ar wyneb Thomson ei fod wedi colli ei holl ddewrder, a'i lygaid bron a dod allan o'i ben. Gollyngodd y gyllell o'i law ddiymadferth, a gellid meddwl ar ei ymddangosiad y tybiai fod ei awr ddiweddaf wedi dod.

"Trugaredd," llefodd yn floesg, mor bell ag y gallai weiddi a dwylo Wil am ei wddf. "Llacia d'afael. Rwy'n mygu."

Ond daliai Wil i wasgu.

"O!" llefodd y cŵc. "Rwy'n llosgi. Gad i mi fynd."

Rhyddhaodd Wil ychydig ar ei afael ar wddf Thomson, ond heb ei ollwng yn rhydd.

"Gad i mi fynd," erfyniodd y cŵc. "Cei lonydd gennyf o hyn allan."

"Rwyf am fynnu llonydd," ebr Wil, a'i waed erbyn hyn yn berwi yn ei wythiennau, "ond rwy'n mynd i dalu rhywfaint yn ôl i chi gyntaf am y camdrin a fu arnaf."

Dychrynnodd Thomson, a dechreuodd weiddi "Mwrdwr," fel dyn gwallgof. Tybiodd Wil ei fod wedi dychryn digon arno i gyrraedd ei amcan, a gollyngodd ef yn rhydd. Pan drodd Wil at ddrws y galley, pwy a welai'n sefyll yno ond y Capten a'r wên ansymudol ar ei wyneb. Am funud, ofnodd Wil y byddai'n helynt arno, ond tawelwyd ei ofnau gan eiriau a thôn y Capten:

"Beth sy'n mynd ymlaen yma?" gofynnodd mewn llais addfwynach nag arfer.

"Thomson a minnau'n setlo rhyw gownt bach oedd rhyngom," ebr Wil. Rhyfeddai wedyn ato'i hun yn gallu siarad mewn dull mor ddidaro â'r Capten: ond, ar y pryd, teimlai nad oedd waeth ganddo beth a wnâi, fel y berwai ei waed yn ei gorff. Trodd y Capten ymaith a'r wên anniflan, gyfrin ar ei wyneb. Nid oedd arwydd bod ar y cŵc awydd siarad,—gan gywilydd ynteu beth. Gadawodd Wil iddo nes y deuai ato'i hun, ond penderfynodd y byddai iddo o hynny ymlaen gadw golwg arno, rhag ofn iddo gynllunio ryw ffordd i ymddial arno. Ond ymddangosai Thomson fel pe bai wedi dysgu gwers fawr ei fywyd, ac yn awyddus i fod ar well telerau â Wil. A phan siaradodd, yr oedd ei lais yn fwyn a'i eiriau gryn lawer yn fwy dewisol a chwaethus nag yr arferent fod hyd hynny.

Ni ddeallodd Wil hynny ar y pryd, ond daeth i wybob yn ddiweddarach,—ei fod wedi ei godi ei hun ym marn y Capten trwy ddangos digon o wroldeb i droi ar y cŵc.

PENNOD VII
CAPTEN LARKIN

MYND ymlaen tua'r De yn gyson yr oedd y llong, ac er i eiriau'r mêt dawelu'r dynion am beth amser, dechreuwyd murmur drachefn wedi rhai dyddiau. Dyna a glywai'r bechgyn bob dydd yn y fforcasl, murmur a grwgnach yn erbyn y Capten, ond neb yn teimlo'n ddigon dewr i ofyn iddo am ystyr y daith. Yr oedd yr ysbryd anniddig wedi meddiannu'r dynion i'r fath raddau, fel na chafodd yr helynt rhwng Wil a Thomson y sylw a gawsai dan amgylchiadau gwahanol.

Daethant i dueddau'r Trofannau a'r Cyhydedd,—y lleoedd tawel, heb awel, lle y mae'n anodd i long hwyliau symud. Yno y profodd y peiriant olew yn ddefnyddiol ar y 'Mona'. Gyda chymorth peiriant, llwyddwyd i fynd â hi drwy'r parthau tawel i gyrraedd y trade winds ffafriol iddi fynd ymlaen ar ei chwrs tua'r De. Pellach, pellach o gartref yr âi'r llestr y naill ddydd ar ôl y llall, a neb o'r dynion yn gwybod i ble'r eid.

Peth arall a dueddai i gynhyddu'r anesmwythyd oedd gorchymyn caeth y Capten i gadw'r llong yn glir o lwybr pob llong arall. Bob tro y deuid i olwg llong arall, rhaid a fyddai llywio'r 'Mona' i fynd ymhellach oddiwrthi,—yn ddigon pell fel na ellid gwneud arwydd o'r naill long i'r llall. Methai'r dynion a deall pa angen oedd am ymddygiad o'r fath. Iddynt hwy, dywedai nad oedd y Capten ar berwyl da, a grwgnachent.

Ac yna, un diwrnod, wedi iddynt groesi'r Cyhydedd, yr oedd y mêt a'i dri dyn yn gwylio'r llong, Bob wrth y llyw, a Cooke ar y 'lookout', a Dic gyda'r mêt ar y dec. Yn sydyn, clywyd Cooke yn gweiddi'n gyffrous, "Llong ar dân draw ar y chwith, syr." Cydiodd y mêt yn ei yspien-ddrych, ac i fyny ag ef at Cooke. Gwelodd draw, rai milltiroedd ar y chwith iddynt, long weddol fawr a cholofnau o fwg yn esgyn o honi. Yn ddioed, rhoes Mr. Brown orchymyn i Bob i lywio i'r cyfeiriad i'r amcan o estyn cynhorthwy, o byddai angen. Yr oedd yr awel yn ffafriol i'r 'Mona' deithio i'r cyfeiriad, a symudodd yn gyflym. Heb golli amser, galwodd y mêt ar Ddic i'w helpu i ledu rhagor o liain i'r awel. Pan ddaethpwyd yn ddigon agos i'r llestr anffodus i Mr. Brown allu gweld yn eglur fod ar y dynion ar y llong angen cymorth, gwaeddodd o ben grisiau'r caban i hysbysu'r Capten, a chanodd y gloch i alw pawb i'r dec, fel y gellid cael y cychod allan i fynd i geisio achub bywydau. Yn ddioed, wedi ei alw, daeth y Capten i'r dec fel tarw gwyllt. Pan welodd beth a wneuthid, sef newid cwrs y llong, dechreuodd regi'n arswydus a dawnsio ar y dec yn ei gynddaredd. Llamodd at y llyw, a chan roi hergwd i Bob oddiyno, trodd y llyw i gael y llong yn ôl i'w chwrs, ac i fynd oddiwrth y llong oedd yn llosgi. "Beth ydych yn wneud, syr?" gofynnodd y mêt iddo'n syn.

Edrychodd y Capten yn ffyrnig arno, fel pe bai am ei regi, ond ymataliodd. Yr oedd rhywbeth yng ngolwg y mêt a'i rhwystrai i gymryd hyfdra arno. "Mynd ymlaen ar fy nhaith," meddai'n ystyfnig.

'Ond, yn sicr, syr, ni fedrwch adael y dynion i foddi," protestiodd y mêt.

"Mae ganddynt gychod," oedd ei ateb cwta, "ac nid achub bywydau ydyw fy neges ar y daith hon."

Safai'r dynion yn gylch yn gwrando'n fud ar y ddadl rhwng y Capten a'r mêt, ac er y teimlent y carent gymryd ochr y mêt, ni feiddiai'r un o honynt ymyrryd.

"Rwyf yn synnu atoch, syr," ebe'r mêt. A symudodd ymlaen at y llyw, fel pe am fynnu ei gymryd oddiarno, a chael ei ffordd.

"Mr. Brown, rhaid i mi eich atgofio mai fi ydyw capten y llong," meddai'r Capten, "Ac rwyf yn disgwyl i chi ufuddhau i mi." Yna ychwanegodd yn fwy addfwyn, "Gwell i chi a'ch dynion fynd i lawr i orffwys. Fe gymerwn ni'r wyliadwriaeth."

Trodd y mêt ato gyda'r amcan o erfyn arno drugarhau wrth y trueiniaid, ond ataliodd y Capten ef. "Mr. Brown," meddai, "rwyf wedi dweud wrthych am fynd i lawr gyda'ch dynion."

Gwelodd y mêt nad oedd ond ofer iddo geisio ymhellach, ac felly trodd yn wynebdrist i fynd i'w orweddfa. Yr un modd aeth ei dri dyn ymlaen i'r fforcasl, gan adael i'r Capten annynol gael ei ffordd.

Y noson honno, a thrannoeth, bu'r dynion yn trafod y digwyddiad ofnadwy. Wrth gwrs yr oeddynt yn unol yn eu condemniad ar waith y Capten.

"Mae peth fel hyn yn ofnadwy," ebr Cooke, "a phe bai un o honoch wedi neidio arno, buaswn wedi rhuthro ymlaen i helpu."

"Hy," ebr White yn finiog, "hawdd iawn dweud hyn'na heddiw. Pam na basat ti'n rhuthro gyntaf?" Ac edrychodd y ddau forwr yn ffyrnig ar ei gilydd.

"Waeth i ni heb a ffraeo gyda'n gilydd," ebr Walker, i geisio gostegu'r storm a ymddangosai fel pe ar dorri allan rhwng y ddau forwr. "Nid enillwn ni ddim drwy hynny. Rhaid i ni feddwl am wneud rhywbeth." "Ond beth wnawn ni?" gofynnodd Bob yn ei benbleth, "a phawb o honom ei ofn."

"Taswn i'n cael unwaith i olwg tir, nid arhoswn i funud ar y llong," ebr Cooke.

"Lol ydi siarad fel'na," ebr White. "Sut y bydd yn bosib i neb o honom lanio heb iddo ef wybod? Rhaid i ni wneud rhywbeth gyda'n gilydd."

"Cael gwybod i ble y mae'r llong yn mynd, a pha beth yw ei neges a ddylem." ebr Walker.

"A chael gwybod pwy ydyw Mr. Allen, a pheth yw ei fusnes ar y llong," ychwanegodd Cooke.

"Dau gwestiwn rhagorol, ond cael rhywun i'w gofyn," ebr Bob, a nodyn o ddirmyg yn ei lais.

Rydw i'n cynnig ein bod yn gofyn i'r mêt ofyn iddo drosom," ebr White.

"Dydi hynny ddim yn deg a'r mêt," awgrymodd Bob. "Pam nad ofynnwch chi i Thomson?" Ond chwarddwyd yn wawdlyd at awgrym Bob.

"I'r mêt y dylem ofyn," ebr White.

"Ond yr ydym wedi gofyn iddo eisoes," ebr Bob. "Do," ebr Cooke," ond mae pethau wedi newid er hynny."

"Gofyn iddo ef ei hun a wneuthom y tro o'r blaen," ebr White, "ond yn awr yr ydym am ofyn iddo ef ofyn i'r Capten drosom."

"A dyna pam yr wyf yn gwrthwynebu," ebr Bob. "Un o honom ni ddylai ofyn, gan mai ni sy'n gofyn am y wybodaeth. Nid yw'n deg â'r mêt."

Ond, er gwrthwynebiad Bob, wedi rhagor o drafodaeth, penderfynwyd i ofyn i'r Capten trwy'r mêt, ac aed i'r dec i chwilio am Mr. Brown. Wedi ei gael wrtho'i hun, dywedodd White eu neges wrtho. Ceisiodd yntau eu darbwyllo i fod yn amyneddgar, ac mai gwell a fyddai peidio a gofyn y cwestiynau i'r Capten. Ond yn ofer. Yr oeddynt yn benderfynol, ac, o'r diwedd, er yn amlwg yn erbyn ei ewyllys a'i farn, ildiodd i'w cais, ac aeth i gyfeiriad y caban.

"Mae ar y babi ofn y Capten," ebr White yn wawdlyd. "Yna babi ydyw pob un o honom," ebr Cooke. "Mae arnom bawb ei ofn." Ond ni chytunai Bob fod ar Mr. Brown ofn y Capten.

"Dyn iawn ydi Mr. Brown," meddai. "Mae'n gwneud ei orau i gadw'r Capten mewn tymer dda, ond nid oes arno ei ofn. Ac os aiff hi'n helynt yma, mi fydd Brown gyda ni yn erbyn y Capten, mi gewch chi weld." Cyn i neb gael amser i ateb Bob, ebr Cooke, "Ust! mae o'n dwad."

Yr oedd hyn yn groes i'w disgwyliad. Wedi meddwl i'r mêt ofyn drostynt a derbyn yr ateb yr oedd y dynion. Ond yn awr, wele'r Capten yn dod tuag atynt gyda'r mêt, a'r wên Satanaidd ar ei wyneb. Hoffai rhai o honynt gael dianc o'i ffordd, ond sibrydodd Walker,

Peidiwch a symud. Safwn fel un gŵr."

Daeth Capten Larkin ymlaen atynt, a hwythau'n sefyll yn dŵr mud ar y dec.

"Wel, beth sydd?" gofynnodd yn ddigyffro, wedi sefydlu ei lygaid arnynt. "Mae Mr. Brown yn dweud bod gennych rywbeth i'w ofyn i mi."

Edrychodd arnynt o un i un, ond safent yn fud, heb wneud osgo i'w ateb, a phrin y gallent edrych yn ei wyneb. Disgwyliai'r lleill i Walker ofyn y cwestiwn, gan mai ef a gymerasai'r arweiniad hyd yn hyn, mwy na heb. Edrychai pawb tuagato, ac o'r diwedd, gofynnodd mewn llais crynedig, "Meddwl gofyn i chwi yr oeddym, syr, i ble mae'r llong yn mynd?"

"I Lundain," oedd yr ateb swta. "A oes cwestiwn arall?"

Tarawyd y dynion â mudandod gan yr ateb. Ceisiodd Walker ffurfio ail gwestiwn, ond tagai'r geiriau yn ei wddf. Daeth Bob, wrth weld pawb arall yn fud, i'r adwy, a gofynnodd, a'i lais yntau'n crynu gan gyffro, os nad gan ofn," Os gwelwch chi'n dda, syr, rydym yn methu a deall pam yr ydych yn mynd tua'r De, a ninnau'n deall mai i Lundain y mae'r llong yn mynd."

"Beth yw hynny i chi?" tarannodd y Capten, a'i lygaid yn melltenu, "Fi yw capten y llong, a mi wnaf fel a fynnwyf â hi."

Murmurodd y dynion, ond ni ddywedodd neb air hyglyw.

"Fy musnes i fel capten ydyw," ychwanegodd. "Rwyf wedi eich cyflogi i fynd â'r llong i Lundain, ac fe awn yno, ac fe delir i chi am eich gwaith wedi i ni gyrraedd yno. Caf ddewis y cwrs a fynnwyf i fynd yno. "Ond, gwrandewch," ac edrychodd yn llym arnynt, gan dynnu llaw-ddryll allan o'i logell, clywaf un gair fel hyn eto, yna gwae'r dyn hwnnw. Cofiwch." A throdd ar ei sawdl, a cherdded yn urddasol yn ôl tua'r caban.

Yr oedd effaith ei eiriau yn ysgubol ar y funud. Ciliodd y dynion yn ôl i'r fforcasl wedi eu gorchfygu, a'u hysbryd yn fwy gwrthryfelgar nag erioed. Ond sylweddolent eu hanallu i wneud dim i'w helpu eu hunain, yng ngafael gormeswr o'r fath waethaf.

PENNOD VIII
DIANC A DAL

YR oedd y 'Mona' erbyn hyn wedi croesi'r Trofannau, a dod i ddyfroedd deheuol yr Atlantic, ac i afael a'r roaring forties, fel y'u gelwir,—yr awelon o'r gorllewin sydd yn chwythu'n wastad yn y rhannau hynny, oddeutu'r 40° South. Bellach, pwyntiai'r llong tua'r dwyrain, a dyfalai'r dynion pa un ai am Awstralia ynteu rhai o Ynysoedd India'r Dwyrain yr oeddid yn mynd. Ond bodlonai pawb ar ddyfalu,—nid oedd un a feiddiai eto ofyn i'r Capten.

Ddeuddydd ar ôl yr helynt gyda'r Capten, yr oedd gwyliadwriaeth y mêt yn mynd i orffwys am hanner nos, a'r Capten a'i ddynion yn cymryd eu lle ar y bwrdd. Yr oedd yn noson glir, a'r awel wedi gwanhau cryn lawer er y prynhawn cynt, ac erbyn hyn, prin y llenwid yr hwyliau ganddi. Yn ystod y dog-watch yr hwyr blaenorol, gwelsai'r dynion rywbeth a edrychai'n debyg iawn i dir draw ar y gorwel ar eu chwith, a chodasai'r olygfa hiraeth newydd yn eu calon am gael gadael y llong. Ar noson glir o'r fath, ni fyddai'r Capten yn arfer aros ar y dec trwy'r pedair awr. Gosodai'r dynion yn eu lleoedd, ac yna, yn fynych, âi i lawr i'r caban am ysbaid, a pheri i'r dynion ei alw o byddai angen.

Heb yn wybod i'r mêt a'i ddynion, yr oedd Walker, White, a Smith wedi penderfynu ar gynllun beiddgar i geisio gadael y llong y noson honno. Pan oeddynt yn gorffwys rhwng wyth a hanner nos y gwnaed y trefniant yn y fforcasl, a phan aethant i fyny i'r dec am hanner nos, yr oeddynt ar bigau'r drain i wylied am eu cyfle i gario allan eu bwriad. A'r hyn a ddisgwylient amdano oedd i'r Capten, yn ôl ei arfer, fynd i'r caban. Nid bob nos y gwnai hynny, ond credent fod popeth yn ddigon ffafriol iddo fynd y noson honno. Buont am hir yn disgwyl i hynny ddigwydd, ond am ryw reswm neu'i gilydd, ni ddangosai unrhyw duedd i adael y dec. Rhodiai'r dec yn ôl ac ymlaen, fel pe mewn myfyrdod dwys, gan bwyso weithiau ar y canllaw, ac edrych drosodd ar y môr. Ai tybed fod rhywun wedi ei hysbysu o'u bwriad, a'i fod yn gwylio o bwrpas? Dechreuasant amau hynny wrth ei weled yn aros yno gyhyd.

Ond o'r diwedd, tua thri o'r gloch y bore, daeth yr hyn y disgwylient amdano. Aeth y Capten i lawr i'r caban: ac, wedi cael o honynt y dec iddynt eu hunain, aeth Smith yn llechwraidd at y llyw, lle'r oedd Walker yn cymryd ei dro. Wedi sisial ynghyd am ennyd, sicrhawyd y llyw, ac aeth Smith at ddrws y caban gyda llawddryll yn ei law, a'i fwriad oedd saethu'r Capten yn farw pe deuai i fyny'r grisiau. Yna aeth Walker ymlaen, a chwibanodd ar White oedd ar y 'lookout'. Daeth yntau i lawr, ac aeth y ddau at y cychod ar y bwrdd. Mor ddistaw ag y gallent, gollyngasant un o gychod y llong drosodd i'r dwfr, a'i sicrhau gyda rhaff. Yna, fel llygod, cripiasant i lawr i'r fforcasl i gyrchu rhai o'u dillad. Cerddent yn ddistaw rhag deffro'r rhai a gysgai yno: ond, er eu distawed, clywodd Dic hwy. Cysgwr trwm ydoedd fel rheol, ond, y noson honno, cadwai rhywbeth ef rhag cysgu. Gwyliodd hwynt, heb ysgwyd, yng ngolau'r lamp a grogai o'r nenfwd, ac amheuodd fod rhyw ddichell ar dro. Roedd arno ofn anadlu bron, gan y gwyddai beth a wneid iddo pe dalient ef yn effro. Wedi iddynt fynd allan drachefn, clustfeiniodd am ennyd, ac yna cododd, ac yn llechwraidd, aeth i fyny'r grisiau. Ni welai neb ar y dec, ac ni chlywai unrhyw sŵn ond y tonnau mân yn cusanu'r llong, ac ambell glec gan hwyl wrth i'r awel ei hanner lenwi. Edrychodd oddiwrth ddrws y fforcasl i bob man ar y dec, ond nid oedd neb i'w weld. Ni wyddai beth i'w wneud. I lawr ag ef yn ôl i'r fforcasl gan feddwl deffro Bob. Ni allai feddwl am ddim byd gwell i'w wneud. Ond pan aeth i lawr, pwy a welai ar ei eistedd yn ei wely ond Wil yn rhwbio'i lygaid, fel pe newydd ddeffro. Agorodd Wil ei lygaid yn llydain pan welodd Dic yn dod i lawr y grisiau, a gwelodd Dic ef yn paratoi i siarad. Cauodd ei ddwrn, ac amneidiodd arno godi ac ymwisgo gynted y gallai. Ufuddhaodd Wil, ac yn fuan iawn yr oedd y ddau'n ôl ar y dec. Wedi cyrraedd yno, ebr Wil, "Beth ydi'r mater, Dic?" Eglurodd Dic yr hyn a wyddai mor fyr ag, y gallai, a pheri i Wil ddwbl synnu. Wrth ddrws y fforcasl y bu'r eglurhâd, ac yna cerddodd y ddau i'r dec, heb weld neb. Rhedodd Wil at ochr chwith y llong, ac oddiyno, gwelodd gwch tua chanllath neu ragor oddiwrthynt yn cael ei rwyfo'n gyflym oddiwrth y llong. Galwodd yn gyffrous ar Ddic ato.

"Beth wnawn ni, Wil?" gofynnodd Dic. Ond ni wyddai Wil beth i'w wneud.

Gwyddai mai ei ddyletswydd oedd hysbysu'r Capten, ond ni ddymunai fod yn foddion i ddwyn llid y Capten ar y tri ffoadur. Bron na chenfigennai'r ddau fachgen wrthynt am allu dianc o'u carchar. Ond yr oedd y ddau'n ddigon profiadol erbyn hyn, i wybod mai anodd a fyddai hwylio'r llong ymlaen heb y tri dyn.

"Dweud wrth y Capten ddylem ni," ebr Wil. "Mae arna i ofn iddo'u lladd nhw," ebr Dic, "a dydw i ddim yn leicio dweud wrtho."

Yn ffodus iddynt, ni bu'n rhaid iddynt benderfynu'r mater, oblegid, cyn bod o honynt wrth y canllaw am funud cyfan, clywsant sŵn pesychiad o gyfeiriad y caban, a gwelsant Capten Larkin yn dyfod tuagatynt. Roedd wedi amau bod rhywbeth o'i le. "Beth ydi'r mater?" gofynnodd yn wyllt, ac yna gwelodd y cwch. Gollyngodd reg arswydus, nes peri i wallt Dic sefyll ar ei ben.

"Ple mae'ch cwch chi, fechgyn?" meddai'n wyllt. "Dowch. Rhaid i ni ei gael i'r dŵr yn ddiymdroi. Rhed dithau i nôl petrol o'r tanc, Dic. Brysia."

Rhaid oedd ufuddhau heb betruso, ac wedi rhoi'r petrol yn y cwch, aed ati i gael y 'Wennol' drosodd i'r môr.

"Dowch gyda mi eich dau," meddai'r Capten. "Bydd arnaf angen eich help."

Ni raid dywedyd y buasai'n llawer gwell gan y ddau gael peidio a mynd gydag ef ar y fath neges annymunol, ond nid gwiw a fyddai anufuddhau, fel y gwyddent yn dda. Rhaid oedd mynd.

Cychwynnwyd y peiriant, ac yna roedd y 'Wennol' yn torri trwy'r dŵr mor chwim ag erioed ar ôl y tri ffoadur, Dic wrth y llyw, a'r Capten ar ei draed ar ganol y cwch, a'i ddryll ganddo yn ei law, yn barod i danio, a'i lygaid yn sefydlog ar y cwch oedd o'u blaen. Roedd y 'Wennol' yn ennill yn gyflym ar y cwch arall, ac yn bur fuan sylweddolodd y dynion druain hynny. Taniodd y Capten ergyd dros eu pennau i'w rhybuddio i ymatal â rhwyfo. A'r un munud, gwelsant un o'r dynion yn gwneud osgo i danio. Disgynnodd y Capten i waelod y cwch, a chwibanodd yr ergyd heibio. Erbyn hyn roedd y cychod o fewn llai na hanner canllath i'w gilydd. Fel mellten, roedd y Capten ar ei draed drachefn, a'i ail ergyd yn taro yn erbyn ochr cwch y dynion. Ni ddaeth ergyd yn ôl. Taranodd y Capten, "Codwch eich rhwyfau o'r dŵr," a pha un ai o sylweddoli ei bod ar ben arnynt, ynteu o'r reddf ufudd-dod i'r Capten sydd megis yn blanedig mewn morwr, codasant eu rhwyfau.

"Beth ydyw ystyr rhyw lol fel hyn?" gofynnodd y Capten yn llym. Ond ni ddaeth ateb.

"Yn awr, ychwanegodd, "trowch yn ôl am y llong." "Ufuddhawyd i'r gorchymyn. Ond nid oeddynt ond yn brin wedi troi cyfeiriad y cwch, pan glywyd sŵn rhywbeth trwm yn disgyn i'r dwfr,—un o'r dynion wedi ei fwrw ei hun drosodd. Codwyd gwaedd ingol gan y ddau arall, "Mae Smith wedi mynd dros y bwrdd."

"Gadwch iddo," ebe'r Capten, "ewch yn ôl am y llong. Waeth i siarc ei gael na pheidio." Teimlai'r bechgyn ias oer yn eu cerdded wrth ei eiriau. Beth i'w wneud? Ni fynnent i'r truan golli ei fywyd pe gallent ei achub. Ond ni allent ddweud gair wrth ei gilydd, ac yr oedd y Capten yn y cwch gyda hwynt. Mewn amrantiad, aeth neges ddiwifr o'r naill lygad i'r llall, ac arafodd Wil gyflymder y cwch. Er syndod i Wil, ni ddywedodd y Capten air yn erbyn hynny. Yna daeth pen Smith i'r golwg yn y dŵr, a throdd Dic y cwch i fynd tuagato, ac, er syndod mawr iddo, ni ddywedodd y Capten air yn erbyn hynny ychwaith.

"Mi safwn yn ei ymyl am ychydig," meddai, "nes iddo flino, ac fe rown un cyfle iddo ddod i'r cwch. Ond bydd yn rhaid iddo ofyn am gael dod."

Gwelent Smith yn parhau i nofio draw oddiwrthynt, ond, cyn hir, trodd i'w hwynebu a gweiddi, "Help". Gorchmynnodd y Capten i Dic lywio ato, ac yn fuan yr oedd y truan yn y cwch yn swp gwlyb, diymadferth, wedi dewis bywyd yn hytrach nag angau, a'i wyneb yn mynegi'r ofn a'i meddiannai. Deallai'r bechgyn mai euogrwydd Smith am ddarfod iddo danio ar y Capten a barasai iddo ei daflu ei hun i'r dwfr. Disgwylient i storm cynddaredd y Capten dorri ar ei ben, ond yn rhyfedd ni ddywedodd y Capten air wrtho ef na'r bechgyn nes iddynt gyrraedd yn ôl at y llong. Ond yr oedd y wên yn chwarae'n amlwg iawn ar ei wyneb.

Wedi iddynt godi'r cychod yn ôl i fwrdd y llong, galwodd y tri throseddwr ato, ac meddai wrthynt, a'r wên watwarus a'r ar ei wyneb, "Hiraeth am y tir oedd arnoch, ai e? Wel, fe gewch lanio cyn hir."

Er y gellid tybied mai newydd da oedd yn y geiriau hynny, teimlai'r bechgyn oddiwrth ei ddull o'u llefaru, fod rhyw ystyr gudd, a honno heb fod yn un dda, iddynt. Nid atebodd y dynion air iddo,—safent o'i flaen a'u pennau i lawr, o siom, mae'n bosibl, yn fwy nag o euogrwydd.

"Fe gymeraf fi ofal eich pistol, Smith," meddai, wedi ennyd, yr un mor wawdlyd, "rhag ofn i chwi wneud rhyw niwed i chwi eich hun." Ac estynnodd y morwr yr arf iddo mewn distawrwydd, a chadwodd y Capten ef yn ei logell. "Ac yn awr," meddai, dyma hi'n bedwar o'r gloch. Cenwch y gloch, Walker, ac ewch i lawr."

Cerddodd y dynion oddiwrtho, a gwelid gwên y gorchfygwr yn chwarae ar ei wyneb. Yr oedd unwaith eto wedi cael y llaw uchaf arnynt.

Daeth gweddill y criw i wybod yn fuan am helynt y cychod, a mawr a fu'r holi ar y bechgyn er cael gwybod y manylion. Am rai dyddiau, bu teimladau drwg yn y fforcasl rhwng y dynion a'i gilydd,—cwmni'r mêt, a Cooke yn arbennig, yn beio'r tri arall am wneud tro mor wael â hwynt, ac yn ymorfoleddu yn eu haflwydd. Gwgu hefyd a wnâi'r tri anffodus ar y bechgyn, gan y tybient y gallasent fod wedi llwyddo yn eu hamcan onibai am danynt. Amharod oeddynt i gredu nad y bechgyn a achwynasai wrth y Capten, er i'r bechgyn wadu hynny'n bendant.

Lle annymunol iawn oedd ar fwrdd y llong y dyddiau hynny, a diau y buasai wedi mynd yn daro rhwng rhai o'r dynion onibai am ddoethineb y mêt. Efe a lwyddodd i gadw'r heddwch. Er y beiai'r tri am geisio ffoi, cynghorai'r dynion i geisio ymgyfamodi'n dawel. "Dyna fydd orau i chwi, yn sicr," meddai. "Sefwch gyda'ch gilydd fel un gŵr." Mae'n anodd gwybod beth allasai fod wedi digwydd, onibai i rywbeth arall ddod i beri iddynt anghofio'r helynt i gyd.

PENNOD IX
Y STORM

A'R rhywbeth hwnnw ydoedd storm enbyd,—y fath na welsai'r bechgyn yn eu bywyd hyd hynny ddim i'w gymharu â hi.

Fel y digwydd yn fynych yn y moroedd hynny, torrodd y dymhestl arnynt yn sydyn. Er ys rhai oriau, yr oedd rhyw ddistawrwydd a thawelwch annaturiol yn yr elfennau. Duodd y ffurfafen yn sydyn ganol dydd nes tywyllu'r haul, a daeth cawod o wynt,—rhuthrwynt nerthol,—nes ysgwyd y llong drwyddi. Ac, yna, torrodd yr ystorm arnynt. Cododd y tonnau, gan daflu'r llestr fel y mynnent ar eu hwyneb. Gyrrid y llong ymlaen,—yr oedd yn gyfangwbl at drugaredd y gwynt a'r tonnau. Golchai'r môr yn donnau brigwyn drosti, gan ei chladdu weithiau dan dunelli o ddwfr, a chludo ymaith oddiar y bwrdd bopeth nad oedd wedi ei sicrhau. Roedd pawb o'r dwylo, a Mr. Allen gyda hwynt, ar y dec,—siawns wael oedd i neb gael cysgu ar y fath dywydd. Pan ddeuai ton, rhaid oedd i'r dynion gydio'n dynn mewn rhywbeth sefydlog i'w cadw eu hunain rhag cael eu golchi drosodd. Clywid y mastiau'n ochain gan bwysau'r awel, a phob munud ofnid gweld un o honynt yn torri. Ond, ynghanol yr helynt i gyd, roedd y dynion yn effro i'w gwaith, er mai ychydig a allent wneud. Ac ymddangosai dau,—y Capten a'r mêt,—yn gwbl ddiofn. Er mor atgas oedd y Capten gan y dynion, ni allent lai nag edmygu ei eofndra yn yr ystorm fawr. A beth bynnag oedd barn rhai o'r dynion am y mêt cyn hyn, gwelsant ef mewn golau newydd yn y dymhestl. Er bod y Capten yn dawel a diofn, y mêt a ymddangosai'n fwyaf cydnabyddus â helyntion o'r fath, ac i'w farn ef yr ymddiriedai'r Capten.

Daeth yn nos arnynt,—ryw ychydig yn dywyllach nag a fuasai er hanner dydd, ond rhaid oedd aros ar y dec, er bod pawb yn wlyb at eu crwyn. A dyna noson ofnadwy,—na wyddai neb pa funud a fyddai'r olaf iddynt. Ynghanol y nos, a'r dynion yn sefyll gyda'i gilydd yn ymyl y llyw, clywyd clec ymlaen. Yr oedd mast neu flaen—mast wedi torri. Rhaid oedd mynd ymlaen i weld beth a ddigwyddasai, rhag ofn fod hynny'n peryglu'r llestr.

"Pwy ddaw gyda mi?" gofynnodd y mêt. Roedd pawb yn barod, ond Bob oedd y cyntaf wrth ei ochr. Ac ymaith a'r ddau yn y tywyllwch, gan afael yn dynn yn y canllaw wrth fynd. Anodd oedd gweld dim, ond wedi cyrraedd i ben blaen y llong, cawsant fod darn o flaen—mast (y foretop mast) yn crogi dros y llong, ac yn cael ei ddal yno gan y rhaffau oedd ynglŷn wrtho.

"Rhaid torri'r rhaffau," ebe'r mêt.

Ac i fyny a'r ddau, gan ddringo mewn perygl mawr iddynt eu hunain i dorri'r rhaffau a gollwng y darn dros y bwrdd. Ac yna'n ôl at y lleill i ddiogelwch cymharol y starn. Ond, wrth fynd yn ôl, daeth ton anferth drostynt. Llithrodd Bob, a gollyngodd ei afael o'r canllaw. Yn ddiau, buasai wedi ei ysgubo gyda'r don dros y bwrdd, ond taflodd y mêt ei hun ato, a daliodd ei afael yn dynn yn ei ysgwydd, nes i'r don fynd. Yna adfeddiannodd Bob ei afael ar y canllaw, ac aeth y ddau yn ôl. Nid oedd amser i Bob ddiolch i'r mêt am y waredigaeth, ond bu'r digwyddiad hwn yn foddion i glymu Bob fwy nag erioed wrth y mêt a edmygai gymaint cyn hyn. Yr unig un a ddangosai lwfrdra yn y storm oedd Thomson, y cŵc. Yn y storm y daeth ef allan yn ei liw ei hun. Llechai yn ddychrynedig yn y cefn, a'i galon yn curo, ac yn rhy ddychrynedig i ddweud na gwneud dim, ac yn meddwl yn sicr fod ei awr olaf wedi dod.

Cyn i ddydd wawrio,—os, yn wir, y gellid dywedyd iddo wawrio, gan na ddaeth yr haul i'r golwg drwy'r cymylau dudew,—teimlid bod y llong yn gorwedd yn drymach yn y dwfr, a chynhyddodd pryder pawb.

"Mae arnaf ofn ein bod wedi springio lîc," ebe'r Capten. [Ystyr 'springio lic' ydyw fod pren yng ngwaelod y llong wedi symud ryw gymaint o'i le nes gollwng dŵr i mewn.]

"Mi af i lawr i edrych, syr," ebe'r mêt, a chyda'r gair, i lawr ag ef i grombil y llong. Cyn hir, daeth yn ôl, gyda newydd drwg iawn.

"Y mae'r dŵr dros lathen o ddyfnder," meddai'n frawychus.

"At y pwmp, fechgyn," meddai'r Capten yn gyffrous, ac at y gwaith caled o bwmpio yr aethant â'u holl nerth, gan anghofio pob perygl arall yn y perygl mawr o foddi drwy i'r llong suddo danynt.

Wedi awr o bwmpio caled, aeth un i lawr eilwaith, i edrych sut yr oedd y dwfr, a daeth yn ôl gyda'r newydd da mai ychydig gyda dwy droedfedd oedd y dyfnder erbyn hyn.

"Diolch. Rydym yn ennill arno," ebe'r mêt. "Nid ydyw'r twll yn un mawr felly." Ond rhaid oedd dal ati i bwmpio rhag i'r dwfr ail-ennill arnynt, ac nid oedd neb yn anfodlon i ymdaflu i'r gwaith, gan mai cwestiwn o fywyd ydoedd iddynt. Yr oedd Thomson, hyd yn oed, mor barod a neb i gymryd ei le gyda'r pwmp.

Cyn yr hwyr, gwelsant, er llawenydd mawr iddynt, fod gwaethaf y storm drosodd, a bod y gwynt yn gwanhau ryw gymaint. Er hynny, yr oedd y tonnau'n codi o'u cwmpas fel mynyddoedd, ac yn dal i dorri dros y llong, nes ei chladdu weithiau bron o'r golwg. Ac er mai noson annifyr a gawsant ail noson y storm fawr, teimlai pawb yn fwy calonnog yn y gobaith y byddai pethau'n well trannoeth. Ac felly y bu. Fore'r trydydd dydd, cododd yr haul mewn wybren ddigwmwl, ac nid oedd ond awel falmaidd fwyn, er bod y tonnau eto'n dal i ddangos eu cilddannedd. Cafwyd egwyl i gymryd lluniaeth, ac i newid i ddillad sychion, a da oedd gan bawb gael ychydig seibiant ar ôl y llafur caled, hirfaith. Yna, wedi i'r môr dawelu, aed i chwilio am y twll, a llwyddwyd i'w atgyweirio heb lawer o drafferth. Llwyddwyd hefyd i atgyweirio popeth arall ar y bwrdd, ond y darn mast a dorasai,—yn ddigon da i ddal hyd nes y cyrhaeddent i dir.

PENNOD X
WIL MEWN PERYGL

RAI dyddiau ar ôl y storm fyth-gofiadwy, a hi'n brynhawn hyfryd, cynnes, daeth Wil at Ddic ar y dec, ac, wedi ei arwain o'r neilltu, lle na chlywid hwynt gan neb, meddai wrtho, "Rydw i am ddweud rhywbeth wrthyt ti, ond i ti addo peidio a dweud wrth neb."

"Ddweda i ddim, siwr," ebr Dic, a'i roi ei hun mewn ystûm i wrando.

"Wyddost ti i ble mae'r llong yn mynd?" gofynnodd Wil.

"Mae Bob yn meddwl erbyn hyn mai i Awstralia y mae hi'n mynd," ebr Dic, "ond y mae'n methu â deall pam y mae'r Capten yn troi gymaint i'r gogledd." "Does neb i gael gwybod gan Capten Larkin nes y byddwn ni wedi cyrraedd," ebr Wil.

"Ydi Bob yn iawn?" gofynnodd Dic. "Nag ydi," oedd yr ateb.

"I ble mae hi'n mynd? Dywed wrtha i," erfyniodd Dic.

"Wyt ti'n addo na wnei di ddim dweud wrth neb?" ebr Wil.

"Rydw i wedi addo, Ddweda i ddim, siwr," atebodd Dic.

"Wel, mynd i ryw ynys sydd i'r gogledd o Awstralia y mae hi i chwilio am arian," ebr Wil, gan wenu wrth y syndod a welai yn wyneb Dic.

"Sut y gwyddost ti hynny?" gofynnodd Dic braidd yn anghrediniol.

"Dyna'r fantais o fyw gymaint yn y caban, wyddost ti," ebr Wil yn gellweirus.

"Ydyn nhw'n sôn am hynny yn dy glyw di?" oedd cwestiwn Dic.

"Dim peryg. Ond rydw i wedi digwydd clywed ambell air,—digon i ddeall beth sy'n mynd ymlaen."

"Cymer ofal, ngwas i," oedd cyngor Dic.

"Cofia di am y Capten."

"O rydw i ar delerau reit dda hefo fo, byth er pan wnes i feistr ar Thomson."

Mi gei di weld sut y bydd arnat ti tasa fo'n dy ddal di'n gwrando. Cymer ofal."

"O, mi gymer y boi yma ddigon o ofal, ngwas i. Raid i ti ddim ofni. Ond, cofia, cadw hyn i ti dy hun."

Addawodd Dic y gwnâi, a rhybuddiodd Wil unwaith yn rhagor.

"Mi fydda i'n ol reit iti. Ac os clywa i rywbeth eto, mi gei wybod gen i," ebr Wil, ac ar hynny ymadawsant.

Ond, er i Wil deimlo mor hyderus wrth Dic, y byddai iddo'i gadw'i hun o berygl, daeth i brofedigaeth yr un diwrnod. Roedd yn mynd i'r caban ar neges yn hwyr y prynhawn. Wedi dechrau cael blas ar wrando yr hyn a allai glywed, yr hyn na fwriedid iddo ei glywed, gwyliai ar bob cyfle i fodloni ei gywreinrwydd, Am y rheswm hwnnw, roedd ers dyddiau bellach yn mynd at y caban mor ddistaw ag y gallai, a gwrando, o byddai cyfle oddiar y grisiau. Ac felly'r prynhawn hwn. Gwyddai fod y Capten a Mr. Allen i lawr yn y caban. Safodd ar y gris uchaf i glustfeinio; oedd, yr oedd siarad yn mynd ymlaen yn y caban. Plygodd ymlaen, heb symud ei draed, i glywed yn well, a llwyddodd. Mr. Allen a'r Capten oedd yno,—sylwasai na siaradent un amser am y trysor yng nghlyw Mr. Brown, ac am yr ynys a'r trysor y siaradent y prynhawn hwn. Oddiwrth yr hyn a glywai, barnai Wil fod ganddynt chart o'r ynys ar y bwrdd o'u blaen. "Dylem fod yno o hyn i ben yr wythnos," clywodd y Capten yn ddweud.

"Mae gofyn i ni ddechrau paratoi gogyfer a glanio felly," ebr Allen.

"Mae popeth yn barod, hyd y gwn i. Chwi gofiwch mai hynny oedd gennyf yn fy meddwl wrth wrthod glanio'r bechgyn," ebr Larkin.

"Gorau i ni po leiaf"

Pan oedd yn dweud hyn, a Wil wedi anghofio popeth yn ei awydd i glywed, clywodd lais y mêt wrth ei ben ger drws y caban.

"Ac yn y fan hyn rwyt ti, Wil, a Thomson yn chwilio am darat."

Yr un eiliad, rhuthrodd y Capten a Mr. Allen at y grisiau, ac yr oedd Wil druan yn eu crafangau ar lawr y caban.

"Wedi bod yn gwrando arnom rwyt ti, ai e?" ebe'r Capten, wedi ei lwyr anghofio'i hun yn ei gynddaredd, a gwasgu gwddf Wil a'i law gref.

Ni allai Wil ateb pe dymunai, gan fel y gwesgid ef,—dim ond syllu'n fud i wyneb y Capten.

"Beth wnawn ni iddo, Allen?" gofynnodd y Capten. "Faint glywodd o, tybed?" gofynnodd Allen.

"Does dim modd i ni gael gwybod hynny, mae'n debyg," ebr Larkin.

"Newydd ddod yna roedd o," ebr Mr. Brown. Edrychodd y Capten arno,—ni chofiasai hyd hynny fod y mêt yno.

"Sut y gwyddoch chi hynny?" gofynnodd iddo, a sefydlu dau lygad ffyrnig arno. Ond ni allai ddychryn y mêt,—safai yn ddigryn o'i flaen.

Am fy mod wedi ei weld ar y dec ychydig funudau cyn hynny," oedd ateb tawel Mr. Brown.

Llaciodd y Capten ei afael ar wddf Wil, ac yr oedd y bachgen yn falch o'r gollyngdod rhannol, oblegid gydag anhawster y gallai anadlu.

"Dywed, beth a glywaist ti?" gorchmynnodd y Capten mewn tôn arw.

"Dim—ond—eich bod chi'n—mynd—i ryw—ynys," ebr Wil.

"Wel, gwrando," ebe'r Capten, a sefydlu ei lygaid arno, "beth bynnag a glywaist ti, cadw ef i ti dy hun. Rwyf am ddweud wrth y dynion yn f'amser fy hun, ac nid ydynt i gael gwybod cyn hynny. Wyt ti'n deall?"

"Ydw, syr," ebr Wil yn grynedig, yn sylweddoli ei fod wedi cael diangfa gyfyng.

"Rwyt wedi fy mhlesio'n dda hyd yn hyn, a dyna pam y cefaist drugaredd gennyf," ebe'r Capten. "Ond, cofia, os ffeindia i fod rhywun ar fwrdd y llong wedi cael clywed rhywbeth gen't ti, mi elli fod yn siwr na weli di mo'r ynys. Dos."

Ac aeth Wil, yn falch o gael cefnu ar y caban. Credai fod ganddo achos i ddiolch am fod y mêt yn y caban ar y pryd, ac mai presenoldeb y mêt, yn hytrach na dim arall, a'i hachubasai rhag cosb.

PENNOD XI
COSBI

HAWDD oedd deall er ys dyddiau oddiwrth y gwres arteithiol fod y llong yn ôl unwaith eto yn nhueddau'r Trofannau, ond ei bod y tro hwn ym môr yr India, ac nid yn yr Atlantic.

Ai'r dwylo ynghylch eu gwaith mewn ysbryd anniddig. Teimlai pawb fod rhywbeth o'i le ar y llong, heb wybod yn iawn pa beth. Cynhyddu a wnâi'r teimlad hwn o ddydd i ddydd. Yr oedd fel petai cysgod rhyw gwmwl du drostynt. Ond ni feiddiai neb holi'r Capten eto am eglurhad ar y dirgelwch. Ai ef yn ôl â blaen gyda'i wên Satanaidd, sefydlog, gan gadw pawb megys dan ei bawen.

Yna, un diwrnod, daethant yn agos i dwr o ynysoedd. Gwelent dir o'u blaen, ac hefyd ar y dde iddynt,—tir isel a choed o gylch y glannau.

"Mi glywsoch yn yr ysgol am ynysoedd cwrel, mae'n debyg," ebr Bob Tomos wrth y bechgyn.

"Do, siwr," ebr Wil.

"Buom yn darllen stori am danynt," ychwanegodd Dic.

"Dyma i chwi rai o honynt," ebr Bob, ac ychwanegodd yn arwyddocaol," a dydw i ddim yn amau na bydd 'na ddeunydd stori newydd am rai o honynt cyn y gwelwn ni Brydain eto."

Llywiwyd y llong i gyfeiriad un o'r ynysoedd; ac, wedi dyfod o honi o fewn hanner milltir, mwy neu lai, i'r ynys, tynnwyd yr hwyliau i lawr, ac ataliwyd y llestr. Yr oedd Wil ar bigau'r drain o'r funud y gwelsai lywio'r llong tuagat yr ynys. Credai'n sicr mai hon oedd yr ynys y clywasi'r Capten a Mr. Allen yn sôn amdani o dro i dro, a rhyfeddai paham na chadwai'r Capten ei addewid i hysbysu'r dynion am ei neges ynddi. Disgwyliai bob munud weld y Capten yn galw'r criw ynghyd i ddweud y newydd pwysig wrthynt. Ond, na: nid edrychai Larkin fel pe bai hynny yn ei fwriad o gwbl. Roedd Larkin, mae'n wir, yn llawn diddordeb yn yr ynys o'r funud y gwelsent hi gyntaf; ac ef, ac nid y mêt, a roes y gorchymyn i atal y llestr gyferbyn â hi. Wedi dyfod o honynt yn ddigon agos i allu gweld y lan yn weddol glir, daliodd i syllu arni am rai munudau, gan ddefnyddio yspien-ddrych, fel pe'n chwilio am rywbeth arni, ond heb ddywedyd dim wrth neb. Wedi i'r Capten syllu felly yn hir ar yr ynys, a Wil yn ei wylio'n llechwraidd o ddrws y galley, yn sydyn cadwodd y teliscôp, a rhoddodd orchymyn i baratoi'r cwch modur i fynd i'r lan. Yr oedd am lanio, ebr Wil wrtho'i hun. Rhaid felly mai hon oedd yr ynys.

Yna daeth y Capten at Wil. "Gwna dy hun yn barod," meddai. "Rwyf am i ti ddod gyda mi i'r lan."

"Reit, syr," ebr Wil.

Disgwyliai Wil y gofynnid i Ddic hefyd ddod i'r daith, ond, na, nid oedd y Capten yn ymddangos fel pe bai am wahodd Dic.

Ni wyddai Wil p'un ai balch ynteu trist ydoedd o'r newydd ei fod i lanio ar yr ynys gyda'r Capten. Ar un olwg, yr oedd yr ysbryd antur a'i meddiannai i'r fath raddau, yn codi ynddo awydd am lanio mewn ynys ddieithr, a'i gywreinrwydd o berthynas i'r trysor hefyd yn ei gymell i'r lan. O'r tu arall, nid oedd yn dda ganddo mo'r Capten. Er bod y Capten wedi dangos mwy o hoffter ato ef nag at neb arall o'r criw, ni allai un amser deimlo'n gysurus yn ei wyddfod, ac ofnai hefyd ryw ddial ganddo am ei drosedd yn ei erbyn ar risiau'r caban. Beth bynnag am hynny, rhaid oedd ufuddhau.

Synnodd Wil fwy nag erioed pan glybu'r Capten yn gorchymyn i'r tri morwr,—White, Smith a Walker, baratoi i fynd i'r cwch hefyd. Paham, tybed, y dewisai'r tri hyn? Ymhle'r oedd Mr. Allen? Os ceisio'r trysor oedd y neges, oni fyddai Mr. Allen, yn sicr, yn un o'r rhai i lanio? Dyna'r cwestiynau oedd yn ymgynig i feddwl Wil yn yr ychydig funudau o hamdden a gafodd cyn cychwyn. Wrth gwrs, gwyddai mai ofer oedd iddo eu gofyn, gan na allai eu hateb i'w fodlonrwydd ei hun.

Aeth y pump i'r cwch, ac ymaith â hwy am y bwlch yn y reef cwrel a amgylchai'r ynys, a thrwy'r bwlch i'r lagŵn tawel. Er mwyn darllenwyr ieuainc, gellir egluro mai pryfaid bychain sydd wedi adeiladu'r creigiau cwrel yn y môr. Dyna sylfaen yr ynys gwrel, ac o amgylch pob un, y mae reef, neu graig gwrel, yn ymestyn fel amddiffynfa iddi. Tufewn i'r mur hwn, y mae'r dwfr,—y lagŵn,—fel llyn, a'r dwfr yn dawel a chlir. Gyferbyn â cheg afon, bydd bwlch yn y reef, gan nad all y pryfaid fyw mewn dŵr ffres.

Gwylid y cwch ar ei daith, gyda diddordeb oddiar fwrdd y llong, yn enwedig gan Ddic, yr hwn a wyddai'r stori am y trysor,—hyd onid aeth o'u golwg yn y lagŵn. Paham yr aethai o'u golwg ni wyddai neb, am y gallesid glanio ar yr ynys gyferbyn â'r llong, ac yn eu golwg, mor bell ag y gwyddent hwy ar fwrdd y llong. Ond, am ryw reswm neu'i gilydd, aeth y Capten a'r cwch o'u golwg, gan droi i'r chwith y tu mewn i'r reef.

Aeth hanner awr heibio, a dim arwydd o'r cwch yn dychwelyd, a phawb yn dal i wylio am ei ail-ymddangosiad. Aeth awr arall heibio, a dechreuwyd bryderu. Mynnai rhai y dylid anfon cwch arall i edrych beth â ddigwyddasai, rhag ofn bod rhai o breswylwyr yr ynys wedi ymosod ar y cychwyr. Ond ysgydwai Mr. Brown ei ben.

"Nid wyf yn credu bod neb yn byw ar yr ynys," meddai, "neu buasem wedi gweld rhai o honynt ar y glannau. Buasai gweld y llong yma wedi eu tynnu i'r lan yn sicr, os nad allent ddyfod atom yn eu badau."

"Dacw nhw'n dod yn ôl," llefodd Dic yn y man. Cadwasai ef ei lygaid yn sefydlog ar y bwlch yn y reef, er pan aethai'r cwch o'u golwg, a balch iawn ydoedd o weld y cwch yn ail-ymddangos, am y pryderai ynghylch ei gyfaill, Wil.

Parodd y newydd hwn gryn stŵr ar fwrdd y llong, ac yr oedd pawb eto â'u llygaid ar y cwch a welent yn agoshau'n gyflym atynt.

"Does 'cw ddim ond dau ynddo," ebe'r mêt. "Ymhle mae'r lleill, tybed?" Synnwyd pawb gan y newydd hwn. Ie'n sicr, dau yn unig oedd yn y cwch, ac yn fuan, gwelsant mai Capten Larkin a Wil oeddynt. I ble'r aethai'r tri morwr?

"Mae'r Capten wedi bod wrth ei driciau unwaith eto, marcia di ngair i," ebr Bob yn ddistaw wrth Dic.

"Beth ydych chi'n feddwl?" gofynnodd Dic.

Ond cyn i Bob gael cyfle i ateb, roedd y cwch wrth ochr y llong, a'r Capten a Wil yn dyfod i'r dec. Wedi codi'r cwch i fyny, rhoddodd y Capten, yn hollol ddidaro, orchymyn i osod yr hwyliau, heb ddweud dim am y dynion na ddychwelasai. Y noson honno, cafodd Wil gyfle i ddod at Dic i ddweud yr hanes wrtho. Aethant i gongl neilltuedig ymhen blaen y llong, rhag i neb eu gweld na'u clywed.

"Dyn ofnadwy ydi'r Capten yna, fachgen," ebr Wil mewn ffordd o ragymadrodd.

"Beth wnaeth o iddyn nhw?" gofynnodd Dic yn awchus am y wybodaeth.

"Wel, dyma'r hanes yn fyr i ti," ebr Wil. "Mae'n debyg y bydd o'n dweud ei hun wrth bawb o honoch chi fory, os dywed o'r gwir. Wedi i ni fynd ymhell i fyny'r lagŵn—”

Roeddym ni'n methu a deall pam na basach chi'n glanio gyferbyn â ni," ebr Dic.

"Wn i ddim," ebr Wil, "os nad oedd arno eisio mynd o'ch golwg chi, ac hefyd eisio gweld mwy o'r ynys cyn glanio. Beth bynnag i ti, wedi i ni fynd yn bur bell, dyma fo'n troi'r cwch at y lan, ac i'r ynys â ni i gyd. Nid oedd o ddim wedi dweud gair wrth neb ar hyd y daith, ond yr oeddwn i wedi sylwi ei fod o'n chwarae â llawddryll yn ei law yr holl ffordd, a'r tri arall yn eistedd fel delwau, fel tasa nhw'n mynd i gael eu crogi. Mae'n siwr eu bod nhw wedi amau rhywbeth. Roedd o'n cadw ei lygaid ar y tri o hyd, ac mi ddechreuais innau amau fod ganddo rhyw ddrwg amcan, a minnau wedi meddwl mai mynd i chwilio am y trysor roedd o. Wel i ti, dyma ni'n glanio, ac wedyn cerdded hyd yr ynys. Wel, wedi i ni gerdded a cherdded na wyddwn i ar y ddaear i ba beth, dyma ni'n troi yn ôl, heb i neb yngan gair o'i ben. Roedd yn hawdd gweld ar wynebau'r tri arall eu bod nhw mewn cymaint tywyllwch â minnau, ac rydw i'n sicr y basa nhw wedi rhuthro arno onibai am y dryll oedd ganddo. Wel, i mi dorri'r stori'n fyr, dyma ni'n ôl at y cwch, a dyma fo'n peri i mi fynd i'r cwch a chychwyn y peiriant i droi. A dyma fo'n dweud wrth y dynion, a'r hen wên speitlyd, gas honno, ar ei wyneb, "Wedi blino ar y llong rydach chi'ch tri, on'te, ac eisiau mynd i dir? Wel, fydda i ddim yn leicio gwrthwynebu neb, ac felly rydw i am ganiatáu eich dymuniad i chi. Nid oes neb ar yr ynys hon ond chwi, ac fe gewch wneud fel y mynnoch yma. Mae yma ddŵr, a digon o fwyd ar y coed am flynyddoedd. Ffarwel."

"Neidiodd i'r cwch, ac i ffwrdd â ni. O! roedd hi'n ofnadwy, fachgen, edrych ar y tri truan, a gwrando arnynt yn gweiddi yn y fan honno."

Roedd y stori'n un mor ofnadwy, a Wil yn ei hadrodd mewn dull mor fyw, ac yn amlwg dan deimlad dwys, fel yr oedd y dagrau'n mynnu eu ffordd i lygaid Dic ar ei waethaf. Er na fuasai un amser yn ryw orhoff o'r tri, ni allai lai na theimlo i'r byw drostynt yn eu cyflwr truenus ar yr ynys unig.

"Beth wyt ti'n feddwl ddaw o honyn nhw, Wil?" gofynnodd yn ddifrifol.

"Fedr neb ddweud," oedd ateb Wil.

"Hwyrach y byddan nhw yno am flynyddoedd, ac feallai y daw llong heibio iddyn nhw reit fuan. Ond dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n debyg, chwaith."

"Na finnau," ebr Dic yn bendant; "ychydig o longau sy'n dod y ffordd hyn."

PENNOD XII
CYRRAEDD YR YNYS

NID oedd Wil yn gywir yn ei dyb yr adroddai'r Capten hanes beth a ddigwyddasai ar yr ynys wrth y gweddill o'r criw y dydd dilynol. Ni wnaeth hynny, er y disgwyliai rhai eraill heblaw Wil iddo wneud hynny. Ni fradychai ei wyneb fod dim byd anghyffredin wedi digwydd. Rhaid a fu ail-drefnu'r gwyliadwriaethau ar y llong ar ôl colli'r tri hyn. Gosodwyd Cooke a Wil yng ngwyliadwriaeth y Capten, Bob a Dic yn aros, er eu mawr lawenydd, fel cynt gyda Mr. Brown, y mêt, a Thomson yn cael bod yn rhydd. Roedd Wil yn falch ei fod yntau yn forwr, ac nid yn galley boy, er y carasai fod gyda'i gyfeillion a Mr. Brown yn hytrach na chyda'r Capten. Ond rhaid oedd derbyn y drefn, gan fod ufudd-dod yn hanfodol ar y môr.

Pan gai Cooke a Bob gyfle gyda'i gilydd, yn y dog-watch, sonient am yr hyn a ddigwyddasai, ac hefyd am gyflwr y llong, nes dychrynnu'r ddau fachgen.

"Mi fyddai ar ben arnom pe deuai storm arall," ebr Bob, "a ninnau'n fyr o ddwylo."

"Mae'n dda ein bod yn agos i ynysoedd. Fe gaem siawns i'n hachub ein hunain," oedd ateb Cooke.

Mwyaf yn y byd fyddai ein perygl," ebr Bob. "Byddem yn sicr o gael ein dryllio ar ryw ynys, pe codai storm."

"Meddwl rydw i ein bod yn bur agos i ben ein taith," ebr Cooke, "neu na fuasai'r Capten yn gosod ei long yn y fath berygl."

"Mae hynny'n ddigon posibl," ebr Bob. "Ond ni welais i erioed o'r blaen Gapten yn cadw oddiwrth ei griw i ble y mae'n hwylio. A chofiwch y gall storm godi'n sydyn, unrhyw funud."

Roedd yn hawdd gweld fod ofn storm arall a pha beth a allai ddigwydd i'r llong, pe digwyddai hynny, yn pwyso'n drwm ar feddwl Bob.

Roeddynt wedi dyfod erbyn hyn i ganol ynysoedd. Roedd ynys,—un neu ddwy os nad ragor,—yn y golwg bron bob dydd, ond ymlaen yr âi'r llong gan gadw'n glir â phob un o honynt. Ac, yna, un diwrnod, pan nad oedd neb yn disgwyl i ddim ddigwydd, galwodd y Capten ar y dynion ynghyd ato.

"Mae arnaf eisiau dweud wrthych," meddai, gan bwyso'i eiriau," paham y dygais chwi i'r fan hyn. A welwch chwi'r ynys acw ar y gorwel dros ben blaen y llong?" Edrychodd pawb i'r cyfeiriad a ddangosai, a gwelent ynys o'u blaen. Edrychai'n un bur fawr, a gwelent fod tir uchel ynddi, ac nid fel rhai a welsent, yn isel a gwastad. Gwelent fynydd yn codi i uchter pur fawr o honi, a chwmwl gwyn yn gorffwys arno.

"'Rydych wedi bod yn gofyn cwestiynau," ychwanegodd y Capten, wedi i bawb weld yr ynys, a throi'n ôl gymryd sylw o'i eiriau, "ac yn awr yr wyf am eu hateb. Nid oeddwn am eu hateb nes dyfod i olwg yr ynys. A dyma'r dirgelwch. Mae trysor ar yr ynys acw, a'i gael a'i feddiannu ydyw neges Mr. Allen gyda ni. Wedyn fe awn i ben ein siwrnai,—i Lundain. Ac yn awr, gwrandewch yn astud. Fe delir yn dda i bob un o honoch a fydd yn ffyddlon, ac a wnaiff ei orau i'n helpu. Ac fe ellwch fwynhau Llundain yn llawer gwell na phe baem wedi mynd yno'r ffordd fyrraf."

Edrychodd y dynion yn syn ar ei gilydd, wedi clywed y fath newydd anhygoel bron. Ni wyddent yn iawn beth i'w feddwl o'r fath newydd ar y funud. Wedi rhoi amser iddynt gymryd yr hyn a ddywedasai i mewn, aeth y Capten ymlaen gyda'i anerchiad:

"Dydw i ddim yn meddwl y bydd i'r brodorion ymyrryd â ni, gan eu bod, fel yr wyf yn deall, wedi eu gwareiddio. Ond, petai helynt yn codi rhyngom â hwynt, rhaid i ni gael y trysor, costied a gostio. A gwae'r sawl na wna ei ran i'w sicrhau."

Dywedai y rhan olaf gyda rhyw ddifrifwch a frawychai'r dynion. Aeth ymlaen mewn tôn siriolach:

"Yn awr, un gair ynglŷn â Smith, White, a Walker: Gwn eich bod yn gofyn cwestiynau ynglŷn â f'ymddygiad tuag atynt. Dyma f'eglurhad. Gwyddoch fel y bu iddynt geisio gadael y llong rai dyddiau cyn y storm fawr. Pe baent wedi llwyddo'r adeg honno, gwyddoch na fuasem wedi llwyddo i gadw'r llong ar yr wyneb. Mae'n fwy na thebyg na fuasai'r un o honom yn fyw. Ond, yn sicr, buasai'r ymgyrch am y trysor ar ben. Wel, d'oeddwn i ddim wedi anghofio eu tro gwael atoch chwi, eu cydforwyr, a minnau, eu Capten; ac yr oeddwn yn benderfynol o dalu'n ôl iddynt. A dyna paham y gleniais hwynt ar yr ynys. Bydd gwobr pob un o honoch yn fwy am nad ydynt hwy yma i gael eu rhan."

A dyna'r eglurhâd a roddodd Capten Larkin.

Gwyddai ar wynebau'r dynion fod Wil wedi cadw'r addewid i beidio ag adrodd yr hyn a glywsai yn y caban. Syndod a ddarllenai ar bob wynepryd. Ni ddywedodd neb air o brotest yn erbyn ei driniaeth o'r tri dyn,—ni feiddiai neb ddweud dim wrtho yn ei wyneb i'w gondemnio. Ond pell ydoedd Bob a Cooke o edrych ar drosedd y dynion fel yr edrychai ef arno. Nid oedd eu trosedd, yn eu barn hwy, yn haeddu'r fath gosb. Ond wedyn, pan gawsant gyfle gyda'i gilydd, y rhoisant fynegiad i'w teimladau, ac nid yng ngwydd y Capten. Un cwestiwn yn unig a ofynnwyd, a hwnnw gan Bob:

"Sut y bydd arnom i fynd yn ôl, syr?" gofynnodd, "heb ddigon o ddwylo?"

"Wedi cael yr arian, a dyna'n busnes nesaf,—rhaid i ni fynd ymlaen i ryw borthladd,—wn i ddim yn iawn i ble ar hyn o bryd,—i chwilio am ragor o ddynion i weithio'r llong adref.'

Ac yna, dechreuwyd gwneud paratoadau gogyfer a glanio. Daeth Mr. Allen i'r dec,—yn y caban y cadwasai bron ar hyd y fordaith, heb gymryd ond ychydig o ddiddordeb ym mywyd y llong; ond, yn awr, yr oedd fel dyn wedi dechrau ail-fyw, ac yn syllu'n hiraethlon ar yr ynys o'u blaen. Roedd y llong yn symud ymlaen, yn nes, nes, i'r ynys, a chyn hir, gallent weld y tonnau'n torri ar y reef cylchynnol, ac yna, daethant yn ddigon agos i weld dyfroedd tawel y lagŵn y tumewn i'r reef a glannau'r ynys a'r tywod euraid y tu draw iddo.

Gwelwyd yn fuan mai gyda modur-fâd y bechgyn y bwriadai'r Capten lanio ar yr ynys. Paratodd y bad at y gorchwyl, ac yna daeth Mr. Allen a'r Capten a map i fyny o'r caban. Cadwent ef iddynt eu hunain,—ni châi neb arall ei weld ganddynt. Astudient yr ynys—neu o leiaf, y pen a welent o honi o'r llong,—yng ngoleuni'r map, gan siarad cryn lawer, a phwyntio at yr ynys. Gwyliai Wil hwynt o ymyl y galley. Wedi iddynt drafod y map am beth amser, a dadlau a'i gilydd, rhoddwyd gorchymyn fod y llong i hwylio ymlaen ar hyd ochr ddeheuol yr ynys, gan gadw gryn bellter oddiwrth y lan. Barnai'r dynion, er na ddywedwyd mo hynny wrthynt, mai amcan hynny oedd peri i'r brodorion, os oedd rhai o honynt yn gwylio'r llong oddiar yr ynys, gredu ei bod yn mynd ymlaen heibio iddynt ar ei hynt, ac nad oedd bwriad i lanio.

Fel y symudai'r llong ymlaen, gwyliai'r Capten lannau'r ynys yn fanwl gyda'r teliscôp. Aeth Capten Larkin at y mêt ar ôl syllu am gryn amser.

"Mae'n sicr bod pobl yn byw ar yr ynys hon," meddai wrtho, "ond ni fedraf yn fy myw weld yr un tua'r glannau, nac arwydd, yn wir, o fywyd dynol arni. Welwch chwi rywbeth, Mr. Brown?" gan estyn y teliscôp iddo.

Edrychodd Mr. Brown drwy'r teliscôp am rai munudau heb ddweud dim. Yna, rhoddodd ef yn ôl i'r Capten.

"Na, nid oes neb i'w weled," meddai. "Onid yw'n bosibl nad oes neb yn byw arni?"

"Dyna sy'n rhyfedd," ebr y Capten, "oblegid yn ôl y wybodaeth sydd gan Mr. Allen y mae pobl yn byw arni; o'r hyn lleiaf, yr oedd preswylwyr yma beth amser yn ôl."

Yna aeth at Mr. Allen, ac unwaith eto, bu siarad brwd rhyngddynt am rai munudau, ac astudio drachefn ar y map. Yna daeth Larkin unwaith yn rhagor at Mr. Brown.

"Y mae'n tynnu at fachlud haul," meddai; "Credwn fod bwlch yn y reef bron gyferbyn â ni. Rwyf am angori'r llong y tuallan i'r bwlch dros y nos, a glanio gyda thoriad gwawr yfory."

Ac felly y gwnaed, heb i neb weled unrhyw arwydd o fywyd ar yr ynys.

PENNOD XIII
GLANIO

GYDA'R wawr, dodwyd y cwch drosodd ar y môr, ac aeth y Capten ynghyd â Mr. Allen a Wil iddo. Sylwodd Dic fod y Capten a Mr. Allen wedi eu harfogi eu hunain, ond yr oedd Wil, druan, yn ddiamddiffyn. Ofnai Dic na welai mo'i gyfaill byth ond hynny. A hawdd y gellid darllen ar wyneb Wil ei fod yntau wedi ei feddiannu gan ofn. Gwelw oedd ei wedd, er y ceisiodd orfodi gwên i'w wyneb wrth chwifio'i law ar Bob a Dic, pan adawai'r cwch ochr y llong.

Safai'r mêt wrth yr ymyl i dderbyn gorchymynion y Capten beth i'w wneud yn ei absen. A oedd i wneud rhywbeth heblaw disgwyl am y cwch yn ôl?

'Rwy'n disgwyl y byddwn yn ôl yn gynnar yn y prynhawn gyda'r trysor, Mr. Brown," ebe'r Capten, a'r wên ar ei wyneb am unwaith yn siriol.

"A pha beth a wnaf, oni fyddwch, syr?" oedd cwestiwn y mêt.

"O! mi fyddwn, raid i chi ddim pryderu," ebr yntau'n ysgafn. "Ond, pe digwyddai i ni beidio a dod, i rywbeth annisgwyliadwy ddigwydd, er nad oes achos yn y byd i ofni hynny, ond tybiwch bod rhywbeth yn digwydd,—feallai y gleniwch chwi gyda Dic i edrych ein helynt."

"Reit, syr," ebr Mr. Brown yn ostyngedig, ac ymaith â'r bâd.

Gwyliwyd ef gan y rhai a adewsid ar y bwrdd yn mynd drwy'r bwlch yn y reef, ac i'r lagŵn. Yna aeth i fyny'r lagŵn, ac o'u golwg.

"Mae'n debyg y bwriadant lanio gyferbyn à chuddfan y trysor," ebr Bob wrth Mr. Brown, yr hwn a safai wrth ei ymyl, a gwên ddieithr ar ei wyneb.

"Feallai, wir," oedd ateb y mêt, ond mewn tôn a barodd i Bob edrych i'w wyneb,—yr oedd mor wahanol i'w ddull arferol o siarad.

"Wn i ddim beth yw'ch teimlad chwi, syr," ebr Bob drachefn, ar ôl ennyd o ddistawrwydd, "ond, o'm rhan fy hun, onibai eu bod wedi cymryd Wil gyda hwynt, buaswn yn gofyn i chwi godi'r angor, a mynd ymaith, a'u gadael yma i gymryd eu siawns."

"Ac, yn sicr i chwi, byddai'n hollol ofer i chwi ofyn i mi wneud dim o'r fath, Bob," oedd ateb y mêt.

"Beth?" gofynnodd Bob mewn syndod wrth ei eiriau. "Rydych yn parhau i gredu mai dyna eich dyletswydd, a'r Capten wedi ymddwyn yn y fath fodd ar hyd y siwrnai? Ni feiïd chwi gan unrhyw lys am anufuddhau i'w orchymyn."

"Nid dyna fy rheswm dros ddymuno aros yma, Bob," ebe'r mêt. "Ond, fe synnwch glywed hyn,—rwyf am groesawu'r Capten a Mr. Allen yn ôl i'r llong gyda'r trysor." Yr oedd syndod Bob yn cynhyddu fwyfwy gyda phob ateb o eiddo'r mêt.

Wedi ennyd arall o ddistawrwydd, ebe'r mêt, "Bob, gwn y gallaf eich trystio chwi a Dic. Ond beth am Cooke? A ydych yn meddwl y gallaf ei drystio ef?"

Ni wyddai Bob pam y gofynnai'r mêt gwestiwn mor ryfedd, a bu ennyd heb ateb. Yna meddai, "O! rydw i wedi ffeindio Cooke yn eitha dyn, a gair da ganddo i chwi. Credaf y gellwch ei drystio, er nad wyf yn deall pa fath dryst a olygwch."

"Nid wyf am drystio Thomson," ebe'r mêt yn bendant. "Rwy'n mynd i lawr i'r caban yn awr. Dowch yno ar f'ôl mewn tua phum munud,—na, rhoddwch ddeng munud i mi,—a dowch a Dic a Cooke gyda chwi."

Ol reit," ebr Bob, gan agor ei lygaid mewn syndod ar syndod wrth dderbyn gorchymyn mor ddieithr. Ac am y munudau nesaf, bu'n dyfalu beth, tybed, oedd y dirgelwch mawr oedd gan y mêt i'w ddatguddio iddo, oblegid daethai erbyn hyn i'r casgliad mai dyna oedd diben y mynd i'r caban.

Yna, wedi i'r deng munud, fel y barnai, fynd heibio, galwodd ar Cooke a Dic ato, ac i lawr â'r tri i'r caban. Os synnwyd Bob gan eiriau'r mêt wrtho ar y dec, beth am y syndod a gafodd pan arweiniodd y ddau arall i lawr i'r caban? Pan gyrhaeddodd droed y grisiau, ac edrych i mewn i'r brif ystafell, ni allai gredu ei lygaid. Oblegid ar y fainc wrth y bwrdd ac yn ei wynebu, eisteddai,—nid Mr. Brown y mêt, ond merch! Ar y funud, ni allai ef na'i gymdeithion ddeall ystyr y drychiolaeth. Rhwbiodd Bob ei lygaid, gan dybied bod rhyw anhwyl ar ei olygon. Ond, wedi gwneud hynny, yno'r oedd y weledigaeth o'i flaen o hyd. I ble'r aethai'r mêt, tybed? Trodd ei ben i edrych i'r ystafell arall. Ond, na! nid oedd neb yno. Trodd yn ôl i edrych unwaith yn rhagor ar y ferch, a gwelodd ar yr wyneb wên hawddgar Mr. Brown, yn ymledu fwyfwy, wrth weld syndod y dynion. Trodd Bob yn swil at ei ddau gyfaill, a chrafodd ei ben, wrth weld yr un olwg o ryfeddod yn eu hwynebau hwythau.

"Dowch i mewn yma, a chauwch y drws," ebe'r ferch, ac ufuddhasant yn swil ac yn syn. Yna ychwanegodd, "Rhaid i mi erfyn eich maddeuant am eich twyllo gyhyd." A thorrodd allan i chwerthin yn iach.

"Ond," ebr Bob, "rydw i'n methu'n glir a deall, syr,"

"Miss Alice Sharpe, os gwelwch yn dda." ebr hithau, gan wenu wrth ei gywiro, "mêt y 'Mona", ac arhosodd eiliad neu ddau cyn ychwanegu yn bwysleisiol, a syllu ym myw eu llygaid, "gwir berchennog y trysor y mae Capten Larkin a Mr. Allen wedi mynd i'w gyrchu o'r ynys."

Syndod ar ôl syndod! Sut y gellid credu pethau mor anhygoel? Ceisiodd Bob gymryd i mewn sylweddoli'r hyn a welai ac a glywai; ond yn araf iawn, yn arafach nag arfer, y gweithiai ei ymenydd heddiw, ac yn ei fyw ni allai ddeall pethau. "Mae'n debyg eu bod hwy'n gwybod mai—merch ydych?" gofynnodd yn ofnus ymhen ennyd, wedi ceisio cael ei feddwl yn glir.

"Gwybod? Nac ydynt, siwr. Ond fe gânt wybod pan ddônt yn ôl," ebr hithau gan ysgwyd ei phen yn awgrymiadol, "hynny yw, os ydych chwi, fel yr ydwyf yn disgwyl, yn barod i'm helpu."

"Parod? Ydym, siwr, on'd ydym, fechgyn?" ebr Bob yn aiddgar, gan droi at y ddau arall, a'r ddau'n gwneud arwydd cadarnhaol a'u pennau, "ond ein bod yn methu'n lân a deall pethau."

"Mae'n amhosibl i chwi ddeall," ebr hithau. "Mae'r peth mor ryfedd yn eich golwg, a'r datguddiad wedi dod mor sydyn. Ac y mae fy stori'n rhy faith i'w hadrodd wrthych yn awr. Ond rwy'n disgwyl y caf gyfle cyn bo hir i'w dweud wrthych yn llawn, ac yna fe ddeallwch y cyfan. A gymerwch chwi fi ar fy ngair heddiw?"

"Gwnawn, siwr," ebe'r tri am y cyntaf. "Da iawn," ebr hithau. "Roeddwn yn teimlo'n bur sicr y gwnaech. Ac, yn awr, rhaid i ni ddeall ein gilydd. Pan ddaw'r cwch yn ôl, rwyf am iddynt hwythau gael syndod mwyaf eu bywyd. Arhosaf yn y caban hyd nes deuant yn ôl, os cymerwch chwi ofal y dec. Nid wyf am i Thomson fy ngweld, rhag ofn iddo ddyrysu fy holl gynllun. Yna, wedi iddynt gyrraedd i'r dec, deuaf innau i fyny, ac fe gewch weld yr adwaenant fi yn y fan."

"O!" ebr Bob, gan droi at y lleill fel pe i ddweud, "Ydych chwi'n clywed, fechgyn?"

Mae'n bosibl y byddant, yn eu siom, am ddefnyddio'u drylliau, os na fyddant wedi synnu gormod i hynny," ebe'r ferch. "Ond, fe fyddaf fi'n barod i'w derbyn, gyda'ch help chwi. A wnewch chwi, Bob a Cooke, sefyll un o bobtu iddynt, a neidio amdanynt os dangosant duedd i ymladd?"

"Gwnawn, siwr, syr—Miss," ebr Bob, gan wrido at fôn ei wallt wrth ei gamgymeriad chwithig, a chwarddodd y ferch mor ysgafn galon a phe na bai dim yn ei phoeni. Ond, yr un funud, adfeddiannodd ei difrifwch.

"Reit. Dyna ni felly'n deall ein gilydd," ebr hi. "Nid oes gennym ond disgwyl am iddynt ddychwelyd. Fe fyddwch yn sicr o'ch tâl gennyf fi, sut bynnag y buasai arnoch gyda'r ddau ddihiryn."

Ceisiodd Bob ddweud nad oeddynt yn meddwl am dâl ganddi, ond amneidiodd arno i dewi. "Cawn setlo hynny wedi diweddo'r helynt," meddai. "Gwell i chwi yn awr fynd i fyny i'r dec."

Ac aeth y tri i fyny, wedi cael rhywbeth i gnoi eu cil arno am gryn amser i ddod.

PENNOD XIV
SYNDOD THOMSON

DAETH yn brynhawn o wres arteithiol, a'r haul yn taflu ei belydrau tanbaid ar eu pennau o wybr glir: a rhodiai Bob, a Dic, a Cooke, ar hyd y dec, yn sôn ychydig, ac yn myfyrio llawer, ar ddigwyddiadau rhyfedd y dydd hwnnw, ac yn cadw eu llygaid ar y bwlch yn y reef, gan ddisgwyl am ddychweliad y cwch. Ond aeth awr ar ôl awr heibio, a dim arwydd o'r cwch yn ymddangos. Cynhyddai eu pryder fwyfwy gyda threigl yr amser. Ai Bob i lawr i'r caban yn awr ac yn y man i roi adroddiad i'r mêt, a phob tro yr âi i lawr heb newydd, gellid darllen y siom ar wyneb Miss Sharpe. Pan aeth Bob yn ôl o'r caban i'r dec y pumed tro, dywedodd Dic wrtho: "Choelia i byth na chlywais i ryw sŵn ar yr ynys."

"Beth glywaist ti, Dic?" gofynnodd Bob yn gyffrous; "Wn i ddim yn iawn beth oedd o," ebr Dic, "ond roedd o'n swnio fel tasa llawer o bobl yn gweiddi."

"Chlywaist ti ddim sŵn saethu?" gofynnodd Bob, a sŵn angerdd yn ei lais.

"Naddo," oedd yr ateb.

Clustfeiniodd Bob, a chyn hir, clywodd ddigon gadarnhau'r hyn a ddywedasai Dic. Yn ddios, yr oedd rhyw sŵn dieithriol yn cael ei gludo gan yr awel ysgafn o gyfeiriad yr ynys. Rhedodd Bob i lawr i'r caban i adrodd y newydd pwysig hwn i'r mêt.

"Maent wedi eu dal yn sicr gan y brodorion," ebr hithau, a'i hwyneb yn gwelwi. "Pa beth a olyga hynny iddynt?" gofynnodd Bob, a'i bryder ynghylch Wil i'w deimlo yng nghryndod ei lais.

"Mae'n dibynnu," ebr hithau'n bwyllog, ar ôl aros ennyd cyn ateb, "os ydynt wedi tanio ar yr ynyswyr, ac yn enwedig os ydynt wedi anafu neu ladd un o honynt, mae arnaf ofn amdanynt."

"Ond mae'n rhaid i ni geisio achub Wil, syr,—Miss," ebr Bob yn wyllt, "Beth wnawn ni? A fedrwch chwi awgrymu ryw ffordd i ni wneud rhywbeth?"


Rhaid i ni lanio," ebr hithau'n benderfynol, gan godi ar ei thraed. "Ddowch chi gyda mi?"

Edrychodd Bob yn syn arni. "Fe â Cooke a minnau," meddai. "Ni chewch chwi ddod i beryglu eich bywyd."

"Ond rwyf fi'n dyfod," ebr hithau'n fwy penderfynol, a'i llygaid yn fflachio, "yn sicr, nid oes arnaf ofn mynd i'm hen gartref."

"Eich hen gartref?" ebr Bob, gan gilio'n ôl, ac agor ei lygaid yn lletach nag erioed mewn syndod.

"Rydym yn gwastraffu amser gwerthfawr," ebr hithau, gan baratoi i adael y caban. "Caf egluro i chwi eto, pan fydd mwy o amser. Ond, yn sicr i chwi, os ydyw'r brodorion wedi ffyrnigo, fel y mae gennyf achos i ofni, ni bydd neb mor debyg o lwyddo i'w tawelu â mi."

Trodd Bob i'w dilyn i fyny o'r caban, ac yna gofynnodd," A ydych chwi am lanio mewn dillad merch? Oni fyddai'n well i chwi newid i'ch hen ddillad?"

Ond ysgydwodd ei phen. "Na fyddai," meddai. Fel hyn yr adnebydd yr ynyswyr fi gyntaf. Dewch."

"Ond fe'ch gwelir gan Thomson? "Does dim help am hynny. Dowch, neu byddwn yn rhy hwyr."

Ni raid egluro iddo ef.

Ac i fyny â'r ddau i'r dec. Digwyddai Thomson fod yn sefyll yn nrws y galley yn mwynhau mygyn, ac yn edrych yn absennol ei feddwl i gyfeiriad y caban, pan ddaeth Miss Sharp i'r dec. Y funud y disgynnodd ei lygaid arni, gollyngodd ei bibell o'i safn, a syllodd arni fel pe bai'n edrych ar ddrychiolaeth. Yna rhedodd at Cooke, a safai gyferbyn ag ef yn ystys y llong; a chan gydio ynddo, gofynnodd gwestiwn mud iddo drwy bwyntio at y person mewn gwisg merch a rodiai'r dec tuagatynt. Ysgydwodd Cooke ei law ymaith oddiar ei ysgwydd, dan chwerthin yn ysgafn at benbleth y cŵc, ond heb gynnig rhoddi eglurhad iddo ar yr hyn a welai. Aeth yntau'n ôl i'r galley, ei gastell coed,—a thaflu ambell drem ofnus dros ei ysgwydd ar y bod rhyfedd a dieithr. O gysgod y galley, gwyliodd beth a ddigwyddai wedyn ar y dec. Gwelodd ollwng cwch drosodd, a Bob a'r ferch yn mynd iddo, ac wedyn yn rhwyfo i gyfeiriad yr ynys. Safai Cooke a Dic wrth y canllaw yn gwylio'r cwch yn mynd ymhellach oddiwrthynt am y lan. Wedi gweld bod y ddrychiolaeth wedi mynd i bellter diogel oddi—wrtho, daeth Thomson atynt, a syllodd yntau ar y cwch am rai munudau heb ddweud gair.

Yna, wedi gwylio'n fud am beth amser, gofynnodd i Cooke, "Ymhle mae Mr. Brown?"

"Dacw fe yn y cwch," ebr Cooke.

"Beth? Mr. Brown mewn gwisg merch?" gofynnodd yntau yn anghrediniol ei dôn.

Ac yna, eglurodd Cooke y dirgelwch iddo gorau gallai. Ond i Thomson, yr oedd y fath beth yn anhygoel,—fod merch wedi bod yn eu plith yr holl amser wedi ymwisgo fel dyn, ac wedi gweithredu fel swyddog morwrol gystal ag a wnaethai'r un dyn erioed.

"Na, dywedwch y gwir wrthyf," erfyniodd. "Pwy oedd y ferch ac o ble y daeth?"

"Ond yr ydym wedi dweud y gwir," ebr Cooke. "Wrth gwrs, y mae'n beth rhyfedd, ac yr oedd yn rhyfedd i ninnau, nes i ni orfod credu."

Ac ar hynny y bu'n rhaid i Cooke fodloni.

Am Dic druan, ail beth iddo ef erbyn hyn oedd y rhyfeddod ynglŷn â'r mêt. Yr hyn a bwysai fwyaf ar ei feddwl ef oedd tynged ei gyfaill. Beth, tybed, a ddigwyddasai iddo? Prin y gallai Dic gredu ei fod yn fyw. Roedd wedi darllen rhai straeon yn yr ysgol am ynyswyr Môr y De, ac, iddo ef, canibaliaid oedd holl breswylwyr y rhannau hynny o'r byd; ac felly wedi ei ladd, ac o bosibl, wedi ei rostio a'i fwyta erbyn hyn, yr oedd ei annwyl gyfaill. A pho fwyaf a feddyliai am y mater, sicraf yn y byd y teimlai na welai byth mwy ei gyfaill cu, y chwaraeasai gymaint gydag ef tua glan y môr yn Nhrelan. O! mor bell yn ôl yr ymddangosai, erbyn hyn, y dyddiau mebyd difyr hynny a dreuliasent gyda'i gilydd, wedi bod o honno drwy'r fath brofiadau dieithr er y dydd yr aethent allan yng nghwch modur Huw Elis.

PENNOD XV
CAEL Y TRYSOR

WEDI gadael o honynt y llong ar doriad dydd, fel y crybwyllwyd, aeth Capten Larkin, Mr. Allen, a Wil, yn y 'Wennol', ar hyd dyfroedd tawel y lagŵn, gan droi ar y chwith wedi mynd drwy'r bwlch yn y reef. Rhy lawn oedd meddwl Wil o bwysigrwydd a pheryglon posibl yr hynt i roi sylw i ddyfroedd y lagŵn. Onibai am hynny, diau y buasai wrth ei fodd yn syllu i lawr i'r dyfnder clir, a gweld y cwrel amryliw a'r planhigion tanforawl heirdd a dyf yn y fath le. Ar y lan yr oedd llygaid bychain Mr. Allen wedi eu sefydlu, mewn ymchwil am arwydd o bresenoldeb rhyw drigiannydd ar yr ynys, ond heb weled dim. Rhannai'r Capten ei sylw rhwng y cwch a'r lan,—yn llywio'r cwch, ac, hyd y gallai, yn cadw'i lygaid ar y lan i'r unrhyw amcan â Mr. Allen. Ond ymddangosai fel pe baent wedi codi'n rhy fore i'r ynyswyr, ac ni allent weled bwthyn na thrigle dynol o unrhyw fath yn agos i'r lan honno o'r ynys.

Toc, daethant at lanfa naturiol,—glan tywodog, ac afon fechan yn ymarllwys i'r lagŵn, ac olion fod y lle wedi ei ddefnyddio gan rywun fel glanfa.

"Dyma'r lle," ebr Mr. Allen a'i lygaid yn perlio gan foddhâd pan ddaethant i olwg y lanfa, "yn ôl y plan." A throwyd i mewn.

Ond nid yn hollol i'r lanfa. Er mwyn diogelwch, rhedwyd trwyn y cwch i'r lan rai llathenni'n mhellach na'r lanfa,—i gysgod llwyn tew o goed a dyfai ar lan y dŵr.

"Aros di yma, Wil," ebe'r Capten, wrth godi gyda Mr. Allen i fynd i'r lan. "Mi fedri gychwyn y peiriant pe bai angen, oni fedri?"

"Medraf, syr," ebr Wil yn grynedig. Deallai erbyn hyn y bwriadent ei adael ef i wylio'r cwch, a dyna a achosai'r cryndod yn ei lais. Gwell o lawer a fuasai ganddo gael mynd i'r lan gyda'r ddau ddyn, i ba beryglon bynnag yr aent, na chael ei adael yn y fan honno wrtho'i hunan, i wynebu na wyddai ba beth. "Cadw dy lygaid a'th glustiau'n agored," meddai'r Capten, wedi iddo lanio, "ac, os byddi di'n amau perygl, neidia i'r cwch a dos allan i'r lagŵn o'u cyrraedd nhw. Byddwn yn ôl cyn hir."

"Ga i ddod i'r lan felly?" gofynnodd Wil.

"Cei, ond i ti gadw yn ymyl y cwch, yn barod i neidio iddo os daw perygl," ebe'r Capten. "Dowch, Mr. Allen."

Ac ymaith â hwy drwy'r coed, a Wil yn edrych yn hiraethlon ar eu hôl. Awn gyda hwynt i weld beth a ddigwyddodd iddynt, gan adael Wil gyda'r cwch.

"Rhyw ddau ganllath o'r lanfa y mae'r bwthyn," ebr Mr. Allen wrth ei gydymaith.

Troedient yn ofalus rhag gwneud twrw, ac edrychent o'u cwmpas yn ochelgar, gan sefyll bob rhyw ddeg cam i glustfeinio. Yna ymlaen drachefn, wedi eu sicrhau eu hunain nad oedd perygl.

"Dyma'r bwthyn," ebe'r Capten, pan ddaethant at fwthyn coed yng nghysgod craig, ac ar lan yr afonig fechan a redai i'r lanfa.

"Yn hollol fel y disgwyliem," ebr Mr. Allen, yn wên o glust bwygilydd," ac nid oes arwydd bod neb yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd."

"Nac oes," cydolygodd y Capten, "nac wedi ei ddefnyddio ers cryn amser, gan fod arwyddion amlwg fod y lle'n dechrau dadfeilio."

Ac felly yr oedd. Yr oedd ôl llwybr at y bwthyn, ond erbyn hyn tyfasai'r lle yn wyllt fel mai prin y gellid ei weld, a thyfasai dyrysgoed o gylch y bwthyn, nes mwy na'i hanner guddio. Yn y rhannau hynny o'r byd, lle y ceir cyflawnder o wres a glaw, y mae dyn ar ei eithaf yn cadw i lawr dyfiant natur wyllt. Rhaid oedd iddynt dorri eu ffordd trwodd i gyrraedd at ddrws y bwthyn. Trwy fawr ymdrech y gwnaed hynny. Cawsant nad oedd clo ar y drws, ac aethant i mewn. Ac, O! syndod, dyna lle'r oedd cegin dwt, daclus, a phopeth yn ei le ynddi, ond bod yn hawdd gweld nad oedd neb wedi ei defnyddio ers amser maith. Roedd y tyfiant gwyllt wedi gordoi'r ffenestr gan ei gwneud yn dywyllach nag a fuasai pan breswylid hi. Ond nid oedd gan y ddau adyn amser i sylwi llawer ar y bwthyn,—nid i'w weld ef y daethent yno: yr oedd ganddynt neges llawer pwysicach.

Gwelsant ddrws i agor o'r gegin i ystafell fewnol. Ac wedi mynd o honynt trwy'r drws, gwaeddodd Mr. Allen yn wyllt, fel pe bai'n dechrau colli arno'i hun, "Dyma hi'r gist, Larkin."

Ie, yno, yn ddiau, yr oedd gwrthrych eu hymchwil,—y gist.

Yr oedd clo cryf arni, ond, heb wastraffu amser, na meddwl am y perygl i rywun ei glywed, cydiodd y Capten mewn pastwn a welai yn y gongl, a thorrodd y clo ar un ergyd. Yna, yn frysiog, i fyny a'r caead, a datguddio iddynt wledd i'w llygaid a'u calon. Yr oedd yr olygfa yn y gist yn ddigon i'w dallu bron, os nad i'w gwirioni. Fflachiai eu llygaid, ac, wedi porthi eu llygaid ar yr olygfa am rai munudau, chwarddodd y ddau yn uchel mewn boddhâd. Yna troisant at ei gilydd fel dau ddyn meddw i ysgwyd llaw yn galonnog.

"Wel, dyma ddigon o ffortiwn i ni," ebr Larkin.

"Ie, wir. Roedd yn werth dod yr holl ffordd i'w gyrchu, on'd oedd?" ebr Allen. "Ond ei gael yn ddiogel i'r llong fydd y cwestiwn nesaf."

"Ie," ebr Larkin yn araf, "os—os awn ni ag ef i'r llong."

Trodd Allen ddau lygad syn arno. "I ble arall 'r awn ni ag ef?" gofynnodd.

"Dydw i ddim wedi sôn wrthych o'r blaen," ebr Larkin. "Ond, gwrand'wch funud, Allen. Roeddwn i'n aros cael hyd i'r trysor cyn crybwyll wrthych chwi. Ond rydw i wedi bod yn meddwl cryn lawer am hyn ers dyddiau, ac, i ddweud y gwir wrthych chwi, 'does gen i fawr o ffansi mynd ag o i'r llong."

"Ond, paham?" gofynnodd Mr. Allen. "Yn sicr ni fydd yn rhaid i ni roi cyfran fawr i'r dynion. Mi fydd digon yn weddill i ni."

"Nid am hynny roeddwn i'n meddwl," ebr Larkin.

"Ond y cwestiwn ydyw, Fedrwn ni drystio'r criw? Ni fyddwn ni ddim ond dau yn erbyn chwech tasa hi'n mynd yn helynt. Wrth gwrs," ychwanegodd, ar ôl cymryd eiliad o seibiant i weled effaith ei eiriau ar ei gydymaith, "rydw i wedi cael yn glir â thri,—y tri mwyaf peryglus yn fy marn i,—ond dydw i ddim mor siwr am y gweddill pan ddon' nhw i ddeall am hyn. Petai Brown yn sefyll gyda ni, gwyddoch na fyddai'n fawr o help." Gwelai fod ei eiriau wedi cael yr effaith a ddymunai, yr oedd Mr. Allen mewn penbleth.

"I ble'r awn ni ynteu?" gofynnodd.

"Rydw i wedi bod yn astudio'r map," meddai Larkin. "Mae yna ddau neu dri o borthladdoedd bychain y bydd llongau o Awstralia yn galw ynddynt ar eu tro, yn yr ynysoedd o fewn llai na dau can milltir i ni. Dyna i chi Port Moresby yn New Guinea. Ni fyddem yn hir iawn yn mynd yno. Neu gallem fynd i Awstralia yn y cwch. Rydw i wedi bod wrthi neithiwr yn rhoi digon o fwyd a phetrol yn y cwch i barhau am rai dyddiau."

"Dipyn o antur fydd hi," ebr Allen, gan ysgwyd ei ben.

Ond yr oedd Larkin wedi gwneud ei feddwl i fyny. "Dim cymaint o antur â mynd yn ôl i'r llong, yn siwr i chi," meddai yn bendant.

Ystyriodd Allen yn ddwys am ennyd, fel pe bai'n pwyso'r mater yn ofalus.

"Mae'n ymddangos yn dro gwael â Brown a'r criw," meddai'n anesmwyth.

"Wel, fe gânt y llong," meddai Larkin, "ac ni fydd yn dâl gwael iddynt am eu gwasanaeth." Ond ysgwyd ei ben a wnai Allen. "Pawb drosto'i hun ydi hi yn y byd ma," ychwanegodd Larkin yn ystyfnig.

"Wel, ol reit, ynteu," ebr Allen,"os dyna'ch dymuniad. Ond gad'wch i ni edrych yn fanylach beth sydd yma yn y gist."

A throdd y ddau eu sylw drachefn at y gist. Yr oedd ynddi ddetholion o bob math o drysor dwyreiniol,—yn aur, arian, a pherlau. Ac yn enwedig perlau,—cannoedd o honynt, a rhai, fel y gellid gweld, yn werthfawr iawn.

"Roedd yr hen frawd wedi bod wrthi'n ddiwyd yn casglu," ebr Larkin.

"Oedd, wir," ebr Allen. "Ond sut yr awn ni a nhw i'r cwch?"

"Gallwn gario cryn lawer yn y cydau sydd gennym," ebr Larkin. "Bydd yn amhosibl symud y gist."

"Bydd," ebr Allen. "Gwell i ni ddewis y pethau gorau rhag ofn na chawn gyfle i wneud ail siwrnai i fyny yma.

A dechreuasant ddethol a dewis, a'r ddau yn eu hafiaeth gyda'r gwaith.

"Gwell i ni beidio a mynd â gormod o faich y tro cyntaf," ebr Allen toc. "Bydd yn rhaid i ni ddod yn ôl am ychwaneg."

"Bydd," ebr Larkin. "Gorffennwch chwi lenwi eich sach, ac fe af i'r drws i edrych a yw'r ffordd yn glir i ni fynd yn ôl."

Daeth yn ôl yn fuan. "Popeth yn iawn," meddai, gyda gwên foddhaus. "Does dim golwg ar neb o gwmpas. Rwyf yn synnu ein bod heb weld neb ar yr ynys."

"Rydym wedi bod yn ffodus iawn, yn sicr," ebr Allen.

Erbyn hyn, yr oedd cydaid da o'r trysorau yn barod gan y naill a'r llall. Ond, wrth edrych ar y cymaint oedd yn weddill yn y gist, roedd yn anodd iawn ganddynt feddwl am ei adael yno.

"Mae'n biti gadael yr holl gyfoeth ar ôl yma," ebr Allen.

"Rhaid i ni ddod yn ôl am ail faich," ebr Larkin. "Ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni ddod yn ôl i dacluso'r lle, a chau'r bwthyn fel y cawsom ef, rhag bod dim o'n hôl i'w weld yma."

Beth bynnag am yr angen am wneud hynny, roedd y ddau'n falch o gael ei ddefnyddio fel esgus i wneud ail daith i fyny. Wedi cau'r cydau, ymaith â'r ddau am y man y gadawsent y cwch yng ngofal Wil, gan droedio y tro yma eto yr un mor ofalus ag wrth fynd, a'u calonnau'n curo'n gyflym mewn ofn bod rhai o'r Ond nid oedd ynyswyr wedi darganfod y cwch. achos iddynt ofni. Pan gyrhaeddasant yn ôl i'r lan, cawsant Wil ffyddlon yno gyda'r cwch, yn falch iawn o'u gweld, wedi cael amser pryderus iawn yn eu habsen.

"Welaist ti rywun, Wil?" gofynnodd y Capten, pan ddodai'r ddau becyn gwerthfawr yn y locker yn y cwch.

"Naddo, syr, ddim byd," oedd yr ateb.

Ac ni chlywaist ddim o sŵn pobl yr ynys?" "Dim, syr."

"Wel, rydym wedi bod yn ffodus dros ben heddiw," chwarddodd y Capten, "cael y lle i ni'n hunain fel hyn. A rhaid i ni wneud y gorau o'n cyfle. Ni fyddwn yn hir y tro hwn, Wil. Dowch, Mr. Allen."

"Ydych chwi am fynd i fyny eto, syr?" gofynnodd Wil dan deimlad dwys, a'i lygaid yn llenwi,—peth rhyfedd iawn yn hanes Wil.

"Beth!" ebe'r Capten, gan droi ato'n syn, "ai un fel yna wyt ti? Roedd gennyf well meddwl o honot na hyn'na."

Ond yr oedd Wil mewn cyflwr meddwl na faliai fotwm beth a feddyliai'r Capten o hono.

"O! peidiwch a mynd, syr; peidiwch, wir, syr," erfyniodd y bachgen, wedi ei anghofio'i hun, a'i ofnau wedi'i orchfygu'n lân, a chydio yn y Capten i'w atal rhag mynd. Wil druan! yr oedd ei unigedd ar yr ynys ddieithr y bore hwnnw wedi ei wneud yn llwfryn, ac wedi lladd yr ysbryd antur a fuasai ynddo hyd hynny.

"Dyna ddigon," ebr y Capten, gyda rheg arswydus, ac ysgwyd gafael Wil oddiarno.

Gwylia di'r cwch fel o'r blaen. Dowch, Mr. Allen.

Ac ymaith â'r ddau; ac yr oedd y distawrwydd unwaith eto'n llethol i Wil,—heb ddim i dorri arno ond clec ambell bren crin dan draed y ddau yspeilydd ar eu ffordd yn ôl tua'r bwthyn.

Roedd y llwfrdra oedd wedi meddiannu Wil yn gwneud iddo neidio wrth bob sŵn, ac hyd yn oed ddychmygu gweled a chlywed pan nad oedd dim i'w weled na'i glywed. Rai gweithiau, neidiodd i'r cwch ar fedr troi'r peiriant i fynd allan o gyrraedd gelyn dychmygol a'i bygythiai â rhywbeth ofnadwy. Yna, chwarddai at ei ffolineb, ond yr oedd yn chwys oer drosto,—nid effaith y gwres naturiol, er bod hwnnw'n fawr, ond effaith ei ofnau. Ni chymerai ddiddordeb o gwbl yn y trysor erbyn hyn,—ni cheisiodd edrych beth a ddodasai'r Capten yn y locker, er nad oedd neb na dim i'w luddias pe dymunai wneud hynny. Nid gwaeth ganddo pe bai'r trysor yng ngwaelod y môr,—y cwbl oedd ar ei feddwl ef oedd y perygl yr oedd ef ynddo. Hawdd iawn i ti, ddarllenydd, feio Wil, ond ceisia ddychmygu dy weld dy hun yn ei le! Sut y teimlet ti, tybed, dan y fath amgylchiadau, yn yr oedran tyner yr oedd Wil ynddo? Calon ddewr oedd gan Wil i wynebu peryglon cyffredin, fel y gwyddom, ond yr oedd y gwaith annifyr oedd ganddo i'w wneud mewn unigedd trymaidd ar yr ynys ddieithr wedi bod yn ormod iddo.

Yn sydyn, ac efe yn y cyflwr hwn, wedi colli ei hunan—hyder, clybu sŵn dieithr yn dod o'r cyfeiriad yr aethai Larkin ac Allen iddo. Tybiodd ar y cyntaf mai ei ddychymyg oedd yn chwarae tric ag ef, ond, na, wedi iddo wrando'n astud, daeth cyffelyb sŵn drachefn,—sŵn digamsyniol, a sŵn anhyfryd iawn i'w glust. Gwaedd ar ôl gwaedd,—gwaedd anwar i glust Wil, ac yna, sŵn ergyd o ddryll, a gweiddi drachefn—crochlefain dynion wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain. Os oedd cyflwr Wil yn ddrwg o'r blaen, gwnaeth hyn ef lawer yn waeth. Collodd hynny oedd ganddo'n weddill o bresenoldeb meddwl, a ffodd. Do, fe ffodd yn ddychrynedig. Anghofiodd bopeth am y cwch a'r gwaith a ymddiriedid iddo, a rhedodd nerth ei draed, heb wybod i ble y rhedai. Credai, erbyn hyn, fod y Capten a Mr. Allen wedi eu lladd,—dyna'i ddehongliad ef ar y saethu a'r gweiddi,—a'i fod ef wrtho'i hun ar yr ynys gyda chanibaliaid. Rhedodd gan gadw mor agos i'r glannau ag y gallai, a baglu a syrthio lawer gwaith ar draws coed a chael ei ddal droeon mewn drysni. Ac, yn sydyn, wedi torri ei ffordd trwy lwyn tewfrig, ychydig i fyny o'r lan, daeth i le clir, a pheth a welodd yno o'i flaen ond pentref brodorol, a nifer o ddynion, tywyll eu crwyn, a mwy na hanner noethion. Cyn gynted ag y gwelodd bachgen hwynt, trodd yn ôl i geisio ymguddio, ond, druan o honno, nid cyn ei weled gan rai o'r brodorion. Codwyd gwaedd fyddarol, ac yr oedd nifer o honynt ar ei ôl fel gwaedgwn. Ni pharhaodd yr ymdrech cydrhyngddynt yn hir. Yr oedd y brodorion yn ffres i'r yrfa, ac yn ddynion cryfion, heinyf, a Wil eisoes bron a diffygio. Ond penderfynodd ddal ati hyd y gallai, a rhoddodd bob gewyn ar waith. Clywai hwynt yn ennill arno. Deuai eu llefau yn nes iddo bob eiliad, a rhoddai ei ofn adain i'w draed, er mor lluddedig ydoedd. Ond yr oedd terfyn i'w nerth, a chyn hir, syrthiodd ar ei hyd ar y llawr wedi llwyr ddiffygio, ac yr oedd y brodorion wedi ei amgylchu mewn amrantiad, ac yn bloeddio'n uwch nag erioed. Ond ni chlywai Wil ddim o'u sŵn,—yr oedd yn anymwybodol. Wrth weld y cyflwr yr oedd y bachgen ynddo, distawodd yr ynyswyr, a safasant o'i gwmpas gan ddisgwyl iddo ddod ato'i hun. Bu Wil am rai munudau'n gorwedd felly. Yna agorodd ei lygaid yn araf, ac wrth weld y wynebau duon o'i amgylch, daeth y cyfan yn ôl iddo. Rhoddodd ysgrêch, a cheisiodd godi ar ei draed. Ond cyn y llwyddodd i wneud hynny, rhuthrwyd arno, codwyd ef gan rai o'r dynion yn eu breichiau, a chludwyd ef ganddynt i gyfeiriad y pentref,—a'i osgordd yn canu rhyw diwn ryfeddaf a glywsai Wil erioed wrth gludo eu carcharor ymlaen.

Pan ddaethant at y bythynnod, dodwyd ef ar lawr. Gallai, erbyn hyn, sefyll ar ei draed, a safodd yr ynyswyr o'i gylch, gan syllu arno mewn cywreinrwydd oedd ymhell iawn o fod yn fud. Siaradent â'i gilydd,—clebar dibaid na chlywsai Wil ddim byd tebyg iddo; ond, wrth gwrs, ni ddeallai air o'r hyn a ddywedent. Ni allai yn y fan honno (yn ôl fel yr adroddai'r hanes wedyn wrth Ddic,) beidio a meddwl, beth, tybed, a wnaent iddo? Faint o amser, tybed oedd ganddo i fyw? A beth fyddai dull ei farwolaeth? oblegid yr oedd wedi gwneud ei feddwl i fyny mai ei ladd a gai.

Ac, yna, er syndod mawr iddo, daeth geneth ieuanc ymlaen trwy'r dynion gyda diod iddo mewn cwpan wedi ei gwneud o hanner plisgyn coconut. Cofiodd Wil yn sydyn y clywsai am wenwyn, ond yr oedd ei syched mor fawr fel na allai wrthsefyll y demtasiwn i yfed, gwenwyn neu beidio. Ac, O! i'r bachgen sychedig yr oedd yn dda. Ni allai ddatgan ei ddiolch i'r eneth mewn geiriau, ond fe geisiodd wneud y diffyg hwnnw i fyny a'i lygaid. A chredai y deallai'r eneth ef.

Pan oedd, fel hyn, yn sefyll ynghanol yr ynyswyr, ac yn ceisio dyfalu beth fyddai ei dynged, ac yn rhyfeddu paham na wnaent rywbeth ag ef heblaw ei gadw i sefyll yn y fan honno,—yn sydyn, tynnwyd ei sylw ef a'i geidwaid gan sŵn oddidraw,—sŵn canu gorfoleddus. Trodd pawb i edrych i'r cyfeiriad, gan anghofio Wil am y funud. Nid oedd neb yn y golwg, ond deuai'r canu'n fwy hyglyw. Yr oedd y cantorion, pwy bynnag oeddynt, yn nesu at y pentref, a chyn hir, daethant i'r golwg. Pan welwyd hwy, rhedodd rhai i'w cyfarfod, gan weiddi a dawnsio. Daliai Wil i edrych gyda syndod ar yr olygfa ryfedd, ac yn methu a dyfalu beth oedd ei hystyr; ond, pan ddaethant yn nes ato, cafodd fwy fyth o achos i ryfeddu, oblegid pwy a welai yn cael eu harwain i mewn yn garcharorion, ond Capten Larkin a Mr. Allen! Ond ра faint bynnag oedd syndod Wil o'u gweled hwy, nid oedd yn ddim wrth eu syndod hwy, pan welsant ac yr adnabuant ef. A barnu oddiwrth eu hwynebau, yr oedd gweld Wil yno'n garcharor yn eu sicrhau bod y brodorion wedi darganfod y cwch ac wedi meddiannu'r trysor a guddiasent yn y locker. Ond nid oedd cyfle iddynt ddweud gair wrth ei gilydd,—oblegid arweiniwyd y ddau ddyn o'r neilltu ac o olwg Wil. Barnai'r bachgen na wyddai'r ynyswyr, hyd yn hyn beth bynnag, am ei gysylltiad ef â'r ddau garcharor newydd, nac am y cwch a adawsai ar y lan yng nghysgod y llwyn.

A'r sŵn a wnaeth y brodorion pan ddaliasant Larkin ac Allen a glywsai Dic oddiar fwrdd y llong, yr hyn, fel y cofir, a barodd i Bob a Miss Sharpe rwyfo am yr ynys.

PENNOD XVI
Y CARCHARORION

Ar ôl gadael y llong yn hwyr yn y prynhawn, aeth Bob a Miss Sharpe yn eu cwch trwy'r bwlch yn y reef i'r lagŵn. Deallai Bob y gwyddai'r ferch fwy nag ef am yr ynys, ac yr oedd yn fodlon gadael y trefniadau yn ei llaw hi, ac ufuddhau i'w chyfarwyddiadau. Tybiai Bob y glaniai ar yr ynys gyferbyn a'r bwlch, ond barnai Miss Sharpe mai rhwyfo ar hyd y lagŵn a fyddai orau iddynt, a chadw eu llygaid ar y lan er ceisio gweld y cwch modur. Aethant ymlaen fel hyn am ysbaid heb weled na chlywed dim. Disgwyliai Bob i Miss Sharpe ddweud rhywbeth wrtho am ei chysylltiad blaenorol â'r ynys. Ond ni chyfeiriodd at hynny. Mae'n bosibl bod ei meddwl wedi ei sefydlu gymaint ar y presennol fel nad oedd ynddo ar y pryd le i'r gorffennol. Pan ddaethant at y lanfa, ebr Miss Sharpe, "Dyma'r lle". Trowyd i mewn, a glaniwyd, ond ni welent y cwch modur, oedd, fel y cofir, wedi ei guddio yng nghysgod y llwyn ychydig lathenni ymhellach, ac yn anweledig o'r lanfa. Am funud neu ddau, yr oedd Miss Sharpe yn amlwg wedi ei thaflu i ddryswch, ac ni allai Bob awgrymu dim i'w helpu o'r dryswch.

"Rhaid i ni adael y cwch yma," ebr hi, ar ôl ystyried yn ddwys am beth amser, "a mynd i fyny at y tŷ. Cofiwch am gadw'r dryll yn barod." "A ydych chwi'n meddwl bod perygl?" gofynnodd Bob yn bryderus.

"Wn i ddim," oedd ei hateb. "Nid oes arnaf lawer o ofn y brodorion, ond nid ydwyf yn teimlo mor sicr o'n dau gyfaill os cânt gyfle arnom."

"Rydych yn meddwl mai'r ffordd hyn yr aethant?" gofynnodd Bob.

"Dyna fy marn i," ebr hithau, "ond mi gawn weld. Rhaid i ni fynd yn ddistaw, a bod yn ochelgar. Nawr, dim un gair, a chedwch eich llygaid yn agored."

Ac i fyny â hwynt mewn distawrwydd o gam i gam, gan droedio'n araf a gofalus. Yn fuan iawn, sylwodd Miss Sharpe ar arwyddion bod rhywun wedi troedio'r ffordd honno ychydig oriau o'u blaen, a dangosodd hwynt i Bob heb ddweud dim. Cymerent fwy o ofal na chynt wedi gweld hyn. Gwylient ar bob llaw, a daliai'r ddau eu drylliau'n barod i'w defnyddio ar y rhybudd lleiaf. Ond ni welsant ac ni chlywsant ddim, a daethant at y bwthyn. Yno, fel y gwyddom, cawsant brofion diamheuol o ymweliad y ddau ddyn gwyn. Aethant i mewn i'r bwthyn, ac arweiniodd Miss Sharpe ei chydymaith at y gist.

"Maent wedi mynd â'r trysor," llefodd y ferch, gan ddangos y gist, oedd bron yn wag, i Bob.

"Oedd yna lawer?" gofynnodd Bob.

"Gwerth miloedd lawer," ebr hithau. "Ond y cwestiwn ydyw, I ble'r aethant?"

A dyna gwestiwn na allai Bob mo'i ateb. Gwelai fod ei gydymaith bron a thorri i lawr gan ei siomedigaeth. Ond am funud y dangosodd y gwendid. Yr oedd yn feistres arni ei hunan drachefn, gyda'i meddwl cyflym a'i phenderfyniad di-ildio.

"Rhaid i ni fynd i lawr yn ôl at y cwch," meddai, "a chwilio am eu cwch hwy."

A dyma lle y gwnaeth y ferch ei chamgymeriad. Pe bai wedi mynd o amgylch y bwthyn, gwelsai brofion, yn yr ochr arall, o ymweliad yr ynyswyr, ac o'r hyn a ddigwyddasai,—digon i'w harwain i ddeall i ble yr aethent. Ond dyna,—nid aeth yno, a chollodd y cyfle.

Wedi cyrraedd yn ôl i'r lanfa, safodd y ddau am ennyd yn fud. Ni wyddent pa beth i'w wneud, nac ar ba law i droi.

"Mae nhw wedi mynd â'r trysor, ond i ble?" ebr Miss Sharpe cyn hir, i dorri ar y distawrwydd.

"Ai tybed y gallent ddychwelyd i'r llong heb i ni eu gweld?" gofynnodd Bob.

"Gallent, mae'n sicr," ebr hithau, "trwy fynd allan o'r lagŵn trwy fwlch arall yn y reef, draw acw, gwelwch," a phwyntiodd i'r cyfeiriad, "ond nid yw'n debyg y gwnaent hynny, gan y golygai daith o rai milltiroedd ar y môr agored yn hytrach nag ar ddyfroedd tawel y lagŵn. Methaf a gweled beth a enillent trwy hynny." Cyd-olygai Bob â hi.

"Ni allent ein pasio yn y lagŵn heb i ni eu gweld a allent?" awgrymodd Bob.

"Na allent, yn sicr," ebr hithau.

Yna daeth syniad newydd i feddwl Bob. Fflachiodd ei lygaid, ac meddai:

"Mi wn i. Oni allent, yn lle mynd yn ôl i'n cyfarfod, fynd ymlaen yn y lagŵn, ac amgylchu'r ynys, ac yn ôl i'r llong trwy'r un bwlch ag y daethom allan?"

Gwenodd Miss Sharpe. "Na," meddai, "prin y credaf y gwnaent hynny. Y mae dros ugain milltir o daith i amgylchu'r ynys, a byddai rhai o'r brodorion yn sicr o'u gweld, ac nid wyf yn credu y dymunent hynny."

Gwelodd Bob nad oedd sail i'w ddyfaliad. "Felly," meddai, "mae'n rhaid mai trwy fwlch arall yr aethant allan, am ryw reswm neu'i gilydd,—neu—

"Neu beth?" gofynnodd y ferch yn wyllt, gan syllu yn ei wyneb.

Ond ofnai Bob roi ffurf mewn geiriau i'r syniad newydd a ddaethai i'w feddwl. Beth, tybed, a fyddai ei effaith ar Miss Sharpe?

Ond yr oedd hi'n disgwyl wrtho. "Dowch," meddai, "neu beth?"

"Ai tybed eu bod wedi cynllunio i ddianc ryw ffordd arall gyda'r trysor yn lle dychwelyd atom?" gofynnodd yn ofnus, gan wylio am effaith ei eiriau.

"Nid wyf yn amau na hoffent wneud hynny," ebr hithau yn chwerw ei thôn, "ond i ble y gallent fynd?"

"Fe wyddoch chwi hynny'n well na mi," oedd ateb Bob. Nid oedd hi wedi cyffroi gymaint wrth ei ateb ag yr ofnai.

"Gallent, mae'n sicr," ebr hithau, "fynd i ynys arall, ond faint gwell fyddent o hynny? Ac y mae Awstralia'n rhy bell iddynt fentro hwylio yno mewn cwch mor fychan."

Ni wyddai Bob beth i'w ateb ymhellach. Roedd yn ormod o broblem iddo. Roedd hithau'r ferch yn yr un dryswch yn hollol. Bu distawrwydd am ennyd. Yna meddai Miss Sharpe, "Mae arnaf ofn mai wedi chwarae tric â ni y maent, ac wedi mynd i rywle arall gyda'r trysor, er mwyn iddynt gael y cyfan iddynt eu hunain."

"Beth am Wil tybed?" gofynnodd Bob, mewn mwy o bryder am ei gyfaill ieuanc o Gymro nag am y trysor.

"Fe edrychant ar ôl Wil tra y bydd arnynt angen ei wasanaeth, ond, wedyn, druan o hono," oedd ei hateb chwerw. A thristhaodd Bob wrth ei geiriau.

Ond ymhen ennyd cofiodd am un peth arall, "Beth am y waedd a glywsom o fwrdd y llong?" gofynnodd.

"Nid wyf yn sicr beth a glywsoch," ebr hithau, "ac mae'n bosibl nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y waedd a'r bobl yr ydym ni'n eu ceisio. Mae'n fwy na thebyg gennyf nad oedd."

Ond cyn gynted ag y dywedodd hyn, clywyd bloeddio mawr a churo tympanau oddidraw ar yr ynys.

Neidiodd Miss Sharpe i fyny." "Clywch," meddai'n wyllt.

Prin yr oedd angen gofyn i Bob wrando: ni allai lai, gan mor ddieithr i'w glustiau oedd y sŵn.

"Nid ydynt ymhell oddiyma," ebr Bob yn gyffrous. "Beth all fod y mater?"

"Rhaid i ni fynd i fyny atynt," ebe'r eneth yn wyllt. "Dowch," gan gydio ynddo.

"Ond a ydyw'n ddiogel i ni?" gofynnodd Bob, gan geisio'i hatal. "Beth yw ystyr y bloeddio? Ni ddymunwn i ddim niwed ddigwydd i chwi."

"Dowch," ebr hithau a'i llygaid yn fflachio gan gyffro. "Mi wn i beth yw ystyr y bloeddio. Mae ganddynt garcharorion. Wedi eu dal gan y brodorion y mae'r lladron. Dowch. Rhaid i ni frysio, neu fe fyddwn yn rhy hwyr."

Roedd hi'n cychwyn i fyny wrth ddweud hyn, a phrysurodd Bob i'w dilyn, gan y gwelai ei bod yn benderfynol. I fyny â hwy i gyfeiriad y sŵn, gan dorri llwybr iddynt eu hunain drwy'r drysni. A chyn hir, daethant i'r gwastatir, lle'r oedd y pentref brodorol. Safasant am ennyd yng nghysgod coed ar ymyl y lle clir i edrych beth oedd yn mynd ymlaen, heb fod eu hunain yn weledig i neb o'r brodorion. Golygfa ryfedd a dieithr iawn, i Bob yn enwedig, a welent,—tyrfa fawr o'r ynyswyr yn ymweu trwy ei gilydd, a'r cyffro mwyaf ymhobman.

"Gwell i ni beidio a mynd ymhellach," ebr Bob pan welodd Miss Sharpe yn paratoi i fynd ymlaen.

"Ond mae'n rhaid i ni fynd," atebodd hithau yn gyffrous. "Mae nhw'n mynd i ladd rhywun. Dowch."

Cydiodd Bob ynddi i geisio ei hatal.

"Ond, ymbwyllwch am funud," meddai'n ddifrif ei dôn. "Nid oes obaith i ni allu eu hachub, ac fe'n lleddir ninnau, a pha faint gwell fydd neb o hynny? Gwell i ni fynd yn ôl."

"Na wnânt mo'n lladd. Dowch ymlaen," meddai hithau'n wylltach nag erioed, gan ysgwyd ei afael oddiarni, a rhedeg ymlaen. Dilynodd Bob ar ei hôl, gan ei bod yn benderfynol o fynd.

Aethant ymlaen am rai llathenni heb i neb eu gweld, yr oedd pawb wedi ymgolli yn yr hyn oedd yn mynd ymlaen yn y gwersyll,—ac yna, pan oeddynt yn ymyl cwr y dorf, gwelwyd hwy gan rai o'r ynyswyr, a rhuthrwyd i'w dal. Ni wnaeth Bob na'r ferch unrhyw ymgais i ddianc. Ond synnodd Bob weld ei gydymaith yn troi at y brodorion oedd yn amgau amdani, ac yn dechrau siarad a hwynt. Ni wyddai ef wrth gwrs, beth a ddywedai, ond gwelodd yn fuan iawn eu bod hwy yn ei deall, oblegid gwrandawent yn astud arni, gan syllu i'w hwyneb. Ac, yna, ymdaenodd gwên dros eu hwynebau, a chan floeddio 'Alsha' neu rywbeth tebyg i glust Bob, arweiniasant hi ymlaen i ganol y dyrfa, a Bob yn ei dilyn fel pe bai mewn breuddwyd, a gosgordd o'r tu ôl iddo. Yr oedd yno floeddio byddarol,—dwy floedd wahanol,—un adran yn bloeddio fel y clywsai Bob hwynt ar y cyntaf, a'r adran arall, wannach ar y cyntaf, ond yn cryfhau fwyfwy, fel y symudent ymlaen, nes o'r diwedd iddi fynd yn drech na'r gyntaf, ac i'r floedd newydd 'Alsha' gael ei chymryd i fyny gan bawb. Ac nid bloeddio yn unig a wnaent, ond canu a dawnsio mewn hwyl. Arweiniwyd, neu feallai y byddai'n fwy cywir dywedyd, gwthiwyd, y ddau trwy ganol y dyrfa fawr, a gwelodd Bob fod yna yn y pen draw fath o lwyfan, a hen ŵr yn eistedd ar fath o deyrn—gadair, ac eraill yn sefyll o'r tu ôl iddo. Roedd y sŵn a'r cynwrf wedi peri i Bob anghofio'r neges a'u dygodd i'r lle; ac, o ganlyniad, mawr oedd ei syndod pan welodd eu Capten a Mr. Allen yn sefyll wrth ochr y llwyfan, yn edrych yn ddigon wyneb-drist. Ond gwelsant hwythau y ddau newydd-ddyfodiad, a daeth syndod i'w hwynebau.

Ac nid syndod yn unig, ond rhywbeth arall, fel pe na baent yn falch o'u gweld. Ond sylwodd Bob mai ar Miss Sharpe, yn hytrach nag arno ef, yr oedd llygaid y ddau wedi eu hoelio. Roedd braw, syndod, ac atgasedd yn gymysg ar eu hwynebau, a hawdd y gellid gweld yr adwaenent hi. Ymwthiodd Bob at ei hymyl, a galwodd ei sylw at y ddau garcharor. Heb sylwi arnynt yr oedd hi hyd hynny, ond pan y'u gwelodd, daeth gwên fuddugoliaethus i'w hwyneb, a gostyngodd y ddau garcharor eu pennau. Ond, er edrych i bob man, ni allai Bob weld golwg ar Wil yn y lle. I ble yr aethai? Sut na buasai yntau gyda'r ddau garcharor? Ai tybed? Na, yr oedd y syniad yn rhy ofnadwy i roi lle iddo am eiliad.

Galwyd am osteg, ac ar ôl peth amser, llwyddwyd i'w gael. Yna gwelodd Bob fod y pennaeth wedi plygu dros ymyl y llwyfan i siarad gyda Miss Sharpe, ac yna codwyd hi i'r llwyfan. Achosodd hyn i'r bloeddio, a'r dawnsio, a'r curo tympanau ail-ddechrau. Beth bynnag oedd yr eglurhad, ac hyd yn hyn, tywyll oedd popeth i Bob, yr oedd yn hawdd iddo weld bod y brodorion yn falch iawn o weld Miss Sharpe, ac yr edrychent arni fel pe bai wedi codi oddiwrth y meirw. Roedd y dyrfa fel pe bai wedi gwallgofi. Ac yna, er mawr syndod iddo, codwyd Bob yntau i'r llwyfan, a gosodwyd ef i eistedd wrth ochr Miss Sharpe. Oddiyno, edrychodd i bob cyfeiriad i chwilio am Wil. Methai a deall sut na buasai gyda'r ddau garcharor. Bu am gryn amser heb allu ei weld, ond o'r diwedd fe'i canfu yn sefyll wrth ddrws un o'r bythynnod, a dau frodor gydag ef yno. Yr oedd golwg syn ar ei wyneb yntau wrth weld Bob a merch ddieithr iddo yn cael eu codi i'r llwyfan. Gwnaeth Bob ei ddarganfyddiad yn hysbys i Miss Sharpe, ac, wedi iddi sibrwd ychydig eiriau wrth y pennaeth, rhoddwyd gorchymyn i godi Wil hefyd i'r llwyfan. Dawnsiai'r dyrfa o flaen y llwyfan, gan wneud pob math o ystumiau a chreu twrf dirfawr. Ni allai Wil, mwy na Bob, ddeall yr amgylchiadau rhyfedd. Wedi ei gael at ei ochr, ceisiodd Bob egluro iddo y rhyfeddodau ynglŷn a'r mêt. Ryw hanner eu deall a wnaeth Wil ar y pryd, ond ni allai ddeall o gwbl sut y tynnwyd ef o garchar mewn amrantiad a'i osod i eistedd mewn lle o anrhydedd.

Ac, yna, ynghanol y rhialtwch, codwyd gwaedd newydd. A'r peth nesaf a welodd Bob a Wil oedd nifer mawr o'r brodorion yn rhuthro o'r lle i bob cyfeiriad.

"Beth all fod y mater?" gofynnodd Bob yn syn i Miss Sharpe.

"Y ddau garcharor sydd wedi dianc," ebr hithau. "Ond fe'u delir."

"A ydych yn meddwl y lleddir hwynt?" gofynnodd Bob yn bryderus.

"Rwyf wedi bod yn eiriol fy ngorau gyda Shimu,—dyna enw'r pennaeth, wyddoch chi,—ar eu rhan, ond, hyd yn hyn, y mae'n bendant am eu lladd," ebr hithau. "Ni fynnent er dim i neb gyffwrdd yn nhrysor fy nhad yn y bwthyn. Ond, heblaw hynny, bu un o'r ddau, Capten Larkin, mae'n debyg, yn ddigon ynfyd i saethu at un o'r brodorion, a'i anafu. Felly ofnaf mai gobaith gwan sydd i'w hachub."

"Gobeithio y llwyddant i ddianc ynteu," ebr Bob.

"Ni fynnwn iddynt gael eu lladd er cased gennyf ydynt."

Erbyn hyn, clywid sŵn y brodorion ymbob cyfeiriad yn chwilio am y ffoaduriaid, ac, yn sydyn, torrodd yn storm enbyd ar yr ynys. Roedd yr awyr wedi duo eisoes ers meityn, ond bod pawb yn rhy brysur gyda'r rhialtwch i sylwi ar hynny. Fflachiodd y mellt, a rhuodd y taranau, a daeth gwynt nerthol, nes siglo'r ynys i'w sylfeini. Ac yna, disgynnodd y glaw yn genlli, a chyda hynny, dychwelodd yr ymlidwyr i'r gwersyll, a phawb i gysgod y bythynnod. I ble, tybed, yr aethai'r Capten a Mr. Allen?

PENNOD XVII
TRWY'R BWLCH

EDRYCHODD Dic a'i ddau gydymaith ar fwrdd y 'Mona' yn ddyfal i gyfeiriad yr ynys am oriau y prynhawn hwnnw gan ddisgwyl gweld y naill gwch neu'r llall yn dychwelyd. Ond yn ofer, fel y gwyddom. Wedi hir ddisgwyl, dechreuasant bryderu. Beth allsai fod wedi digwydd ar yr ynys? A pha beth a wnaent hwy ar y llong oni ddeuai neb yn ôl cyn y nos? Roedd rhai oriau rhyngddi eto a machlud haul, mae'n wir, a da oedd ganddynt feddwl hynny, ond tynnu'n raddol tua'r gorllewin a wnai'r haul.

"Dydw i ddim yn leicio golwg yr awyr yn y fan'cw, Dic," ebr Cooke, gan bwyntio dros starn y llong tua'r de. Ac erbyn i Ddic edrych i'r cyfeiriad, gwelai ei bod yn ddu iawn yno,—yn bur debyg i'r fel y gwelsai ef o'r blaen cyn y storm fawr. "Beth wnawn ni?" gofynnodd yn bryderus.

"Wn i ddim," oedd ateb Cooke, "ond os tyr hi'n storm arnom yn y fan hyn, yn sicr ni ddeil yr angor mohoni, ac fe fyddwn ar y reef cyn y bore."

Myfyriodd Dic ar y safle am ennyd, ac yna dywedodd, "Oni fyddai'n well i ni geisio mynd â hi i'r lagŵn?"

"Mynd â'r llong i'r lagŵn trwy'r bwlch?" ebr Cooke yn syn. "Amhosibl!"

"Ond," ychwanegodd, wedi ystyried am ennyd, mae gennym un cwch arall. Fe allwn ni lanio ar yr ynys gyda hwnnw."

"Beth!" ebr Dic, "a gadael i'r llong fynd yn ddrylliau? Sut yr awn ni oddiyma wedyn heb long?"

Cododd Cooke ei ysgwyddau, fel pe i arwyddo nad oedd hynny o gymaint pwys a'u diogelwch hwy ar y pryd.

"Ni fydd arnom angen llong i fynd oddiyma, os nad awn i rywle mwy diogel na'r fan hyn cyn pen yr awr. Nawr, Thomson, dowch i f'helpu fi i gael y cwch i'r dŵr." A pharod iawn oedd Thomson i ufuddhau i'r alwad hon. Clywsai yr hyn a ddywedasai Cooke am ragolygon storm, ac yr oedd ei atgof am y storm o'r blaen yn rhy fyw iddo ddymuno gweld ei thebyg byth mwy ar fwrdd llong.

Ni chynigiodd Dic helpu, ac ni ofynnwyd iddo. Roedd tipyn o ystyfnigrwydd yn ei natur, ac ni theimlai'n barod i adael y llong, pa beth bynnag a ddywedai Cooke. Cafwyd y cwch i'r dŵr, ac aeth Thomson a Cooke iddo.

"Wyt ti am ddod gyda ni?" gofynnodd Cooke i Dic. "Dyma'r cynnig olaf i ti."

Ond nid atebodd Dic. Yr oedd lwmp rhyfedd wedi dod i'w wddf fel na allai ddweud dim. Ond, er cryfed ei ystyfnigrwydd, yr oedd bron ag ildio. Er na hoffai'r syniad o adael y llestr, llai fyth yr hoffai'r syniad o gael ei adael wrtho'i hunan ar ei bwrdd. Yr unig beth y daliai i hyderu ydoedd y deuai un o'r cychod eraill yn ôl cyn hir,—cyn i'r storm dorri, neu i'r nos ddisgyn.

Aeth y cwch ymaith. Gwelodd ef yn mynd ymhellach, ymhellach oddiwrtho, a bu bron a gweiddi ar iddynt ddod yn ôl i'w gymryd yntau gyda hwynt. Ac yna digwyddodd peth rhyfedd. Pan oedd Dic yn pwyso yn erbyn ochr y llong yn gwylio'r cwch yn mynd ymaith, gwelodd y ddau ddyn fel

baent yn dechrau anghytuno,—y ddau ar eu traed yn y cwch, ac yn rhoi heibio rwyfo. Ac yna, trowyd y cwch yn ôl, ac mewn ychydig funudau, yr oedd Cooke a Thomson yn ôl ar y bwrdd.

"Ddarum i ddim meddwl o'r blaen bod cymaint o blwc ynot ti, fachgen," ebr Cooke. "A chti sy'n iawn. Rhaid i ni geisio achub y llong, neu fe allwn fod yma am y gweddill o'n hoes. Dowch, Thomson, i godi'r angor."

Ac i fyny a'r angor mewn byr amser gan ddwylo ewyllysgar, a chodwyd hwyl gan fod y gwynt yn chwythu i gyfeiriad y bwlch a'r lagŵn. Cafwyd 'ffordd' ar y llong,—symudodd yn araf ar y cychwyn, ac yna ychydig yn gyflymach i gyfeiriad y bwlch yn y reef. Yno'r oedd y perygl. Aeth Cooke i ben blaen y llong i wylio, a Dic wrth y llyw. Cyfarwyddai Cooke ef o'r pen blaen sut i lywio i osgoi'r creigiau, a Thomson yn ceisio gwylio'r ddau, yn bryderus am ei fywyd, ond heb fod o fawr help. Yr oedd calon Dic yng nghorn ei wddf, ys dywedir, gan bryder pan ddynesai at y reef, ac ofnai bob eiliad deimlo'r llong yn taro yn erbyn craig. Ond ymlaen â hwy. "Hwre,"

"Hwre," bloeddiodd Cooke cyn hir, "dyna ni trwodd yn ddiogel." Ac ni theimlodd Dic erioed fwy o ollyngdod na phan glywodd y newydd da hwn gan Cooke. Roeddynt yn nhawelwch diogel y lagŵn, heb achos i ofni'r storm agoshaol. Ond wedi cyrraedd y noddfa, nid ymddangosai Thomson yn dawel. Edrychai'n barhaus ar yr ynys, ac amheuodd Dic a Cooke fod arno ofn. y brodorion. A chyn hir, gwelsant eu bod yn gywir,—dyna oedd yn ei boeni. Daeth at Cooke, ac erfyniodd ar iddo symud y llong i gysgod craig ar y lan,—ychydig i'r dde,—i fan nad oedd modd i neb weld y llong oddiar yr ynys. I'w foddhau, gwnaed hynny, ac erbyn hyn torasai y storm. O'u hangorfa dawel, gwelent y tonnau gwyllt yn torri'n drochion ar y tuallan i'r reef, ac ambell dro, cynhyrfid wyneb tawel y lagŵn gan ambell don fawr a ysgubai drwy'r bwlch. Arswydent wrth feddwl beth a fuasai tynged eu llong a hwythau, pe na ddaethent trwy'r bwlch mewn pryd.

PENNOD XVIII
I BLE'R AETH Y LLONG?

ERBYN bore trannoeth, roedd y storm fawr drosodd, a chychwynnodd nifer .o'r brodorion yn gynnar i chwilio am y ddau ffoadur. Wedi iddynt fynd, cafodd Bob a Wil gyfle i ymddiddan â Miss Sharpe, ac i fynd dros ddigwyddiadau cynhyrfus y prynhawn cynt. Clywsant ganddi hefyd yn fwy manwl yr hyn a ddywedasai'r pennaeth wrthi. "Daethom yma i'r dim ddoe," meddai, roeddynt wedi eu condemnio i farw cyn i ni gyrraedd, a'r paratoadau'n mynd ymlaen nes i ni eu rhwystro." Ac nid ydych yn meddwl bod gobaith yr arbedir hwynt?" gofynnodd Bob.

"Nac ydwyf," ebr hithau. "Mae eu trosedd yn un mawr yng nghyfrif Shimu,—yspeilio'r bwthyn a saethu dyn."

"Ond a ydych yn meddwl y delir hwynt?" gofynnodd Bob.

"Os ydynt ar yr ynys, fe'u delir yn sicr," oedd yr ateb. "Ond yr hyn sy'n pwyso fwyaf ar fy meddwl i," ychwanegodd, "ydyw, sut y bu arnynt ar fwrdd y llong yn y storm neithiwr?"

Roedd Bob wedi meddwl llawer am hynny hefyd yn ystod y nos, ond ni ddymunai grybwyll y mater wrthi hi'n gyntaf. Beth, tybed, oedd wedi digwydd i'r tri a adewsid ar ôl?

"Tybed fod y Capten wedi gallu mynd i ffwrdd gydag un o'r cychod neithiwr?" gofynnodd Wil, i droi'r ymddiddan yn ôl at y ffoaduriaid, gan na ddymunai wrando arnynt yn trafod y storm a'i pheryglon i'w gyfaill, Dic.

"Ond byddai'n amhosibl iddynt fynd i'r llong neithiwr yn y fath storm" ebr hi. "Fasa'n well i Wil a minnau fynd i lawr i edrych a ydyw'r cychod yna?" gofynnodd Bob.

"Wel, ie, dyna a fyddai orau," ebr Miss Sharpe, "ac os medrwch, ceisiwch edrych a ydyw'r llong yna."

"Reit," ebr Bob, ac ymaith ag ef gyda Wil, ac i lawr at y lanfa. Cawsant fod y cwch rhwyfo yno, fel y gadewsid ef.

"Ymhle y gadewaist ti'r cwch modur?" gofynnodd Bob.

"Draw yn y fan hyn," ebr Wil, a thorri llwybr iddo'i hun trwy'r drysni, a Bob yn ei ddilyn.

"Roeddech chi wedi ffeindio lle slei i'w guddio," ebr Bob; "nid oedd yn rhyfedd i ni fethu a chael hyd iddo."

Ac wedi mynd drwy'r drysni, cawsant fod y cwch modur yno hefyd, fel y gadewsid ef gan Wil, a'r ddau gydaid o drysorau yn y locker.

"Rydw i'n synnu na basan nhw wedi mynd i ffwrdd gyda rhain," ebr Wil.

"Achub eu bywydau o afael y brodorion oedd eu hamcan cyntaf, mae'n sicr," ebr Bob, "a chofia di, roeddyn nhw'n llawer iawn mwy awyddus i ddianc wedi gweld Miss Sharpe. Mae'n debyg yr amheuent na wnai hi lawer o lês i'w hachos. Ac wedyn, wyddost ti, fe ddaeth y storm ar eu gwarthaf."

"Mae'n debyg, os can' nhw gyfle, mai yma y dôn' nhw am y trysor," ebr Wil.

Mae'n ddigon tebyg, os can' nhw gyfle," ebr Bob, "ond mae arna i ofn mai siawns go wael fydd ganddyn nhw. Ond, tyrd, mi awn ni i drio cael golwg ar y llong. Mi ddylem allu ei gweld o ben y graig acw," gan bwyntio at graig fawr a godai ei phen i fyny i'r deheu oddiwrthynt. Ac i ffwrdd â hwy, gan dorri llwybr iddynt eu hunain trwy'r llwyni tewion. '

O ben y graig, gallent weled wyneb y môr am bellter mawr. Gwelent y reef yn amgylchu'r ynys, ac ambell fwlch ynddo,—fel y dywedwyd, gyferbyn a ffrwd yn rhedeg i'r môr. Ychydig o'r lagŵn oedd yn y golwg o'r lle y safent,—cuddid ef o'u gŵydd gan ochrau'r graig, a chan ambell fryncyn arall ar yr ynys.

Y peth cyntaf iddynt edrych amdano, wrth gwrs, oedd y llong,—dyna oedd eu neges. Nid ar unwaith y gallent benderfynu i sicrwydd ar y bwlch y buasai'r llong wrtho, ond, wedi ystyried, cytunasant ar y lle.

"Yn y fan'cw roedd hi," ebr Wil, a chydolygai Bob.

"Yn y fan'cw roedd hi," ebr Bob, a dwyster anghyffredin yn ei lais. "Ond, Wil annwyl, i ble mae hi wedi mynd?"

Ond yr oedd hyn yn ormod o gwestiwn i Wil. Edrychodd y ddau yn fud i wynebau ei gilydd. Heb roi mynegiad i'w syniadau, ofnai'r ddau fod y gwaethaf wedi digwydd i'r llestr a'r tri ar y bwrdd. Ychydig a feddylient fod y llong a'i chriw bach yn ddiogel yn y lagŵn,—yn bur agos atynt ond o'u golwg.

"Beth wyt ti'n feddwl sydd wedi digwydd iddynt,

"Bob?" gofynnodd Wil, mewn llais pryderus, ac fel pe bai'n ofni clywed yr ateb.

"Wel, Wil bach," ebr Bob yn drist, "doedd dim posib i long fach fel yna gyda thri o griw sefyll ar yr wyneb yn y storm neithiwr. Mi lusgodd ei hangor, wrth gwrs, ac wedyn, ni fedrai neb wneud dim."

"Ond i ble y buasai'n rhedeg?" gofynnodd Wil. 'Nid allan i'r môr?"

"Ar ei phen i'r reef," ebr Bob, a'i lais yn crynu gan deimlad, a gwneud osgo a'i law i ddangos yr hyn a ddigwyddasai yn ei farn ef.

Ond nid oedd Wil wedi hysbyddu ei ddawn i holi. "Ond sut na fasa rhywbeth o honi i'w weld ar y reef heddiw?" gofynnodd yn nesaf.

"Roeddwn i'n meddwl y basa hi yn sefyll ar y reef."

"Wn i ddim am hynny," ebr Bob. "Mae'n dibynnu sut y trawodd ar y creigiau. Mi allai redeg ar y reef, a chael ei dal yno nes i'r tonnau ei dryllio, ond fe allai hefyd gael twll yn ei gwaelod, a suddo yn y dwfr dwfn y tuallan i'r reef." Bu peth distawrwydd cyn i Wil ofyn ei gwestiwn nesaf.

"Fasa ddim yn bosib iddi hi gael ei chario trwy'r bwlch at lan yr ynys?" gofynnodd Wil, ar ôl troi'r mater drosodd a throsodd yn ei feddwl.

Ysgydwodd Bob ei ben.

"Mae'n anodd gen i gredu y digwyddai peth felly," meddai. "Pwy fedrai lywio llong trwy fwlch mor gul, yn enwedig mewn storm?"

"Mi fasa'n anodd, mae'n siwr," cytunodd Wil. Ond fasa peth felly'n amhosibl?"

"Mi fasa'r peth tebyca i wyrth welais i erioed," oedd ateb Bob. "Mi fasa'n anodd gwneud hynny ar dywydd teg heb sôn am storm. Na, Wil bach, waeth i mi ddweud y gwir yn blaen wrthyt ti. Rhaid i ni wynebu'r gwaethaf. Mae arna i ofn nad oes fawr o obaith am y llong na neb oedd ar ei bwrdd. Mae'n wir ddrwg gen i am Dic, druan, a Cooke. Ond fel yna y bydd hi'n aml, ar y môr, wyddost ti. Hen foi bach nobyl oedd Dic. Roeddwn i'n reit hoff o hono." Roedd y dagrau'n llenwi llygaid Wil wrth i Bob siarad, er na allai rywfodd roi i fyny obeithio am ei gyfaill. Ac yna daeth ystyriaeth arall i'w feddwl.

"Ond sut yr awn ni oddiyma, os yw'r llong wedi mynd?" gofynnodd.

Ysgydwodd Bob ei ben. "Wn i ddim," meddai. "Ond hwyrach y medr Miss Sharpe feddwl am ryw ffordd. Ond rhaid i ni fynd yn ôl i ddweud wrthi'r newydd drwg."

A chychwynnodd y ddau i lawr o ben y graig, ac yn ôl i'r pentref, yn rhy ddigalon i ddweud dim wrth ei gilydd. Ni ddangosodd Miss Sharpe gymaint o syndod ag a ddisgwylient wrth y newydd.

"Roeddwn i'n ofni," meddai, "fod y llong wedi ei gadael mewn lle drwg ar gyfer storm fawr fel a gawsom neithiwr, a dim ond tri ar y bwrdd."

Ac yna, ymgollodd mewn synfyfyrdod dwys.

Yn ddiweddarach ar y dydd, daeth y brodorion, o un i un, yn ôl, heb lwyddo i ddarganfod y ddau ffoadur, nac i weld dim o'u hôl.

Daeth eu haflwyddiant a chwmwl o anfodlonrwydd i wyneb Shimu, y pennaeth.

PENNOD XIX
NEWYDDION DRWG A DA

AETH diwrnod arall heibio heb i ddim gwybodaeth am dynged y ddau ffoadur gael ei ennill. Ond nid tynged Larkin ac Allen a bwysai fwyaf ar feddwl Wil. Beth a ddigwyddasai i Dic ac i'r 'Mona' oedd ar ei feddwl ef yn barhaus. Byth er pan grybwyllasai wrth Bob y posiblrwydd fod y llong wedi dod i mewn i'r lagŵn, tueddid ef i gredu'n gryfach yn y syniad. Ni allai, rywfodd, gredu y gellid dryllio'r llestr ar y reef, heb fod rhyw arwydd o hynny i'w weled. Crybwyllodd hynny drachefn wrth Bob, ond ni fynnai ef gredu dim o'r fath.

"Waeth i ti heb a siarad, Wil, a cheisio dy gysuro dy hun â gobaith gau," meddai'n bendant. "Fe allai'r llong suddo yn ôl i'r dwfr dwfn y tuallan ar ôl taro yn erbyn y reef. Ac mi fasa'n anichonadwy i unrhyw long ddod i mewn drwy'r bwlch neithiwr. Wedyn, dyna i ti ben ar y mater."

Ond nid oedd yn ben ar y mater i Wil. Anturiodd grybwyll ei syniad wrth Miss Sharpe, a dywedyd wrthi beth a ddywedasai Bob. Ond ysgwyd ei phen a wnai hithau.

"Mae arnaf ofn," meddai "mai Bob sydd yn iawn. Ond y ffordd i chwi eich sicrhau eich hun a ydyw'r llong yn y lagŵn ai nad ydyw, fyddai mynd o amgylch yr ynys, ar hyd y lagŵn gydag un o'r cychod. Ni chymer lawer o amser i chwi wneud hynny. Fe ddaw Bob gyda chwi, mae'n sicr."

A phan ofynnwyd iddo, bodlonodd Bob i fynd ar awgrym Miss Sharpe, er na chredai yr enillid dim drwy hynny ond tawelu meddwl cythryblus Wil.

Gyda'r cwch modur yr aethant i gael arbed y drafferth o rwyfo, a'r ddau fag trysor o hyd yn y locker.

"Mi awn ni rownd yr ynys i ti gael ei gweld hi i gyd," ebr Bob, a chytunodd Wil yn barod iawn. Ac felly, nid yn ôl am eu bwlch hwy yr aethant, ond ymlaen i ran o'r lagŵn na fuasent ynddo o'r blaen. Er mor bryderus oeddynt ynghylch llawer o bethau, ni allent lai na mwynhau y daith yn y cwch. O! roedd yn hyfryd, a'r olygfa amrywiol ar lannau'r ynys yn wledd i'r llygaid. Ymlaen â hwy gan edrych weithiau i lawr i'r dwfr tawel a syllu ar y rhyfeddodau oedd i'w gweld yno, a thro arall, yn rhoi eu holl sylw i brydferthwch yr ynys gyda'i chyfoeth o liwiau heirdd mewn coedydd, a blodau, a ffrwythau.

Pan gyrhaeddasant gyferbyn a phen eithaf yr ynys (o'u bwlch hwy), gwelsant fod y goedwig yno'n dewach nag ym mhen arall yr ynys. Pan oedd Bob yn ceisio egluro i Wil beth a achosai hynny,—y cyfeiriad y deuai'r glaw o honno amlaf,—yn sydyn clywsant floeddio uchel o ganol y goedwig.

"Ust," ebr Bob. "Beth sydd yna, tybed? Atal y peiriant am funud i ni gael clywed."

Ac ataliwyd y peiriant, ac eisteddodd y ddau i wrando ar y bloeddio.

"Beth sydd yna, tybed?" gofynnodd Wil. A'r un munud, clywyd ergyd o ddryll.

"Y Capten ac Allen sydd yna, a'r brodorion wedi cael hyd iddyn nhw," ebr Bob yn gynhyrfus. "Beth wnawn ni, dywed? Fasa'n well i ni lanio?"

Ond, cyn iddo orffen llefaru, gwaeddodd Wil, "Edrych, Bob, pwy sydd yn sefyll ar y lan." Edrychodd Bob, a gwelodd Capten Larkin yn sefyll ar fin y dwfr, a golwg wyllt arno.

"Ple mae Allen, tybed?" ebr Bob. "Cychwyn y peiriant, Wil, rhaid i ni droi i mewn i drio'i achub."

Ufuddhaodd Wil. Ond yr oedd y bloeddio erbyn hyn yn eu hymyl. Edrychasant i'r lan. Yr oedd pennau duon yn ymddangos yn y coed yn ymyl y Capten. Yr oedd yntau wedi troi i'w hwynebu. Yna, yn sydyn, gwelodd y bechgyn ef yn tanio'i ddryll, ac yna'n ei daflu ei hun i'r dwfr.

"Brysia, Wil bach, y mae'n nofio allan atom," ebr Bob yn gyffrous ar ei draed yn y cwch. "Hei, Capten."

Roedd tua deugain llath rhwng y Capten a'r cwch pan ddywedai Bob hyn. Roedd y brodorion ar y lan. Yn sydyn, pan oedd Bob yn gwylio'r Capten yn dod yn nes, nes at y cwch, clywodd waedd o fraw oddiwrth y brodorion. "Mao, mao," gwaeddent, a phwyntient at y dwfr yn ymyl y Capten. Trodd Bob a Wil i edrych, a gwelsant don ysgafn yn chwarae ar wyneb y dwfr. Roedd gwaedd y brodorion wedi effeithio ar y ddau nes peri iddynt ofni, er na wyddent rhag beth. Ond, yn awr, gwelodd Bob y perygl. "Siarc sydd yna, Wil annwyl," meddai mewn braw. "O! Capten annwyl." A'r un funud, gwelsant y Capten yn cael ei dynnu dan y dwfr, o fewn llai nag ugain llath iddynt. A dyna'r cyfan drosodd.

Roedd y ddau'n foddfa o chwys gan eu dychryn. Syrthiodd Bob i lawr yn swp diymadferth, ac yr oedd wyneb Wil fel y galchen, a rhyw gryndod rhyfedd wedi cydio ynddo.

"O bobl," ebr Bob, pan ddaeth yn weddol ato'i hun, "dyna ddiwedd ofnadwy."

Yr oedd y digwyddiad dychrynllyd wedi effeithio gymaint ar Wil fel na allai yngan gair.

Gwelodd Bob y brodorion ar y lan yn edrych tuagatynt.

"Mi awn ni i'r lan," meddai wrth Wil, "i edrych ymhle mae Allen, er na alla i ddeall yr un gair mae nhw'n ddweud."

Dygwyd y cwch i dir, a glaniasant. Daeth y brodorion o'u hamgylch, gan siarad ar draws ei gilydd,—pob un yn ceisio tynnu sylw Bob a Wil, a'r ddau heb allu deall dim, wrth gwrs. Ond, toc, arweiniwyd hwy i mewn i'r goedwig, ac wedi cerdded peth pellter, daethant at gorff Allen yn gorwedd wrth droed craig, ac ôl ergyd o wn yn ei fron. Gwelsant mai wedi ei saethu gan Larkin yr oedd y truan, gan na feddai yr un o'r ynyswyr ddryll.

"Wel, wel," ebr Bob, "dyma'r ddau wedi mynd. Ac, am wn i, nad oedd yn eitha diwedd i Larkin, wedi iddo lofruddio'i gyfaill fel hyn."

Wylai Wil yn hidl wrth yr olygfa, ac wedi wylo, i roi ffordd i'w deimladau, teimlai lawer yn well.

"Wel, beth wnawn ni, Wil?" gofynnodd Bob.

"Awn ni 'mlaen i orffen ein taith, ynteu fasa'n well gen ti fynd yn ôl?"

"Waeth i ni fynd ymlaen bellach," ebr Wil. "Fydd dim yn bosib i ni weld dim byd gwaeth nag a welsom."

A chytunai Bob, ac ymlaen â hwy. Ond, rhyfedd iawn, yr oedd diwedd trist y ddau ffoadur wedi lladd gobeithion Wil. Teimlai, rywfodd, fod ei obaith wedi ei ddiffodd, a'r peth gorau a ddisgwyliai erbyn hyn oedd cael rhyw braw fod y llong wedi mynd, gweld darnau o honi yn y dŵr, neu gael cyrff ar y lan.

Ymlaen â hwy, heb ddweud dim,—y ddau, mae'n debyg, a'u meddwl gyda'r golygfeydd ofnadwy a welsent.

A chyn hir, daethant yn agos i'r graig yr oedd y llong wedi ei hangori yn ei chysgod. Bob oedd y cyntaf i weld y llong, a phrin y gallai gredu ei olygon, pan welodd hi gyntaf. Yna, wedi ei sicrhau ei hun mai y 'Mona' mewn gwirionedd ydoedd, heb fod fymryn gwaeth o'r storm, gwaeddodd, yn gyffrous, "Edrych, Wil annwyl, dacw hi, wel di." Trodd Wil i edrych, heb wybod yn iawn beth oedd yr 'hi' y soniai Bob amdani, gan mai gyda'r siarc yr oedd ei feddwl ar y pryd. Ond pan welodd y llong, bron na neidiodd o'r cwch gan lawenydd. Ac yna unodd y ddau i floeddio, "Hwre," o galon. Clywyd eu bloedd oddiar fwrdd y llong. Daeth y tri morwr i'r golwg ar y bwrdd, ac atebwyd y floedd. Cyn pen ychydig funudau, yr oedd y cwch wrth ochr y llong, a Bob a Wil ar y bwrdd, ac yno y bu ysgwyd llaw fel pe baent heb weld ei gilydd ers blynyddoedd. Ac wedi i'r amlygiadau cyntaf o lawenydd o bob tu dawelu peth, cafwyd yr hanes am y modd yr achubwyd y llong, ac wedi hynny, gwrandawyd yn astud adroddiad Bob a Wil o hanes y digwyddiadau cyffrous ar yr ynys.

Anodd disgrifio syndod y tri a adewsid ar y 'Mona' pan glywsant am gysylltiad Miss Sharpe a'r brodorion, er na ddeallai neb mohono'n iawn, ac yn enwedig pan glywsant am ddiwedd trychinebus y Capten a Mr. Allen.

"Bydd Miss Sharpe yn falch o glywed bod y llong yma," ebr Bob, wedi gorffen adrodd hanes yr ynys. "Roedd Wil yn credu hynny o hyd, ar ba sail ni wn, os yn wir, y gŵyr ei hun, ond nid oedd Miss Sharpe na minnau'n meddwl y gellid dwyn y llong i'r lagŵn."

"A fasa'r llong ddim yma, nac ar yr wyneb chwaith erbyn hyn, onibai am Dic," ebr Cooke, a gwridodd Dic yn swil wrth glywed ei ganmol.

"Pryd yr ydych chwi'n meddwl y cawn ni gychwyn oddiyma?" gofynnodd Cooke.

"Aros nes cael hyd i Larkin ac Allen yr oeddym," ebr Bob. "Nid wyf yn meddwl y byddwn yn hir yn awr, gan nad oes unrhyw rwystr arall, hyd y gwn."

"Wel, gorau po gyntaf gennym ni gael mynd oddiyma, onte, Thomson?" meddai Cooke, gan edrych yn gellweirus ar y cŵc.

"Ie, wir," ebr Thomson, yn ddigon gonest.

"Dydi Thomson ddim yn teimlo'n gysurus o gwbl mor agos i'r brodorion," ychwanegodd Cooke. Mae arno ofn eu gweld o gwmpas y lle bob munud."

A chwarddodd pawb ond Thomson wrth y sylw.

"A ninnau'n meddwl ei wa'dd yn ôl gyda ni i'r ynys, onte, Wil?" ebr Bob, a winc direidus ar y lleill. "Gwell i ni beidio, felly."

Yn fuan wedyn, fe'u paratodd Bob a Wil eu hunain i ddychwelyd gyda'r newydd da i Miss Sharpe. Ac yr oedd yn falch iawn pan glywodd, ac yn canmol Dic am achub y llong. Ond y newydd arall oedd fwyaf ar ei meddwl, diwedd ofnadwy y ddau leidr. Ganddi hi y cawsant holl fanylion yr hanes. Daeth y brodorion o hyd i gorff Mr. Allen yng nghwr y coed, wedi ei ladd gan Larkin. Aethant ymlaen i chwilio am y llofrudd. Cyn hir, gwelsant ef yn ymguddio mewn llwyn. Pan welodd hwynt, rhedodd, a rhedasant hwythau ar ei ôl. Trodd yn ôl, a thaniodd arnynt, heb anafu neb. Effaith hynny a fu ffyrnigo mwy ar yr ynyswyr, a rhuthrasant ymlaen gan floeddio, a'i ymlid hyd i fin y dŵr. Ac, yna, digwyddodd yr hyn a welsai Bob a Wil o'r cwch. Ac ychwanegodd Miss Sharpe, "Yr oeddynt wedi gwneud tro gwael iawn â mi, fel y cewch glywed gennyf pan gaf gyfle; ond, caraswn, er hynny, allu eu hachub. Ond pe bai'r ddau wedi eu dal yn fyw, nid oedd obaith i'w hachub. Gwnaethum fy ngorau gyda'r pennaeth, ond yr oedd wedi penderfynu gweinyddu'r gosb eithaf arnynt. Felly nid oedd obaith iddynt adael yr ynys yn fyw.”

PENNOD XX
ACHUB MISS SHARPE

ROEDD gan Miss Sharpe fwthyn iddi ei hun yn y pentref, a Vima, yr eneth a ddygasai ddiod i Wil y noson y daliwyd ef, yn gweini arni. Ym mhen arall y pentref y lletyai Bob a Wil. Dangosid pob caredigrwydd iddynt hwy a Miss Sharpe. Caent fynd ati i'w bwthyn pryd y mynnent i ymddiddan.

Disgwyliai Bob a Wil y byddent yn cychwyn tuag adref yn fuan, wedi cael goleuni ar dynged y Capten ac Allen. Ond fe'u siomwyd. Nid oedd Miss Sharpe yn sôn am ymadael, ac ymhen deuddydd neu dri, rhoes ar ddeall iddynt nad oedd y pennaeth yn fodlon iddi fynd ymaith. "Mae'n dweud," meddai, "bod mwy o lwyddiant iddynt ar yr ynys pan fyddaf fi yma gyda hwynt. Bu iechyd yr ynys yn dda pan oedd fy nhad yma. Nid yw'n ddim ond eu hofergoel, wrth gwrs, ond bu clefyd blin yma a lladdwyd llawer o'r trigolion yn ystod f'absenoldeb. Felly credant fod a wnelwyf fi ag iechyd yr ynys, ac nid yw Shimu'n fodlon i mi ymadael."

"A pha beth ydych am wneud?" gofynnodd Bob. "A ydych am aros yma?"

"Nag ydwyf," oedd ei hateb pendant, "ond rwy'n disgwyl y caniata i mi fynd cyn hir." Yna ychwanegodd, gan wrido'n swil, "Y ffaith ydyw ei fod wedi syrthio mewn cariad â mi, ac yn gofyn i mi ei briodi."

"Mae arnaf ofn felly mai pur ddiolwg ydyw i chwi gael ymadael," ebr Bob.

"Rhaid i mi feddwl am ryw ffordd i ddianc, ynteu," ebr hithau'n benderfynol.

Yr oedd Bob yn siomedig iawn am i'r cwmwl newydd hwn godi yn eu ffurfafen, ac ni wyddai sut i'w gael ymaith. Bu Wil ac yntau'n trafod y mater lawer gwaith, ac yn ceisio meddwl am gynllun i gael Miss Sharpe o'r ynys. Ond y cwbl yn ofer. A chyn hir, dechreuodd y pennaeth ddangos ei anfodlonrwydd i'r ddau aros yn hwy ar yr ynys, ond ni fynnai ollwng y ferch i fynd gyda hwynt. Pe gallsai Bob siarad iaith yr ynys, gofynasai i'r pennaeth ei rhyddhau; ond yn niffyg y wybodaeth angenrheidiol, ni wyddai beth i'w wneud. Gwelodd, fodd bynnag, mai gorau po gyntaf iddo ef a Wil glirio o'r ynys. A daeth y cyfle diwethaf iddynt gael gweld Miss Sharpe yn ei bwthyn. Yr oedd Shimu wedi rhoi siars iddi na chaent ddod yno wedyn. Cyfarfod pur drist a fu, ond yr oedd yno wawr gobaith na chymerai mo'i orchfygu gan unrhyw anhawsterau.

"Sut y gallwn eich cael oddiyma?" gofynnodd Bob yn bryderus iddi. "Nid ydym am fynd i Brydain heboch, gan eich bod yn awyddus i ddod."

"Peidiwch a mynd o olwg yr ynys am dipyn gyda'r llong," ebr hithau, "ac feallai y caf gyfle i ddianc."

Bu Bob yn ddistaw am ennyd. Yna meddai, ar ôl ystyried y broblem, "Bydd yn rhaid i ni fynd o olwg yr ynys gyda'r llong, neu fe'n gwelir gan y brodorion, a thebyg y rhwystra Shimu chi i gael cyfle i ddianc tra y bydd y llong yma." Pruddhaodd Miss Sharpe wrth ymadrodd Bob. Ond am ennyd fer yn unig.

"Mae yna ynys fechan arall tua phum milltir oddiyma," meddai. "Fe'i gwelsoch, mae'n bosibl, pan oeddym allan wrth y bwlch."

"Do," ebr Bob. "Rwyf yn cofio, erbyn i chi ddweud. A oes trigolion yno?"

"Nac oes," ebr hithau. "Ac fe ellwch lechu yno nes y daw cyfle i'm cael oddiyma."

"Dyna hyn'na wedi'i setlo felly," ebr Bob. "ond dydw i ddim yn ein gweld ni fawr nes i allu'ch achub chi."

Bu Miss Sharpe yn ddistaw am ennyd, a'i meddwl yn gweithio'n gyflym, ond yn aflwyddiannus, i ddadrys y broblem. Roedd yn berffaith sicr y cai gyfle yn hwyr neu'n hwyrach i adael yr ynys, ond sut y gellid hysbysu'r cynllun i Bob yn awr cyn iddo ymadael? Dyna oedd yr anhawster.

"Mi ddyweda i wrthych chi beth wna i," ebr Bob. "Ar ôl mynd a'r 'Mona' i'r ynys arall, fe ddof yn ôl yma gyda Wil yn y cwch."

"Ond fe fydd eich bywyd mewn perygl os gleniwch," ebr hithau mewn braw.

"Nid wyf yn bwriadu glanio," ebr Bob. "Byddwn yn llechu yng nghysgod y graig lle mae'r llong heddiw. Ac fe ddeuwn i fyny i'r lanfa bob nos, os gellwch gael ryw foddion i ddod yno atom. Onid ydych yn meddwl y gall Vima eich helpu?"

"Fe wna Vima bopeth a ofynnaf iddi, ond rhaid i mi wylio rhag peryglu ei bywyd hithau," ebr Miss Sharpe. "Yr ydych yn mynd heddiw. Gellwch fod yn ôl nos yfory wrth y lanfa, oni ellwch?"

"Gallwn," ebr Bob.

"Dyna ni, ynteu," ebe'r ferch, "yn deall ein gilydd. Byddaf wrth y lanfa nos yfory neu anfonaf air i chwi yno."

"Reit," ebr Bob. "Ac yn awr, rhaid i ni fynd. Mae Shimu yn cerdded yn ôl ac ymlaen heibio'r drws ers meityn. Ffarwel hyd nos yfory."

"Ffarwel," ebr Miss Sharpe dan deimlad dwys, "a diolch yn fawr i chi."

Ac ymadawodd Bob a Wil o'r ynys i fynd yn ôl i'r llong. Aethant i lawr i'r lanfa, ac oddiyno i'r llong, gan gymryd y ddau gwch i'w canlyn. Yr oedd y tri arall, ac yn enwedig Thomson, yn falch o glywed eu bod i gael cychwyn oddiyno, er y synnent nad oedd Miss Sharpe i ddod gyda hwy.

Y peth cyntaf i'w wneud oedd cael y llong allan o'r lagŵn trwy'r bwlch, ac nid gwaith hawdd a addawai fod. Ond cawsant help heb ei ddisgwyl. Deallasai'r ynyswyr fod Bob a Wil yn mynd ymaith, a daethant yn llu mawr hyd i'r pen hwnnw i'r ynys i ffarwelio â hwynt. Daeth rhai ar hyd y tir hyd i ben y graig y llechai'r llong yn ei chysgod. Daeth eraill yn eu badau mawr ar hyd y lagŵn, a chafodd Thomson, druan, fraw mwyaf ei fywyd. Fe dybiodd, yn wir, fod popeth ar ben arnynt pan welodd y dynion duon yn tyrru i'r lle. Ond yr oedd yn dda iddynt wrth help y brodorion i gael y llong o'r lagŵn, oblegid nid oedd awel i'w helpu allan, ac ychydig o help a allent gael o'r peiriant petrol mewn cyn lleied o le. Felly, tynnwyd hi allan drwy'r bwlch gan yr ynyswyr yn eu badau. Yna, bu ffarwelio cynnes rhwng y brodorion a Bob a Wil, yr unig ddau oedd yn adnabyddus iddynt. Nid oedd swyddog ar y llong, ac felly cymerodd Bob ei gofal, gan mai efe a wyddai fwyaf am forio. Ond fe'i teimlai yntau ei hun yn anghymwys i feddwl ceisio ei hwylio adref, a gwnai'r ystyriaeth hon ef yn fwy penderfynol nag erioed i geisio achub Miss Sharpe.

Cychwynnwyd oddiwrth y reef gyda help y peiriant, a chyn hir daeth awel ysgafn, a lledwyd yr hwyliau. Wedi mynd allan i'r môr, eglurodd Bob i'r gweddill yr amgylchiadau ynglŷn â Miss Sharpe, a'i fwriadau o berthynas iddi. Yr oeddynt i gyd mor awyddus ag yntau i wneud popeth a allent i'w gwaredu o'i charchar. Cafwyd man diogel a chysgodol i angori'r llong yn ymyl yr ynys fechan, ac o olwg ynys Shimu. Drannoeth, buont i gyd yn brysur yn cael y llong i drefn ar gyfer y fordaith fawr oedd o'u blaen, fel yr hyderent, wedi cael Miss Sharpe yn rhydd

Yn hwyr yn y prynhawn, cychwynnodd Bob a Wil yn y 'Wennol' ar eu neges bwysig.

"Wyddost ti beth," ebr Bob. "Mi fu'n lwc i ni fod Capten Larkin wedi'ch rhwystro i lanio gyda'ch cwch yn Nhrelan ers talwm. Wn i ddim beth fuasem wedi wneud hebddo. Mae o wedi bod yn handi dros ben."

Yr oedd un peth pwysig iawn yn eu ffafr gyda'u neges,—anaml iawn y byddai'r ynyswyr yn dod i'r pen hwnnw o'r ynys yr oeddynt hwy'n mynd iddo. O'r pentref i fyny hyd i ben arall yr ynys yr arferent fod ynddo fwyaf. Felly yr oedd ganddynt siawns gweddol i beidio a chael eu gweld yn dod yn ôl.

Daethant yn ôl i'r lagŵn, ac yna i fyny â hwy i gyfeiriad y lanfa, gan gadw gwyliadwriaeth fanwl ar y glannau. Roedd Bob wedi llunio esgus gwan dros eu hailymweliad pe digwyddai iddynt gael eu dal,—sef, mai eu neges oedd ceisio help tri neu bedwar o ddynion i fynd â'r llong i Awstralia. Gwyddai mai esgus gwael iawn ydoedd, a gwaeth na hynny, dibynnai ar iddo gael hyd i Miss Sharpe i roi'r esgus drosto i Shimu. Ond gwyddai mai'r tebyg, os delid hwynt, ydoedd y lleddid hwynt cyn iddynt gael cyfle i weld Miss Sharpe. Modd bynnag, rhywbeth oedd yr esgus os âi i'r pen arnynt. Hyderai na ddelid mohonynt, ac y llwyddent yn eu hamcan.

Daethant i'r lanfa yn ddiogel, a glaniasant. Yr oedd awr neu ragor rhyngddi a machlud haul—rhaid oedd iddynt ddod yno cyn y nos, neu ni allent gael hyd i'r lle. Hyd yma yr oedd popeth wedi bod o'u tu. Hyd y gwyddent, nid oedd neb wedi eu gweld. Ond, yn awr, yr oedd gwaith anodd o'u blaen,—sef aros a disgwyl.

'Cofia, Wil, dydw i ddim am fynd yn ôl hebddi," ebr Bob yn ddifrifol.

"Siwr iawn," ebr Wil. "rydw i'n ddigon bodlon." "Os na ddaw hi yma, mi fydd yn rhaid i ni fynd i fyny i'r pentref," ebr Bob.

Mi wyddom ymha fwthyn y mae'n byw," ebr Wil, "ac ni fydd neb yn gwylio heno."

"Ond mi fydd yn dywyll, cofia di," ebr Bob. "Ac nid gwaith hawdd fydd i ni ffeindio'n ffordd. Wel, 'rhen ddyn, d'oes dim ond i ni wneud ein gorau. Os methwn ni, wel, mi fydd ar ben arnom."

Pur ddigalon y swniai geiriau Bob yng nghlustiau Wil. Gwyddai yntau'n dda beth a olygai methiant iddynt. Ieuanc ydoedd, ac ni allai lai na theimlo ryw arswyd wrth feddwl y gallai bod angau mor agos iddo.

Eisteddasant ar y lan yn ymyl y cwch i aros mewn distawrwydd, a meddwl y naill a'r llall yn rhy brysur gyda phethau rhy annymunol i'w cyfnewid â'i gilydd. Unwaith, cododd Bob ar ei draed, gan ddywedyd. "O! peth ofnadwy ydyw aros fel hyn heb allu gwneud dim. Rydw i am fynd i fyny i'r pentref i edrych beth sy'n mynd ymlaen yno."

Gydag anhawster y llwyddodd Wil i'w berswadio i beidio a mynd, ac eisteddodd Bob drachefn, ond yn bur ddrwg ei hwyl. Yr oedd y cysgodion yn trymhau o'u hamgylch,—yr oeddynt ar yr ochr ddwyreiniol i'r ynys, a'r haul wedi mynd o'r golwg yno ers tro, er nad oedd wedi machludo.

Yn sydyn, wedi bod o honynt yno am gryn amser, gwelodd Wil fod Bob yn clustfeinio. "Ust," sibrydodd, mae rhywun yn dod." Am rai munudau, ni chlywodd Wil ddim, ond teimlai fod ei galon ef ei hun yn curo'n ddigon uchel i Bob allu clywed ei thipiadau. Yna, clywodd sŵn o'r llwyn y tu uchaf iddynt,—rhywun yn troedio ar frigyn crin. Yna distawrwydd drachefn. Edrychodd y ddau'n awgrymiadol ar ei gilydd. Yr oedd rhywun yn y llwyn,—yn eu gwylio, o bosibl. Cadwent eu llygaid yn hoeliedig ar y llwyn, gwelsant rai o'r dail yn ysgwyd, er nad oedd awel.

"Pwy all fod yna?" gofynnodd Bob yn weddol uchel.

Ac yna daeth pen i'r golwg rhwng y brigau,—pen Vima.

"Neges sydd ganddi i ni, mae'n debyg," ebr Bob, ac amneidio ar yr eneth ofnus i ddod ymlaen. Ie, nodyn oedd ganddi oddiwrth Miss Sharpe, yn dweud ei bod am geisio dianc y noson honno.

"Biti na faswn i'n gallu dweud rhywbeth wrth hon," ebr Bob. "Fedri di, Wil?"

"Na fedra, siwr," ebr Wil. "Ond mae gen i bensal." Ac ar waelod nodyn Miss Sharpe, ysgrifennodd Bob yn frysiog ateb i ddweud y byddid yn ei disgwyl yn y lanfa.

Rhoes ef i'r eneth, gan hyderu yr âi ag ef yn ddiogel i Miss Sharpe. Gwenodd yr eneth yn siriol arnynt, ac yna rhedodd o'u gŵydd.

Fe'u gosododd Bob a Wil eu hunain i ddisgwyl drachefn,—gorchwyl anodd iawn dan y fath amgylchiadau. Unwaith neu ddwy, daeth y syniad i'w meddwl mai tric oedd ymweliad yr eneth, ac yr oeddynt ar eu gwyliadwriaeth rhag i ruthr sydyn gael ei wneud arnynt. Roeddynt yn barod i wthio'r cwch allan i'r lagŵn ar y rhybudd lleiaf. Daeth yn nos arnynt, ac mwy anodd fyth oedd eistedd yno i ddisgwyl. Erbyn hyn, gwelent mai ofer ydoedd iddynt ddisgwyl iddi ddod atynt cyn i gysgodion y nos ddisgyn, oblegid sut y gallai adael y pentref heb gael ei gweld, nes myned o bawb i orffwys?

Ond sut y gall hi ffeindio'r llwybr yn y tywyllwch?" gofynnodd Wil.

"O, mae hi'n hen gynefin a'r llwybr," oedd ateb Bob.

Disgwyl drachefn, a neb yn dod. Aeth Bob i ddechrau anesmwytho eto.

"Rwyf am fynd i fyny i'r pentref," meddai, yn methu a dal yn hwy.

"Gwell peidio, yn sicr," ebr Wil, "rhag ofn iddi basio ryw ffordd arall. Gwell i ni fynd i fyny'n gynnar yn y bore, cyn iddynt godi, os bydd angen mynd o gwbl." Cyd-olygodd Bob mai cynllun Wil oedd y gorau, ac ail-eisteddodd i'w disgwyl.

Ac ni bu'n rhaid iddynt aros yn hir y tro hwn. Clywsant sŵn rhywun yn dod i lawr tuagatynt. Chwibanodd Bob, a daeth chwiban yn ôl. Miss Sharpe ydoedd. Rhedodd Bob i'w chyfarfod, a chyn pen dau funud, yr oedd y tri yn y cwch.

"O diolch," meddai. "Ddarum i ddim meddwl y byddai'n rhaid i mi ddianc oddiyma fel hyn."

Trowyd y peiriant, a chychwynnwyd i gyfeiriad y bwlch,—yn araf, am ei bod mor dywyll.

"Rhaid i ni lechu yn y lagŵn nes i'r wawr dorri," ebr Bob. "Fe awn i gysgod y graig lle bu'r 'Mona', ac i ffwrdd ben bore fory i'r llong."

Felly aed â'r cwch i'r gilfach gysgodol, lle y tybient na allai'r brodorion ruthro arnynt yn sydyn, pe digwyddent ddarganfod colli Miss Sharpe.

"Beth am Vima?" gofynnodd Wil yn bryderus. Cymerasai at yr eneth er pan ddaethai à diod iddo i dorri ei syched, ac ni ddymunai i niwed ddigwydd iddi.

"Nid wyf yn meddwl bod angen i ni bryderu yn ei chylch," ebr Miss Sharpe. "Hyd yn oed pan ddarganfyddant fy ngholli, ni feiïr hi am hynny."

Eu bwriad oedd cadw'n effro trwy'r nos, a chychwyn gyda thoriad gwawr, ond am unwaith, fe'u trechwyd ill tri gan gwsg. Cyn i'r wawr dorri, syrthiasant i drwmgwsg, a deffrowyd hwy gan floeddiadau anwar y brodorion,—wedi darganfod colli Miss Sharpe, ac yn edrych am dani.

Pan agorodd Bob ei lygaid, ac efe oedd y cyntaf i ddihuno, er ei fraw, gwelodd ddau ganŵ brodorol yn cael eu rhwyfo'n galed i lawr y lagŵn tuagatynt. Ysgydwodd Wil, ac mewn eiliad, yr oedd y peiriant yn chwyrnu, a'r bâd yn mynd am y bwlch i fynd o'r lagŵn. Nid oedd ganddynt ond ychydig wrth eu cefnau. Yr oedd un o'r ddau ganŵ o fewn ychydig lathenni iddynt pan aent trwy'r bwlch, a gwelent Shimu yn sefyll i fyny ym mhen blaen y cwch, ac yn gwneud arwyddion arnynt. Ymlaen â hwy i'r môr agored. Yn ffodus, nid oedd awel i gynhyrfu'r wyneb, neu gallai fod yn ddrwg arnynt yn eu cwch bychan. Ymlidiwyd hwy gan y ddau ganŵ am ychydig, ond y fath oedd cyflymder y 'Wennol', fel y rhoes y brodorion yr ymdrech i fyny mewn anobaith.

PENNOD XXI
YR YNYS ARALL

PAN gyrhaeddasant yn ôl i'r llong, croesawyd Miss Sharpe yn gynnes gan bawb o'r dynion. Yna, wedi i bawb gael cyfle i amlygu eu teimladau, ac i hanes y waredigaeth gael ei adrodd gan Bob, ail ymwisgodd Miss Sharpe mewn dillad dyn fel cynt, a chymerodd ei lle fel Capten y llong, gan gymryd Bob i weithredu fel mêt dani. Yr oedd y trefniant hwn y gorau ellid ei wneud, ac yn dderbyniol gan bawb. Trefnwyd Wil a Dic yn yr un wyliadwriaeth gyda Miss Sharpe, a Bob a Cooke yn ffurfio'r llall, a Thomson yn parhau fel cŵc, ond yn gorfod gwneud mwy na chynt gyda gwaith y llong pan elwid arno.

Roedd y criw, hynny oedd yno o honynt,—yn ymddiried yn hollol i Miss Sharpe ynglŷn â phenderfynu i ble i hwylio'r llong. Tybiai rhai yr âi a hi am Awstralia, gan ei fod y lle mwyaf tebyg iddynt gael rhagor o ddynion i'w helpu i hwylio'r llong adref, ac i adgyfnerthu eu hystôr, o wahanol angenrheidiau. Ond ni ddywedai hi air wrth neb am ei chynlluniau,—rhoddai ei gorchmynion mewn geiriau digwmpas gyda nodyn newydd o awdurdod yn ei llais, a chadwai ei chyfrinach iddi ei hun.

Ymhen tuag wythnos wedi iddynt adael yr ynys y cawsent y fath brofiadau tanllyd ynddi, sylwodd Wil (efe oedd ar y dec ar y pryd), fod y llong yn cael ei chyfeirio at ynys drachefn, ac yr oedd rhywbeth yn adnabyddus iddo yn ffurf yr ynys, fel y barnai. Ac yna cofiodd mai dyma'r ynys yr aethai Capten Larkin a'r tri dyn,—Smith, White, a Walker,—iddi ers llawer dydd. Chwarae teg i Miss Sharpe,—yr oedd yn cofio amdanynt, ac am eu hachub o'u caethiwed unig, a'u dwyn adref. Angorwyd y llestr y tuallan i'r ynys, ac aeth Bob a Dic yn un o gychod y llong i'r lan. Tybid ar y dechrau y byddai'r dynion ar y lan yn gwylio'r llong yn cyrraedd. Ond nid oeddynt yno, ac felly glaniodd y ddau. Aethant i mewn i'r ynys i chwilio amdanynt, a thybiodd Bob cyn hir, gan na welai unrhyw arwydd o honynt, eu bod wedi eu hachub eisoes gan ryw long arall. Yr oeddynt ar fedr rhoi gorau i'r ymchwil a throi'n ôl, pan sylwodd Dic ar golofn o fwg yn esgyn o bantle ar y chwith iddynt.

"Edrychwch," meddai'n gyffrous, "dacw nhw."

Ac ymaith a'r ddau nerth eu traed i'r cyfeiriad. Ac wedi dyfod yno, dyna lle'r oedd bwthyn bach, clyd, dan gysgod craig, a Smith yn sefyll wrth ddrws y bwthyn. Trodd i edrych yn syn ar y ddau ymwelydd ac yna galwodd ar ei ddau gydymaith. Daethant hwythau allan o'r bwthyn, â syndod, a mesur o elyniaeth ar y cyntaf, ar eu hwynebau. Ond wedi i Bob yn frysiog hysbysu eu neges yno, daeth gwên i eistedd yn y lle y buasai gwg yn flaenorol, a gwahoddwyd y ddau ymwelydd i'r bwthyn. Y peth cyntaf y sylwodd Dic arno oedd yr arogl hyfryd a lanwai ei ffroenau, ac edrychodd i gyfeiriad y tân oedd y naill tu i'r bwthyn.

Yno gwelodd fochyn bach yn cael ei rostio, a deallodd yr arogl hyfryd.

"Mi welaf na fu mor ddrwg arnoch," ebr Bob dan wenu.

"Rydym wedi bod yn ffodus neilltuol," ebr Smith. Doedd Larkin fawr o feddwl bod yma gystal lle," ebr Walker. "Roedd y bwthyn yma ar ôl rhywun, ac y mae yma gyflawnder o fwyd o bob math, a digonedd o foch yn rhedeg yn wyllt."

Gwrandawodd Bob a Dic gyda diddordeb ar yr hanes, ac yna adroddodd Bob wrthynt hwythau hanes y digwyddiadau rhyfedd y buasent hwy drwyddynt, a chafodd wrandawiad astud. Ni allai'r tri gwrandäwr guddio'u syndod pan ddywedwyd wrthynt mai merch oedd y mêt. Ond y ddau beth y gwrandawent fwyaf arnynt oedd hanes y trysor, a diwedd alaethus y Capten a Mr. Allen.

"Eithaf diwedd i'r gwaedgi creulon," ebr White, ac er na ddywedodd y lleill ddim, gellid barnu ar eu hwynebau y cydolygent â White.

"Wn i ddim ddown i'n ôl i'r llong pe bai Larkin arni," ebr Walker.

"Mi fuasai'n well gen i aros yma," ebr Smith.

"A finnau," ebr White, "ond mae pethau'n wahanol erbyn hyn, diolch."

Ond, er iddynt ganmol eu hynys, ac er bod llawer o bethau da'n perthyn iddi, gwell oedd ganddynt gael ei gadael am wlad oedd yn fwy wrth eu bodd: ac, wedi i Bob a Dic ymuno gyda hwynt i gyfranogi o'r blasus-fwyd yr awyddai Dic am dano ers meityn, cychwynasant am y cwch i fynd i'r llong. Cawsant groeso cynnes yn ôl gan bawb, ac ail-ymaflasant yn eu gorchwylion fel morwyr. Ac yr oedd yn dda wrth eu help, oblegid yr oedd chwech yn nifer rhy fychan i gymryd gofal o'r llong dan bob amgylchiadau.

Y noson honno, galwodd y Capten newydd y dynion ynghyd i hysbysu iddynt ei chynlluniau at y dyfodol.

Rwyf yn meddwl," meddai, "mai'r peth gorau ni fydd hwylio i Awstralia. Wedi cyrraedd yno, bwriadaf werthu'r llong, a rhyw gymaint o'r trysor sydd gennyf. Yna talaf i chwi eich cyflogau, a rhoddaf i chwi gyfran o werth y trysor yn wobr am eich ffyddlondeb i mi. Wedi cyrraedd i Awstralia, a setlo'n cyfrif, bydd pob un yn rhydd i wneud fel y myn, naill ai dychwelyd i Brydain, neu aros yn Awstralia. Ac un gair arall, y mae arnaf eisiau profi i chwi mai f'eiddof i ydyw'r trysor, ac felly, prynhawn yfory, os bydd popeth yn ffafriol, cewch yr hanes yn llawn gennyf."

PENNOD XXII
STORI MISS SHARPE

HAWDD deall yr awydd mawr oedd ym mhawb i gael clywed stori Miss Sharpe, a llawer o ddyfalu a fu'r noson honno a thrwy'r dydd dilynol ynghylch beth a ddywedai wrthynt. Teimlai pawb y byddai'r stori'n werth ei chlywed, oddiwrth yr hyn a wyddent eisoes am Miss Sharpe. Dywedasai ambell beth o'i gorffennol wrth Bob, ond nid oedd hynny namyn moddion i hogi ei archwaeth i gael yr holl stori. Felly, cafodd Miss Sharpe gynulleidfa astud pan ddaeth atynt yn y dog-watch, a'r llong yn mynd yn ddifyr dan lawn hwyliau am Awstralia.

Wedi iddi eistedd, ac i bawb gael ei sefydlu ei hun mewn ystum gysurus i wrando, dechreuodd Miss Sharpe :

"Enw fy nhad," meddai," oedd John Sharpe. Am flynyddoedd, bu'n byw ar yr ynys y buom ni yn y fath helyntion arni,—Mantu ydyw ei henw,—yn masnachu gyda'r ynyswyr yn y cylch. Roedd ganddo long fechan i fynd o ynys i ynys yn y parthau hynny. Yn Port Moresby, yn New Guinea, yr oeddwn i'n byw gyda fy mam, a deuai yntau yno ar ei dro i brynu nwyddau i fynd i'w gwerthu, neu'n hytrach eu cyfnewid, i'r ynysoedd o gwmpas. Ond ym Mantu y cadwai ei drysor.

"Wedi marw fy mam, pan oeddwn i yn ddeuddeg oed, cymerodd fy nhad fi ato i fyw i'r ynys, ac yn fuan, gan fy mod yn eneth iach, gref, dechreuodd fynd a mi gydag ef ar ei deithiau, ac un neu ddau o'r brodorion yn griw gyda ni. Dysgais bopeth am long ar y teithiau hynny. Perchid fy nhad a minnau'n fawr gan drigolion Mantu. Credent fod lwc iddynt o'n cael i fyw ar yr ynys. Roedd fy nhad yn gallu gwneud ffisig oedd yn gwella ryw anhwyl a gaent yn achlysurol, a dyna'r prif reswm eu bod mor barchus o honom. Deuent â pherlau i ni yn barhaus,—caent hwy o gregyn yn y môr, fel y gwyddoch. Ni wyddent hwy eu gwerth, ond gwyddem ni eu bod yn dra gwerthfawr.

"Wel, un tro, roeddym ar fordaith i Port Moresby, a chennym nifer da o berlau gyda ni i'w cyfnewid yno am nwyddau. Torrodd yn storm fawr arnom. Daliodd yr hen long yn dda drwy'r storm, ond golchwyd y ddau frodor oddi ar y bwrdd. Wedi i'r storm fynd heibio, gwelsom fod y llong yn gollwng dwfr, ac yn debyg o suddo'n fuan. Ni allem ni ei chadw ar yr wyneb. Felly, gan fod y môr yn weddol dawel, nid oedd dim i ni ei wneud ond mynd i'r cwch, a disgwyl cael ein codi gan rywun. Ychydig o ymborth a dŵr oedd gennym, ond yn ffodus cofiasom am y perlau. Yr ail ddiwrnod ar ôl i ni adael y llong, codwyd ni gan long oedd yn hwylio i Brydain. Ein bwriad oedd gofyn iddynt ein glanio, fel y gallem ddychwelyd i'n hynys. Ond fe gymerwyd fy nhad yn wael iawn ar fwrdd y llong, ac am rai dyddiau, ofnwyd y byddai farw yn y dwymyn. Am y rheswm hwnnw, ni ofynnais iddynt ein glanio. Os oeddwn i golli fy nhad, gwell oedd gennyf fynd i Brydain, gan fod gennyf berthnasau yno. Yn ffodus, adferwyd fy nhad yn raddol, a glaniwyd ni ym Mhrydain. Aethom i aros at ein teulu yn Lerpwl. Yno, hoff gyrchfan fy nhad oedd cymdogaeth y dociau. Ac yno, daeth i gydnabyddiaeth â Larkin ac Allen, a phob yn dipyn, adroddodd hanes ei drysor wrthynt, a dangosodd iddynt rai o'r perlau. Ceisiais ei rybuddio yn eu herbyn, ond yn ofer. Mynnai eu bod yn ddau gyfaill pur iddo, ac, yn anffodus, dywedodd ormod wrthynt,—yn wir, dywedodd y cyfan wrthynt am yr ynys, gan wneud map iddynt o'r ynys, a dangos ymhle'r oedd y bwthyn arni. Fel y dywedais, roeddwn i'n drwgdybio'r ddau o'r cychwyn, ond mynnai fy nhad ymddiried ynddynt. A chyn hir, cododd awydd cryf ynddo i fynd yn ôl i'r ynys gyda'r ddau ddyn. Ceisiais ei berswadio i beidio a mynd, trwy ddweud na ddaliai ei iechyd mo'r daith. Ond ni fynnai wrando arnaf. Cyn hir, deallais fod y tri wedi pwrcasu llong i hwylio i'r ynys i geisio'r trysor. Gydag arian fy nhad y pwrcaswyd y llong. Gall rhai o honoch ofyn, O ble y cafodd fy nhad arian i'w phrynu? Wel, cawsom arian da am y perlau, a chyda rhan o'r rhai hynny, y prynwyd y 'Mona'. Ac yna, newydd iddo brynu'r llong, a phan oeddynt ynghanol eu paratoadau i hwylio, bu fy nhad farw. Roeddwn yn benderfynol o wneud fy ngorau i rwystro'r ddau rhag cael ein trysor,—neu'n hytrach, fy nhrysor i bellach, wedi i'm tad farw.

"Yn ffodus i mi, roedd gennyf gyfaill yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar Larkin ac Allen, ac yn gwylio'u holl symudiadau. Trwyddo ef y deuthum i wybod pan oeddynt yn paratoi i hwylio. Ni wyddwn beth i'w wneud. Yn sydyn, daeth y syniad beiddgar i fy meddwl i hwylio gyda hwynt, o bai modd. Ymwisgais fel dyn, ac fel y gwelwch, nid oedd yn anodd i mi guddio fy rhyw, gan fod gennyf gyfansoddiad cadarn. Euthum i lawr at y dociau, a deuthum ar eu traws. Cynhigiais fy ngwasanaeth iddynt, ac, fel y gwyddoch, cymerwyd fi'n fêt ar y llong. A dyna'r hanes i chwi. Wrth gwrs, bu'n rhaid i mi fod yn ofalus iawn rhag fy mradychu fy hun iddynt, yn enwedig pan sonient am y trysor yn fy nghlyw. Ond anaml iawn y gwnaent hynny, a gwyddoch gystal â minnau fel y llwyddais i'w twyllo i'r diwedd.'

Tra bu Miss Sharpe yn adrodd yr hanes, yr oedd pob llygad wedi ei hoelio arni, a pha ryfedd? Nid yn unig yr oedd ei stori'n neilltuol o ddiddorol, ond yr oedd ei dull naturiol, byw, hithau o'i hadrodd yn sicrhau sylw pawb. Ac yr oedd tinc gwirionedd a gonestrwydd ymhob gair o'i stori.

"Three cheers i Miss Sharpe," gwaeddodd Cooke, gan chwifio'i freichiau. Safodd pawb ar eu traed, ac unodd pawb o galon i roi banllef o gymeradwyaeth i'r arwres.

"Diolch yn fawr i chwi," ebr hithau. "Rwyf wedi llwyddo yn fy neges, ond ni allaswn fod wedi gwneud hynny heb eich help chwi. Ac yn awr rwy'n disgwyl fy mod wedi bodloni pawb o honoch fod gennyf hawl i'r trysor. Neu a oes gan un o honoch rywbeth i'w ofyn i mi?"

Ond nid oedd gan neb ddim i'w ofyn iddi. Neidiodd Smith ati i ysgwyd llaw â hi, fel arwydd o'i fodlonrwydd, a dilynwyd ei esiampl gan y gweddill o'r dynion. A bu llawer o siarad am stori ramantus Miss Sharpe ar fwrdd y llong y noson honno a'r dyddiau dilynol, ac nid oedd neb ar y bwrdd yn synied yn uwch amdani na'r tri Chymro

PENNOD XXIII
AWSTRALIA A CHARTREF

CYRHAEDDWYD i borthladd Fremantle, ar yr afon Alarch, yng Ngorllewinbarth Awstralia yn ddiogel heb ragor o helyntion, a mawr y diddordeb a gymerai'r bechgyn o Drelan yn y golygfeydd dieithr. Clywsent lawer am Awstralia yn yr ysgol gartref, ond ni freuddwydient, pan ddysgent am y cyfandir pell, y byddent yno mor fuan. Mis Ebrill, a dechrau gaeaf ydoedd yno pan gyrhaeddasant.

Ymhen ychydig ddyddiau, yr oedd Miss Sharpe wedi trefnu popeth i'w bodlonrwydd ei hun. Gwerthodd y llong am bris bychan i'r cynhigydd cyntaf, aeth â'i thrysor i'r banc, a thalodd gyfran anrhydeddus, yn ychwanegol at eu cyflogau, i bawb o'r dwylo. Penderfynodd Bob a Wil a Dic fynd adref gyda Miss Sharpe ar y mailboat cyntaf, ond am aros yn Awstralia yr oedd y gweddill o'r criw, am ysbaid, o'r hyn lleiaf.

Bu'n rhaid iddynt aros am wythnos cyn i'r mailboat gyrraedd. Yna teg oedd edrych tuag adre. Dylid dywedyd na werthwyd mo'r cwch modur gyda'r llong. Yr oedd rhyw ymlyniad rhyfedd yn Wil at y cwch, a dymuniad ei galon oedd cael mynd ag ef yn ôl i'w ewythr Huw, o bai modd, sut yn y byd. Crybwyllodd ei ddymuniad wrth Miss Sharpe, ac atebodd hithau gyda gwên siriol, "Rhaid i ni fynd ag ef fel rhan o'n clud ar y llong. Mae'n haeddu hynny o anrhydedd ar ôl gwneud y fath waith." Ac felly y gwnaed. Codwyd y cwch a welsai gymaint o dreialon i fwrdd y llong.

Wedi cyrraedd Fremantle, y peth cyntaf a wnaeth y bechgyn oedd ysgrifennu i'w cartrefi, i esmwythau pryderon eu hanwyliaid yn eu cylch. Buont ill dau lawer tro yn eu peryglon yn meddwl llawer am eu teuluoedd gartref, er mai ychydig a ddywedasent am hynny wrth ei gilydd, rhag codi hiraeth, y naill ar y llall. Wedi mynd ar fwrdd yr agerlong, cawsant ar ddeall fod eu llythyrau yno hefyd, ac y cyrhaeddent felly i Drelan gyda'u llythyrau, os nad yn wir, ychydig o'u blaen. Siomwyd hwynt yn hynny, gan y dymunent i'w teuluoedd ddod i wybod am eu diogelwch cyn gynted ag oedd modd. Fe ddaeth i'w meddwl unwaith i anfon teligram, ond ofnai Wil i'w fam ddychryn wrth weld yr amlen melyn, gan y clywsai hi'n dweud na chawsai hi erioed deligram heb fod newydd drwg ynddo. "Mae arna i ofn iddi hi ddychryn, wyddost ti," ebr Wil wrth Dic.

Cafwyd mordaith ddifyr yn ôl i'r hen wlad, a'r bechgyn yn cael gweld llawer golygfa ddieithr iddynt, dan amgylchiadau dymunol iawn. Ond, er cystal ydoedd yr agerlong fawr, ar rai cyfrifon yr oedd yn well ganddynt fywyd y llong hwyliau.

Fel yr agoshâi'r agerlong beunydd at Brydain a chartref, llenwid eu meddyliau fwyfwy gan eu cartrefi, a'r rhai oedd yn annwyl iddynt yno. Ai tybed oedd eu mamau'n fyw? Ac ai tybed yr aeth y botel i dir?

Ac yna, o'r diwedd, trodd yr agerlong i mewn un diwrnod i Plymouth i lanio'r llythyrau, ac yna ymlaen i Lerpwl i ddadlwytho.

Fel y dynesent at lannau Cymru, teimlent ryw lawenydd mawr dan eu bron wrth feddwl y caent cyn hir weld eu hanwyliaid. Erbyn hyn, yr oedd yr ofnau fod rhywbeth annymunol wedi digwydd yn eu cartrefi yn ystod eu habsenoldeb, wedi cilio'n llwyr. Gobaith a hyder a lanwai eu bron, a phob milltir a deithiai'r llong ymlaen yn nes i Drelan, cryfhâi eu hawydd i gyrraedd cartref, a chofleidio eu hanwyliaid.

"Biti bod yn rhaid i ni fynd i Lerpwl gyntaf," ebr Dic wrth Wil un diwrnod pan oeddynt yng ngolwg bryniau Cymru. "Sut y cawn ni'r cwch oddiyno i Drelan, dywed?"

"Biti na fasa'r Capten yn atal y llong am eiliad, ac yn ein gollwng i lawr gyferbyn â Threlan, onte?" ebr Wil, a'i lygaid yn gloywi gan syniad newydd. "Un dda fasa mynd yn ôl yn union fel yr aethom ni oddiyno. Faint sydd er hynny, dywed?"

"Blwyddyn union, fachgen," ebr Dic. "Ond yr wyt ti'n gwneud un camgymeriad mawr."

"Beth ydi hwnnw?" gofynnodd Wil.

"Nid fel yr aethom ni oddiyno yr awn ni'n ôl," ebr Dic. "Rydym gryn lawer yn gyfoethocach."

"Wel, ydym, fachgen," ebr Wil dan chwerthin, "gyda mil o bunnau gennym bob un, ac rydw i'n meddwl ein bod ni dipyn yn gallach hefyd."

Chwarddodd Dic. Wyt ti'n meddwl hynny?" gofynnodd. "Wel, yn siwr, mi ddylem fod, a ninnau wedi gweld cymaint. Ond sonia, da chti, wrth Miss Sharpe am y peth. Hwyrach y medr hi berswadio'r Capten i'n gollwng ni drosodd."

A phan gafodd gyfle, mynegodd Wil ei ddymuniad i Bob, ond ni chredai ef y caniateid y cais. Modd bynnag, crybwyllodd am y mater wrth Miss Sharpe. Ysgwyd ei phen a wnaeth hithau,—ofnai na chydsyniai'r Capten. Er hynny, addawodd fynd i ofyn iddo. A chyn hir, daeth at y bechgyn gyda newydd da.

"Nid oedd y Capten yn fodlon ar y cyntaf," meddai, "ond wedi i mi egluro'r amgylchiadau iddo, addawodd y gwnâi yr hyn a ofynnwn; ond mae'n ofni yr â i helbul gydag awdurdodau y Customs yn Lerpwl o'r herwydd."

Felly, pan ddaeth yr agerlong gyferbyn â hen fynydd y gwaith,—ac O! mor annwyl ydoedd i'r ddau fachgen y diwrnod hwnnw wedi bod o'i olwg gyhyd,—ataliwyd y peiriannau, a gwnaeth y liner beth na wnaeth na chynt na chwedyn yn ei hanes,—sefyll i ollwng dau o'r teithwyr dros y bwrdd.

Gollyngwyd y 'Wennol' dros y bwrdd a'r ddau fachgen ynddo, a phawb o'r dwylo a'r teithwyr yn gwylio'r digwyddiad anghyffredin gyda diddordeb. Ar ôl iddynt gychwyn y peiriant yn y cwch, ac iddo ddechrau symud, ni bu erioed y fath chwifio dwylo a bloeddio, a chwiban y llong yn uno yn y miri. Daliodd Miss Sharpe a Bob i chwifio eu breichiau ar y bechgyn hyd nes iddynt fynd o'u golwg. Gwyliodd y bechgyn y llong hefyd am amser hir.

"Faint o amser a gymerwn ni i gyrraedd i'r lan, Wil?" gofynnodd Dic wedi iddynt gychwyn.

"O! ni fyddwn ni ddim yn hir," ebr Wil. "O awr i awr a hanner, mae'n debyg."

"Mi fyddwn yno felly cyn i gorn y gwaith ganu," ebr Dic.

"Byddwn," ebr Wil. "Beth ddywedan nhw, tybed, pan welan nhw ni? Mi fydd 'cw le heno, mi gei di weld."

Chwarddodd y ddau wrth feddwl am yr effaith a ga'i eu hail-ymddangosiad, mewn dull mor annisgwyliadwy, ar bobl y pentref.

"Dacw'r lightship, Dic," ebr Wil toc.

Ac edrychodd Dic gyda diddordeb ar achlysur diniwed eu holl grwydriadau.

"Ys gwn i gawson nhw'r llythyr yn y botel?" gofynnodd Wil cyn hir.

"Naddo, gobeithio," ebr Dic. "Ni fasa nhw ddim ond yn poeni mwy, wrth weld dim byd o hanes y 'Mona' wedyn."

Pan basient drwyn y Clogwyn, gwelent fod llong wrth y cei yn cael ei llwytho â cherrig o'r chwarel. Clywodd rhai o'r gweithwyr ar y cei sŵn peiriant cwch modur yn agoshau, ac edrychasant arno pan ddaeth i'r golwg. Ond ni chymerodd neb fawr o sylw o hono,—tybiai y rhai a'i gwelai mai rhyw ymwelwyr wedi croesi o Nefyn oedd ynddo.

Pan basient flaen y cei, gwelodd Wil un o'i hen gyfeillion yno'n gweithio, a gwaeddodd arno, mor ddidaro ag y gallai, "Dafydd, sut mae hi?" Edrychodd Dafydd ar y llefarydd, ond nid ar unwaith yr adnabu ef. Ond pan ddaeth gwawr adnabyddiaeth, edrychodd fel pe bai wedi gweld drychiolaeth, ac meddai yn floesg, "Wil—a—Dic. O ble—o ble y deuthoch chi?" Erbyn hyn, yr oedd eraill o'r gweithwyr wedi sylwi ar y bechgyn, ac ni fu erioed y fath syndod a llawenydd. Yr oedd y peiriant, a dynnai'r wageni o droed y chwarel ar y cei, a phan ddeallwyd pwy oedd yn y cwch, dechreuwyd canu corn hwnnw. Deallodd rhai o griw y llong beth oedd wedi digwydd, ac unodd ei chorn hithau yn y cydgan byddarol. Clywyd y sŵn yn y pentref draw, a methid a deall beth oedd y mater, a rhedodd llawer i lawr at lan y môr i holi beth oedd yn bod.

Ond cyn i neb o'r pentref gyrraedd, yr oedd y bechgyn wedi llywio'r Wennol' i'w hen angorfa, ac yn ceisio sicrhau cwch Huw Elis yn ei hen le. Daeth rhai o'r gweithwyr atynt, ac ni fu erioed y fath ysgwyd llaw. Do, do, fe fu mwy o ysgwyd llaw pan ddaeth rhai yno o'r pentref, er na allent gredu eu golygon pan welsant y bechgyn gyntaf. Edrychent ar Wil a Dic fel pe baent wedi codi oddiwrth y meirw. Ond rhaid oedd iddynt gredu tystiolaeth eu llygaid. Y bechgyn colledig oeddynt,—yn ddios,—mor fyw ag erioed. Bu ysgwyd llaw a holi, ond nid oedd y bechgyn am ddweud dim o'u hanes yr adeg honno. "Mi gewch yr hanes i gyd eto," ebr Wil. "Mae arnaf eisiau mynd adre i weld mam a f'ewyrth Huw yn awr."

Ond ataliwyd hwy,—bernid mai torri'r newydd da yn raddol i'r ddwy fam a fyddai orau, rhag ofn y byddai gweled y bechgyn, heb eu paratoi gogyfer a hynny, yn ormod o ergyd iddynt allu ei dal. Ac yn awr, deallodd y bechgyn na ddaethai'r botel a'r llythyr oedd yn amgaeedig ynddi i afael neb yn Nhrelan.

Cawsant hanes yr ymchwil a fuasai amdanynt, wedi i'r cwch ddiflannu, a'r galaru ar ôl hynny, pan roddasid i fyny bob gobaith eu bod yn fyw. Yr oedd y teuluoedd wedi gwisgo dillad duon ar eu hôl, a Huw Elis wedi credu bod ei gwch newydd wedi mynd, na welai neb byth mohono. Dan yr amgylchiadau, yr oedd dychweliad diogel y bechgyn, ar ôl absenoldeb mor faith, i'r pentrefwyr yn ymylu ar fod yn wyrth.

Daeth gair cyn hir y gellid mynd â'r bechgyn i'w cartrefi. Ac, O! y dagrau llawenydd a redai yn llif, a'r calonnau oedd yn rhy lawn o ddiolch i allu dweud llawer. Tynnwn y llen dros olygfa mor gysegredig. Cafwyd hamdden, wedi i'r croeso cyntaf ei weithio ei hun allan, i wrando ar y bechgyn yn adrodd hanes eu hanturiaethau, ac nid oedd gwrandäwr mwy astud ac eiddgar na Huw Elis. Roedd wedi maddau eu trosedd i'r bechgyn ers misoedd os yn wir y teimlasai'n ddig wrthynt o gwbl. Pan glywodd yr holl hanes, yr oedd yn falch bod y 'Wennol' wedi bod yn foddion i'w harwain i'r fath anturiaethau. Bu hanes anturiaethau Wil a Dic yn brif destun ymddiddan ar fonciau'r chwarel ac yng ngweithdy'r crydd am ddyddiau lawer, a bu'r hanes yn foddion i ennyn diddoreb newydd mewn daearyddiaeth ymhlith plant yr ysgol.

Ymhen tua deufis wedi eu dychwelyd i Drelan, derbyniodd Wil a Dic lythyrau oddiwrth Miss Sharpe yn eu gwahodd i Lerpwl i'w phriodas â Bob, a theimlai'r ddau fod y briodas yn ddiweddiad rhagorol i'r fordaith fythgofiadwy.

Nodiadau

[golygu]