Manion/Bywyd
Gwedd
< Manion
| ← Amod | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Cynilo → |
EPIGRAMAU
BYWYD
Be na bai un bai'n y byd,
Beiem undonedd bywyd.
Byd na bu ydyw'n bywyd,
Bywyd na bu ydyw'n byd.
Adwy ferr sy rhwng dau fyd,
Hi biau ddeupen bywyd.
Dyn nid yw onid ewyn
Ar y graig dro byrr a gryn.
Yn donnau y daw dynion,
A llawer dull ar y don.
I ddynion, unig ddeunydd
Byw yw bod rhwng bu a bydd.