Manion/Cairo
| ← Tunis | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Y Sphinx → |
CAIRO
I.
Adfeilion mosc ar ymyl yr ystryd
Fel pe baent wedi crino yn yr haul
Nes bod y meini'n llawn o dyllau mân,
Fel ambell grwybrog faen ar lan y môr,
Neu lun ymylau pannwl mynydd llosg
A dynno'r camra o lygad telescop
Pan ddalio hwnnw lun y lleuad farw.
Merched mygydog hen wrth droed y mur,
Neu ar y meini a fu risiau gynt—
A'r cochni drwy yr alabaster pŵl
Fel gwythi gwaed tan groen gwywedig gnawd—
Yn eistedd yn yr haul, o ddydd i ddydd,
Mor llonydd ac mor fud â'r Sphinx ei hun.
Pan yrro golud y Gorllewin gwyllt
Yn ei gerbydau drud a'i esgus gwisgoedd,
I geisio rhywbeth i ddifyrru'r amser—
Cynysgaeth na bydd ddiddig ond a'i gwario—
Ni thry un pen, ni chyfyd amrant llygad
Ymhlith hamddenol ferched haul a thywod
I weld anesmwyth nwyd y blinedigion
Yn chwyddo gwefus ac yn brydio bronnau
O dan y mwslin main a'r sidan tenau
Wrth geisio meddiant Bod ym meddwaint Bodd.
II.
Pan ddisgyn llef y Muezzin o'r meindwr
A'r haul yn machlud, troi o'r ffyddlon yntau
A'i wyneb tua'r dwyrain ac ymgrymu
A'i dalcen ar y ddaear. Iawn yw hynny.
Dir nad oes dduw ond duw, a Gwawl yw hwnnw.
Pan ddiffydd lampau ofer brys Gorllewin,
Daw gwawr o ofer ffynnon bryd y Dwyrain.
1905.