Mae yn y gair oleuni glân
Gwedd
| ← Dy nerthol air, Iôn, oddi fry | Mae yn y gair oleuni glân gan Richard Jones o'r Wern |
Hyfryd eiriau'r Iesu → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
278[1]
Goleuni a Hyfrydwch y Gair. M. S.
1 MAE yn y gair oleuni glân―
O! f'enaid, cân amdano—
I'r euog yn yr anial fyd,
I weld lle clyd i 'mguddio.
2 Dysg imi gerdded mwy bob cam,
Gan feddwl am d'orchmynion;
Boed ynddynt hwy fy serch a'm blys,
O wir ewyllys calon.
3 Tangnefedd Duw, fel afon gref,
O orsedd nef yn llifo,
A fydd i'r sawl a garo'r gwir,
Gan rodio'n gywir ynddo.
Richard Jones y Wern, Llanfrothen
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 278, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930