Manion/Cân y Medd
Gwedd
< Manion
| ← Nyth Gwag | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Senghenydd → |
CAN Y MEDD
Yn y mynydd, mae'r gerddinen,
Yn y mynydd, mae'r eithinen,
Yng nghwpanau'r grug a hwythau
Haul ac awel dry yn ffrwythau;
Awel iach, heulwen lon,
Heulwen lon, awel iach,
Delir rhinwedd haul ac awel
Yng nghwpanau'r blodau bach.
Prysur yno fydd yr hela
Pan ddaw'r gwenyn fil i fela;
Awel haf a haul cynhaeaf,
Mêl a fyddant cyn y gaeaf;
Melyn fel, melys fel,
Melys fel, melyn fêl,
Haul ac awel yn y diliau,
Wele'n felyn, felys fêl.
Gwedi'r haf a'r hael gynhaeaf,
Yn yr hendre hirnos gaeaf,
Wrth y tân yn sain y delyn,
Melys fydd y meddlyn melyn;
Melys fedd, melyn fedd,
Melyn fedd, melys fedd,
Haul ac awel, mêl y gwenyn,
Wele'n felyn, felys fedd!
1914.