Mae'r iechydwriaeth rad mor fawr
Gwedd
| ← Mi glywaf dyner lais | Mae'r iechydwriaeth rad mor fawr gan John Hughes, Pontrobert |
Awn, bechaduriaid, at y dŵr → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
289[1] Iechydwriaeth a'i Chyflawnder.
M. C.
1 MAE'R iechydwriaeth rad mor fawr,
Mae'n achub, mae'n glanhau
Troseddwyr duaf daear lawr;
Gwnawn ynddi lawenhau.
2 Cael derbyn o'i chyflawnder cun
A wna y trist yn llon;
Gogoniant Duw, dedwyddwch dyn,
Sydd yn gytûn yn hon.
3 Mae Iesu Grist yn drysor mwy
Na holl drysorau'r byd:
Daeth hedd a bywyd inni trwy
Ei ryfedd angau drud.
John Hughes, Pontrobert
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 289, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930