Neidio i'r cynnwys

Manion/Mater Dolorosa

Oddi ar Wicidestun
Hen Fynyddwr Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Pero

MATER DOLOROSA
(Yn amser rhyfel)

O Fair, urddasolaf mam,
paham,
Paham na wrandewi di
nyni?
Paham na wrandewi di
ein cri,
Weled ein meibion dan draed
a'u gwaed
Heno yn porthi'r cŵn?
clyw'r sŵn!
Och na baem feirw ni,
clyw'n cri,
Gwrando o'th uchel radd,
a'n lladd,
Mamau heb galon mwy,
fyth mwy.

1916.


Nodiadau

[golygu]