Manion/Celfyddyd
Gwedd
< Manion
| ← Y Breuddwyd | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Corff ac Ysbryd → |
CELFYDDYD
Ai i ddal ei fwyd pan ddêl efô
Yn agos ato ef
Y gwnaeth y copyn rwyd y sydd
Yn wyrth o gelfydd gamp?
Mi welais heddiw yn ei rwyd,
Nid bwyd, ond perlau gwlith,
Ac yntau'n sefyll yn ei ddôr
Fel pedfai'n rhifo'r rhain.
1926.