Manion/Anfarwoldeb
Gwedd
< Manion
| ← Pa Waeth? | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Nos Galan → |
ANFARWOLDEB
(I J.J.W.)
O waelod oer dawelwch
Yr hun hir a nos y dirgelwch,
A ddaw'n ôl i ddyn elwch
Neu ail oes i'w druan lwch?
Pan ddylo haul, pan ddêl hwyr
Y dynged, gyda'i angof trylwyr,
O'i ddwys hun a ddaw synnwyr?
Duw nis gwad, a dyn nis gŵyr.
1920.