Manion/Llyfrau
Gwedd
< Manion
| ← Cymhleth | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Gynt → |
LLYFRAU
,
Hen gymdeithion mwynion mud,
Nad ydych yn dadwrdd na symud,
Gwneler a fynner drwy fyd,
Ni phoenwch mewn un ffunud.
Y doethaf o'ch cymdeithas
Ni omedd yn ei ymyl drigias
I lyfran o druan dras
Nag i ddieflyn go ddiflas.
Ni liwia un o lawer
A gafodd bob gofal a mwynder
I adyn gwael fu'n dwyn gwêr
Yn o salw yn y seler.
A fo Roeg, a maint fo rhin
Ei darddiad, neu awdurddoeth Ladin,
Heb ias o wawd i'w dlawd lin,
Caiff frawd o iaith gyffredin.
Yn ddoeth ac annoeth, genni
(Diobaith yw dybio cich colli;
Beth a wnâf pan fyddaf i
Heb hanes o'ch cwmpeini?
1929.