Manion/Nyth Gwag
| ← Môr y Nos | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Cân y Medd → |
NYTH GWAG
(Bro Gynin, Rhagfyr, 1910)
O rhoes Dafydd gywydd gwin
Ogoniant it', Fro Gynin,
Ar wastad oer dristed wyt,
Mor ddi-nod, murddun ydwyt.
Prydferth ar bob rhyw adfail
Er ei brudded, dudded dail,
Pan rydd heulwen lawen liw
Ei aur iddynt. Eithr heddiw
Ni edy'r haul gyda'r hwyr
I'w liw o'r lwydwelw awyr
Euro dy furiau oeraidd
A'i lanw byw. O lwyn ni baidd
Ederyn bychan dorri
Ar dy oer farweidd-dra di.
Arnat ti yn addurn tew
Ni rodded dail yr eiddew,
Drylliau mud oerllwm ydwyt,
Darn o wae, mor druan wyt.
Agennwyd dy barwydydd,
O'th fewn swrn o'th feini sydd;
Ar d'aelwyd lle bu'r delyn,
Drysi glas a llwydrisgl ynn
A dyf, a'u cnapiog defyll
Fel crafangau angau hyll.
A'r nyth ym mlaen y ddraenen,
Tithau, 'rwyt fel hwythau'n hen!
Un dydd, gywreinied oeddut,
Onid sâl weithian dy sut?
Toredig gartre ydwyt
Ac adfail mewn adfail wyt.
Mae'r seiri a ddaeth mor siriol
I'r drain hyn ryw dro yn ôl
I'th lunio: Maith lawenydd
Fuost i'r ddau feistr, ryw ddydd.
Pan oedd gwanwyn yn dwyn dail,
Haen ieuanc ar hen wiail,
Y daeth dy bensaer dithau,
Lifrau wych, i lafar wau
Ei gerddi yn nail gwyrddion
Y coed sy fry ar y fron;
A'i ddwbled hardd o blu têr,
A'r gwawl yn euro'i goler,
Trydar am ei gymhares
Yno'r oedd yn un o res
O feistri yn y gwiail,
Mwynion doniaduron dail;
Ac o'r haid y gorau oedd,
Arglwydd hud ar glawdd ydoedd,
Ac nid oedd ganiad addwyn
Nad eiliai ef o'i dew lwyn,
Oni ddug ei gynnydd o
Addurn y coed yn eiddo.
Ba ryw ddydd a wybu'r ddau
Yn dethol dy le dithau
A dwyn hyd yno'r deunydd
O glai a gwellt, osglau gwŷdd,
A'i eilio, ar hen aelwyd,
Yno'n nyth i'r un hen nwyd-
Llawena tasg llunio tŷ
Oedd hoen y dyddiau hynny!
Diddos y magwyd deuddeg
Ynot ti o gywion teg,
Meibion toniaduron dydd
Cariad ifanc hir Dafydd;
Ai rhai gynt ohonynt hwy
I Ddafydd a rôi ddeufwy
Nwyfiant, pan wyliai'n ofer,
Gan wrando eu pyncio pêr,
Am Forfudd i ddyhuddo
Galw ei daer ddisgwyliad o?
A fu hithau, fun foethus,
Neu Ddyddgu wiw, ael lliw llus,
Yn gwrando'r pêr ederyn
O'r wig las a lanwai'r glyn
A'i hyfrydlais afradlon,
Afieithus wyllt foeth ei sôn?
Dôi Morfudd wâr yn araf
Ar ei hynt ryw fore haf
A'u clywed hwy'n cael oed dydd
A galw bawb am ei gilydd
Heb daw; a thra gwrandawai
Yno'n hir, dihuno a wnâi
Nwyd oesoedd; neidiai iasau
Eu gwawd gwyllt i'w gwaed, a gwau
Yn ei llygaid holl eigion
Melyster neu brudd-der bron,
Awydd ac ofn, bodd ac aeth,
Galwad taeraf glud hiraeth!
Gwrid îr oedd yn gwawrio dros
Loyw donnen liw ôd unnos
Y fun a'i glân fwnwgl hi
Gan dân yn gwineu donni,
A'i deufin rudd liw dwfn ros
Yn agoryd ac aros
Heb lais mal pe bai lesmair
Yn lluddio gwên, yn lladd gair.
Ond di-raen nyth truan wyt,
Gadawedig dŷ ydwyt;
Noddaist gerddorion addwyn-
Heno, mae eu canu mwyn?
Heddiw ofer am Ddafydd
Ofyn gair o fewn y gwŷdd,
A'r unwedd, ni cheir heno
Weled un o'r annwyl do
A fu ynot fyw unwaith
Am awr rhwng dau angof maith.
Rhagfyr, 1910.