Manion/Eiddig
| ← Calon o'm bron a dynnir | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Tydi → |
EIDDIG
(Dienw, o'r Wyddeleg)
A glywi fi, deg loyw ferch?
Oeda ennyd dy annerch,
Gangen îr fronwen aur frig,
Nac addef rin ag Eiddig.
Ger fy llaw bydd di dawel,
Dyro o gylch dro, a gwêl—
Dos, nac ymaros â mi,
Awr annerch a geir inni.
Mawr y sôn am air y sydd,
Gwylia! n'âd le i gelwydd;
Na ymlŷn i'm hymyl i—
A'n gwylio, onis gweli?
Wele, dos o'm cyfyl, di,
Cei lawer—onis clywi,
Feinir deg dan fanaur do?—
Dan gêl o hyd i'n gwylio.
Goror i sisial geiriau
Heno nid oes i ni'n dau;
Bach bod i'm llaw dy law lân,—
Gwae o dygai gyd-ogan!
Troi ar d'ôl yr wyf trwy'r dydd,
A thithau'n ddi-leferydd;
Fun ben aur, fy niben wyd,
Dan un did ein dau'n dodwyd.
Maith im, nid llai i tithau,
Mai rhaid i ni dewi'n dau;
Dresi aur dyrys eu hyd,
Nid yw hynny ond ennyd.
Dal fwriad di-leferydd
Oni ddêl i ninnau ddydd;
Na ddwêd air lle byddo dyn
Yn gwylio, mwy na gelyn.
Tro heibio d'air tra bo dydd,
Fel benyw'n ddyfal beunydd;
Taw'n y tŷ; yno, at hyn,
Dal gornel d'olwg arnyn.
1916.