Neidio i'r cynnwys

Mae llais efengyl fwyn

Oddi ar Wicidestun
← Gras, O!'r fath beraidd sain Mae llais efengyl fwyn

gan John Cadvan Davies (Cadvan)

Mi glywaf dyner lais →
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

287[1] Llais yr Efengyl
M. B.

1 MAE llais efengyl fwyn
Yn galw arnaf fi,
I lechu rhag y storom fawr
Yng nghysgod Calfari.

2 'R wy'n haeddu gwg y nef,
Ond hedd gyhoedda hi:
Bu'r Iesu farw dros fy mai
Ar groesbren Calfari.

3 'R wy'n dod yn sŵn y llais—
Hyfrytaf lais y nef,
I fynydd Duw, at wleddoedd rhad
Ei ras a'i gariad Ef.

John Cadvan Davies (Cadvan)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. ↑ Emyn rhif 287, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930