Manion/Didwyllad
Gwedd
< Manion
| ← Cyfaddef | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Cyffes (2) → |
DIDWYLLAD
(Johanna Ambrosius)
Rhyw berl o'r disgleiriaf a welais draw,
Tybiais mai rhyfedd ei raen,
Ond unwaith y cefais yn fy llaw,
Nid oedd onid truan faen.
Torrais rosyn coch, oedd mor bêr
Ag anadl y gwanwyn mwyn,
Ond unwaith y dodais ar fy mron,
Nid oedd onid draen y llwyn.
Calon, calon a gefais i,
Serchog y credais ei bod,
Ond unwaith a'r eiddof y rhwymais hi,
Oer ydoedd fel yr ôd.
1910.