Manion/Bod
Gwedd
< Manion
| ← Y Weledigaeth | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Caernarfon → |
BOD
(I J.T.J.)
Colli'r sŵn with Graig y Nos,
Clywed distawrwydd y rhos,
Mynd yn un bell ac agos.
Maen ar ei ben yn naear,
Haul gloyw ac awel glaear,
Byd heb drybestod na bâr.
Torlan a dwy gerddinen,
Bedwen gnapiog, eithinen,
A mwsogl aur ar graig wen.
Ffrwd fain fel tres o arian
Yn dolennu o'r marian,
A chronni'n llyn yn y fan.
Cael yno gynnil giniaw,
Diod ddŵr o gledr y llaw,
Ba waeth i ddyn beth a ddaw?
Beth fu ddoe, beth fory fydd,
Ba waeth sôn, wrth beth y sydd:-
Bywyn Bod yw bod beunydd.
1926.