Neidio i'r cynnwys

Manion/Cymwynaswr

Oddi ar Wicidestun
Y Tro Olaf Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Amod

CYMWYNASWR
(Dan Rhys,† 1914)

Truan oedd yno ado'r landeg wedd
A'r galon lân yn oer o dan y gro,
A thewi o'r llais a fyddai, lawer tro,
Ar bryder nych yn bwrw ei dirion hedd;
A thi mor fyw, nid gwir mai mudan fedd
A fedrai fyth dy gadw di ynghlô,
Dir yw mai rhaid bod iti ddidranc fro
A braint ymhlith y ddisglair dorf a'i medd;
Ac oni roddwyd i'n synhwyrau ni
Na gweld dy wedd neu glywed tinc dy lais,
Mwy yn galondid yn ein gwendid gwael,
Od wyd, nid dedwydd fyth a fyddit ti
Er byw mewn gwawl, heb am ein gweled gais,
A gwylio'n hynt, o serch dy galon hael.


Nodiadau

[golygu]