Neidio i'r cynnwys

Manion/Corff ac Ysbryd

Oddi ar Wicidestun
Celfyddyd Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Lleian

CORFF AC YSBRYD

Blino ar gnawd. Ba lawenydd a drig
yn y drygau sydd eiddo?
Plisgyn yr ysbryd-pa lesgedd
nas rhoed iddo 'n gynnwys a rhan?
Hanner ei oes yn huno, heb wybod,
yn babell a adwyd,
Hanner y pryd na bydd hynny,
yn flin y dadfeilia ef;
Heddiw, hiraethu'n anniddig a fydd
am ryfeddod yfory,
Fory, ni bydd ond myfyrio
mor deg a fu dymor doe.

1926.


Nodiadau

[golygu]