Manion/Cyfaill
Gwedd
< Manion
| ← Meddyliwr | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Y Tro Olaf → |
CYFAILL
(Robert Silyn Roberts, † 1930)
Buraf cydymaith y bore ysblennydd
nas blinai trallodion,
Diddan gynghorwr y dyddiau blin
pan aeth bywyd yn bla;
Hael dy farn ym mhob helynt,
tirion lle byddai grasterau,
Gwelaist mai un, yn y gwaelod,
yw difrif a digrif dyn;
Agos er pellter ac eigion,
cyson bryd bynnag y ceisid,
Tawel yng nghanol pob tywydd,
dewr hyd ddiwedd y daith.