Neidio i'r cynnwys

Manion/Cyffes (2)

Oddi ar Wicidestun
Didwyllad Manion

gan Thomas Gwynn Jones

In Alto

CYFFES
(Johanna Ambrosius)

O'ch fi na'th welswn di yn gynt
Pe dim ond unwaith hyn,
Bendigwn i yr ennyd hon
A gwefus welw, gryn.

O na'th garaswn di yn gynt,
Oleu'n heneidiau ni,
Diau, o ran yr engyl glân
Nad eiddig fyddwn i.

Och na'th garaswn di yn gynt,
Mai dim ond breuddwyd prudd
Oedd im ar Bren y Bywyd roi
Yn arlant gwyw, fy ffydd.

1910.


Nodiadau

[golygu]