Manion/Dynion
Gwedd
< Manion
| ← Senghenydd | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Hen Fynyddwr → |
DYNION
(O iaith y Kynbyn)
Duw a wnaeth, a da iawn oedd,
Rifedi mawr o fydoedd,
A rhoi pwyll a synnwyr pen
A fynnodd i fywionen;
Dawn hefyd i anifail,
Ymennydd iawn i'r mân ddail;
Wedi hyn i'w fryd y daeth
Am roi i'r gamp amrywiaeth,
O fater gwnaeth ynfytyn-
Felly y daeth ein cyfaill, Dyn.
1915.