Neidio i'r cynnwys

Mae'r iechydwriaeth rad

Oddi ar Wicidestun
Dyma Feibil annwyl Iesu Mae'r iechydwriaeth rad

gan Peter Jones (Pedr Fardd)

Gras, O!'r fath beraidd sain
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

285[1] Iechydwriaeth Rad. M. B.

1 MAE'R iechydwriaeth rad
Yn ddigon i bob rhai;
Agorwyd ffynnon er glanhad
Pob pechod cas a bai.

2 Daw tyrfa rif y gwlith
Yn iach trwy rin y gwaed:
Pwy ŵyr na byddaf yn eu plith,
Yn lân o'm pen i'm traed?

3 Er lleted yw fy mhla,
Er dyfned yw fy mriw,
Y balm o Gilead a'm hiachâ-
Mae Crist yn Feddyg gwiw.

4 Dan bwys euogrwydd du,
Edrychaf tua'r groes,
Lle llifodd gwaed fy Mhriod cu:
Anfeidrol Iawn a roes.

Peter Jones (Pedr Fardd)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 285, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930