Neidio i'r cynnwys

Manion/Môr y Nos

Oddi ar Wicidestun
Dafydd ab Edmund Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Nyth Gwag

MOR Y NOS

Eigion a thir sydd agos
A throi yn un aruthr nos,
Ond trwy dawch y pellter du,
Gwêl waneg yn gwelw wynnu,
Mal gwen wawr ym mhlygion nos
Yn torri, gan chwant aros;
Hoyw y naid ei hewyn hi
I'r lan, fel rhyw oleuni;
Rhithiol daen fel erthyl dydd,
Ban ddyffo; buan ddiffydd;
Ond tragywydd trig ewyn
Môr y nos, er marw, yn wyn;
A'r düwch oer mor dawel
O hyd fydd i'w orfod, fel
Pe dwedai ef "Paid, y don,
Ferw ddadwrdd, a'th freuddwydion,
Am oriau dydd ymaros,
Duw gwyll ni âd golli nos."

1910.


Nodiadau

[golygu]