Manion/Senghenydd
Gwedd
< Manion
| ← Cân y Medd | Manion gan Thomas Gwynn Jones |
Dynion → |
SENGHENYDD
Cerddais y dref yng nghil y dyffryn gwyw
Drwy niwl a glaw a mwg y pyllau glo;
Gwelais eglwysi lu, yn dwyn ar go
Hiraeth y miloedd am dangnefedd Duw,
A gorffwys rhag blinderau dynol ryw;
Ond pwysai duach cysgod ar y fro
Na mwg y pyllau, cysgod trwm y tro
A roisai'r cannoedd mud yn aberth byw
Ar allor golud Rhai. A thraw mewn tŷ,
'Roedd gwŷr y gyfraith ac arglwyddi gwanc
Y llogau mawrion, wrthi'n holi'n hir
Ar bwy yr oedd y bai, pa fodd y bu
Ysgubo'r cannoedd i druenus dranc:
Er nad oedd yno un na wyddai'r gwir.
1914.