Neidio i'r cynnwys

Manion/Quousque, Domine?

Oddi ar Wicidestun
Pero Manion

gan Thomas Gwynn Jones

Y Fraint Fawr

QUOUSQUE, DOMINE?

Yn nyddiau undeb y gred a'r drin
Syrthiodd y disgybl i gysgu'n flin
A'i weddi'n rheg ar ei chwerw fin.

A gwelodd y disgybl drwy ei hun
Rywun a'i wedd megis ef ei hun
Yn gado a gwadu yr unig un.

A llefodd y disgybl yn ei wae
A'i arswyd enaid "Pa le y mae
Y gobaith a gollwyd, och na bai!"

A chlywodd y disgybl drwy ei hun
Ryw lais yn dywedyd "Wele, ddyn,
Y gobaith a werthaist ti dy hun.

A gwelodd y bryn lle bu brynu dyn,
A'r grog, ac arni yr unig Un,
A'i goron a'i gethrau a'i waed ei hun.

Ac wylodd y disgybl yn chwerw dost
Nes golchi o'i ddagrau ymaith ei fost,
Ac yntau'n ymostwng heb gyfri'r gost.


Un bore, agorodd y wawr ei dôr,
Ac eilwaith canodd y nefol gôr
"Ewyllys da a thangnefedd Iôr."

1916.


Nodiadau

[golygu]