Manion/Atro Arthur
| ← Gwenoliaid | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Cyffes → |
ATRO ARTHUR
I.
A'r gŵr mawr weithion mewn estron iaith
Wedi hir ferwi'r holl dorf â'i araith,
Canai hithau am Hen Wlad ei Thadau,
A maith y mynnai i'r heniaith barhau.
A gwladwr tal gerllaw a wrandawai,
Union oedd, a glaswenu a wnâi.
Yna, âi draw. Meddwn innau: "Druan,
Onid cu gennyt wrando eu cân?"
Synn oedd ei olwg. Glaswenodd eilwaith;
Meddai (a'r wên megis modd ar ei iaith):
"Diau gennyf mai da a ganant
A chywrain yw y chwarae a wnânt."
Meddwn: "Oni cheri wlad dy dadau?"
Crynodd ei ael. Meddai: "Cara'n ddi-au."
Ennyd ddistaw. Newidiodd ei ystum,
A'i olwg a droes ar yr heulog drum,
Yna a'r wên ddi-ofn ar ei wyneb,
Oddi yno aeth, fel pe na byddwn neb.
A gwelwn innau'r goleuni yno
I'w donnau o fel yn ei dynnu fo,
Ac ar draws y ddôl crwydrais i'w ddilyn
Tua'r gwawl aur oedd ym mhellter y glyn.
A chanai'r dorf am HenWlad ei Thadau,
A maith y mynnai i'r heniaith barhau.
II
Deuthum hyd ymyl y coed ac oedi
I wrando'n swrth ar ryw undon si.
Man gwedi'i gau rhwng man-goed a gwiail,
A llyn o ddŵr rhwng llwyni o ddail.
Gwladwr tal, oddi tanaf y safai,
Union oedd, a glaswenu a wnâi.
Gloywi'n yr haul y gwelwn ryw hwyliau,
Bu daw; yna sŵn fel bad yn nesâu.
Ac i mewn i'r bad yr aeth y gwladwr,
Hwyliodd i'w daith, a thawelodd y dŵr.
A chlywn gynghanedd brydferth a chwerthin
A nwyfus gainc gan wefusau gwin.
"Druan gwŷr! nid oes gradd o naddunt
A ddeil ar beth ond addoli'r bunt!"
1923.