Manion/Bywyd ac Angau
| ← Serch a Siom | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Y Gigfran → |
BYWYD AC ANGAU
Solvitur acris hiems grata vice veris, &c.
(Hor. Car. IV. Lib. I)
Toddi y mae caled aea'
Yn chwyl y gwanwyn a'i chwa;
Weithion, ag offer gwthir
Llongau i'r tonnau o'r tir;
Ni chilia ŷch i'w loches,
Ni thrig yr arddwr wrth wres
Ei dân beunydd; gweunydd gan
Lwydrew ni chlaer belydran'.
Yn awr o dan y lloer dêr,
Ei llu a gynnull Gwener;
Grasau cain, fe'u harwain hi,
A llon dduwiesau'r llwyni;
Ac yno'n gôr lle canant,
Dawnsio bob yn eildro a wnânt;
Fwlcan yntau'n cynnau cêl
Danau'i ofaint yn ufel.
Iawn waith coroni weithian
Bennau a thalcennau can
â dail y myrtwydd neu deg
Flodau, wrth gyfle'u hadeg;
Ac wedyn i dduw'r coedydd
Aberth fo dan gysgod gwŷdd,
Oen, os oen a ddewis o,
Neu fynn, os mynn a fynno.
Undroed fydd Angau hendrwm
Yn nhŵr y llawn, yn nhŷ'r llwm;
Nid oes fudd, ni âd oes fer
Ar adeg hir roi hyder;
Daw'r ddunos chwith a'r rhithion
Y sydd a chymaint o sôn
Amdanynt; daw mud annedd
Pluto i wywo dy wedd;
Unwaith y delych yno,
Ni'th rydd y ddis yn ei thro
Yn frenin gwin; rhoi gweniaith
Ni chei pan fych yno, chwaith,
I'r wyneb glân a daniai
Fab neu fun bob un lle bai.
1900.