Neidio i'r cynnwys

Manion/Gwlad y Tylwyth Teg

Oddi ar Wicidestun
Y Sphinx Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Dafydd ab Edmund

GWLAD Y TYLWYTH TEG

Clywais sôn gan un a'm carai,
Ddyddiau gloywon
Ieuanc oed
Fod y Tylwyth Teg yn chwarae,
Dawnsio'n hoywon
Dan y coed.

Chwiliais hyd y dolau ganwaith,
Dan ganghennau
Derw y fro,
Gwelais hwy yn dawnsio'n lanwaith
Fân ddolennau
Lawer tro.

Lawer noswaith, hir ddisgwyliais
Lle'r ymlonnynt
Wedi hyn,
Ond ni welais, er a wyliais,
Un ohonynt
Yn y glyn.


Eto mynnaf, er a fynno
Oes ddi-awen
Dan ei rheg,
Ddychwel adref a chael yno
Ieuanc lawen
Dylwyth Teg!

Cairo, 1906.


Nodiadau

[golygu]