Neidio i'r cynnwys

Manion/Heddiw ac Yfory

Oddi ar Wicidestun
Y Gor-Ddyn Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Serch a Siom

CYFIEITHIADAU
A
CHYFADDASIADAU



HEDDIW AC YFORY
Tu ne quæsieris, scire nefas, &c.
(Hor. Car. XI. Lib. I)

Wen deg, na ymofyn di
(Nid iawn ei wybod inni)
Pa union dymp i ni'n dau
A adawodd y duwiau;
Na wna yn ôl swynion neb
Neu goel iti gael ateb—
Diau mai gwell yn dawel
Ei ddwyn, beth bynnag a ddêl!
O rhydd Iau acafau hir,
Ai'r ola'n awr a welir
Yn hyrddio nes darnio'r don
Ar wag ogofau'r eigion,—
Dithau, dwg win, bydd doethach,
A'th hyder fo wrth d'awr fach;
A ni'n ymddiddan, einioes
Wael i ffwrdd o'n gafael ffoes;
Rhodder dy gred ar heddiw,
Na chred drannoeth, annoeth yw.

1900.


Nodiadau

[golygu]