Mae dy air yn abl i'm harwain
Gwedd
| ← Ysbryd Sanctaidd, dyro'r golau | Mae dy air yn abl i'm harwain gan William Williams, Pantycelyn |
Dyma Feibil annwyl Iesu → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
283[1] Arweiniad trwy'r Gair.
87. 87. 67.
1 MAE dy air yn abl i'm harwain
Trwy'r anialwch mawr ymlaen;
Mae e'n golofn olau eglur,
Weithiau o niwl, ac weithiau o dân;
Mae'n ddi-ble ynddo fe
Fwy na'r ddaear, fwy na'r ne'.
2 'R wyf yn meddwl am yr oriau
Caffwyf funud o'th fwynhau;
Ac mae atsain pell dy eiriau'n
Peri imi lawenhau:
O! 'r fath wledd, draw i'r bedd,
Fydd cael edrych ar dy wedd.
3 O! gad imi'n fuan, Arglwydd,
Glywed geiriau distaw'r ne',
Rhag im redeg, heb im wybod,
Ar ryw law i maes o'm lle;
Yn dy law, heb ddim braw,
Cerdda'i'n union yma a thraw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 283, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930