Manion/Pero
| ← Mater Dolorosa | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Quousque, Domine? → |
PERO
Onid pur enaid Pero?
Ba ŵr gaed mor bur ag o
Mor fwyn oedd, mor fonheddig,
Llawen, doeth, heb dwyll na dig;
A'i gydradd od ymladdai,
Hynny oll yn deg a wnâi;
Gwâr ei fodd os gorfyddai,
Call iawn oedd os colli a wnâi;
Ni chad yn un o'i gadau
Gastiau 'rioed nac ystryw au,
Na gerwin ddyfais gywraint,
Na dim ond ewin a daint;
A chlwyfau'r gad ofnadwy,
Ef ei hun a'u llyfai hwy.
Bwriaf, pe gwelwn Bero
Ar ael y drum, yr ail dro,
Na bai roeso a brisiwn
Fel un hael a chyflawn hwn;
Ffroenai, cyffrôi ei anian,
A'i lygad fel toriad tân;
Crynai oll, ac ar un naid,
Gwanai, fel atgo enaid
Na bo'n ei ddal ef ban ddyrch
Dramgwydd a dry ei ymgyrch;
Eiliad na bai fy nwylo
Wlyb o dan ei leibiad o,
A'i olwg fel yn wylo
Wadu iaith i'w dafod o.
Oni rodded gair iddo,
Oedd ddeuwell im ei ddull o,
A'i lân ddi-au lawenydd,
A'i buraf berffeithiaf ffydd.
Parod yr edwyn Pero
Ol fy nhraed pan ddêl fy nhro
Ryw adeg draw i rodio
O'r llwm fyd i'r lle mae fo.
1916.