Manion/Sŵn y Gwynt
Gwedd
< Manion
| ← Nos Galan | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
I Rieni → |
SWN Y GWYNT
Ie, heno gwrdd yw sŵn y gwynt
Ag ef ar hynt tros frig y fron;
O'i blegid effe blyg y dar,
A mâl ei rwysg gymalau'r ynn.
Er hyn i gyd, nid rhu na gwg
Neu lefau drwg a glywaf draw,
Ond lleisiau pob llawenydd fu
A diddig gân y dyddiau gynt.
1923.