Manion/Hen Fynwent
| ← Fatalità | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
→ |
HEN FYNWENT
(Adwe Gymreig ar thema Elegy Thomas Gray)
Hwyrgloch yn canu cnul dydd,
Bref buches sorth o'r dolydd,
Cyrch arddwr blin adre'n rhydd.
Duo'r tir; tawel awyr,
Namyn am rŵn chwilen hwyr,
Neu dinc clych praidd ym magwyr;
Neu dylluan o'i thŵr draw
Wrth y lleuad yn cwynaw
Dreisio'i hen ystâd ddistaw.
Is y llwyfain a'r ywen
Dan y donnog dywarchen,
Cwsg cyndadau'r pentref hen.
Bore chwa, twi'r gwenoliaid,
Llef y ceiliog, cyrn ceiniaid,
Mwy nis cwyd o'u gwely llaid.
Nid eiddynt aelwyd annwyl
Na gwên gwraig wrth eu disgwyl,
Na greso plant, ddigrif hwyl.
Gorau medel yn eu hoed,
Union eu cwysau erioed,
Grymus eu bwyeill yng nghoed.
Na wawdied Balchter eu byd
Salw ei ran na'u syml wynfyd,
Na Rhwysg fer chwedl eu bywyd.
Anesgor awr pob mawredd,
Achau, Glendid, Digonedd,—
Nid â'r balch onid i'r bedd.
Chwi Feilch, na feiwch eu rhan
Onis coffeir yn y llan
A maen a mawl ar organ.
A all bwst neu wrn gofnod
Ddwyn ffun ffo i'w hen drigfod:—
Y marw ni chlyw druth na chlod.
Odid nad oes yn y pant
Galon fu fawr ei nwyfiant,
Neu law teyrn neu drinwr tant.
Gŵr ni fynnai drais i'w ddydd,
Rhyw fud anenwog brydydd,
Neu ddarpar goresgynnydd.
Hendwr Dysg ni roed i'w plaid;
Mygwyd gwiw nwyd; rhewodd rhaid
Dirionach ffrwd yr enaid.
Nid eiddynt drin seneddau
Na dirmygu bygylau,
Na boddio gwlad o'i llesáu.
Bychan eu da a'u drygedd,
Nid enillsant glod trwy gledd,
Na chau drws ar drugaredd.
Ni chelsant wir wrth eu swydd
Na mygu gwrid gwaradwydd,
Na thrwsio mawl moeth a chŵydd.
Pell o dwrf amhwyll dyrfa
Ar hyd canol llwybr gyrfa,
Eu hynt oedd dawel a da.
Main cof prin eu hysgrifen,
Namyn weithiau waith awen
A ddwg i ddeigryn wŷn gwên.
Aml adnod o'r Ysgrythur
A ddysgodd i bechadur
Ddwyn heb ofn ei olaf cur.
Dithau, sy'n parchu'r meirw mud
A darllen chwedl eu bywyd,
Byddi yma'r un ffunud.
1927.
ARGRAFFWYD GAN
HUGHES A'I FAB
WRECSAM