Manion/Cymhleth
Gwedd
< Manion
| ← Profiad | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Llyfrau → |
CYMHLETH
A glywaist a gant Annwyd
A oedd fursen ddi-arswyd?—.
Di gei nych o dagu nwyd.
Od ymprydi, medd doethion,
O wanc cymhlethoedd poethion
Derfydd cyn pryd dy hoedl hon.
Ac od ymroi i lythni
Medd eraill, nid gwell iti,
Marw yr un wedd a fyddi.
Hyn, nid newydd ddoethineb,
Namyn hen hen gallineb,
Od oes goel ar ddihareb.
A glywaist a gant dy Daid:—
Po leiaf fo d'anghenraid,
Iachaf dy gorff a'th enaid.
Un a wnêl ei hunan noeth
Iddo'n ddeddf, hwn fydd annoeth,
Nid oes na dwy a ddysg ddoeth.
1928.