Manion/Fatalità
| ← In Alto | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Hen Fynwent → |
FATALITA
(O Eidaleg Ada Negri)
Heno, gerllaw'r gobennydd, gŵyrgam lun
Yn sefyll a welais i,
Ei threm yn dân a chleddyf wrth ei chlun;
Rhythai i'm hwyneb. Crynais rhagddi hi.
Medd hithau "Tynged wyf i.
"Ofnog enethig, mwy ni ddigwydd im'
Fyth unwaith dy adael di;
Ar hyd dy oes, hyd angau a hyd ddim,
Dos lle'r elych, cyson ganlynaf di."
Ymwingais, griddfennais i.
Hyd ataf eto yr ymwasgodd hi,
Gan sôn "Ysgrifennwyd fry,
Gwael flodyn pren y galar ydwyt ti,
Blodyn yr ôd, y bedd a chywilydd du,
Fry ysgrifennwyd, fry.
Neidiais a llefain "Mynnwn y gobaith mwyn
Oedd hawl i'r ugeinmlwydd oed;
Cariad a fynnwn a'i aflonydd swyn,
Cusan yr awen a'i goleuni doed,-
Anghenfil, cymer dy droed!"
Meddai: "Y neb a waedo dan ei waith,
Clodfawr ni bydd ond efô;
I'r meddwl, egyr poen oruchel daith,
A frwydro fyth ag egni biau'r tro."
Atebais innau "Arhô!"
1911.