Neidio i'r cynnwys

Manion/Hen Fynyddwr

Oddi ar Wicidestun
Dynion Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Mater Dolorosa

HEN FYNYDDWR
(Sir Aberteifi)

Ganed ar ganol y mynydd,
Adnabu ddefaid ac ŵyn,
Corsydd a chreigiau, afonydd,
Rhedyn y bronnydd a'r brwyn.

Dim iddo wegi penadur
A chelwydd y gwleidydd croch―
Gwell oedd y salwaf creadur
A fagodd, o fyllt neu foch.

Gwelodd wyth deg o flynyddoedd,
A gonest, os tlawd, fuont hwy;
Ddoe, daeth i lawr o'r mynyddoedd,
Ac yno, ni ddychwel mwy.

1916.


Nodiadau

[golygu]