Neidio i'r cynnwys

Manion/O'r Awyr

Oddi ar Wicidestun
Meiriolwynt Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Y Gofan Arian

O'R AWYR

Hen ŵr un fraich; gwallt fel edafedd dur;
Dwy wefus fain, fel llinin uwch ei ên;
Dau lygad loyw, fel bwrlwm ffynnon bur,
Ag angerdd ynddynt, er eu mynd yn hen.

"Ar ben Hiraethog unig," meddai ef,
"Mi glywais ganu yn yr awyr, gynt,
Er nad oedd ar y cyfyl lan na thref."
Gwenasom ninnau-dim ond sŵn y gwynt?

A'r gragen sain ar glust pawb, wrth y tân,
Lle clywsem air yr henwr hwnnw gynt,
O'r awyr, neithiwyr, clywsom ninnau gân,
Heb amau dim, na sôn am sŵn y gwynt.

1926.


Nodiadau

[golygu]