Manion/Ex Tenebris
| ← Y Nef a Fu | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Rhyddid a Rhaid → |
EX TENEBRIS
(I D.R.)
Un hwyr, pan oeddwn drist fy ysbryd, crwydro
Ymhell a wneuthum, pan oedd llwyd gysgodau
Y nos â golau dydd yr haf yn brwydro
Rhwng coed y glyn, a'r gwlith ar ddail a blodau
Fel dagrau'r dydd wrth farw ymhlith y llwyni,
Neu berlau byw yn disgyn yn gawodau
O esgyll nos wrth daro ar glogwyni
Ysgythrog y mynyddoedd. Marwaidd gysgu
Yr oedd y niwl yn dorchau ar y twyni,
A'i hun â'm henaid innau yn cymysgu
Onid oedd arnaf oeraidd arswyd angau,
Fel un ni allo, a'i galon yn terfysgu,
Na symud llaw na throed, er bod crafangau
Drychiolaeth wyw, mewn breuddwyd, ar ei lethu.
O'r gwyll dihengais yn fy mraw, a changau
Y coed fel bysedd oerion yn ymblethu
Amdanaf nes fy nal ar ddu banylau
Y llethr a ddyfal ddringwn; mynych fethu
Yr oedd fy ngham ar eirwon serth ymylau
Y graig, a llawer llwyn a pherth i'm rhwydo
Nes cyrraedd pen y mynydd. Brych gymylau,
Fel ewyn môr gan dymestl wedi llwydo,
Uwch ben yr anial ros a ymestynnai,
A minnau rhag ei oered yn arswydo.
Nid ydoedd seren drwyddo a dywynnai,
Na chwa o wynt yn codi cwr y llenni
I ddangos imi'r ellyll a'm dilynai.
Mor unig oedd y daith! ac nid oedd genni
Un gobaith yr agorai gwawr ei dorau
Gan faint yr ias a rewai fy ngwythienni.
Hyd eangderau gwag y maith ororau
Y crwydrais rhwng clogwyni dig eu ffriwiau,
Duach na'r gwyll, fel adfail uthr allorau
Addolwyr meirwon rhyw drengedig dduwiau.
A'm hyder wedi mynd, a'm nerth yn pallu,
Gorweddais ar y grug o dan fy mriwiau,
A llyncodd cwsg, frawd angau, gof a gallu.
Ond pan ddeffroais, gwelwn glaer oleuni
Y sêr yn britho'r wybren nes fy nallu;
Ariannaid belydr oedd yn gloywi meini
Allorau teml dragywydd Tad yr Oesau;
A'r anial ros yn llawn o fyw gwmpeini
Nas gorfu ofn erioed nac unrhyw groesau.
Pa raid i minnau, mwy na hwy, bryderu?
Brodyr myfi a niwl y nos, a ffoisai.
Bid dda bid ddrwg ar druan ddyn hyderu,
Tydi, a wnaeth y sêr a'u dodi i nofio
Yng nglesni dwfn yr wybren i'th ladmeru,
Pa beth, O Dad, yw dyn i Ti i'w gofio?
1905.