Manion/In Alto
| ← Cyffes (2) | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Fatalità → |
IN ALTO
(Ada Negri)
Breuddwydio'r wyf. A'm trem ar wib yn chwilio,
O'm blaen mi welaf draw ryw frith gwmpeini,
Ac yn eu gwisgo'n gyfan goch oleuni
Llym, araf haul Mehefin wrth ymgilio.
Teneuon eu hwynebau, briw eu bronnau,
Eu pennau—llwch a drain sydd i'w cylchynnu―
Yng ngolau dwyfol gariad yn tywynnu,
A chlwyfau cudd yn ysu eu calonnau.
"Mynegwch pwy ych chwi," gofynnaf innau
"Sydd yn mud wenu arnaf, gan ddisgleirio
Yng ngolau haul, wrth i chwi draw gyfeirio,
Gan ŵyro pen?"—"Y glewion ydym ninnau!
"Nyni yw'r trist, ysbrydoledig resau,
Ar faes y gwaed, a'r llafnau dur i'n gwanu,
Yn hwrdd y gad, a sain y rhyfel ganu,
A roes yn nod i Angau ein mynwesau.
"Truenus arwyr meddwl ac ymchwilio
Ym ni, rhyw nychlyd a gwasgedig dyrfa
Sy'n ofer dreulio bywyd yn yr yrfa
I geisio'r gwir, sy rhagom fyth yn cilio.
"Merthyron fuom, glewion, gwŷr o ynni,
Ein rhan fu ymladd a dioddef sennau,
A rhwygo o ddur y gelyn ein talcennau,
Gan riddfan 'Rhagom!' syrthiem yn ein cyni.
"I'n herbyn, lloerig boblach fu'n enynnu,
Difennwyd ni, a'n rhan fu ein hergydio,
Ein gwawdio a'n croes-hoelio a'n penydio,
Heb nawdd nac atal, ni yw'r glewion hynny."
Codais a llefais: "O, paham yr ery
Cynifer bywyd briw, a maint caledi,
Y gofid a'r ymladdau di-rifedi,-
Di-derfyn wae, pam y di-ddiwedd bery?
"Pam y dilynech chwi ag eirias ynni
Feddwl sy megis mellten yn diffoddi,
Ac wylo nes bod enaid yn ymdoddi
Gan serch ac awydd fyth, ac ofer gyni?
"Paham: "-A'm golwg ar ei wib yn chwilio,
O'm blaen mi welwn eto'r brith gwmpeini
Ac yn eu gwisgo'n gyfan goch oleuni
Llym, araf haul Mehefin pan fo'n cilio.
Ar eu hwynebau disglair hwy a'u pennau
Tawelwch annacarol a ddisgleiriai;
Gan agor llygaid araul y cyfeiriai
Pob un ei fys, gan wenu, i'r Wybrennau.
1911.