Manion/Calon o'm bron a dynnir
Gwedd
< Manion
| ← A gerais i digaraf | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Eiddig → |
CALON O'M BRON A DYNNIR
(O Wyddeleg Maghnus O Domhnaill)
Calon o'm bron, os coelir,
A dynnir—gwae'r dihoeni,
Bod un biau dau enaid
Heb enaid dro'n ymboeni.
I rywiog fun oreuael
Gwael nad echwyn y galon
Fel y gwypai ddyfalu
Gwae o faclu gofalon.
Rhown y galon hon yn rhwydd
Flwyddyn yn ofal iddi,
Yna, gwypai druaned,
Brudded y gobrwy eiddi.
Byddai glaf, byddai glwyfus,
Dihunus yn dihoeni;
Byddai drom, byddai dremddwys
Beunos o bwys ymboeni.
Ni wn lon wenu ennyd
Ond arwain bryd blinderus;
O'm monwes nes ei myned,
Ymwared byth ni'm erys.
Gwae! nid mwyn gwneud â mi oedd
Ryw filoedd oer ofalon-
Gŵr â dwy galon i'w gorff
Ag eilwers gorff heb galon.
1916.