Manion/Rhyddid a Rhaid
| ← Ex Tenebris | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Tunis → |
RHYDDID A RHAID
(I D.R.)
Câi dyn ei hen lawenydd,
Byw dan yr haul, bod yn rhydd,
A di-ball wynfyd bellach—
O châi ryw ffawd a chorff iach!
Câi freuddwydio, rhodio'n rhydd
Trwy lwyni, hyd rhyw lennydd,
Y llwybrau hen lle bo rhwyd
O fieri a fwriwyd
Am waun a llethr, a Mai'n llon
Drwsio'u gwallt â rhos gwylltion;
Crwydro lle carai; edrych
Dilin aur banhadlen wych,
Aur a saif uwch pris hefyd,
Tlysach nag aur banciau'r byd!
Draw yn nheg dir unigedd
Câi bur hoedl, câi braw o hedd
Llwyn, mynydd, llyn a mawnog,
Bro wen cornchwiglen a chôg.
Gan nwyf câi ganu afiaith
Beunydd ar hyd mynydd maith;
Gweled ymhell a gwyliaw
Drum ar drum yn codi draw;
Bedwen neu griafolen fal
Arglwydd hen ar glawdd anial
Er gwaethaf gaeaf, a gwynt
Ar ei drystiog ruthr drostynt.
Im' mae hiraeth am aros
Oriau hir yng ngrug y rhos,
A gwyliaw pan fo'r awel
Arno fo'n ei rynio fel
Gwyrdd donnau; gorwedd danynt
I wrando ar gŵyno'r gwynt
Ail rhyw su ddolurus wan
A grygo o hir igian,
O bang i bang, oni bo
Ebwch ail beichio wylo,
Wylo fel y sawl a fai
Mewn cur am un a'i carai;
O! daered yw ei hiraeth,
Nid unwae'r drist don ar draeth
Pan sugno'i gwae y graean
I'w dwfn lwnc hyd fin y lan-
Er tristed, er taered hon,
Daw herr o'i nadau hirion;
Yn y grug ar donnog ros
Sŵn hiraeth mwyn sy'n aros,
Gwanc olaf eigion calon
Ag ing hir rhag angau hon,
Hiraeth yw na thraetha iaith
Ac a leinw a'i clyw unwaith,
Fel nad êl o'i enaid o
Na'i ing hyd fyth yn ango.
Gwae na bai gwiw ein bywyd,
Rhy ofer ef ar ei hyd!
Onid oes well a phellach,
Ynfyd yw ein bywyd bach,
Ebr wynebwr anobaith,-
Ei hyder fydd ofer waith;
Ein diben, er a dybiwyd
Gan feirdd, cael digon o fwyd
Ydyw fyth, dros ennyd fer
A phoenus; pan orffenner,
Cawn fedd fel ein gwehelyth,
Dyna ben amdani byth.
A'r bardd, er dibrisio'r bwyd,
Rhyw fyw'r oedd ar ei freuddwyd;
Er gwychion ddychmygion mawr,
"Nid yw einioes ond unawr,"
Trwy ing pan fyddo'n trengi,
Diau un chwedl dyn a chi.
Ar Fynydd Hiraethog,
Mehefin, 1905.