Manion/A gerais i digaraf
Gwedd
< Manion
| ← Y Garan a'r Llwynog | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Calon o'm bron a dynnir → |
A GERAIS I DIGARAF
(Dienw, o'r Wyddeleg)
Berroes fydd o'i herwydd hi,
A gerais i, digaraf;
Gwae i'r mab a garo mwy,
A'i fwrw i'r clwy afaraf.
Acen gu fel cân y gôg,
Wallt eurog, sylliad araf,
Gwynloyw ddaint, gwawn aeliau ddwy,
A gerais, mwy digaraf.
Min sy goch a mynwes gain,
Llaw firain, gair llafaraf;
Onid hyn na wypont hwy,
A gerais, mwy digaraf.
A ac R, dwy O ac N,
Anghofio'i henw ni pharaf;
Na bo gêl rhag neb a'i gŵyr,
A gerais, llwyr ddigaraf.
Brinned bun heb raniad bai,
Ond hon fai anhygaraf;
Dwedwn wir, pe dweud a wnawn,
A gerais, llawn ddigaraf.
1916.